Roedd yr hyn wnaeth Emily Thornberry trwy ymddangos i edrych i lawr ei thrwyn ar Sais, gwlatgarol dosbarth gweithiol yn drychinebus o safbwynt etholiadol. Y rheswm am hynny ydi bod yr agwedd roedd yn ei ddangos yn datgelu'n glir yr hyn ydi'r Blaid Lafur erbyn hyn - plaid sy'n cael ei rheoli gan snobs cefnog, dinesig sydd a gwerthoedd cwbl wahanol i'w cefnogwyr traddodiadol. Dyna pam bod pobl fel Ms Thornberry - sydd o gefndir breintiedig iawn ei hun - yn meddwl ei bod yn iawn i edrych i lawr eu trwynau ar Saeson gwlatgarol cyffredin fel Dan Ware. A dyna pam bod pobl fel Mr Ware yn troi oddi wrth y Blaid Lafur yn eu degau o filoedd.
Mae'r tueddiad yma wedi bod yn y Blaid Lafur ers degawdau, ond yng nghyfnod Tony Blair aeth pethau i'r diawl go iawn - dyna pryd aethwyd ati i droi cefn ar gefnogaeth draddodiadol Llafur. Daw hyn a ni at y brawd Chris Bryant. Fo oedd y boi a gafodd fynd ar y bocs i feirniadu Ms Thornberry.
I think the first rule of politics is you respect the voters and by Emily's own admission her tweet clearly didn't do that.
Ond y broblem ydi bod gwerthoedd Chris Bryant yn debyg iawn i werthoedd Emily Thornberry. Mae yntau yn edrych i lawr ei drwyn ar bobl wlatgarol - fel mae'r geiriau yma o'i eiddo yn ei ddangos.
A barnu oddi wrth y geiriau yna mae'n ymddangos bod Chris Bryant yn edrych i lawr ei drwyn ar Mr Ward mwy na hyd yn oed Emily Thornberry.
Snobs Cymraeg ydi y Blaid Bach hefyd-clwb dosbarth canol.!!
ReplyDeleteDwi ddim yn meddwl dy fod am ffeindio miliwnyddion o fewn y Blaid. Mae arweinyddiaeth Llafur wedi stwffio efo nhw.
ReplyDeleteDwi ddim yn meddwl bod trwch aelodaeth y Blaid yn byw o gwmpas Llundain chwaith - yno mae trwch aelodaeth Llafur.
Dwi ddim yn meddwl bod y Blaid yn moli bancwyr i'r cymylau chwaith - moliant Llafur o fancwyr wnaeth achosi i'r economi fynd i'r diawl.
Ella bod chdi ddim yn meddwl ond dwi yn dweud wrthyt mai snobs dosbarth canol ydi cefnogwyr y Blaid Bach,yn cynnwys chdi !!
ReplyDeleteHmm, diddorol. Pam felly bod pleidlais y Blaid yn Llanllyfni neu Benygroes nag ydi o ym Menai Caernarfon a Menai Bangor.
ReplyDeleteMond gofyn.
"Ella bod chdi ddim yn meddwl ond dwi yn dweud wrthyt mai snobs dosbarth canol ydi cefnogwyr y Blaid Bach."
ReplyDeletePam felly fod Plaid Cymru yn cefnogi..
1. Addysg gyfun. Y Toriaid + UKIP am weld ysgolion gramadeg. Tony Blair, Dianne Abbott ayyb yn anfon eu plant i ysgolion preifat/bonedd.
2. Plaid Cymru yn credu yn egwyddorion sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd, lle mae mynediad yn rhad ac am ddim i bawb ac ar gael i bawb. Y Toriaid a'u cyfeillion sbobyddlyd cyfoethog am weld y cyfan yn cael ei breifateiddio.
3. Plaid Cymru a'r SNP 100% yn erbyn y 'Bedroom Tax'. Toriaid o blaid, Llafur yn eistedd ar y ffens.
Petai'r Blaid yn llawn snobs, yna mi fyddai'n pobol ni yn y senedd, y cynulliad, ac ar y cynghorau, yn cymryd safbwynt gwahanol iawn ar y materion hyn.
Fel bydda fy hen daid yn arfar ddeud - Mi rwyt ti'n siarad trwy dwll dy d** gyfaill!!
Dalied ati Cai!!
Dim milwnyddion yn Blaid Cymru - Alun Ffred ?
ReplyDelete