Reit, gair neu ddau ynglyn a mewnfudo i'r DU ac UKIP - cyn bod hwnnw'n fater gwleidyddol. mor obsesiynol Yn y lle cyntaf gallaf gydymdeimlo efo pobl - Saeson yn bennaf - sy'n gweld eu cymdogaethau yn newid yn sylweddol mewn cyfnod byr o amser. Mae pobl yn hoffi sicrwydd a theimlad o barhad yn eu bywydau - ac mae newidiadau cymdeithasegol mawr a chyflym yn tanseilio hynny. Mi'r ydan ni sy'n byw yn y Gymru Gymraeg yn deall hynny'n iawn. Ond dydi'r rhan fwyaf o gymdogaethau yn Lloegr ddim wedi gweld lefelau uchel o fewnfudo, a dydi llawer o'r ardaloedd lle mae UKIP yn gryf ddim wedi profi hynny chwaith. Mae 95% o drigolion Clacton yn disgrifio eu hunain fel White British.
Ar y llaw arall mae ardaloedd sydd wedi derbyn niferoedd uchel o fewnfudwyr yn aml iawn yn rhai lle nad ydi UKIP yn gwneud yn arbennig o dda. Mae Llundain yn esiampl nodedig. Mewn geiriau eraill mae llawer o'r sawl sy'n cwyno am fewnfudo (ac yn fotio ar sail hynny) yn cwyno am rhywbeth sydd ddim yn effeithio yn uniongyrchol arnynt. Y cwestiwn diddorol ydi Pam?
Cyn ateb y cwestiwn hwnnw efallai y byddai'n syniad edrych ar effaith economaidd mewnfudo. Does yna ddim llawer o amheuaeth bod mewnfudo i'r DU yn llesol o'r safbwynt hwnnw. Mae poblogaeth y DU yn gymharol hen, sy'n golygu bod llawer o'r boblogaeth y tu hwnt i'r farchnad waith. Mae mewnfudwyr yn tueddu i fod yn ifanc, felly maent yn newid y cydbwysedd gweithwyr / pensiynwyr er gwell. Pe na byddai unrhyw fewnfudo ni fyddai yna ffordd o lenwi llawer o fylchau yn y gweithle.
Bu cynnydd sylweddol mewn mewnfudo diweddar (roedd yna fewnfudo net o 243,000 y llynedd - cynnydd o 40% ar y flwyddyn flaenorol), ac mae tua hanner hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae yna rymoedd economaidd mawr yn gyrru'r symudiadau poblogaeth yma - yn 2013 roedd GDP y DU yn €29,600 y person. Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Bwlgaria oedd €5,500. Mae gwahaniaeth o'r maint yma'n rhwym o greu symudiadau poblogaeth mawr lle nad oes cyfreithiau yn atal hynny - a does yna ddim cyfreithiau felly oddi mewn i'r Undeb Ewropiaidd.
Os ydych yn un o selegion y Daily Mail, neu'r Express mae'n debyg eich bod yn credu bod y bobl hyn yn dod yma i gael budd daliadau. Dydi'r data ddim yn cefnogi'r farn honno. Ers 1999 mae mewnfudwyr wedi talu £25bn yn fwy mewn trethi na maent wedi ei gymryd mewn budd daliadau. Mae mewnfudwyr yn 45% llai tebygol na brodorion y DU i dderbyn budd daliadau neu gredydau treth.
Serch hynny mae mewnfudo yn fater llawer pwysicach yn wleidyddol yn y DU heddiw nag yw wedi bod ers talwm iawn - neu yn wir erioed. Ac cheir canfyddiad cyffredinol bron bod mewnfudo yn niweidiol i economi'r DU. Mae cefnogaeth UKIP wedi tyfu yn gyflym yn yr amgylchiadau hyn. Ar wahan i gam arwain arferol y papurau newydd adain Dde mae'n debyg bod dau reswm cysylltiedig am hyn. Mae mewnfudo wedi cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf ar union yr un pryd a mae'r rhan fwyaf o bobl wedi profi cwymp yn eu safon byw. Mewn amgylchiadau felly mae'n hawdd argyhoeddi pobl bod un sefyllfa wedi arwain at y llall - ond dydi hynny ddim yn wir.
Yr hyn sydd wedi arwain at gwymp mewn safon byw carfannau mawr o'r boblogaeth ydi'r mesurau sydd wedi eu cymryd gan lywodraethau i fynd i'r afael a'r argyfwng a achoswyd gan benderfyniadau a gymerwyd i arbed cyfres o fanciau ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, ynghyd a'r tynhau rhyfeddol yn y marchnadoedd benthyg arian. Mae'r sefyllfa yn cael ei chymhlethu gan y ffaith bod Prydain yn economi cyflogau isel beth bynnag - mae'r ail strwythuro economaidd a ddigwyddodd yn 80au a 90au y ganrif ddiwethaf wedi sicrhau hynny.
Neo ryddfrydiaeth sy'n dod a hyn oll at ei gilydd. Mae'r set yma o gredoau ynglyn a sut y dylid rheoleiddio'r economi wedi dominyddu gwleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt ers deg mlynedd ar hugain a mwy. Dyma oedd wrth wraidd ail strwythuro economi Prydain, a neo ryddfrydiaeth oedd hefyd wrth wraidd y swigan gredit a achoswyd gan fanciau nad oedd yn cael eu rheoleiddio'n briodol yn ystod y ddegawd diwethaf. Mae egwyddorion neo ryddfrydiaeth hefyd yn gyson a'r ymgais i dorri gwariant cyhoeddus i'r bon yn ystod y blynyddoedd diwethaf - ac yn wir mae'r Undeb Ewropeaidd yn gyson ag egwyddorion neo ryddfrydiaeth wrth ganiatau symudiadau di lyffethair mewn cyfalaf a llafur oddi mewn i'w ffiniau.
Ond mae'r anfodlonrwydd sydd wedi tyfu yn sgil y cwymp mewn safonau byw wedi ei sianelu i un deilliant yn unig o lywodraethiant neo ryddfrydig - mewnfudwyr o wledydd tramor - ac nid ar y gyfundrefn ehangach. Mae hyn wedi ei lywio gan y cyfryngau newyddion wrth gwrs.
A daw hyn a ni at etholiad y flwyddyn nesaf a'r cyfryngau torfol. Ar hyn o bryd bwriad y sianelau teledu ydi ceisio cyfyngu'r drafodaeth i un rhwng arweinwyr y pedair brif blaid unoliaethol - pedwar miliwnydd sydd i wahanol raddau yn derbyn y consensws neo ryddfrydig - er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd yn ei sgil. Petai'r Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP yn cymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus, yna mi fyddai agweddau ar y consensws sydd wedi'n cael ni yn y twll rydym ynddo ar hyn o bryd yn cael ei herio - ac mae yna lawer o bobl sydd mewn safleuoedd o rym sydd ddim am i hynny ddigwydd tros eu crogi. Does yna'r un system yn well am wneud y cyfoethog yn fwy cyfoethog.
Sylwadau ar neo-ryddfrdiaeth Deborah Orr http://www.theguardian.com/commentisfree/2014/oct/27/immigration-neoliberalism-michael-fallon-tories-labour-ukip o beth ddiddordeb.
ReplyDeleteMae ‘na wirionedd yma t’oes? Serch hynny, mae ‘na dipyn o amrywiaeth rhwng wledydd fel Siapan a Chanada, ill dwy’n gyfalafol, o ran polisiau mewnfudo..
Sylwadau am y pedair brif blaid: Ie Tad…
Er I G.K. Chesterton sonio am gynghair y ddwy blaid bryd hynny sef “Hudge & Grudge”(a ymdebygodd at “bartneriaid distaw” ar rai pynciau) gellid honni – heb daeru chwaith mai cynllwyn sydd wraidd pethau – fod y pedair prif bleidiau’n ddedwydd braf o lesteirio ychwaneg o gystadleuwyr. Serch hynny, er waetha’ hyn, y mae pleidiau newydd yn ennill eu plwy’, a mwy, weithian. Pam?
Yn y gorffenol, r’oedd sawl bwnc yn ysgymunbeth. Eto fyth, ni phleidleisiodd y mwyafrif i agor y drysau lled eu pennau (neu letach nag oeddynt). Mi gawasant eu dannod i dewi am ofidiau felly gan y ddiwylliant gyfyngol ac addysygol. Ac am gyfnod, “calla’ dewi” biau hi ond pen eitha’ hyn oll fyddai’n gwyrdroi’r gyfundrefn ddemocrataidd mewn un ffordd…Nid y demos fyddai’n dewis y llywodraethwyr ond y llywodraethwyr – chwedl Berthold Brecht - ffydai’n dewis demos newydd sbon yn lle.
Gwahaniaeth rhwng batrymau pleidleisiau Llundain a Clacton yn hyn o beth? Y mae’r dyn ar y stryd bondigrybwyll YN bwrw pleidlais o’i boced OND ystyried ei dynged yfory hefyd y mae dyn Clacton…pryd (ar batrwm Llundain) na fyddai ei bleidlais o bwys yn y fantol bellach mewn etholaeth ddyfodol ar ei newydd wedd..
Mae hi’n anodd gwyrthwynebu’r ddadl am effaith gwahanaiethau cyflogau mewn amryw o lefydd gwahanon ond i weithwyr sgil isel cynhenid , mi ddaw rhagor o weithwyr rhad o tu allan i dorri pris llafur gan wneud rhai swyddi’n anoddach i’w cael. Rhagor o fudd i gyflogwyr (o ran dewis a phris llafur) yn fwy nac i weithwyr lleol s’wn i’n meddwl..
O ran y ddadl..”Diolch i’r drefn , mae newydd-ddyfodiaid yn talu pensiynau’r hen-oed.” Ni ddaw henaint ei hunan. Ar ol i’r garfan o fewnfudwyr nesau at eu hoedran pensiwn eu hunain daw heidiau newydd o helotiaid i mewn i’r gorlan i dalu amdanyn nhw yn eu tro? Eto fyth: beth yw pen eitha’ hyn oll?