Mae'n gryn syndod i mi nodi bod rhai o fy nghyfeillion bach Llafur yn beirniadu Aelodau Cynulliad y Blaid - o bawb - am beidio a gwneud digon o ddefnydd o'r Gymraeg ym Mae Caerdydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ffigyrau am y defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad (ar gyfer y llynedd) a fydd hi ddim yn syndod i neb mai aelodau Plaid Cymru sy'n gwneud y mwyaf o ddefnydd o'r iaith yno o ddigon. Ar wahan i Keith Davies does yna ddim un o aelodau'r pleidiau unoliaethol gwneud cymaint a 50% o'i gyfraniadau trwy gyfrwng y Gymraeg. 19% ydi ffigwr Carwyn Jones (yr ail Lafurwr) - dyn sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith - ac mae'r rhan fwyaf o'r ffigwr hwnnw oherwydd ei fod yn gorfod ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn yn y Gymraeg gan aelodau Plaid Cymru trwy gyfrwng yr iaith honno.
Petai Plaid Cymru ddim yn bodoli yn y Cynulliad byddai'r sefydliad mor Seisnig a'r holl gynghorau Llafur hynny ar hyd a lled y wlad. Y gwir ydi wrth gwrs mai plaid Saesneg iawn ydi'r Blaid Lafur 'Gymreig'. Does yna ddim cyfieithu yn eu cynhadledd - felly mae bron pob dim yn Saesneg. Mae eu gweinyddiaeth fewnol yn Saesneg. Does yna ddim offer cyfieithu yn eu Pwyllgor Gwaith, felly mae hwnnw yn uniaith Saesneg, mae eu pwyllgorau cenedlaethol yn uniaith Saesneg a bron i pob un - os nad y cyfan o'u pwyllgorau lleol - yn wir i bob pwrpas ymarferol mae'r Blaid Lafur 'Gymreig' mor Seisnig a'r Blaid Geidwadol neu UKIP.
I weld y ddelwedd yn gliriach gweler yma
I weld y ddelwedd yn gliriach gweler yma
ia, ond ar ddiwedd y dydd mae LW dal yn areithio yn Saesneg- 2% yn unig yn Gymraeg a hithau yn arweinydd y blaid sy'n fod i warchod yr iaith ! Mae Mabon ap Gwynfor dal yn deud "welcome" wrth Alwyn Humphreys. Mae PC dal wedi arwain ar gau ysgolion gweldig sydd yn gonglfaen diwylliant. Dyna mae pobol yn ddweud - dydi troi y sylwadau at blaid arall ( plaid lafur yn yr achos yma) ddim yn newid dim o hynny nagdi. O ia, pan oedd Alun Ffred yn weinidog diwylliant be yn union wnaeth o i gefnogi'r iaith - bygyr ôl ! Ac onid ydi arweinydd cyngor gwynedd rwan yn gytun hefo'r llywodraeth lafur am bolisi cynllunio tai ?
ReplyDeleteChwarae teg i Keith Davies, ac i Dafydd E-T a Rhodri G-T am fod ar ben y tabl. Trueni mawr bod 3 o'r 4 uchaf ar y tabl yma yn mynd i fod yn absennol o'r Cynulliad nesaf. Debyg eu bod nhw'n gyfrifol am lawer o'r Cymraeg gan bod eraill, fel wyt ti'n awgrymu, yn eu hateb nhw yn y Gymraeg. Gobeithio bod y rhai sy'n eu dilyn yn bwriadu dal at yr hyn mae nhw wedi ei cyflawni.
ReplyDeleteTrueni yw gweld ystadegau Cymry Llafur, ond beth am ambell i aelod arall - pam bod ffigwr Bethan Jenkins mor isel? Mae hi'n Gymraes hollol rhugl.
'Dio ddim yn bell o'r un drefn os basa ti'n eu sortio yn ol y ganran o gymraeg yn eu etholaeth.
ReplyDeleteO edrych ar hynnu, ella disgwyl gwell gan Gwenda Thomas, Bethan Jenkins a Rhun.
Da iawn Aled Roberts, Keith Davies a Llyr Griffiths.
Un o'r problemau pobl megis Anon 8.06 ydi nad ydynt yn trafferthu i ddadlau ar sail ffeithiol. Er enghraifft yn ystod cyfnod AFfJ fel Gweinidog gyda chyfrifoldeb tros y Gymraeg cafwyd Mesur Iaith newydd, Comisiynydd tros y Gymraeg a Choleg Ffederal Cymraeg - heb orfod crafu pen rhyw lawer. Llawer, llawer mwy nag a gafwyd cynt na wedyn.
ReplyDeleteOnd dydi hynny ddim ots - mi wneith Anon 8.06 wneud ei ffeithiau ei hun i fyny a dadlau ar sail y rheiny - bydysawd. Cyfochrog.
Wyt ti wedi anghofio felly y brwydro a fu i geisio gael datganiad diamod o statws yr iaith Gymraeg ??? Dwyt ti ddim yn cofio y datganiad cyfyng a gafwyd gan AFfJ a'r ffaith nad oedd y geiriad yn cynnig statws gyfartal i'r iaith ? Dwyt ti ddim yn cofio y llythyrau gan y "Cymry blaenllaw" ato ( y beirdd ac ati....) am nad oedd y Gweinidog yn cynnig statws cyfartal diamod. Dwyt ti ddim yn cofio y gwelliannau a gynnigiwyd.......DIM ALUN FFRED WNAETH SICRHAU UNRHYW DDEDDF SIWR OND Y PROTESTWYR A'I HERIODD !!!!! Iddyn nhw mae y diolch am be sydd gynnon ni nid i AFFJ .....
ReplyDeleteOh ia , ag ydach chi yn cofio'r postar efo dwylo Alun Ffred drost ei glustiau ? Arwydd nad oedd yn gwrando ! Postar gan CIG gafodd ei roi fyny tu allan y senedd. Tisho ffeithia Larsen - dyna chdi'r ffeithiau !!!!
ReplyDeleteFelly Anon, pe bai'n bosib gwneud llai na dim dros yr iaith, yna byddai Llafur ym mhell bell o dan y sero.
ReplyDeleteDa iawn am athyfnerthu pa mor ffocin iwsles ydy Llafur!
Med
Mae yna lawer iawn o nonsens yn cael ei sgwennu yma.
ReplyDeleteFfaith 1 - Daeth y Mesur Iaith i fodolaeth o dan Weinidog Plaid Cymru. Wnaeth protestio di ben draw ddim effeithio ar ddim cyn hynny. Mi fyddai Deddf wedi dod i fodolaeth, protestio neu beidio.
Ffaith 2 - Dydi Gweinidogion Llafur ddim wedi gwneud dim tros y Gymraeg ag eithrio symud pres o un lle a'i roi i le arall.
Ffaith 3 - !ae rhai o gynghorau Llafur yn gwrthod cyfarfod a'u cyfrifoldeb i ddarparu addysg Gymraeg i rieni sy'n dymuno hynny i'w plant. Does yna ddi. Cymaint ag un ysgol uwchradd Gymraeg ym Merthyr.
Ffaith 4 Dim ond Cyngor Gwynedd (Plaid Cymru) sy'n gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob cyngor Llafur yn gweinyddu trwy gyfrwng y Saesneg.
Ffaith 5 Mae'r iaith wedi marw ym mhob man mae Llafur yn tra arglwyddiaethu. Un o'r rhesymau am hynny ydi nad ydi Llafur erioed wedi teimlo unrhyw reswm i roi cefnogaeth i'r iaith lle maent yn gallu gwneud hynny.
Ffaith 6 O'r cannoedd o gynghorwyr Llafur sydd yng Nghymru, llond dwrn yn unig ohonynt sy'n defnyddio'r iaith yn siambr cynghorau - llond dwrn.
Byddai'n ormodiaeth i ddweud bod y Blaid Lafur fodern yn wrth Gymreig - ond does yna ddim tystiolaeth o gwbl eu bod yn cymryd camau i'w harbed.
Ffaith 1 : toedd y gweinidog ddim am weld datganiad di amod o statws yr iaith Gymraeg. Mae Anon7.14 yn gywir nad oedd y gweinidog hwnnw yn gweld yr angen am ddatganiad diamod. Cywir hefyd am yr holl brotestio a fu.
ReplyDeleteFfaith 2 : Mae'n ddifyr fel wyt bob tro yn troi methiannau neu wendiadau Plaid Cymru yn ryw ryfel yn erbyn Llafur. Weithiau mae yn bwysig medru derbyn bod hyd yn oed y pleidiau yr ydym ni ein hunain yn gefnogi gyda gwendidau.Arwydd o gryfder yw medru cydnabod gwendid.
Ffaith 3 Wrth son am ysgolion Cymraeg / addysg Gymraeg rwyt yn anghofio nodi fod cyngor gwynedd wedi cau rhai ysgolion e.e. Parc oedd yn gonglfaen yr iaith Gymraeg a'n diwylliant. Cynnigwyd hynny gan Sian Gwenllian sydd yn awr yn disgwyl pobol bledleisio iddi mewn etholiad cyffredinol.... Mae'n bwysig gwarchod be sydd gynnon ni , cyn dechrau son am fethu cael ysgolion Cymraeg yn y De.
Ffaith 4 Rhyfedd fel wyt yn clodfori cyngor gwynedd am bethau sydd yn di siwtio ond pan mae rhywbeth sydd ddim yn gweddu rwyt yn ein hatgoffa am y glymblaid lafur a fu yng Ngwynedd. Y gwir amdani wrth gwrs yw mai rheoli heb unrhyw fwyafrif mae nhw yng Ngwynedd hefyd erbyn hyn ers i Linda Pengwern a Charles Llanrug adael y Blaid.
Mi rydan i gyd yn dallt ac yn cytuno hefo chdi am fethiant Llafur gyda'r Gymraeg, Larsen. Dwyt ti ddim angen ein darbwyllo o hynny. Ond efallai dy fod angen darbwyllo chdi dy hun am rai o wendiadau Plaid Cymru.
Gyda llaw , am fod pobl yn herio gwendidau Plaid Cymru tydio ddim bob amser yn golygu mai Llafur ydyn nhw. Gwendid ar dy ran di yw neidio i'r safbwynt hynny bob tro. Byddai yn talu i ti bwyllo weithiau cyn ymosod fel peth gwirion ar y Blaid Lafur bob tro. Rwyt yn creu llawer mwy o elynion i Plaid Cymru wrth wneud hynny a thrwy beidio adnabod a delio gyda'r gwendidau a'r heriau sydd yn wynebu Plaid Cymru.Toes na ddim un Plaid wleidyddol yn berffaith ysdi - ddim hyd yn oed Plaid Cymru !
1). Nid protestio ddaeth a'r Ddeddf i fodolaeth - ond newidwyd un agwedd ar y Ddeddf o ganlyniad i brotestio - o bosibl. Wnaeth protestio ddim dod a Deddf cyn i PC gael cyfrifoldeb am y Gymraeg. Felly mae Anhysb 7.14 ac Anhysb 9.51 mor anghywir a'i gilydd mae gen i ofn.
ReplyDelete2.). Roedd y sylw yn ymateb i honiad na wnaeth PC ddim i gynnal yr iaith pan oedd hi mewn llywodraeth. Dydi hynny ddim yn wir - a dwi'n nodi nad ydych chi'n ceisio dadlau hynny bellach. Mae'r cyferbyniad efo'r hyn a wnaeth Llafur i amddiffyn yr iaith yn greulon o amlwg. Efallai eich bod o'r farn na ddylid tynnu sylw at wendidau Llafur - ond dwi'n anghytuno. Mae plaid sy'n llywodraethu yn gyfrifol am ei gweithredoedd - dydi Llafur ddim yn eithriad i hynny - na'r Gymraeg chwaith.
3). Os oes yna ddata - neu dystiolaeth arall bod cau unrhyw ysgol yng Ngwynedd wedi cael ardrawiad negyddol ar yr iaith byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn y dystiolaeth honno.
4). Dydw i ddim yn deall y pwynt yng nghyd destun y ddadl yma. Ar hyd y lle i gyd braidd.
Mae'n ddrwg iawn gen i os ydi beirniadaeth o'r Blaid Lafur yn eich hypsetio - ond dwi'n rhyw hanner deall. Mae'r cyfryngau Cymreig yn ei chael yn anodd beirniadu'r anghenfil sefydliadol yma. Ond mae gen i ofn bod atebolrwydd yn rhan o'r broses ddemocrataidd, a bydd rhaid i Lafur arfer at feirniadaeth.
Arweinyddion cynghorau mon, wrecsam a conwy yn galw am ystyriaeth i'r Gymraeg gyda chynllunio. Lle mae arweinydd Gwynedd ????? Daily post online heno a safle we CIG
ReplyDeleteRoedd yna gyfnod, yn ystod Prif Weinidogaeth Mrs Thatcher - o bawb - i honni bod y Ceidwadwyr wedi gwneud mwy i amddiffyn yr iaith Gymraeg nag unrhyw Blaid arall (boed wir neu gau). Roedd y fath ymffrost yn bosib oherwydd y polisïau positif wnaeth Syr Wyn cyflwyno er lles yr iaith.
ReplyDeleteDrwg y sylwadau uchod yw bod dim sail ymffrost iddynt.
Rwy'n fodlon derbyn y feirniadaeth nad yw Plaid Cymru wedi gwneud digon dros yr iaith, heb wneud digon dros hyrwyddo cenedligrwydd Cymreig wedi bod yn esgeulus o'r achos dros annibyniaeth - gan genedlaetholwyr eraill - ond gan aelodau o'r Blaid Lafur ffôr ffŷc sêc!
Be mae'r Blaid Lafur wedi gwneud, erioed, dros Gymru a'r Gymraeg?
Dim!