Doedd yna ddim etholiad wedi bod yn yr Alban ers y refferendwm tan neithiwr, ond rydym wedi son sawl gwaith bod yna arwyddion bod pethau yn symud i gyfeiriad yr SNP - y twf anferthol yn ei haelodaeth ac is setiau Albanaidd y polau Prydeinig er enghraifft.
Beth bynnag mae'r etholiad cyntaf ers y refferendwm - is etholiad cyngor yn ardal Oban yn Ucheldiroedd yr Alban - yn awgrymu bod yr arwyddion hynny yn rhai sydd a sylwedd iddynt gyda chynnydd o tros 16% yn y ganran o'r bleidlais a gafodd yr SNP. Cafodd y blaid fwy o bleidleisiau cyntaf na'r ddwy brif blaid unoliaethol efo'i gilydd a methodd y Lib Dems ddod o hyd i ymgeisydd - er bod Oban wedi ei leoli mewn etholaeth a gynrychiolir ganddi ar lefel San Steffan.
No comments:
Post a Comment