Felly mae blog Paul Flynn wedi dod ar draws y marchnadoedd betio gwleidyddol - ac mae o wrth ei fodd bod y marchnadoedd hynny yn awgrymu bod Albert Owen am gadw Ynys Mon i Lafur. Wel, y marchnadoedd ydi'r marchnadoedd, maen nhw'n gywir weithiau ac yn anghywir dro arall - neu fyddai neb yn trafferthu betio. Ond tybed os ydi 'r sawl sydd wedi rhoi eu pres ar Lafur ym Mon wedi edrych ar hanes etholiadol diweddar yr etholaeth yn fanwl?
Yn is etholiad y Cynulliad Cenedlaethol y llynedd cawsant lai nag 16% o'r bleidlais. Yn yr etholiadau cyngor a gynhalwyd ynghynt yn y flwyddyn cawsant 17% a thair sedd. Yn etholiadau Ewrop eleni cawsant ganran digon tebyg o'r bleidlais. Dydi hyn ddim yn sail cadarn i adeiladu at etholiad cyffredinol.
Yn bwysicach fyth efallai mae Ynys Mon yn etholaeth anarferol - ychydig iawn, iawn o bleidleisiau Lib Dem sydd ar gael yno. Mae'r Dib Lems yn wanach ar Ynys Mon nag yn unman arall yng Nghymru bron a bod. Mae hyn yn bwysig oherwydd mai i gyn bleidleiswyr Lib Dem mae'r diolch bod Llafur ar y blaen yn y polau 'cenedlaethol' ar hyn o bryd. Mae Llafur yn colli pleidleisiau i UKIP, ond yn ennill mwy gan gyn Lib Dems tros y DU. Does yna ddim amheuaeth bod Llafur yn colli pleidleisiau i UKIP yn Ynys Mon - ond does yna ddim pleidleisiau Lib Dem i 'w digolledu. Does dim ffynhonell pleidleisiau newydd i Lafur ym Mon.
Felly gair o gyngor sydd gen i Paul - mae'n bosibl y bydd Llafur yn cadw Ynys Mon - ond fyddwn i ddim yn cyffwrdd pris fel 1/4 efo polyn. Mi fyddai'n gas gen i ei weld yn colli pres.
Clywaf fod Glyn Davies yn 8/1 yn Sir Faesyfed yn 2010
ReplyDeleteYsywaeth mae Glyn Davies ym Maldwyn a Chris Davies sydd yn Maesyfed, a hynny yn 2015 NID 2010 !!
ReplyDelete