Does gan y cyfryngau print Toriaidd ddim y mymryn lleiaf o ddiddordeb yng Nghymru wrth gwrs. Y rheswm rydym yn cael y sylw ydi mai dim ond yng Nghymru mae yna weinyddiaeth Lafur yn y DU, ac mi gaiff y weinyddiaeth honno ei beirniadu yn ddi drugaredd am fisoedd yn null unigryw a hysteraidd y papurau Seisnig Toriaidd. Y wers ar ddiwedd pob stori ydi y bydd Miliband - o gael y cyfle - yn gwneud yr un peth i'r DU a mae Carwyn Jones wedi ei wneud i Gymru.
Dydi'r Blaid Lafur Gymreig ddim wedi arfer derbyn beirniadaeth cyfryngol gan bod y cyfryngau Cymreig yn ei phoced, ac mae Carwyn yn ymddwyn fel petai rhyw drosedd yn erbyn trefn naturiol y Bydysawd wedi ei gyflawni pan mae'n derbyn beirniadaeth gan wleidyddion y gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae Llafur Cymru yn ymateb i'r amgylchiadau anghyfarwydd sydd o'i blaen tros y misoedd nesaf.
Trwy bortreadu'r peth fel "war on Wales", siwr o fod. Sinigaidd a diog a jingoistaidd, ond cymharol effeithiol.
ReplyDeleteNeu fel hyn
ReplyDelete