Petai plaid unoliaethol efo'r un gyfradd o aelodaeth tros y DU, byddai ganddi 420,000 o aelodau. Dydi pob plaid unoliaethol efo'i gilydd ddim yn cyrraedd y cyfanswm yma. Amcangyfrifir mai 187,000 o aelodau sydd gan y Blaid Lafur (gyda chanran uchel ohonynt yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr), 134,000 o aelodau sydd gan y Toriaid, 37,000 sydd gan UKIP a 44,000 aelod sydd gan y Lib Dems.
Dwy o'r pleidiau unoliaethol fydd yn talu am yr hyn ddigwyddodd ddydd Iau - y Blaid Lafur a'r Lib Dems. Bydd Llafur yn colli seddi yn yr Alban y flwyddyn nesaf, a byddant yn cael eu hunain ymhell y tu ol i'r SNP yn etholiad Holyrood yn 2016. Ond bydd pethau'n waeth ar y Lib Dems. Rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw yn y cyfryngau ydi bod canran uwch o bleidleiswyr Lib Dem wedi fotio Ia na phleidleiswyr Llafur. Bydd y Lib Dems yn cael eu sgubo o dir mawr yr Alban y flwyddyn nesaf.
Gyda llaw, mae'r Gwyrddion a'r SSP wedi ennill niferoedd sylweddol o aelodau tros y dyddiau diwethaf - ac mae yna hyd yn oed son i'r Blaid ennill rhai aelodau newydd hefyd.
Byddai'n ddiddorol gwybod is yw'r Blaid wed I ennill unrhyw aelodau newydd ERS y Taff ax, is Felly, faint?
ReplyDeleteBeth, gyda llaw, yw aelodaeth y Blair?
bellach mae 15,000 o aelodau NEWYDD gan yr SNP.
ReplyDeleteMae mor ddigalon nad oes dim o hyn i'w weld yng Nghymru.
Wel, i gael hynny rhaid cael a cholli refferendwm, ac i gael hynny rhaid mwyaf rhif o genedlaetholwyr yn y Gynulliad ...
ReplyDeleteHmm ... beth am y SNP sefyll yn yr ardaloedd digymraeg yn erbyn y Blaid Llafur?