Mi'r oeddwn yn betio ar bethau eraill fel rygbi ers talwm, ond mi'r oeddwn yn anobeithiol o wael an wneud hynny - felly mi roddais y gorau iddi. Ond ar wleidyddiaeth y byddaf yn betio y dyddiau hyn. Dwi wedi cael ychydig mwy o lwyddiant efo betio gwleidyddol, ond mae yna resymau am hynny.
Y peth i'w gofio efo betio ydi eich bod yn betio yn erbyn betwyr eraill yn y bon - felly os oes gennych well gwybodaeth na'r rhan fwyaf o bobl, mi fyddwch - at ei gilydd - yn ennill. Y tair bet wleidyddol fwyaf proffidiol i mi oedd un ar Leanne Wood i ennill arweinyddiaeth y Blaid, un ar i Lyn Boylan ddod ar ben y pol yn etholiad Ewrop yn Nulyn eleni, ac un ar gynnydd ym mhleidlais y Blaid yn etholiad Cynulliad 2007.
Roeddwn mewn sefyllfa llawer cryfach na'r rhan fwyaf o fetwyr yn etholiad Leanne - dwi'n'nabod llawer iawn o Bleidwyr Arfon. Mae mwy o aelodau gan y Blaid yn Arfon na'r unman arall, ac mae Arfon ymhell iawn o'r Rhondda. Roedd y ffaith bod tua hanner aelodau'r Blaid roeddwn yn eu hadnabod yn Arfon yn bwriadu pleidleisio i Leanne yn ei gwneud yn weddol sicr ei bod am ennill.
Yn achos etholiad 2007 roedd gen i fynediad i'r fanylion y ganfas yn Arfon, ac roedd yn well na chanfas 2003. Doedd honno ddim mor saff a'r bet ar Leanne - efallai bod rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn Arfon - ond roedd yn rhoi syniad go lew o'r hyn oedd am ddigwydd.
Doedd gen i ddim gwybodaeth mewnol yn etholiad Euro 2014 yn Nulyn, ond roedd gen i ychydig o wybodaeth hanesyddol. Roedd y polau yn rhoi ymgeisydd Fine Gael, Brian Hayes yn gyntaf a Boylan yn ail. Roedd hi'n bell y tu ol i Hayes, ond roedd yn ail clir. Mae gan Fine Gael hen hanes o dan berfformio yn Nulyn, ac mae gan y polau hanes o amcangyfrif gormod o gefnogaeth i wleidyddion adain Dde, dyfeisgar yn y ddinas. Doedd hon ddim yn fet saff o bell ffordd - ond mae 4/1 yn bris da.
Daw hyn a ni at refferendwm heddiw. Mae yna dri rheswm gweddol gryf i feddwl mai Na fydd yr ateb - y polau, y marchnadoedd betio a'r ffaith bod y cyfryngau yn unfrydol elyniaethus i annibyniaeth i'r Alban - o'r Bib i Sky. O'r Guardian i'r Mail. Mi gymerwn ni nhw un fesul un.
Mae yna rai sy 'n dweud bod edrych ar brisiau betio'n ffordd cystal a'r un i ddarogan etholiadau. Mae'r marchnadoedd yn awgrymu'n gryfach na'r polau mai Na fydd yn mynd a hi. Adlewyrchu faint o bres sy'n cael ei fetio (a barn y bwci i raddau) mae prisiau marchnadoedd betio. Mae yna fetio trwm wedi bod ar Na - ond yn Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r betio yn yr Alban wedi bod ar Ia. Mae pobl sy'n betio yn Lloegr yn cael eu gwybodaeth i gyd bron o'r cyfryngau prif lif Seisnig. Mae'r bobl sy'n betio yn yr Alban hefyd yn cael y cyfryngau prif lif - ond mae'n nhw'n cael gwybodaeth o'r ymgyrch llawr gwlad a gwefannau cymdeithasol. O ganlyniad mae eu canfyddiad o'r hyn sy'n digwydd yn wahanol. Dydi'r marchnadoedd betio ddim yn arbennig o ddibynadwy yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.
Mae'r polau bron i gyd yn dweud mai Na fydd y canlyniad - er bod pethau'n weddol agos erbyn hyn. Dwi wedi trafod eisoes pam bod lle cryf i beidio rhoi gormod o goel ar y polau y tro hwn. Mae yna amheuaeth am addasrwydd y fethedoleg - ac mae yna hanes o pob pol yn cael pethau'n anghywir yn y gorffennol - 1992 ydi'r esiampl enwocaf. Yn fwy perthnasol mi dan gyfrifodd pob pol - fwy neu lai - bleidlais yr SNP yn etholiadau Hollyrood yn 2011 - a than gyfrifo o lawer iawn yn yr etholiadau rhanbarthol. Mae tan gyfrifiad bach am wneud y gwahaniaeth yma.
Ceir cred bod y sawl sy'n dweud nad ydynt yn gwybod yn fwy tebygol o gadw at y status quo ar ddiwrnod pleidleisio - ac efallai bod gwirionedd yn hynny. Ond mae yna ddadl mai pobl sydd eisiau cael eu perswadio i bleidleisio Ia ydi'r bobl hyn yn yr achos yma - ac mae yna fymryn o dystiolaeth anecdotaidd i gefnogi hynny - Andy Murray heddiw, Newsnight neithiwr - yn ogystal a phatrwm tros yr wythnos neu ddwy diwethaf o symudiad at Ia gan y sawl nad oeddynt yn siwr.
Ac wedyn dyna 'ni 'r ymdriniaeth gyfryngol. Mae'n anodd gwadu bod llifeiriant di baid o bropoganda yn rhywbeth anodd iawn i fynd i'r afael efo fo - a go brin i unrhyw etholiad gael ei hennill yn wyneb pwysau felly yn y gorffennol. Ond mae dau ffactor yn milwrio o blaid Ia y tro hwn - yr ymgyrch llawr gwlad enfawr sydd wedi mynd ati yn systematig i berswadio pobl a'u darparu efo ffeithiau a gwefannau cymdeithasol - mae'r ochr Ia wedi dominyddu yn y fan honno. Yn wir mae celwydd ar y teledu a'r radio yn aml yn cael ei gywiro ar y We o fewn eiliadau i gael ei wyntyllu. Dydi hyn ddim yn unioni'r anghydbwysedd - ond mae'n helpu.
Ychwanegwch at hynny drefn etholiadol yr SNP, yr ynni rhyfeddol sydd wedi ei ryddhau ar lawr gwlad a'r fyddin o weithwyr sydd gan yr ochr Ia - ac mae pethau'n edrych yn bosibl. Yn fwy na phosibl efallai.
Dwi heb fod yn ddigon hyderus i fetio'n drwm y tro hwn ddim o bell ffordd - ond mae gen i fet fach neu ddwy yn agored. Mi gefais fet wythnosau'n ol ar i Ia gael mwy na 43% - honno ydi fy met fwyaf. Mae gen i fet hefyd ar i Glasgow bleidleisio Ia - wedi ei gwneud ar sail ymweliad a'r ddinas honno. Dwi hefyd wedi rhoi bet ar yr ochr Ia i ennill, ac un fach iawn ar yr ochr Ia i gael mwy na 55%.
Betio efo'r galon yn bennaf efallai - ond dwi 'n meddwl bod yna rhywfaint o sail rhesymegol hefyd.
Ipsos-Mori wedi cyhoeddi heno eu bod yn tybio y bydd eu pol yn annibynadwy os ydi'r turn-out yn cyrraedd 80%( pob argoel mai felly bydd hi). A ydyn nhw'n dechrau paratoi eu hesgusodion?
ReplyDeleteO wel, mi gest ti ddwy o bedair yn iawn.
ReplyDelete