Cyn ein bod wedi trafod rhifau aelodaeth yr SNP tros y dyddiau diwethaf, efallai ei bod werth cael cip ar rhywbeth cyffelyb sydd yn nes adref - aelodaeth y Blaid Lafur Gymreig. Rydym yn gwybod yn fanwl beth oedd yr aelodaeth yn 2010 oherwydd i'r blaid gyhoeddi canlyniadau yr etholiad am yr arweinyddiaeth etholaeth wrth etholaeth.
11,118 o aelodau oedd ganddynt bryd hynny - ac maent wedi eu dosbarthu tros y wlad fel a ganlyn:
Rwan, tra'n cydnabod bod gan y Blaid Lafur Gymreig fwy o aelodau na'r un blaid arall yng Nghymru, dydi 11,000 ddim yn llawer o bobl. Meddyliwch am y peth am funud. Mae'r blaid yma yn dominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn dominyddu grym gwleidyddol yng Nghymru, yn cymryd mantais o'i gafael ar rym gwleidyddol i enwebu ei phobl ei hun i 'wasanaethu' ar gyrff cyhoeddus o Fon i Fynwy.
Ac eto does ganddyn nhw ddim llawer mwy o aelodau na sydd yna bobl yn byw yng Nghaernarfon, neu faint o bobl sy'n mynd i Barc y Sgarlets i weld gem ddarbi efo'r Gweilch. Mae'n anodd gen i feddwl bod prin unrhyw wlad ddemocrataidd arall efo criw mor fach o bobl yn tra arglwyddiaethu tros fywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd na sy'n digwydd yng Nghymru. Mae yna fwy o seiri rhyddion yng Nghymru nag aelodau o'r Blaid Lafur - sy'n beth rhyfedd braidd ag ystyried mai pobl sydd ar ol grym a dylanwad nad ydynt yn ei haeddu ydi'r mesyns yn amlach na pheidio. Byddai ymuno efo'r Blaid Lafur yn llawer gwell ffordd o ennill dylanwad anheg yn y Gymru sydd ohoni na mynd i lawr i'r loj i gymryd rhan mewn ymarferiad mymbo jymbo.
Ffigyrau wedi ei cymryd o'r fan hyn. Amcangyfrif gen i ydi'r rhifau am y ddwy etholaeth gyntaf - am resymau amlwg.
11,118 o aelodau oedd ganddynt bryd hynny - ac maent wedi eu dosbarthu tros y wlad fel a ganlyn:
Aberafon. 325 |
|
Aberconwy | 155 |
Arfon | 154 |
Alyn a G Dyfrdwy | 305 |
Blaenau Gwent | 310 |
Pen y Bont | 288 |
Caerffili | 315 |
Canol C/dydd | 324 |
Gog C/dydd | 408 |
De C/dydd | 375 |
Gorll C/dydd | 454 |
Dwyrain C/fyrddin | 203 |
Gorll C/fyrddin | 207 |
Ceredigion | 146 |
De Clwyd | 252 |
Gorll Clwyd | 161 |
Cwm Cynon | 309 |
D/for / Meirion | 89 |
Llanelli | 276 |
Merthyr | 317 |
Trefaldwyn | 86 |
Castell Nedd | 391 |
Dwyrain Casnewydd | 250 |
Gorll Casnewydd | 346 |
Islwyn | 275 |
Pontypridd | 333 |
Preseli / Penfro | 201 |
Rhondda | 404 |
Dwyr Abertawe | 212 |
Gorll Abertawe | 325 |
Torfaen | 359 |
Bro Morgannwg | 373 |
Wrecsam | 209 |
Ynys Mon | 160 |
Gwyr | 383 |
Delyn | 269 |
Brych a Maesyfed | 220 |
Mynwy | 329 |
Ogwr | 359 |
Dyffryn Clwyd | 261 |
Ac eto does ganddyn nhw ddim llawer mwy o aelodau na sydd yna bobl yn byw yng Nghaernarfon, neu faint o bobl sy'n mynd i Barc y Sgarlets i weld gem ddarbi efo'r Gweilch. Mae'n anodd gen i feddwl bod prin unrhyw wlad ddemocrataidd arall efo criw mor fach o bobl yn tra arglwyddiaethu tros fywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd na sy'n digwydd yng Nghymru. Mae yna fwy o seiri rhyddion yng Nghymru nag aelodau o'r Blaid Lafur - sy'n beth rhyfedd braidd ag ystyried mai pobl sydd ar ol grym a dylanwad nad ydynt yn ei haeddu ydi'r mesyns yn amlach na pheidio. Byddai ymuno efo'r Blaid Lafur yn llawer gwell ffordd o ennill dylanwad anheg yn y Gymru sydd ohoni na mynd i lawr i'r loj i gymryd rhan mewn ymarferiad mymbo jymbo.
Ffigyrau wedi ei cymryd o'r fan hyn. Amcangyfrif gen i ydi'r rhifau am y ddwy etholaeth gyntaf - am resymau amlwg.
faint yw aelodaeth y Blaid?
ReplyDeleteRhyw 3,000 yn is nag un Llafur.
ReplyDeleteRoedd hwn yn dipyn o agoriad llygad yn lleol. Dim ond 209 aelod yn Wrecsam - etholaeth y mae LLafur yn dal gafael arni yn san Steffan a Chaerdydd yn ogystal a bod efo 23 o gynghorwyr (tan yr anffawd diweddar pan adawodd 10 ohonynt).
ReplyDeleteDwi'n amau erbyn hyn fod tipyn yn llai na 200 ganddynt - sef tua dwbwl y 90 aelod o'r Blaid sy'n yr etholaeth. Diddorol iawn.