Monday, July 21, 2014

Mr Bebb a 'gwrth Semitiaeth' y Gwyddelod

Dwi ddim yn meddwl bod neb yn amau bod Guto Bebb yn goblyn o foi gwybodus, ond mae'n debyg nad oes fawr neb yn gwybod ei fod hyd yn oed yn gyfarwydd a fersiynau o hanes sydd erioed wedi digwydd - gwrth Semitiaeth hanesyddol yn yr Iwerddon yn yr achos yma.

Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn Lloegr wrth gwrs - cafodd 300 eu lladd yn 1279, a chafodd y gweddill eu hestraddodi y flwyddyn ganlynol.  Ni chaethant ddod yn ol nes i Cromwell eu gwahodd yn ol yn 1655.

Mae cymuned fechan o Iddewon wedi byw yn yr Iwerddon am fil o flynyddoedd, ac wedi bod yn wrthrych llai o wrth Semitiaeth na'r un gymuned arall yn Ewrop bron - er bod achosion felly wedi bod - roedd digwyddiad yn Limerick yn nau ddegau'r ganrif ddiwethaf er enghraifft.


Roedd gwrth Semitiaeth yn gyffredin mewn cymdeithas yn Ewrop trwy'r canrifoedd wrth gwrs - ac roedd hynny yn wir  am y feddylfryd Seisnig - fel mae'r dyfyniad yma gan George Orwell yn ei awgrymu.

There has been a perceptible anti-Semitic strain in English literature from Chaucer onwards, and without even getting up from this table to consult a book I can think of passages which if written now would be stigmatised as anti-Semitism, in the works of Shakespeare, Smollett, Thackeray, Bernard Shaw, H. G. Wells, T. S. Eliot, Aldous Huxley and various others. Offhand, the only English writers I can think of who, before the days of Hitler, made a definite effort to stick up for Jews are Dickens and Charles Reade. And however little the average intellectual may have agreed with the opinions of Belloc and Chesterton, he did not acutely disapprove of them. Chesterton's endless tirades against Jews, which he thrust into stories and essays upon the flimsiest pretexts, never got him into trouble — indeed Chesterton was one of the most generally respected figures in English literary life.

Rhaid wrth dderyn glan i ganu

12 comments:

  1. Anonymous8:37 pm

    Am beth cwbl hurt i aelod. seneddol plaid sy'n llywodraethu ei ddweud am wlad gyfagos sydd ar delerau da efo'r Deyrnas Unedig.

    Loose cannon ydi'r idiom Saesneg am y boi.

    ReplyDelete
  2. Anonymous9:46 pm

    Coc oen ydi'r idiom Cymraeg am y boi.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:43 pm

    Diolch byth bod gafodd o ddim ei wneud yn is weinidog.

    ReplyDelete
  4. Anonymous11:43 pm

    I hope the moron doesn't cause a diplomatic incident, as they used to say.

    ReplyDelete
  5. Guti Bebb12:58 am

    O darllen dy hanes Cai bach, ac am y gweddill jyst ymdrechwch i weld mwy na'ch rhagfarnau.

    Yn y lle cyntaf beth am y boycott treisiol o fusnesau Iddewig yn Limerick yn 1904? Areithiau gwrth iddewig yn y Dail yn ystod yr ail ryfel byd a diffyg cefnogaeth y wladwriaeth i ymdrechion i gynnig cartref i blant ddaru fyw trwy gyflafan Iddewiaeth yn Ewrop.

    Hen hanes?

    Onid gwir yw fod gwleidydd gwyddelig o Iddew wedi derbyn bygythiadau yn ddiweddar ac onid Dulyn yw unig gartref rhai o gyrff mwyaf gwrth iddewig y dwyrain canol sy'n cael ei gwrthod gan wledydd eraill yn Ewrop?

    Oes wir Cai, angen deryn glan i ganu. Serch hynny, o ystyried pa mor holl wybodus wyt ti am faterion gwyfdelig fe fyddwn wedi disgwyll chydig onestrwydd. Goelia ia fawr nad oeddet yn gwybod am rai o'r esiamplau uchod.

    O ran gwedfill dy gyfranwyrr, trueniaid. Addysg yng Nghymru ddim yr hyn y bu.

    ReplyDelete
  6. Guto Bebb1:02 am

    O, a tra da ni wrthi ti ffansi trafodaeth am agweddau gwrth Iddewig digon hyll Saunders ta di hynny yn anwybyddu rhyw gyd destun neu gilydd? Y fath ragrith. Deryn glan yn wir.

    ReplyDelete
  7. Guto Bebb1:39 am

    O ddifri Cai ti'n fy siomi. Pogrom Limerick 1904 neu rhyw ddigwyddiad bach yn Limerick yn y dau ddegau. Y gwir yw fod ymdrech fwriadol a threisgar wedi bod dan arweiniad tad catholig
    i atal pobl rhag defnyddio busnesau Iddewig. Yr oedd hyn yn cynnwys trais corfforol, chwalu eiddo a malu ffenestri cartrefi a busnesau Iddewig. Hyn oll ddeg mlynedd ar hugain cyn y boycott cyffelyb o fusnesau Iddewig yn yr Almaen.

    Dy gyhuddiad oedd fy mod yn creu hanes ond y gwir yw dy fod yn dewis gwadu unrhywbeth sy'n groes i dy ddelfryd o Iwerddon. Dal yn rhyfeddu dy fod mor anwybodus am dy ddewis wlad. Mae 'na o leiaf tri llyfr am ymgyrchoedd gwrth Iddewig Limerick gan weisg Gwyddelig. O ddifrif, dwi'n chael hi'n anodd credu nad oeddet yn ymwybodol. Pwy yn wir sy'n creu ei hanes?..Falle mod i'n fwy gwybodus am Iwerddon na hyd yn oed Cai! Dim yn ddrwg i goc oen :-)

    ReplyDelete
  8. Y broblem ydi hyn Guto - o pob man yn Ewrop i fod am y mil o flynyddoedd diwethaf os ti'n Iddew fysat ti heb allu dewis nunlle gwell nag Iwerddon - oni bai bod gen ti siop yn Limerick ar droad y ganrif ddiwethaf - mi fysat ti wedi colli busnes. Ond eto ti'n dewis sylw gwrth Sionaidd gan wleidydd Gwyddelig i wneud cyhuddiadau o wrth Semitiaeth yn erbyn cenedl gyfan - cenedl sydd wedi dangos mwy o lawer o oddefgarwch tuag at Iddewon na nemor neb arall yn Ewrop.

    Dyna ydi anonestrwydd mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  9. Anonymous12:19 pm

    Guto - annoeth yw sgwennu pethau fel hyn yn yr oriau mân

    ReplyDelete
  10. Guto Bebb12:46 am

    Ti, nid fi sy'n troelli Cai. Mae dy erthygl yn seiliedig ar drydar gennyf am eiriau Gerry Adams (dy arwr) lle y bu i mi ddefnyddio y geiriau 'latent anti-semitism'. Ti bellach wedi derbyn fod 'na sail hanesyddol ac mae hi'n ffaith (er dy fod yn aneybyddu hyn) fod ieithwedd wrth iddewig yn parhau yn arf gwleidyddol yn Iwerddon ac fod Dulyn yn gartref i gyrff waharddwyd o sawl gwlad arall Ewropeaidd ohereydd agweddau eithafol gwrth Israel.

    Mae dy lith diwefdaraf wedi symud o wadu unrhyw 'latent anti semitism' gwyddelig i ddadlau fod hyn yn wir mewn nifer o wledydd. Digon teg, ond dadl yw hon sy'n ddim oll i wneud a chywirdeb fy sylw cyntaf. Sylw yr wyt wedi ei dderbyn bellach

    O ran di-enw 12.19 fyddai yn gadael fy enw pan yn cyfrannu sc yn fwy na bodlon bod yn atebol am fy nadl pa bynnag amser o'r dydd dwi'n cyfrannu. Fel y gweli o lith diweddaraf Cai fi fel mae'n digwydd sy'n gywir.

    ReplyDelete
  11. Dwi ddim yn cyfeirio at dy drydar Saesneg, dwi'n cyfeirio at yr un Cymraeg - mae o i fyny ar y blogiad. Beth sydd Guto - yr un Saesneg ydi'r un swyddogol.

    ReplyDelete
  12. Guto Bebb10:52 pm

    Dy bwynt?

    Nol at y drafodaeth beth am ymateb i'r esiamplsu eraill y bu i mi gynnig. Ta di hynny rhy anodd hyd yn oed i ti?

    ReplyDelete