Annwyl Brif Weinidog
Mae'n siwr y byddwch yn rhannu fy nhristwch dwfn, pryder a dicter ynglŷn â'r sefyllfa sydd wedi bod yn datblygu dros yr wythnosau diwethaf yn Llain Gaza. Mae'r trais yn dwysáu. Bu erchyllterau. Yn sgil bomio ysgol y Cenhedloedd Unedig ddoe yn Beit Hanoun bu ymosodiadau bellach ar bedair canolfan Cenhedloedd Unedig.
Mae'r cosbi ar y cyd parhaol yma nid yn unig yn anghyfiawn ond hefyd yn arwain at ddicter, rhwystredigaeth a chasineb pellach ymysg y Palestiniaid, sydd yn garcharorion de facto.
Nid yw er budd unrhyw bobl mewn unrhyw wlad i'r gwrthdaro hwn barhau ac fe fydd yn parhau, gan nad oes unrhyw ateb milwrol, er gwaethaf y ffaith bod gallu milwrol y ddwy ochr yn gwbl anghyfartal. Mae'n rhaid i drafodaethau gael eu cynnal a ni fyddant yn digwydd heb bwysau rhyngwladol cryf.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i chwarae ei rhan. Mae gan bobl Cymru gysylltiadau niferus â'r Palestiniaid ac mae gan lawer o sefydiadau a grwpiau yng Nghymru ddiddordebau dyngarol hir dymor yn y rhanbarth ac yn dymuno gweld ateb heddychlon a theg.
Pwysaf arnoch, ar ran pobl Cymru, i wneud sylwadau cryf i'r Prif Weinidog i ddod â gwerthiant arfau i Israel i ben, i godi'r gwarchae a gweithio dros sefydlu cadoediad ar unwaith. Byddwn hefyd yn eich annog chi i gyhoeddi datganiad tebyg i'r un a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban yr wythnos diwethaf.
Yn gywir
Leanne Wood

Nid yw bywyd bob amser yn dirion. Yn wir, ar adegau o ryfel gall fod yn felltigedig o greulon. Ar achlysuron o'r fath mae llawer o ddiniweitiad ac ymrysonwyr yn colli'u bywydau er mawr ofid i mi. Y rhai sydd yn defnyddio grym milwrol anghyfartal mewn brwydr sydd bob amser yn trechu'u gelynion. Os yw Israel am gael llonydd i fyw'n heddychlon yn y Dwyrain Canol, mae'n rhaid i'w llywodraeth drechu Hamas yn filwrol yn Llain Gaza a dinistro'u twnelau trais yno'n gyfangwbl fel bod y corff dieflig hwnnnw'n yn colli'i awydd yn llwyr i frwydro yn erbyn Israel yn y dyfodol. Efallai mai dim ond wedyn y bydd cymod rhwng Israel a Hamas yn bosibl. Mae Hamas, ISIS, Boko Haram ac al-Qaeda yn ganghennau o'r un cyff gwrth Semitaidd. Pwy ond ffyliaid megis Leanne Wood fuasai'n eu cefnogi nhw ? Dinistrio pob agwedd ar Gristnogaeth a democratiaeth yw eu nod mewn bywyd. Os nad ydych yn coelio hynny unai darllenwch siarter Hamas neu gwylich y ffilm y mae ei chyfeirnod ar y we'n dilyn: http://www.memritv.org/clip/en/4376.htm
ReplyDeleteWyt ti wedi darllen y llythyr gan Leanne Dafydd!
ReplyDelete