Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd ydi targed Gwil unwaith eto'r wythnos yma yn ei golofn gwynfanus yn Golwg. Mae'n ymddangos bod rhai o blant ysgolion uwchradd Bangor yn gadael tir yr ysgol i gael eu cinio yn ystod yr awr ginio ac yn mynd i siopa lleol a bwyta bwydydd sy'n llai na maethlon. Yn naturiol ddigon bai cynghorwyr Plaid Cymru ydi hyn yn ol Gwilym.
Petai yna wobrau am geisio sgorio pwyntiau pleidiol wleidyddol idiotaidd a phlentynaidd mi fyddai Gwilym Owen yn ymgeisydd go gryf i ennill pencampwriaeth Ewrop. Wedi dweud hynny mae'r ffaith bod y golofn yn datblygu i fod mor ogleisiol o hunan barodiol yn dechrau ei gwneud yn drysor bach cenedlaethol - mewn rhyw ffordd wyrdroedig.

Ydi 'Gwilym Owen' yn berson go iawn? Ynteu rhywfath o joc Dada-aidd sydd wedi mynd ymlaen ychydig yn rhy hir?
ReplyDeleteMond gofyn...