Saturday, June 28, 2014

Mwy o newyddion da i'r Blaid

Mae yna nifer o arwyddion digon cadarnhaol i'r Blaid wedi torri i'r wyneb yn ddiweddar - cadw'r sedd Ewrop - yn groes i'r hyn yr oedd mwyafrif llethol y polau yn awgrymu, symud ymlaen yn sylweddol ar lefel Cynulliad mewn pol ICM a buddugoliaeth mewn is etholiad yn Nhrebannos.

A'r newyddion diweddaraf ydi newyddion am ymarferiad gan YouGov wrth dreialu eu methedoleg.  Gallwch ddarllen am hynny ar flog Roger Scully.  Wna i ddim ailadrodd yr hyn sydd gan Roger i'w ddweud, ag eithrio i nodi bod poblogrwydd Leanne yn cynyddu'n gyflym tra bod Carwyn Jones yn colli peth o'i boblogrwydd.


Rwan ni fyddai'r un o'r arwyddion dwi wedi eu nodi uchod yn arwyddocaol ynddo'i hun, ond o'u cymryd nhw i gyd efo'i gilydd gallwn ddweud bod mwyfwy o le i'r Blaid fod yn obeithiol am ei pherfformiad etholiadol tros y blynyddoedd nesaf.  Fel rydym wedi nodi eisoes y patrwm arferol yng Nghymru ydi i Lafur yng Nghymru  ennill cefnogaeth yn gyflym iawn - a'i gadw - pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Roedd yn edrych fel petai'r patrwm yna yn cael ei ailadrodd am ddwy flynedd gyntaf y glymblaid yn San Steffan, ond mae'n dechrau ymddangos bod cefnogaeth Llafur yng Nghymru wedi cyrraedd uchafbwynt tua dwy flynedd yn ol, a'i fod wedi dechrau syrthio'n ol ers hynny.  Yn wir mae yna le i gredu bod y cwymp yng nghefnogaeth Llafur yn cyflymu.

Mae gan y Blaid ddigon o le i fod yn obeithiol wrth fynd i mewn i gyfnod o dair blynedd o etholiadau rheolaidd - San Steffan yn 2015, Cynulliad 2016 ac etholiadau lleol yn 2017.



3 comments:

  1. Anonymous11:02 am

    Cytuno'n llwyr, mae Leanne Wood yn dechrau troi mewn i ased gwleidyddol pwysig iawn i'r blaid.

    ReplyDelete
  2. Ac mae MH wedi cael cic allan - ond yn dal i greu storis am be ddwedodd pobl yn Llangefni er ei fod o heb fod yno, nac wedi siarad a neb fuodd yno....

    ReplyDelete
  3. Dwi wedi rhoi'r gore i ddilyn y nonsens fi fawraidd Ioan.

    ReplyDelete