Efallai nad ydi darllenwyr Blogmenai at ei gilydd hefyd yn darllen y Sun yn aml iawn, ond efallai ei bod hefyd werth gwneud sylw neu ddau am yr erthygl isod o eiddo Tony Parsons a ymddangosodd yn y papur yn ddiweddar. Roedd Mr Parsons - ynghyd a nifer o bobl eraill sy'n 'sgwennu i'r Sun- wedi cael gwahoddiad i egluro pam eu bod yn falch o fod yn Saeson. Ymddengys bod Mr Parsons yn falch o'i Seisnigrwydd oherwydd ei fod o'r farn bod ei genedl yn uwchraddol i pob cenedl arall. Neu i fod yn fwy manwl - a barnu oddi wrth y rhestr o bobl mae'n eu hystyried yn ymgorfforiad o 'athrylith unigryw' ei genedl - mae'n ystyried bod pobl wyn - dynion yn bennaf - o'i genedl yn uwchraddol i bawb arall.
Rwan mae'n hawdd chwerthin ar ben y nonsens yma - honni bod gwlad sydd wedi ymosod ar 90% o wledydd eraill ac wedi concro hanner y Byd yn rhyw fath o wrthbwynt oesol i orthrwm,- ond mae yna agwedd digon difrifol iddo. Mae'r canfyddiad bod Saeson yn uwchraddol i bawb arall yn gred sydd efo gwreiddiau eithaf twfn yn hanes diwyllianol y wlad. Yn wir defnyddwyd y canfyddiad yma yn Oes Fictoria i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth - a gwnaed defnydd o pob math o mymbo jymbo siwdo wyddonol i gefnogi'r gred - phrenoleg a Darwiniaeth cymdeithasol er enghraifft. Roedd y gred yma yn rhan o ganfyddiad Ewropiaidd ehangach - cred a arweiniodd at lawer iawn o ddioddefaint a marwolaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf a'r ganrif flaenorol.
Dydi hi ddim yn ddatblygiad arbennig o gadarnhaol i weld yr hen ideolegau distrywgar yma yn ail ymddangos yn y cyfryngau prif lif Prydeinig cyfoes. Maent yn ideolegau sydd wedi arwain at drychinebau a dioddefaint ar raddfa Beiblaidd yn y gorffennol, a does yna ddim rheswm i feddwl na ddigwydd hynny yn y dyfodol.
Cenedlaetholdeb cyfrifol ydi cenedlaetholdeb sy'n pwysleisio cydraddoldeb gwledydd a phobl a sy'n cydnabod yr angen i bobloedd gwahanol barchu ei gilydd. Dydi cenedlaetholdeb Mr Parsons ac eraill yn y cyfryngau prif lif Seisnig ddim yn genedlaetholdeb felly - mae'n feddylfryd hynod negyddol a pheryglus. Mae'n ffordd o edrych ar y Byd sydd mor gwahanol i genedlaetholdeb Cymreig ag y gallai fod.
Sun columnists on why
Rwan mae'n hawdd chwerthin ar ben y nonsens yma - honni bod gwlad sydd wedi ymosod ar 90% o wledydd eraill ac wedi concro hanner y Byd yn rhyw fath o wrthbwynt oesol i orthrwm,- ond mae yna agwedd digon difrifol iddo. Mae'r canfyddiad bod Saeson yn uwchraddol i bawb arall yn gred sydd efo gwreiddiau eithaf twfn yn hanes diwyllianol y wlad. Yn wir defnyddwyd y canfyddiad yma yn Oes Fictoria i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth - a gwnaed defnydd o pob math o mymbo jymbo siwdo wyddonol i gefnogi'r gred - phrenoleg a Darwiniaeth cymdeithasol er enghraifft. Roedd y gred yma yn rhan o ganfyddiad Ewropiaidd ehangach - cred a arweiniodd at lawer iawn o ddioddefaint a marwolaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf a'r ganrif flaenorol.
Dydi hi ddim yn ddatblygiad arbennig o gadarnhaol i weld yr hen ideolegau distrywgar yma yn ail ymddangos yn y cyfryngau prif lif Prydeinig cyfoes. Maent yn ideolegau sydd wedi arwain at drychinebau a dioddefaint ar raddfa Beiblaidd yn y gorffennol, a does yna ddim rheswm i feddwl na ddigwydd hynny yn y dyfodol.
Cenedlaetholdeb cyfrifol ydi cenedlaetholdeb sy'n pwysleisio cydraddoldeb gwledydd a phobl a sy'n cydnabod yr angen i bobloedd gwahanol barchu ei gilydd. Dydi cenedlaetholdeb Mr Parsons ac eraill yn y cyfryngau prif lif Seisnig ddim yn genedlaetholdeb felly - mae'n feddylfryd hynod negyddol a pheryglus. Mae'n ffordd o edrych ar y Byd sydd mor gwahanol i genedlaetholdeb Cymreig ag y gallai fod.
No one else on the planet comes close to our creative genius
Sun columnists on why
they are proud of England
Punks like the Sex Pistols make our day
Published: 12th June 2014
I AM proud to be English because this is the most creative corner on the planet.
America comes a deserving second — but nowhere in the world comes close to the creative genius of this green, rain-lashed, endlessly brilliant land.
Lennon and McCartney. Shakespeare and Dickens, Morecambe and Wise. Wilko Johnson and Rudyard Kipling. Morrissey and Marr. George Orwell and George Michael. Turner and Constable. Joe Strummer and Mick Jones. Byron and Shelley. David Lean and David Bowie. Paul Weller and Pete Townshend. The Stone Roses and The Sex Pistols. Graham Greene and Ray Davies. Amy Winehouse and Agatha Christie. John Cleese and Charlie Chaplin. Benny Hill and Buzzcocks.
The English creative spirit is a bottomless well.
For centuries we have entertained and enlightened the rest of the planet with our books, our comedians, our films, our plays, our poetry and our great bands galore.
The English have produced writing that’s endured for 500 years, music that will last for ever, ideas that have entered the consciousness of the entire human race.
Where is the home of Romeo And Juliet, King Lear, 1984 and Heaven Knows I’m Miserable Now?
England. Only England.
For England is a land fit for artists — and heroes.
And I am proud we are a land of heroes, a warrior race that has stood up to oppression and tyrants throughout history (often with the help of our neighbours in Scotland, Ireland and Wales). Military heroes fill our English dreams, and our history books, and every home.
The White Cliffs of Dover has often been in the front line in mankind’s fight for freedom.
William Wilberforce against the obscenity of the slave trade. Churchill against Hitler. Wellington against Napoleon. Drake against the Spanish Armada. And these are just the names in the history books.
There’s every chance that in your own home there is a father or a grandfather or a brother or indeed a sister who fought in the great wars of the last century or in the conflicts of this century. Perhaps there are many of them.
For in every English home there is an unsung hero who fought for freedom. We have stood up to dictators and terrorists throughout our history, and always given them a good kicking.
“Every Blitz your resistance toughening, from the Ritz to the Anchor and Crown,” Noel Coward sang of London in World War Two.
He was also singing of England and a fighting spirit that has never been crushed. England is a land where the past never seems far away. “Every Blitz your resistance toughening.” Isn’t that the eternal spirit of England in five words?
Throughout history the English have confronted every murderous thug on the block and we have never been bullied into submission.
That fills me with a pride that I will take to my grave. I grew up in a city that was still scarred with the bombs of the Luftwaffe.
I was a teenager when the IRA was slaughtering innocent men, women and children (and horses) on the streets of our capital.
And I was in London when al-Qaeda butchers exploded on trains and a bus on 7/7.
They all lost.
And I am very proud of the English relationship to sport — which we practically invented.
If we are sometimes bettered at these sports by others, it’s because they never understood what really counts is how you play the game.
You will see them playing cricket in the West Indies and Pakistan and India and Australia. You will see them kicking footballs in Brazil and Japan and Ghana. You will see them playing rugby in Argentina and Samoa and New Zealand.
The English have invented so many globally popular games on some wet summer afternoon when we were a bit bored.
And the English weather!
Oh, how we bitch about it. But the truth is we’re blessed by the English weather.
I have seen earthquakes in Japan, hurricanes in the West Indies, typhoons in the Philippines.
I have sweated buckets in a New York summer and frozen my butt off in the Chicago winter.
The gentle surprises of the English weather are a relief after you have seen what weather looks like in the rest of the world.
How can I explain England to you?
We are a gentle, tolerant, welcoming people and yet ferocious when we are provoked.
We love animals and hate bullies.
We love freedom and we hate people who aren’t polite.
We love our neighbours but never remove our fences.
And we have two unofficial mottos that sum up our English world view.
One is: “Never, never, never shall be slaves.”
The other is: “Mustn’t grumble.”
Mae'n bwysig peidio gor-gyffredinoli wrth drafod cenedlaetholdeb, a priodoli nodweddion oesol i bethau sy'n eithaf diweddar mewn gwirionedd. Roedd cenedlaetholdeb yr 19eg ganrif yn fath gwahanol iawn i genedlaetholdeb heddiw. Roedden nhw'n credu mewn mewn cynnydd a gwareiddiad ac y byddai y byd yn cael ei berffithio pan fyddai y cyfan dan reolaeth un llywodreath, achos ni fyddai yna unrhyw rwystrau rhwng pobl i atal masnach a chynnydd wedyn. Yr unig wahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb y Deyrnas Unedig a pawb arall oedd fod ganddyn nhw y gallu i weithredu arno. Doedd cenedlaetholdeb Cymreig fawr gwell, roedden nhw'n eiddgar o blaid ymuno รข'r ymerodraeth er mwyn concro'r byd. Y ffordd cyflymaf o fawrygu Cymru oedd cynghreirio gyda'r bachgen mwyaf ar y maes chwarae, sef Lloegr. Roedd 'cenedlaetholdeb' Cymreig yn rywbeth hynod o amwys a llithrig, ac yn bennaf yn deillio o falchder ei fod yn wlad fwy crefyddol a moesol na Lloegr. Dim ond un neu ddau lais yng Nghymru oedd wedi dechrau trafod y math o genedlaetholdeb Cymreig sy'n nodweddiadol o'n cenedlaetholdeb ni heddiw, ond doedden nhw ddim yn ddylanwadol iawn yn eu hoes eu hunain. A dweud y gwir mae ambell un wedi dadlau nad oedd unrhyw fath o genedlaetholdeb torfol wir yn bodoli yng Nghymru nes ymhell mewn i'r 20fed ganrif. Wrth gwrs roedd hynny'n rhy hwyr ac roedd ideoleg gwrth-genedlaethol y Blaid Lafur eisoes wedi ennill tir yng Nghymru erbyn hynny. Beth bynnag am hynny, mae'n anghywir dwi'n crdu dweud bod cenedlaetholdeb Lloegr yn un peth, a cenedlaetholdeb Cymreig yn rywbeth arall. Y gwir ydi eu bod nhw'n newid o hyd. Rwy'n credu bod y cenedlaetholdeb a welir uchod yn fwy nodweddiadol o'r tuaddiad ol-ymerodraethol i ymynysu a welir yn areithiau Nigel Farage na chenedlaetholdeb yr 19eg ganrif. Dydi o ddim mor beryg a chenedlaetholdeb yr 19eg ganrif am nad oes ganddyn nhw'r gallu i reoli'r byd mwyach!
ReplyDeleteDwi'n derbyn rhan o hyn - ond nid y cyfan.
ReplyDeleteRoedd yr hyn yr ydym yn ei alw'n hiliaeth heddiw yn nodweddu'r ideolegau llawer o wledydd Ewropiaidd ac yn rhoi sail deallusol i'w hymgyrchoedd i redeg y Byd. Ond doedd yr ideoleg honno ddim yn un Byd eang - oedd China neu Persia yn ceisio concro'r Byd ar sail uwchraddoldeb hiliol. Mi fyddwn i hefyd gyda llaw yn dadlau bod gwahaniaeth rhwng agweddau'r DU a'r Ffrainc ol chwyldro at eu ymerodraethau a'u pobl. Efallai bod yna 'chydig o or gyffredinoli ar dy ran di yma.
Efallai dy fod yn gywir bod yna elfen o jarffio yn natganiadau Parsons a'i debyg - ond does yna fawr ddim yr ydym yn ei ddweud neu'i feddwl yn cael ei dynnu allan o awyr wag - mae ein cefndir diwylliannol yn gwneud i ni feddwl yn y ffordd yr ydym yn meddwl - hyd yn oed os ydi amgylchiadau ehangach yn newid.
Ti'n gywir am ideoleg cenedlaetholdeb Cymreig - mae hwnnw ar ei ffurf cyfoes yn ddatblygiad cymharol ddiweddar.
Rwy'n cytuno fy mod i'n gor-gyffredinoli, ond mae hynny yn anochel braidd mewn neges 200 gair ar bwnc mor gymhleth. Mae yn awduron sydd wedi ysgrifennu mwy nag un llyfr ar y pwnc yma sy'n cael eu cyhuddo o or-gyffrdinoli! :)
ReplyDeleteRwy'n cytuno bod cenhedloedd modern wedi eu seilio ar ieithoedd a diwylliannau y gorffennol, ond yn teimlo fod ganddyn nhw lawer o ryddid i ddadansoddi y gorffennol fel y mynnant, gan amlygu rhai pethau sy'n siwtio'r naratif cenedlaethol tra'n anwybyddu eraill. Rwy'n credu hefyd bod cenedlaetholdeb yng Nghymru wedi dechrau datblygu cyn yr oes fodern, a hynny oherwydd bod gwahaniaeth mor amlwg rhyngddynt yn ieithyddol a diwylliannol a'r Saeson. Ond mae'r cenedlaetholdeb hwnnw wedi newid cymaint dros amser gan bwysleisio nodweddion cenedlaethol gwahanol. E,e roedd yr ymneilltuwyr yn cael eu gweld fel rywbeth gwrth-Gymreig ar ddechrau'r 19eg ganrif, erbyn ei diwedd eu gwerthoedd nhw oedd gwerthoedd y genedl. Yn yr un modd ni fyddai ein cenedlaetholdeb seciwlar, diwylliannol ni yn apelio atyn nhw ryw lawer.
Y pwynt oeddwn i'n ceisio ei wneud wrth ddweud mai'r unig wahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb y DU a phawb arall oedd eu gallu i weithrdu arno, oedd bod eu sefyllfa i raddau helaeth wedi siapio eu cenedlaetholdeb. Roedden nhw'n crdu maen nhw oedd y meistri, bod eu hiaith uwchlaw pob un arall, a bod pawb arall yn israddol, oherwydd bod eu llwyddiant a'u cynnydd nhw yn tueddu i awgrymu fod hynny'n wir. Darweiniaeth cymdeithsol fel y dywedaist ti. Yr awgrym a gynigir gab nifer o Gymru Cymraeg y cyfnod dros ddysgu Saesneg a throi cefn ar y Gymraeg, oedd bod y Saeson yn llwyddiannus, a'r Cymry tb dlawd, ac felly ei fod yn amlwg bod y Saesneg yn iaith well. Doeddeb nhw ddim wedi datblygu'r math o ddamcaniaethau cymdeithasol ac economaidd sydd gennym ni hefyd er mwyn osbonio pam bod Cymry y cyfnod yn dlawd a'r Saeson yn gyfoethog. Petai'r esgid wedi bod ar y droed arall rwy'n siwr y byddai'r Cymry wedi crdu mai eu hiaith nhw oedd orau, a mwydro ymlaen am sut oedd yr iaith yn dod o Gomer ayyb fel a welwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Mae'r cwestiwn am Ffrainc yn un diddorol, oherwydd bod llawer o anghytuno ynglyn a hyn ymysg y modernwyr ac ysgrifenwyr sy,n dadlau i ba raddau yr oedd elfen ethnig i genedlaetholdeb y chwyldro Ffrengig.
"Neu i fod yn fwy manwl - a barnu oddi wrth y rhestr o bobl mae'n eu hystyried yn ymgorfforiad o 'athrylith unigryw' ei genedl - mae'n ystyried bod pobl wyn - dynion yn bennaf - o'i genedl yn uwchraddol i bawb arall"
ReplyDeleteDwi ddim yn gweld unrhyw son ei fod yn pwyntio allan fod pobol wyn na dynion yn uwchraddol. Dyma'r bobol o Loegr sydd yn ei ysbrydoli o yn sbesiffic.Ydi hi rwan yn drosedd peidio son am bobol o liw, tras neu ryw gwahanol i wyn/pinc jisd er mwyn ymarfer cyfartaledd a rhag ofn eich bod yn pechu a'ch labelu yn hiliol? Yn amlwg mae rhai agweddau anffortunus ag anghyfforddus i jingoism Seisnig ond mae'r math yma o feirniadaeth sy'n defnyddio cywirdeb gwleidyddol a Marcsiaeth diwyllianol cyn berycled ag annifyr a dim
Unryhw sylwad ar y honiad/awgrymiad fod son am ddynion gwyn yn unig yn awgrymu hiliaeth? Neu ai jisd anwybyddu yw'r polisi 'eanfrydig'?
ReplyDelete