Diolch unwaith eto i Hywel Jones am ddarparu adnoddau sydd o ddiddordeb i'r sawl sydd a diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Map rhyngweithiol sy'n dynodi trosglwyddiad iaith ar lefel ward y tro hwn. Dilynwch y linc a cliciwch ar y ward o'ch dewis. Mae'n dda gen i nodi fy mod yn byw ym Menai, Caernarfon - un o 'r wardiau efo'r trosglwyddiad mwyaf effeithiol yng Nghymru. Efallai y caf nodi - er cof am hen ddadl - bod y cyfraddau trosglwyddiad yn ardaloedd dosbarth canol a dosbarth gweithiol Caernarfon yn debyg iawn i'w gilydd.
Dwi'n postio'r map isod - ond mae'n rhaid i chi ddilyn y linc i gael map rhyngweithiol wrth gwrs.
Dwi'n postio'r map isod - ond mae'n rhaid i chi ddilyn y linc i gael map rhyngweithiol wrth gwrs.
Gwaith ardderchog a thrylwyr gan Hywel fel arfer. Brysiais i sbïo ar y Bala / Llanuwchllyn a chael fy siomi'n arw.
ReplyDelete13% yn ddigymraeg ar aelwydydd dau riant Cymraeg, 33% lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg a 12% o'r rhienti sengl yn methhu traddodi'r iaith.
Brawychus. Roeddwn i'n cymryd mai mewnfudwyr yn unig oedd yn gostwng y ganran Gymraeg mewn lle fel Penllyn.
Mae'r sefyllfa fymryn yn well un Uwchaled s Llandderfel felly mae'n ddigon posibl mai tref y Bala ydi'r problem.
Wrth gwrs mae' n bosibl fod mewnfudwyr sydd wedi dysgu'r iaith yn priodi ac yn siarad Saesneg ar yr aelwyd hefo cymar Cymraeg neu hefo cymar o fewnfudwr, ac yn magu plant yn Saesneg
Cwestiwn i Hywel
A oes modd croesi' ffigyrau hyn hefo man genedigaeth, man genedigaeth rhieni y rhieni hyn
Mi fydd ysgolion yn dysgu'r Gymraeg i blant mewn ardaloedd fel Y Bala wrth - mi fydd pob plentyn bron yna'n siarad y Gymraeg - ond ddim fel mamiaith.
ReplyDeleteMi ofynaf dy gwestiwn i Hyw ar trydar -mwy tebygol o'i weld yno.
Sbïais ar ambell ei gymuned yn y Gogledd. Mae'r dadansoddiad yma yn ddiddorol yn y llefydd mwyaf Cymraeg lle byddai rhywun yn disgwyl 100% yn Gymry ar aelwydydd 100% Cymraeg ond wrth graffu ar lefydd Seisnigaidd fel Caergybi, Bermo, Tywyn a bellu gwelaf fod y ffigyrau'n bell iawn o'r hyn a weilr yn adroddiadau Estyn. Cymer Dywyn e.e. 25 allan o 61 yn Gymry, rhyw 41%. Ond 7% sy'n Gymry yn yr ysgol gynradd!! Eto, Bermo hefo 30% o'r plant 3-4 yn Gynry ond 1% o'r plant cynradd os cofiaf yn iawn!
ReplyDeletePan mae gen blentyn ryw grap ar yr iaith mewn lle fel Tywyn, mae'r rhieni yn nodi ei fod yn medru'r iaith. Ond mae'n bosibl fod plentyn â'r un feistriolaeth yn cael ei ddisgrifio'n Sais mewn llefydd fel Penllyn ac Arfon.
Wrth gwrs mae plant yn cael eu bysio i ardaloedd eraill: i ardaloedd mwy Saesneg yn achos lle fel Blaenau Ffestiniog gan rieni o Saeson ac mae rhieni Cymraeg yn apt o wneud yr un peth mewn lle fel Bermo neu Dywyn felly mae'n annodd cymharu'r cyfrifiad ä chanfyddiadau Estyn. Er hyn mae gagendor rhwng y ddwy ffynhonell
Leiciwn i weld map o Gymry sy'n cymharu ystadegau'r cyfrifiad a'r cyfrifiad ysgolion i ddeall yn well y deinamig yma
Llanberis yn isel. Dim ond 12 o'r 17 â 2 riant yn Gymry. Ond gall hyn fod o ganlyniad i un neu dau deulumewn ward mor denau ei phoblogaeth.
ReplyDeleteCei Newydd yng Ngheredigion: rhyw draean o'r plant 3-4 yn Gymry yn ôl y cyfrifiad ond dim un Cymro cynhenid yn ôl Estyn.
Rwy'n gredininiol mai prif werth yr ystadefau hyn ydi dangos gradd y mewlifiad. Hyd yn oed os ydych yn cyfri plant mewnfudwyr sydd wedi dysgu Cymraeg a wedi aros yn yr ardal i fagu plant, lleiiafrif ydi'r teuluoedd Cymraeg yn y rhan fwya o gymunedau gwledig.
Mae'n bosibl hefyd fod y Cymry yn cael llai o blant
Y peth calonogol ydi fod y ganran sy'n cadw'r isith yn dal yn uchel mewn llawer io gymunedau yn y Gogledd Ddwyrain...a llefydd fel Hiraethog yn gwneud yn dda hefyd
William - Nac oes, does dim modd croesi'r ffigurau hyn efo man genedigaeth yn anffodus.
ReplyDeleteGobeithio eich bod wedi dod ar draws statiaith.com erbyn hyn (a @statiaith ar Twitter). Mae map yn dangos y ganran a anwyd y tu allan i Gymru yno, yn ogystal â dolenni at y tri map sy'n delio â throsglwyddo.
Diolch Hywel,
ReplyDeleteWedi bod yn pori yn statiaith ddoe.
Mi fuasai'n ddiddorol gwneud astudiaeth o agweddau pobl wrth dicio'r blwch Cymraeg yn y cyfrifiad. Mae'n amlwg fod yna agendor rhwng y Cymry cynhenid yn y cyfrifiad ysgolion a'r ffigyrau parthed y rhai sy'n siarad Cymraeg yn 3-4 oed (8% vs. 23%). Mae'r ysgolion meithrin wedi effeithio ar y ffigyrau i raddau ond yr effaith aelwyd neu agwedd y rhieni sy'n dylanwadu fwyaf decieni.
Ond mae yna dystiolaeth gan rai hefyd fod pobl mewn oed mewn llefydd fel Cwm Tawe yn gwadu eu bod yn siarad Cymraeg er eu bod yn rhugl. Hefyd mae rhai dysgwyr yn deud eu bod yn Gymry a rhai eraill yn methu ticio'r blwch er iddynt siarad yr iaith yn eithaf da.
Sgwn i a ydi pob mewnfudwr sydd wedi dysgu'r iaith yn rhugl yn ei blentndod yn ticio'r blwch Cymraeg. Os ydynt, mae hyn yn egluro y diffyg trosglwyddo mewn ambell ei gymuned yn y fro Gymraeg ar aelwyd hefo dau riant Cymraeg, faint o'r mewnfudwyr ifainc sy'n mabwysiiadu'r Gymraeg pan gânt blant eu hunain. Hwyrach fod Cai yn medru cloriannu hyn.
Yn y Port 8 mlynedd yn ôl deuthum ar draws cwol oedd yn siarad Saesneg a'u plant. Roedd y tad yn Gymro a'r fam yn ferch i Saesnes a Cymro. Mi esbonion nhw (yn Gymraeg) nad oedd eu Cymraeg yn ddigon da....bu bron i mi gael gwasgfa ond mae'n debyg fod yna filoedd tebyg trwy Gymru benbaladr.
Y gwir plaen ydi fod hyn yn oed Gwynedd yn el chael hi'n annodd i droi y Cymry dihyder yna'n Gymry ar ôl 12 mlynedd o addysg Gymraeg.
Dywedodd Clive Betts yn ei lyfr Culture in Crisis fod ambell ei ddysgwr yng Ngwent yn nodi ei fod yn medru ond fiw i rywun â'r un lefel yn y Fro Gymraeg wneud ffasiwn beth
Rwy'n dal i feddwl fod y cyfrifiad ysgolion yn well ffynhonnelll na'r cyfrifiad erbyn hyn er mwyn didoli y cymunedau lle mae'r iaith yn fyw. Nid wyf am ddiifrïo yr holl waith rydych wedi ei wneud hefo'r ystadegau ym 2001 a 2011 ond rwy'n teimlo nad ydi'r data ddim yn ddigon cyson erbyn hyn.
I ateb fy ngwetiwn fy hun mae llawer o blant sy' n rhugl eu Cymraeg yn 15 yn y Fro Gymraeg yn "collii" isith am mai yn y grypiau oedran 15-24 a 25-34 mae'r ganran Gymraeg yn syrthio'n bendant.
ReplyDeleteA ydi'n bosibl anghofio'r iaith mewn lle fel Caernarfon neu Benllyn? Annodd credu wir. Ond mae'n bosibl dewis siarad Saesneg neu ddeall Cymraeg yn unig.
Mae' n annodd astudio yr oedolion ifainc yna am eu bod yn symud i ffwrdd yn aml ond nhw sy'n magu'r to nesaf
William,
ReplyDeleteCytunaf nad yw canlyniadau'r cyfrifiad ar gyfer y grwpiau oedran 5-19 yn adlewyrchu'r canrannau sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Gweler sleid 31 o'r cyflwyniad yma a roddais yng nghynhadledd WISERD y llynedd, sy'n cymharu canlyniadau Cyfrifiad 2011 â ffigurau asesiadau'r cwricwlwm cenedlaethol: http://bit.ly/1aYhYcA
Mae ffigurau cyfrifiad ar gyfer y grŵp oedran 3 i 4 oed yn fwy chwyddedig yn 2011 nag oeddynt yn 2001 oherwydd bod ehangu ar ddarpariaeth feithrin - yn cynnwys cyflwyno'r Gymraeg fel ail iaith - yn debyg o fod wedi arwain at yr un fath o chwyddo a ddilynodd cyflwyno'r Gymraeg fel ail iaith drwy ysgolion Cymru yn sgil Deddf Ddiwygio Addysg 1988 a gyrhaeddodd ei lawn effaith tuag adeg Cyfrifiad 2001.
Mae'r Llywodraeth wedi mabwysiadu'r dangosydd canlynol ar gyfer asesu strategaeth Iaith Fyw Iaith Byw: 'OU099 % y disgyblion sy'n 5 mlwydd oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd sy'n siarad Cymraeg yn rhugl gartref'. Mae hwnnw'n dangos o gwmpas 6% yn siarad Cymraeg gartref yn rhugl ac yn debygol, yn fy marn i, o fod yn adlewyrchu'r ganran o gartrefi lle defnyddir y Gymraeg yn brif iaith gyda'r to ieuengaf.
Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos 18.6% o'r rhai 3 oed yn gallu siarad Cymraeg. Yn anffodus, dydy'r canlyniadau sydd ar gael yn ôl math o deulu ddim ar gael ar gyfer plant 3 oed yn unig, dim ond ar gyfer rhai 3 a 4 oed. Mae'r canlyniadau ar gyfer teuluoedd cwpl, 2 oedolyn Cymraeg, yn debyg iawn yn 2011 i rai 2001 sy'n awgrymu nad ydynt wedi eu heffeithio gymaint â'r teuluoedd eraill gan 'chwyddiant' oherwydd addysg feithrin. Wrth ddefnyddio'r holl ffynonellau gyda'i gilydd rwy'n credu y ceir darlun rhesymol o'r sefyllfa o hyd.
Mae gen i brosiect ar y gweill sy'n cymharu ymatebion 2001 a 2011 ar lefel unigolyn. Goebithiaf gyhoeddi rhywbeth ymhellach ymlaen eleni.
Annwyl,
ReplyDeleteDiolch am yr ateb cynhwysfawr. My sbïaf ar y ddolen Dda gennyg glywed for gennych astudiaeth ar y gweill o atebion uniogolion ym 2001 a 2011.
Mae adroddiadau Estyn yn dôd allan pan adolygir ysgol a mae'r cyfrifiad ysgolion yn flynyddol gyda chanlyniadau ar lefel sir yn unig. A fyddai'n bosibl cael y canlyniadau fesul ysgol gan Lywodraeth Cymru? Wedyn mi fyddai'n hawdd cymharu e.e. plant rhugl a phlant sy'n siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad..
William,
ReplyDeleteRwyf newydd wneud Cais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i geisio cael y data ar lefel ysgol. Gellir ei weld yma: https://www.whatdotheyknow.com/cy/request/ystadegau_am_iaith_disgyblion/new
Cofier, dydw i ddim yn cytuno y bydd o reidrwydd yn hawdd gwneud cymariaethau wedyn oherwydd nad yw dalgylchoedd ysgolion yn gyson nac yn cyfateb i ffiniau wardiau na Chymunedau.
Hywel
Rwyf wedi derbyn data gan Lywodraeth Cymru am ruglder plant. Rwyf wedi ei fapio yma: http://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/iaith-disgyblion/lleoliad-disgyblion-rhugl-mewn-ysgolion-cynradd-a-chanol/ ac wedi creu siart rhyngweithiol i ddangos data ysgolion unigol yma: http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/Ionawr2013/rhuglder_disgyblion_yn_ol_ysgol_2013.html
ReplyDelete