Un o'r gwefannau gorau ar gyfer betio gwleidyddol ydi un y bwci Gwyddelig, Paddy Power. Maen nhw'n cynnig prisiau ar hyn o bryd ar gyfer nifer o etholaethau Cymreig yn etholiadau San Steffan, 2015.
Gall dilyn prisiau betio fod yn ffordd effeithiol o ragweld sut mae pethau'n mynd o safbwynt etholiadol. Tra mai'r bwci sy'n gosod y prisiau cychwynol, faint o bres sy'n mynd ar yr ymgeiswyr sy'n gyrru'r prisiau wedyn. Gan nad ydi y rhan fwyaf o bobl yn rhoi eu pres i ffwrdd ar chwarae bach, gellir mentro bod pobl wedi meddwl am sut maent yn betio.
Dyna pam y gall prisiau betio roi cystal darlun o'r tirwedd etholiadol a pholau piniwn.

Mae gan Ladbrokes rhestr hir o brisiau etholaethau hefyd.
ReplyDeleteWy ddim wedi edrych ers sbel on roedd hi'n bosibl betio ar Ganol Caerdydd gyda Ladbrokes a Paddy Power - un yn rhoi ods digon da ar Lafur a'r llall ar y dems Rhydd ac fe allech chi ddim colli (a bwrw bod un o'r ddwy yn enill). Enillwch chi ddim lot ond fe gollwch chi ddim.
Ond efallai bod y prisiau wedi newid erbyn hyn.