Rhyw feddwl oeddwn i wrth wrando am ymysodiad hollol anghmedrol a thros y top (a defnyddio idiom Saesneg) David Cameron ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru os ydi'r Toriaid - neu a bod yn fwy manwl y Toriaid Cymreig - wedi ystyried o ddifri beth fydd goblygiadau naratif y Toriaid Prydeinig iddyn nhw.
Mae strategaeth Cameron yn un eithaf hawdd i'w deall - portreadu Cymru fel rhyw Uffern ar y Ddaear, priodoli hynny i'r ffaith mai Cymru ydi'r unig ran o'r DU i gael ei reoli gan Lafur a dweud y byddai gweddill y DU hefyd yn Uffern ar y Ddaear petai Miliband yn ennill yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf. Rhyw amrywiaeth bach ar Project Fear yr ymgyrch Bitter Together yn yr Alban. Gallai hyn weithio yn Lloegr wrth gwrs - a dyna ydi bwriad Cameron - dychryn Saeson yn wirion. Ond
beth fydd yr effaith yng Nghymru. Mae'n anodd rhagweld y pethau 'ma - ond hoffwn awgrymu dau sgil effaith posibl:
1). Bydd yn haws i Lafur Cymru amddiffyn ei hun rhag beirniadaethau cwbl rhesymol o'r ffordd maent yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy gysylltu'r beirniadaethau hynny efo hefru hysteraidd Cameron am Glawdd Offa yn ffin rhwng bywyd a marwolaeth ac ati. Mi fydd hi'n hawdd sgubo pob beirniadaeth o dan y carped.
2). Mae'n bosibl y bydd y strategaeth yn gelyniaethu llawer o ddarpar bleidleiswyr Toriaidd yng Nghymru. Efallai y bydd sterics y Toriaid, y Mail a'r Sun yn argyhoeddi trigolion yr East Midlands bod Cymru yn wlad trydydd byd, ond fydd o ddim yn argyhoeddi trigolion Aberconwy na Gogledd Caerdydd. Yn wir mae'n ddigon posibl y byddant yn cael yr holl beth yn sarhaus. Os felly byddai'r bobl hyn yn agored iawn i wrth naratif Llafur sy'n portreadu'r ymgyrch fel rhyfel ar Gymru - pe byddai hyn yn digwydd byddai pris sylweddol i'w dalu gan y Toriaid Cymreig tros y dair blynedd nesaf.
Mae yna rhyw ddyfyniad neu'i gilydd yn y Beibl sy'n canmol dyn sy'n fodlon rhoi ei einioes er mwyn ei frawd. Efallai mai dyna gymhelliad y Toriaid Cymreig tros gymryd rhan yn ymgyrch Cameron gyda'r fath frwdfrydedd. Ar y llaw arall efallai eu bod nhw'n rhy dwp i ystyried y posibilrwydd y gallai strategaeth Cameron arwain at wrthdrawiad rhwng y Toriaid Cymreig a thren etholiadol yn 2014, 2015 a 2016.
Mae'r ail bosibilrwydd yn fwy tebygol na'r cyntaf.

Sgil effaith posib arall wrth gwrs yw y bydd llai o bleidleiswyr naturiol y Blaid Geidwadol yn dewis ymddeol i Gymru - gan gredu ei fod yn uffern ar y ddaear a'r GIG yn shambls etc.
ReplyDeleteWnes i ddim meddwl am honna.
ReplyDelete