Felly mae aelod arall o'r glymblaid Llafur / Annibynnol sy'n rheoli Cyngor Mon wedi gadael y grwp. Jeff Evans sy'n gadael y tro hwn - mae Peter Rogers a Raymond Jones eisoes wedi gadael. Daw hyn a chyfansoddiad y cyngor i Clymblaid 13, Plaid Cymru 12, Eraill 5. Bwriad y Glymblaid i gynnig cadeiryddiaeth y cyngor i aelod o Blaid Cymru (yn hytrach nag i Mr Evans) oedd asgwrn y gynnen y tro hwn.
Ag ystyried hanes grwpiau annibynnol yn Ynys Mon - maen nhw i gyd yn chwalu yn hwyr neu'n hwyrach - tybed os mai mater o amser yn unig ydi hi tan y bydd newid gweinyddiaeth yn y sir?
Ag ystyried hanes grwpiau annibynnol yn Ynys Mon - maen nhw i gyd yn chwalu yn hwyr neu'n hwyrach - tybed os mai mater o amser yn unig ydi hi tan y bydd newid gweinyddiaeth yn y sir?
No comments:
Post a Comment