Dydi Blogmenai ddim yn ymateb i geisiadau am flogiadau ar bwnc arbennig yn aml iawn, ond cyn bod rhai o fy ffrindiau bach anhysbys yn codi record y Blaid o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Cynulliad mi wna i eithriad. Dwi wedi torri'r tablau isod o astudiaeth hynod drylwyr a defnyddiol Cymdeithas yr Iaith o'r pwnc - ac mae'n ddadlennol.
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn gwneud dwywaith cymaint o ddefnydd o'r iaith na phawb arall efo'i gilydd. Oni bai am y Blaid llai na 4% o drafodaethau'r Cynulliad fyddai'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Un aelod unoliaethol sy'n defnyddio'r iaith mwy na 50% o'r amser - Keith Davies, Llanelli. Ychydig iawn o ddefnydd o'r Gymraeg mae siaradwyr cwbl rhugl fel Carwyn Jones, Gwenda Davies, Suzy Davies, Paul Davies, Mark Drakeford neu Leighton Andrews yn ei wneud. Yn wir mae Leighton yn ymddangos i fod wedi rhoi'r gorau yn llwyr i ddefnyddio'r Gymraeg ers colli ei swydd fel Gweinidog Addysg.
Ydi hyn oll yn bwysig? Wel ydi - wrth gwrs. Mae'n hen bregeth sy'n cael ei chyfeirio at y Blaid na ddylai ystyried yr iaith yn rhywbeth sy'n perthyn yn arbennig iddi hi. 'Dwi'n meddwl bod hynny yn ddadl synhwyrol o safbwynt lles yr iaith. Ond mae hefyd yn wir nad yw'n ymddangos bod aelodau'r pleidiau unoliaethol yn cymryd yr iaith o ddifri - neu o leiaf nid ydynt ei chymryd yn ddifri i'r graddau eu bod yn fodlon gwneud defnydd cyhoeddus ohoni. Bai yr unoliaethwyr ydi hynny, nid bai y Blaid.

Noder hefyd bod defnydd yr iaith gan Weinidogion y Llywodraeth yn ganlyniad i gwestiynnu gan ACau meinciau cefn, Plaid Cymru yn bennaf. Prin iawn y ceir cyhoeddiad gan weinidog trwy gyfrwng y Gymrawg, heblaw ei fod yn ymwneud a'r Gymraeg.
ReplyDeleteWel ia - ag edrych ar bethau felly oni bai am Plaid Cymru a Keith Davies prin y byddai unrhyw Gymraeg i'w glywed yn y Cynulliad.
ReplyDeleteSut bynnag ydan ni yn edrach ar betha mai dal yn ffaith drist mai 2% gyfrannodd arweinydd Plaid Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
ReplyDelete