Mae'n ymddangos bod y gogwydd tuag at yr ymgyrch 'Ia' yn parhau yn yr Alban. Un peth a allai wthio pethau ymhellach i gyfeiriad yr ymgyrch honno fyddai canfyddiad ymysg pobl dosbarth gweithiol bod y Toriaid yn debygol o ennill etholiad cyffredinol Prydain yn 2015. Mae'r polau heno yn awgrymu bod y bwlch rhwng y Toriaid a Llafur yn cau. Efallai mai symudiad dros dro yn sgil y gyllideb ydi hyn wrth gwrs - ond cyllideb 2012 oedd yn gyfrifol am roi'r oruwchafiaeth i Lafur - goruwchafiaeth sydd wedi parhau am ddwy flynedd.
Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn hynod ddiddorol.
Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn hynod ddiddorol.
Dyma fi ar ei hôl hi fel arfer
ReplyDeleteY cynnydd yng ngehfnogaeth y Torïaid sydd tu ôl i'r codiad hwn yn y bleidlais dros annibynniaeth. Os ydi'r Albanwyr yn credu y cânt lywodraeth geidwadol yn groes i'w dymuniad nhw, annibynniaeth a ddewisant. Cadarnhawyd hyn mewn pôl y llynedd