Friday, March 14, 2014

Pam bod Leanne yn gywir i ddiswyddo Dafydd Elis Thomas

Mae'n rhyfedd fel mae perhau'n dod at ei gilydd mewn ffyrdd anisgwyl weithiau - ac mae marwolaeth Tony Benn yn digwydd ddiwrnod wedi diswyddo Dafydd Ellis Thomas fel llefaydd mainc flaen a chadeirydd pwyllgor yn y Cynulliad yn esiampl o hynny.

Mae gan ymddygiad Tony Benn  yn y gorffennol gweddol bell bellach gysylltiad agos a rhai o egwyddorion ymgyrchu gwleidyddol cyfoes.  Arweiniodd arfer Benn o ganolbwyntio ei ynni gwleidyddol ar rwygiadau mewnol oddi mewn i'r Blaid Lafur at hollti'r Chwith Prydeinig yn ddau ac at ddeunaw mlynedd o lywodraeth Doriaidd.  Ni chollodd y Dde ei gafael ar awenau'r wladwriaeth Brydeinig nes iddynt hwythau ddechrau cecru yn gyhoeddus - ar bwnc Ewrop yn bennaf.

Ar un ystyr Benn oedd tad y 'Llafur' Newydd a ymddangosodd yng nghanol y nawdegau.  Beth bynnag am wendidau Llafur Newydd - ac roedd yna ddigon, roeddynt wedi dysgu gwersi o'r gorffennol.  Mae rhai o nodweddion eu hymgyrch 1997 yn parhau i fod yn fodel o sut i wneud rhai pethau wrth ymgyrchu - cyflwyno nifer fach o negeseuon atyniadol ond syml, sicrhau bod pawb yn cadw at y naratif honno, cysylltu pob dim efo'r naratif.

Mae yna fwy i ymgyrchu diweddar wrth gwrs - ond mae'r egwyddorion uchod yn dal yn hanfodol.  Dylid gweld araith Leanne i'r gynhadledd yn y cyd destun hwnnw.  Etholiad gyda chyfradd isel yn pleidleisio ydi etholiad Ewrop.  Mae yna fygythiad i sedd y Blaid (mae hynny hefyd yn wir am sedd UKIP a'r Toriaid).  Os bydd pleidlais graidd y Blaid yn dod allan i bleidleisio bydd y sedd yn cael ei chadw, os na fydd hynny'n digwydd bydd yn cael ei cholli.  Yn y cyd destun yna mae tynnu sylw at oblygiadau cynrychiolaeth UKIP yn absenoldeb cynrychiolaeth gan y Blaid yn beth deallus i'w wneud.  I wneud hynny'n effeithiol mae'n rhaid tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng gwerthoedd Cymreig y Blaid a gwerthoedd  Prydeinig UKIP.  Y neges syml ydi 'Ni neu'r Dde Brydeinig'.

Rwan dwi ddim yn amau bod dadl ffug academaidd - neu ddadl ty tafarn efallai - i'w chael ynglyn a'r cwestiwn os ydi'r traddodiad adweithiol Brydeinig mor 'Gymreig' ag ydi'r traddodiadau rhyddfrydig, cenedlaetholgar neu undebol, ond o safbwynt etholiadol wleidyddol mae gor gymhlethdod siwdaidd o'r math yma yn waeth na diwerth.

Meddyliwch am funud bod newyddiadurwr yn ol yn 1997 yn gofyn i rhyw hen gojar ffuantus oedd wedi bod ar fainc flaen Llafur ers degawdau 'What did you think of Tony Blair's conference speech emphasising the need for change and emphasising that things can only get better under Labour?" a bod hwnnw 'n ateb 'I thought it was very superficial, 'change' & 'better' are relative terms you know.  Who are we to decide on the central locus that 'change' and 'better' are relative to? who are we to yada, yada, yada, yada _ _ _'. Byddai'n amlwg yn tanseilio strategaeth oedd wedi ei llunio'n gywrain er mwyn dangos ei hun, neu awgrymu ei fod o'n fwy deallus na'r arweinyddiaeth, neu am ei fod yn meddwl bod ei hawl i gael mynegi cymhlethdod ei dirwedd mewnol yn bwysicach na lles ei blaid neu beth bynnag. Byddai ei ddyddiau mainc flaen ar ben cyn iddo orffen ar ei rwdlan wrth gwrs.

Mae cynhadledd wleidyddol - yn enwedig un sydd yn sail i ymgyrch etholiadol yn cymryd llawer o waith paratoi a threfnu - gan wleidyddion y Blaid, gan yr adain wirfoddol, ac yn enwedig gan weithwyr cyflogedig y Blaid.  Mae'r Blaid yn hynod ffodus bod ganddi dim bach, ifanc ond hynod frwdfrydig o weithwyr cyflogedig.  Llwyddodd sylwadau Dafydd i daflu ychydig o gysgod  tros beth ddylai fod wedi bod yn ymarferiad effeithiol a chysact i lawnsio ymgyrch Ewrop trwy gyflwyno naratif negyddol i'r cyfryngau ar blat.  Doedd y sawl a wariodd cymaint o ymdrech a brwdfrydedd yn rhoi'r gynhadledd at ei gilydd ddim yn haeddu hynny.

Dwi ddim yn awgrymu bod y Blaid yn efelychu Llafur Blair yn y rhan fwyaf o bethau, ond mae'r egwyddorion y dylid sicrhau naratif wleidyddol syml sydd wedi ei theilwrio ar gyfer etholiadau penodol, ac y dylai holl ladmeryddion plaid drosglwyddo'r neges honno ac osgoi anghytuno a'u gilydd yn gyhoeddus - ar boen eu bywydau - yn rhai hanfodol i lwyddiant etholiadol.  Llwyddodd Dafydd i feirniadu'r naratif, i anghytuno efo gweddill ei blaid ac i achosi ffrae gyhoeddus mewn ychydig eiriau.

Mae yna ddigon o le i anghytuno oddi mewn i Blaid Cymru yn fewnol - mwy felly nag a geir yn y pleidiau eraill.  Mae gan Dafydd fwy o gyfle na'r rhan fwyaf o aelodau cyffredin i fynegi ei farn yn fewnol.  Yn anffodus mae'n well ganddo fynegi anghytundeb trwy gyfrwng y cyfryngau torfol - gan beidio a phoeni llawer os ydi hynny'n niweidio'r blaid yn etholiadol, nag am y siom mae'n achosi i'w gyd bleidwyr ar pob lefel.

21 comments:

  1. howgetpesda9:25 pm

    Mi fasat ti'n cytuno ti ar pwyllgor y blaid

    ReplyDelete
  2. Gwynfor Owen12:15 am

    Anghytuno yn llwyr. Yn bersonol 'roeddwn yn cytuno ac araith Leanne, ond yn yr un modd yn cytuno fod gan Dafydd hawl i'w safbwynt, sydd fel ti wedi esbonio yn anffodus yn ddeallusol gywir. Ond Mae rhoi y sac I Gadeirydd gorau y Cynulliad am fynegi ei farn bum diwrnod wedyn yn wallgorwydd llwyr.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:57 am

    Mae DET yn hollol hunanol a myfiol.

    Dydy heb roi rheswm dros bleidleisio dros Blaid Cymru mewn 10 mlynedd a mwy. Dydy byth yn dadlau o hlaid PC dim ond dweud beth mae Plaid yn gwneud yn rong.

    Dyn sydd byth yn mynd i'r wasg yn rhoi dadl dros i rhywun bleidleisio Plaid. Dwi byth wedi gwelio DET a meddwl, 'ie, dwi am bleidleisio PC. Dydy ddim yn gwneud achos dros genedlaetholdeb'.

    Dyn hunanol, sbeitlyd sy'n dirmygu pobl ei blaid ei hun.

    Dyn bychan iawn.

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:05 am

    Mi ddylai Dafydd El fod wedi ymddeol. Do, mi wnaeth o waith da yn sefydlu a chael trefn ar y Cynulliad ond mae hynny y tu ol iddo erbyn hyn. Mae o wedi datblygu'n gyfuniad anffodus o ben mawr a phen bach.

    ReplyDelete
  5. Howgets: Roedd yr aelodau yn y gynhadledd yn gandryll hefo Dafydd, nid dim ond y Pwyllgor Gwaith.

    Gwynfor: Mae gan Dafydd bob hawl i'w farn, ac mae 'na nifer o gyfleoedd i ddatgan gwahaniaeth barn o fewn Plaid Cymru. Cangen, Pwyllgor Etholaeth, Cyngor Cen, Pwyllgor Gwaith, ac o fewn grŵp y cynulliad. Mae Dafydd yn wleidydd profiadol, ac roedd amseriad ei ddatganiad yn hollol fwriadol i wneud y niwed mwyaf posib i Leanne. Byth ers iddi (trwy'r aelodau) chwipio'i din yn y frwydr am yr arweinyddiaeth, mae o wedi bod a'i gyllell ynddi.

    Mae ganddo gyfrifoldeb i'r aelodau ar lawr gwlad sy'n gweithio'n galed (yn rhan fwyaf o'r etholaethau) i godi arian ac i fynd a'r frwydyr at y pleidiau eraill. Os na all o gyfrannu'n gadarnhaol efallai y dylai ystyried treulio mwy o amser hefo'i deulu, neu ganolbwyntio r y swyddi eraill sydd ganddo.

    ReplyDelete
  6. Gwynfor11:34 am

    Rhaid I mi ddweud Llyr mai yr unig aelodau gododd y mater gyda fi oedd rhai o etholaeth Arfon, a bum yn siarad am digon o faterion eraill yn ymwneud a'r gynhadledd gyda aelodau o bob rhan o Gymru. O ran dy sylw y dylsai pob sylw cael ei wneud trwy'r Blaid., buaswn yn cytuno os buasai y rheol yma yr un fath I bawb. Cofiaf ar fwy nac un achlysur i'r Arweinydd presennol wneud datganiadau agored oedd yn gwneud pethau yn anodd iawn I Ieuan Wyn Jones ar y pryd. Mae yna beryg weithiau I ni gael sefyllfa o Gwnewch fel rwyf yn dweud, a dim fel yr hyn dwi yn wneud

    ReplyDelete
  7. Nes i ddim dweud mai yn fewnol yn unig y dylid trafod y Blaid. Mae tafod agored yn nodwedd iach o'r Blaid, yn gwbl groes i Lafur yng Nghymru. Ond roedd Dafydd wedi amseru ei ddatganiad i wneud y niwed mwyaf i Leanne ac i'r Blaid, ac am hynny roedd hi'n hollol briodol iddi ei gosbi.

    Nonsens llwyr yw'r awgrym mai aelodau Arfon yn unig oedd wedi gwylltio.

    ReplyDelete
  8. Gwynfor Owen4:55 pm

    Wnes I ddim awgrymu dim, ond datgan ffaith. Mae'r ffaith ein bod ni yn gallu dadlau yma yn arwydd o pa mor iach yw y Blaid yn gyffredinol. Ond gobeithio na fydd pobl eisiau fy nghosbi I am feiddio geiriadur y sefydliad. Ers I mi ymuno a'r Blaid Mae hi wedi bod yn iawn I rhai aelodau feirniadu y sefydliad, ond pan Mae y bobl yno yn dod I rym, cywilydd I unrhyw un sydd yn eu gwrthwynebu

    ReplyDelete
  9. Gwynfor Owen4:58 pm

    Wnes I ddim awgrymu dim, ond datgan ffaith. Mae'r ffaith ein bod ni yn gallu dadlau yma yn arwydd o pa mor iach yw y Blaid yn gyffredinol. Ond gobeithio na fydd pobl eisiau fy nghosbi I am feiddio beirniadua y sefydliad. Ers I mi ymuno a'r Blaid Mae hi wedi bod yn iawn I rhai aelodau feirniadu y sefydliad, ond pan Mae y bobl yno yn dod I rym, cywilydd I unrhyw un sydd yn eu gwrthwynebu

    ReplyDelete
  10. A bod yn deg Gwynfor nid beirniadu'r arweinyddiaeth fel y cyfryw yma. Mae pobl yn gwneud hynny'n aml, ac wedi gwneud hynny erioed.

    Y broblem ydi tanseilio prif araith y Gynhadledd - araith oedd yn adlewyrchu strategaeth etholiad Ewrop. Mae cynadleddau yn bethau drud a thrafferthus i'w trefnu'n effeithiol, ac mae cadw'r sedd yn hynod bwysig. Mae'n rhesymol disgwyl i unrhyw aelod - heb son am wleidydd proffesiynol, profiadol iawn - ymddwyn yn gall mewn sefyllfa felly.

    ReplyDelete
  11. Gwynfor owem7:31 pm

    Cytuno efo bron popeth yr Wyt yn ei ddweud Cai, heblaw am hawl Dafydd I ddatgan ei farn ar y mater, ond 'rydwyf yn cofio droeon yn y gorffennol aelodau amlwg iawn o'r Blaid yn tanseilio prif areithiau. Dim son am ddisgyblu adeg hynny. Pwysleisiaf unwaith eto nad cefnogi yr hyn ddywedoodd Dafydd ydwyf, ond yn hytrach ei hawl I fynegi ei farn. Y ffars arall yn yr holl beth oedd aros am 5 diwrnod cyn gwneud dim ynglyn a'r peth. 'Roedd y wasg a pawb arall wedi anghofio am y gwahaniaeth barn, gyda sylwadau Leanne at UKIP yn amlwg yn sylwadau swyddogol y Blaid, ond trwy fod wedi gweithredu' yn y modd yma, mae'r stori am rygnu ymlaen, ac ni allaf weld mai bai Dafydd yw hynny.

    ReplyDelete
  12. Dwi'n rhyw gytuno bod disgyblaeth mewnol wedi bod yn wael yn y gorffennol - er nad ydw i'n siwr at beth yn union ti'n cyfeirio. Mae hyn wedi bod yn wendid yn y gorffennol - ac mae'n bryd sortio'r peth allan unwaith ac am byth.

    Mae mynegi gwahaniaeth barn yn iawn, dydi gwneud hynny mewn modd sy'n tanseilio ymgyrch etholiadol ddim. Mae'n hen bryd i bawb ddeall yr egwyddor yna.

    ReplyDelete
  13. Simon Brooks2:27 am

    Doedd safbwynt Dafydd El ddim yn "ddeallusol gywir", chwedl Gwynfor Owen. Mae UKIP yn blaid unoliaethol eithafol sydd yn elyn marwol nid yn unig i genedlaetholdeb Cymreig ond hefyd i genedligrwydd Cymreig. Does dim oll sy'n Gymreig yn ei chylch, ac mae'r niwed mae Dafydd El yn ei achosi wrth normaleiddio safbwynt o'r fath fel barn wleidyddol 'dderbyniol' a 'Chymreig' yn anhraethol.

    ReplyDelete
  14. Gwynfor Owen10:36 am

    I sylw Simon
    "Mae plaid sy'n cael pleidleisiau gan ddinasyddion cyffredin yng Nghymru yn un sy'n rhaid ei chymryd o ddifrif".

    Yr uchod yw dyfyniad gan Dafydd Elis Thomas. Be sydd ddim yn ddeallusol gywir yn y dyfyniad yma?

    Ni allaf weld bod Dafydd wedi dweud bod unrhyw safbwynt yn dderbyniol, neu ddim yn dderbyniol.

    ReplyDelete
  15. Anonymous4:39 pm

    Yr unig fistar ar fistar Mostyn yw'r pwyllgor rhanbarth. Bydd yr Arglwydd yn parhau i danseilio'r blaid yn genedlaethol tra bydd etholaeth Meirion Dwyfor yn parhau i wneud esgusodion drosto.

    ReplyDelete
  16. Anonymous5:02 pm

    Ond dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd wrth gwrs. Mae'r Arglwydd wedi ymosod ar ei blaid, brolio nad yw'n genedlaetholwr, dwud ei fod yn erbyn annibyniaeth, llyfu a llempian o gwmpas teulu brenhinol Lloegr, mynd i Dy 'r Arglwyddi heb wirio dim efo neb ac ati.

    Petai'n cael ei ddal gan yr heddlu yn dawnsio'n noeth efo 'r Diafol a Nigel Farage yng ngolau dydd ar Queens Street mi fyddai Pwyllgor Rhanbarth yn parhau i'w gefnogi, a hynny ego brwdfrydedd boncyrs.

    ReplyDelete
  17. Anonymous5:36 pm

    Fyswn i ddim mor siwr.

    Tybed faint o bobl naeth fotio i ail agor enwebiadau yn yr hystings am ymgeisyddiaeth di wrthwynebiad Meirion Dwyfor. Mi wnes i fotio i ail agor a dwi'n gwybod bod llawer o bobl eraill wedi gwneud. Dylai Plaid Cymru ddweud faint fotiodd i ail agor yr enwebiadau.

    ReplyDelete
  18. Anonymous7:48 pm

    Dw i'n cefnogi'r Sgweiar . . a dw i ddim yn aelod o Feirionnydd.

    ReplyDelete
  19. Boi o Feirionnydd2:53 am

    Y rheswm y mae IWCIP yn boblogaidd ydi achos, yn syml iawn, nid ydynt o blaid ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Nid gwyddoniath gain yw hyn. Mae pobol yn sylweddoli mai sham yw'r UE ag yn anffodus dyma'r unig blaid sydd yn fodlon datgan hyn yn gyhoeddus ar hyn o bryd

    ReplyDelete
  20. Anonymous10:53 am

    Yr hyn sy'n ddifyr yw fod DET wedi trio dargyfeirio'r sylw oddi ar ei anffyddlondeb a'i sylwadau diog a dwl trwy gwestiynnu dilysrwydd a hawl pleidiau gwleidyddol i gael gwared ar Gadeiryddion pwyllgorau.

    Mae hon wedi dod yn egwyddor bwysig iawn iddo'n ddiweddar, ac mae ar grwsad i gywiro'r cam mawr yma.

    Mae yna broblem fach efo safbwynt o-mor-egwyddorol DET yn hyn o beth:

    - Soniodd ddm pan gafodd Christine Chapman y sach fel cadeirydd pwyllgor llynedd
    - Soniodd ddim pan gafodd Nick Ramsay y sach fel cdeirydd pwyllgor rai wythnosau yn ol
    - Roedd yn berffaith hapus efo'r drefn pan gafodd ei enwebu i gadeirio pwyllgor gan ei blaid ei hun ar ddechrau tymor y Cynulliad.

    Mae'n rhyfedd sut mae colli £12k+ yn medru magu ar egwydorion!

    ReplyDelete
  21. Anonymous1:53 pm

    Angen i chi gyd sylweddoli dyn mor uffernol o sal fydd yn cymryd ei le ! Alun Ffred Jones. Haleliwia ! Duw a'n gwaredo. Os neith o cyn lleied fel cadeirydd pwyllgor amgylched a mae o di wneud yn ei etholaeth yna waeth chi hebddo fo ddim. Useless. Colli blynyddoedd o brofiad Dafydd El fel cadeirydd yn gamgymeriad mawr. Ond dyna ni , dyma'r un Blaid ag sydd yn dewis rywun o Lundain sydd wedi bod yn brwydro dros gau ysgolion bach Gwynedd i ymladd am sedd Elfyn Llwyd . Inyff said !

    ReplyDelete