Os ewch chi i dudalen 7 o'r rhifyn cyfredol o'r Cymro mi welwch chi bennawd cwbl gamarweiniol ynghyd a nifer o sylwadau sy'n cefnogi canfyddiad hollol ddi dystiolaeth Karen Owen ynglyn a'r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol a shifft ieithyddol. Mae'r dudalen yn un ryfedd a dweud y lleiaf.
Ceir dyfyniadau sydd wedi eu priodoli i dri unigolyn sydd wedi eu henwi - yr efeilliaid Owen gwerinol o Fon - Gwilym a Tudur ac Arthur Thomas sy'n 'sgwennu colofn wythnosol i'r Cymro a llwyth o bobl sy'n fodlon rhannu gwybodaeth am y trefi neu bentrefi maent yn byw ynddynt efo ni yn ogystal a'u gwaith. Am rhyw reswm dydan ni ddim yn cael gwybod beth ydi eu henwau.
Rwan mae'r blog yma yn caniatau sylwadau anhysbys - ond mae'n amlwg bod problemau efo cyhoeddi sylwadau gan bobl sydd ddim yn fodlon rhoi eu henwau. Y broblem fwyaf ydi nad ydym yn gwybod os ydi'r cyfryw bobl yn bodoli mewn gwirionedd. Dydi'r darllenwr ddim yn gwybod os mai un person sydd wedi sgwennu'r holl sylwadau - yn wir dydi darllenwyr Y Cymro methu hyd yn oed bod yn hollol siwr nad Karen Owen sydd wedi 'sgwennu'r cwbl lot a phriodoli amrediad cytbwys o swyddi dosbarth canol a lleoliadau daearyddol iddyn nhw - nid fy mod yn awgrymu am eiliad mai dyna sydd wedi digwydd wrth gwrs. Mewn geiriau eraill mae sylwadau di enw o'r fath yn gwbl ddiwerth.
Mae'n ddadlennol hefyd nad ydi'r un o'r sylwadau yn mynd i'r afael a'r hyn a fynegwyd gennyf yma, yn Golwg ac ar Radio Cymru - sef bod y dystiolaeth ystadegol yn dangos yn glir bod yr iaith yn gwneud yn well mewn cymdogaethau dosbarth gweithiol lle mae nifer sylweddol o bobl o ddosbarth proffesiynol yn byw o fewn tafliad carreg, na mewn ardaloedd unffurf ddosbarth gweithiol. Rhan o deitl yr erthygl ydi 'mae'r drafodaeth yn parhau' - ond ymarferiad mewn gyrru'r ddadl rownd a rownd mewn cylchoedd a geir mae gen i ofn.
Meddyliwch am funud bod Karen, Gwilym a Tudur Owen ac Arthur Thomas yn credu bod y Byd yn gyfangwbl fflat. Meddyliwch wedyn bod rhywun yn dweud nad ydi hyn yn wir am bod llongau a 'ballu yn mynd rownd y Byd yn rheolaidd, a bod llwyth o sylwadau di enw yn llenwi tudalen o'r Cymro yn cefnogi eu sylwadau tra'n anwybyddu'r gwirionedd anghyfleus bod pob tystiolaeth wrthrychol yn profi bod y Byd yn sffer.
Rhywbeth tebyg sy'n digwydd yma - 'dydi ailadrodd rhywbeth trosodd a throsodd a throsodd gan bobl sydd ddim am ddatgelu eu henwau ddim yn ei wneud yn wir.

Cai
ReplyDeleteYdy hi'n arferiad bellach i bobl nodi eu galwedigaeth wrth sgwennu i'r papur? Rhyfedd iawn.
Difyr iawn hefyd oedd llythyr y 'dysgwr'. Canfyddiad pobol sydd ddim yn ymwneud â dysgwyr ydy eu bod nhw'n defnyddio cywair uchel iawn. Fel arall yn union mae hi mewn gwirionedd, oni bai am 'ddysgwr ' y Cymro felly.
Ydy 'mam' o Ddyffryn Aman yn dweud 'rantio' ta 'ranto?
Roedd rhain i gyd yn fy mhoeni nes I mi weld y nodyn gan y 'cyfreithiwr o Fôn' yn dweud ei fod am drio peidio â bod yn ddosbarth canol drwy'r amser! Rebel wîcend ella. Mae'r nodyn hwn yn dangos yn glir mai bod yn eironig oedd y Cymro. Allan nhw fod wedi bod o ddifri na'llan?
Haydn Hughes
Dallt dim Haydn. Ers talwm roedd papurau yn cyhoeddi enwau llythyrwyr ond ddim yn trafferthu efo lleoliadau. Un llythyr mewn cant am wn i oedd yn nodi galwedigaeth neu gyn alwedigaeth y llythyrwr.
ReplyDeleteOnd yn y Cymro mae pawb yn nodi eu galwedigaeth a'u lleoliad, ond does neb eisiau gadael ei enw. Ella bod ni"n mynd yn hen was.
He he - mae gan Y Cymro hen hanes o greu straeon am bobl di enw. Unrhyw un yn cofio'r stori yna am fanylion diota rhyw deulu di enw dosbarth canol yn y Steddfod. Y peth i gyd yn swnio fatha syereoteio gwirion - ond y wers oedd bod yr hen bobl dosbarth canol na yn lyshio eu hunain yn wirion yn yr hen Steddfod dosbarth canol na.
ReplyDeleteSgwn i os mai'r Cymro ydi'r unig bapur yn Ewrop sy'n gwneud storis am bobl does neb yn cael gwybod pwy ydyn nhw?
Haydn ydych chi'n dweud o ddifri bod Y Cymro wedi gwneud yr holl bobl yma i fyny?
ReplyDeleteDi-enw 5:50 Be wnaeth i chi feddwl hynny?
ReplyDeleteHaydn
Llythyr yn y Cymro wsnos nesa:
ReplyDeleteAnnwyl Cymro
Dw i'n deall bod rhai'n meddwl eich bod wedi creu rhai o'r bobol a ddyfynwyd yn eich erthygl yr wythnos diwetha. Hoffwn ei wneud yn hollol glir mai fi oedd y 'pentrefwr' gafodd ei ddyfynnu. Gobeithio bydd hyn yn rhoi taw ar yr amheuwyr.
Yn gywir
Pentrefwr
Haydn
Dwi'n meddwl bod Y Cymro yn llawn o worioneddau na ellir eu gwadu..
ReplyDeleteMam Ifanc / Llanbidinodyn
Yn fy marn i Gwilym Owen ydi'r Tad, Tudur Owen ydi'r mab a Karen Owen ydi'r Ysbryd Glan..
Barnwr di waith / Llanisien.
Da iawn unwaith eto Karen, wrth gwrs bod y lleuad wedi ei wneud o gaws.
Gwerthwr stondin gaws yn Morrisons, Llanelli.
Mae'r Cymro yn bapur mor, mor _ _ _ ysbrydol dwi'n ei ddefnyddio i gael ysbrydoliaeth wrth baratoi fy mhregethau.
Gweinidog yn Eglwys Efengylaidd Bethesda Bach.
Mae'r awgrym bod Y Cymro yn creu pobl i ysgrifennu straeon amdanyn nhw yn ymylu ar gabledd Mr Hughes.
Gwerthwr stampiau, Trefforest.
Pam bod yna gymaint o lygod bach yn rhedeg rownd a rownd yn fy mhen trwy'r amser?
Gwneuthurwr canwyllau dan hyfforddiant, Ynys Llanddwyn.
Poni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw?
Bardd a matwnadwrroffesiynol, Powys.
Mae pob dim gafodd erioed ei sgwennu yn Y Cymro yn Efengyl.
Uwch ddarlithydd, Sarn Bach.
Trwy ddarllen Y Cymro y ces i fy holl addysg.
Darlithydd Prifysgol
Diolch i'r Cymro am ddweud wrth y Byd bod yr hen fastads dosbarth canol Cymraeg na yn bwyta babis.
Cyn filwr a glanhawr toiledau LlanfairpwllgwyngyllpwlLgerwchgwyndrobwllllandysiliogogorgoch.
Diolch i Dduw am Y Cymro.
Lladdwr llygod mawr dan hyfforddiant, Versailles.
Lle ddiawl fyddai Cymru oni bai am Y Cymro?
Hyfforddwr dawnsio gwerin, Llanbedrpontsteffan.
Every morning when I wake up I thank the Lord for The Welshman.
Cantores broffesiynol, Caerdydd.
Y Cymro ydi'r peth gorau i ddigwydd i Gymru erioed.
Prif Weinidog, Penybont.
Mae cyfrifon Y Cymro yn hynod iach.
Gweithiwr dros dro yn swyddfa archwilydd Cymro.
Ond tydi hi'n oer dydwch?
Pensiynwr, Rhydaman.
Gorau Cymro, Cymro oddi cartref.
Cymro oddi cartref, Swydd Efrog.
Bu'r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin trwy'r oesoedd.
Perchenog cwmni recordiau a chanwr, Caeathro.
Mae rhywun sy'n honni bod y Cymro yn gwneud ei straeon i fyny yn haeddu cael eu rhoi mewn malwr cig, eu defnyddio mewn pastai a'u gwerthu yng Nghaffi Morgan Aberystwyth.
Perchenog caffi Aberystwyth.
Mae angen lluchio'r dosbarth canol Cymraeg diawl 'na i'r mor oddi ar greigiau Aberdaron - pob un wan jac.
Gyrrwr trenau, Aberdaron.
I've stopped speaking Welsh because of all them snobs. Right but?
Glanhawr simna ar gytundeb tymor byr, Townhill, Abertawe.
Methu stopio chwerthin. Gwych Cai.
ReplyDeleteHaydn