Diolch unwaith eto i Hywel am ddarparu linc at waith ynglyn a'r Gymraeg o'i eiddo.
Dwi wedi copio un neu ddwy o siartiau, ond gallwch chwilota yn ol eich dymuniad o ddilyn y linc. Er bod y patrwm yn amrywio cryn dipyn o ardal i ardal un peth amlwg iawn ydi'r tan gynrychiolaeth cyffredinol o Gymry Cymraeg yn y grwp uchaf - cyfarwyddwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion.

Un duedd ddiddorol hefyd sylwish i arno ydi bod tangynrychiolaeth mewn nifer iawn o wardiau ymhlith y grwp di-waith neu byth wedi gweithio. Tybed a ydi hynny i raddau'n adlewyrchu un elfen ar y mewnfudiad?
ReplyDeleteElla. Mi wnes i ddadansoddiad rhywbryd o'r wardiau Cymreiciaf yn ol eu lleoliad yn y mynegai amddifadedd cenedlaethol. Y patrwm yno oedd bod y rhan fwyaf ohonynt yn yr ail a'r trydydd chwartel. Hynny yw roedd tan gynrychiolaeth ymysg y wardiau cyfoethocaf a thlotaf.
ReplyDelete