Mae yna rhywbeth hynod o ddigri deall bod Charles Windsor yn tantro bod y sawl sydd yn amheus ynglyn a chynhesu byd eang o anwybyddu gwyddoniaeth. Mae'n fwy digri nodi bod y cyfryngau yn adrodd y stori yma heb gyfeirio at yr eliffant wrth ddrws Mr Windsor. Mae'r dyn wedi defnyddio pob platfform sydd ar gael iddo - ac mae yna lawer o rai cyhoeddus a chudd - i geisio gorfodi'r trethdalwr i ariannu cyfres o ffads 'meddygol' nad oes yna unrhyw dystiolaeth gwyddonol o gwbl i'w cefnogi.
Gwnaeth ei farn tuag at wyddoniaeth yn glir pan gafodd (am rhyw reswm neu'i gilydd) y cyfle i draddodi Araith Reith yn y flwyddyn 2,000.
It is only recently that this [religious] guiding principle has become smothered by almost impenetrable layers of scientific rationalism. I believe that if we are to achieve genuinely sustainable development, we will first have to rediscover, or re-acknowledge a sense of the sacred in our dealings with the natural world, and with each other.
Yn wir mae Charles Windsor wedi mynd cyn belled a dweud ei fod yn 'falch' o gael ei alw'n elyn i'r Oleudigaeth.
Ymysg y cymysgedd rhyfedd o mymbo jymbo mae'r dyn wedi eu hargymell tros y blynyddoedd ceir osteopathy, homeopathy, Ayurvedic medicine, acupuncture a Gerson Therapy, Yn wir sefydlwyd rhywbeth o'r enw y Foundation for Integrated Health ym 1993 i hyrwyddo'r gwahanol feddygyniaethau amheus sydd o ddiddordeb i Charles, cyn gorfod dod i ben yn 2010 yn dilyn sgandal oedd yn ymwneud a thwyll ariannol.
Mae Mr Windsor hefyd yn gwneud elw personol o werthu gwahanol feddyginiaethau nad oes yna dystiolaeth eu bod yn gweithio. Efallai eich bod eisiau prynu Organic Baby Hamper am £195 er enghraifft, neu ddad wenwyno eich perfedd efo rhywbeth neu'i gilydd mae Charles wedi cael Waitrose a Boots i'w werthu ar ei ran - er nad oes yna unrhyw dystiolaeth bod y corff dynol angen cymorth i gael gwared o wenwyn.
Mae gwyddoniaeth yn iawn yn ei le - ar yr achlysuron prin hynny pan mae'n cefnogi daliadau Mr Windsor - ond mae'n rhywbeth i'w anwybyddu a'i feirniadu ar yr achlysuron llawer mwy niferus pan nad yw'n cefnogi ei syniadau bach rhyfedd.

Diolch am hwn. Gwir pob gair. Mae'r clown yn elyn i resymeg.
ReplyDelete