Dwi wedi cymryd y daenlen uchod o bwt o gyflwyniad rhoddais at ei gilydd sy'n ymdrin a daearyddiaeth y Gymru Gymraeg. Rhestr yw o'r wardiau sydd a mwy na 70% yn siarad y Gymraeg, wedi eu gosod yn eu trefn, gan gychwyn efo Llanrug a gorffen efo Gwyngyll.
Rwan does yna ddim byd newydd am y ffigyrau, ond 'dwi wedi lliwio enwau'r wardiau yn unol a'u lleoliad daearyddol - Arfon coch, Dwyfor gwyn, Mon melyn, Meirion glas, Conwy melyn tywyll. Yr hyn sy'n ddiddorol ydi cymharu efo ffigyrau mwy cyffredinol o siroedd / rhanbarthau'r Gogledd Orllewin. O ystyried y rheiny byddai rhywun yn credu bod y Gymraeg mewn gwell lle yn Nwyfor nag yn unman arall.
Efallai bod hynny'n wir ar un olwg - ond does yna ddim llawer o'r wardiau 80%+ yn y rhanbarth - Dwyrain Porthmadog. Mae'r gweddill i gyd yn Arfon neu ar Ynys Mon. Mae hefyd yn drawiadol bod nifer o wardiau 70%+ Dwyfor yn isel eu poblogaeth gyda Chlynnog, Tudweiliog, Aberdaron a Botwnnog efo llai na 1,000 o boblogaeth. Y broblem efo hynny ydi eu bod yn fwy bregus na wardiau gyda phoblogaeth uwch oherwydd y gallai symudiadau poblogaeth gweddol fach achosi newid canrannol sylweddol.
Gall ffigyrau manwl ddweud stori wahanol i ffigyrau cyffredinol weithiau.

Diddorol iawn Cai, diolch am fyd i'r drafferth i ddadansoddi
ReplyDeleteByddai'n ddiddorol croesi y data yma â ffactorau fel
1. Canran tai cyngor (neu hen dai cyngor!
2. Canran y rhai a anwyd yng Nghymru
3. Ffiniau'r Parc Cenedlaethol
4. Incwm
5. % Cymry cynhenid a rhugl yn yr ysgolion
6. % pensiynwyr ac oedrannau eraill
Y gwir plaen ydi nad ydi'r rhan fwya o'r pentrefi hyn yn ddeniadol i Sais cefnog a mae eu Cymreictod naturiol yn cadw Saeson llai cefnog draw i raddau
Mae'r ystadegau yma hefyd yn adlewyrchu Cymreictod y llefydd hyn ac yn cydfynd hefo canran y Cymry cynhenid yn yr ysgolion. Rwy'n amau fod yna agendor anferth rhwng y 70% yn y llefydd lle mae 40-50% yn "honni" eu bod yn siarad Cymraeg (Bangor, Caergybi i enwi ond rhai). Os ydi llai na 10% o'r plant yn Gymry faint o deuluoedd sy'n siarad yr iaith? Mewn talpiau helaeth o Gymry mae gwybodaeth y cyfrifiad yn ddiwerth erbyn hyn
Rwy'n grediniol ei bod yn berffaith bosib i gymdeithas fel hon fod yn hunagynhaliol am fod y Cymry yn troi fel rheol hefo'r Cymry a'r Saeson yn byw ar wahân fel y dangosodd arolwg yn ardal Bryngwran rai blynyddoedd yn ôl. Ti'n credu hynny?
Diolch eto