Saturday, November 30, 2013

Gogledd Iwerddon - moesoli cyhoeddus ac anfoesoldeb cudd

Mae'n siwr ei bod yn ddigwyddiad gweddol anarferol i gael blogiad yma yn cytuno efo rhywbeth a ddywedwyd yn Golwg - er a bod yn deg dwi yn tueddu i gytuno efo Dylan Iorwerth fel rheol.  Anghytuno efo'r un sydd wedi mynd trwy ei fywyd yn cael ei waldio a'i golbio gan bobl anhysbys  oherwydd ei ddewrder, yr un sy'n ymgyrchu ar y stryd yn erbyn gweithredu polisiau ei blaid ei hun a'r un sydd wedi treulio cyfnod o'i fywyd yn cael ei erlid gan ffasgwyr o Ogledd Cymru fydda i gan amlaf.

Ta waeth, rydan ni'n crwydro.  Tynnu sylw at gyn filwyr ar raglen Panorama yn cyfaddef iddynt ladd pobl yng Ngogledd Iwerddon mewn amgylchiadau  ymhell y tu hwnt i'r cyd destun lle gellid gwneud hynny yn gyfreithlon mae Dylan.  Mae'n  cysylltu'r ymddygiad yma efo safonau dwbl sydd i'w gweld ar hyn o bryd mewn nifer o faterion rhyngwladol.

Yr hyn sydd angen ei wneud yn glir fodd bynnag ydi mai un achos cymharol fach o gam ymddwyn gan luoedd diogelwch Prydain yng Ngogledd Iwerddon a godwyd gan y rhaglen - mae yna lawer  o rai eraill.  Amlinellaf bedwar isod.  Dydi'r rhestr ddim yn gynhwysfawr o bell ffordd.
  • Cydweithrediad rhwng aelodau o'r UVF  - grwp parafilwraidd teyrngarol - a'r RUC (y gwasanaeth plismona) a'r UDR (uned o'r Fyddin Brydeinig oedd yn cael ei recriwtio yn lleol) yn Ne Armagh a Tyrone yn y saith degau cynnar.  Mae'n debyg i weithgareddau'r grwp yma arwain at farowlaethau tua 120 o bobl rhwng 1972 a 1976.
  • Cyflafan Ballemurphy - lladdwyd deg o bobl gan filwyr o Gatrawd Parasiwt y fyddin Brydeinig ar stad dai Ballemurphy tros gyfnod o dri diwrnod yn 1971.  Roedd y fyddin wedi mynd i mewn i nifer o ardaloedd Pabyddol ar y pryd i bwrpas carcharu heb achos llys pobl roeddynt yn eu hamau o fod yn perthyn i grwpiau parafilwrol Gweriniaethol.  Arweiniodd hyn at o bosibl yn anhrefn gwaethaf erioed ar strydoedd Gogledd Iwerddon.  Mae'r fyddin yn honni mai ymateb i bobl yn saethu atynt oeddynt tra bod teuluoedd y sawl a laddwyd yn honni nad oedd eu hanwyliaid yn rhan o unrhyw saethu.  Mae'r awdurdodau wedi gwrthod cynnal ymchwiliad oherwydd eu bod o'r farn y byddai gwneud hynny yn groes i fuddiannau'r cyhoedd.  Aeth yr un gatrawd ymlaen i gynnal cyflafan Bloody Sunday yn Derry ychydig fisoedd yn ddiweddarach.  
  • Gweithgareddau y FRU - uned o'r fyddin Brydeinig oedd yn gweithredu Farics Thiepval ar gyrion Belfast yn yr 80au.  Prif bwrpas yr uned  yma oedd helpu'r grwp parafilwrol yr UDA i dargedu Gweriniaethwyr Gwyddelig.  Roeddynt hefyd yn gyfrifol am anfon swm sylweddol o arfau o Dde Affrica i'r grwp parafilwrol.  Yn ol ymchwiliad Stevens roedd yr uned yn gyfrifol am fwy na 30 o lofruddiaethau, a llawer o ymysodiadau eraill.  Ymysodiad mwyaf enwog y grwp oedd llofruddiaeth un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon, Pat Finucane yn 1989.   
  • Ymysodiadau Dulyn a Monaghan - arweiniodd y gyfres o fomiau hyn at farwolaethau 34 o bobl tros gyfnod o 90 munud ym 1974 - diwrnod mwyaf gwaedlyd y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon.  Cafwyd honiadau o'r cychwyn bod nifer o aelodau o luoedd diogelwch y DU wedi eu cysylltu a'r gyflafan.  Daeth rhaglen ddogfen Yorkshire TV - Hidden Hand - The Forgotten Massacre i nifer o gasgliadau ynglyn a'r digwyddiadau.  Ymysg canfyddiadau'r rhaglen honwyd i'r ymysodiadau gael eu trefnu gan yr UVF yn Portadown, bod yr UVF yn Portadown wedi eu treiddio gan unedau cudd wybodaeth y DU, bod y sefydliad milwrol wedi caniatau i'r ymosodiadau fynd rhagddynt a bod tri o'r sawl sydd o dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau ar rol cyflog awdurdodau milwrol y DU.  

Lle dwi yn anghytuno efo Dylan ydi pan mae'n honni y byddai'r IRA wedi cael mwy o aelodau petai'r digwyddiadau yn hysbys ar y pryd.  Tra nad oedd y gweithredoedd anghyfreithlon gan aelodau o'r lluoedd diogelwch  yn hysbys ar dir mawr Prydain ar y pryd, roeddynt yn sicr yn hysbys ar strydoedd Belfast a Derry - ac roeddynt yn sicr yn cyfrannu at aelodaeth yr IRA.  A defnyddio idiom o Ogledd Iwerddon roedd y cwn ar ochr y stryd yn gwybod.

Mae wedi bod yn un o nodweddion ymyraeth y DU yn Iwerddon am gyfnod maith bod y wladwriaeth yn meddiannu'r ucheldir moesol yn gyhoeddus tra'n ymdrybaeddu yn y gwter y tu hwnt i lygaid y cyhoedd.  Roedd cyd weithrediad y cyfryngau torfol yn hanfodol i ganiatau i'r rhagrith ysgubol yma weithio - a chydag ambell i eithriad rhoddwyd y cyd weithrediad hwnnw yn llawen.  Doedd neb yn fwy euog o gynnal y ffantasi yn ystod y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon na'r BBC.

Y llyfr gorau i gael ei 'sgwennu am Ogledd Iwerddon erioed ydi Lost Lives Lost Lives (David McKittrick, Brian Feeney, Chris Thornton, David McVea, Seamus Kelters).  Cronicl ydi'r llyfr sylweddol yma o amgylchiadau marwolaeth pawb a laddwyd yn y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon.    

Yr hyn sy'n drawiadol ydi cymaint o'r marwolaethau sy'n gysylltiedig a marwolaethau eraill.  Ar un olwg cyfres hir o gylchoedd o drais wedi eu plethu trwy'i gilydd oedd rhyfel Gogledd Iwerddon.  Weithiau roedd y cylchoedd yn rhai cymharol fyr.  Er enghraifft pan ddienyddwyd Sean Savage, Maraid Farrell a Danny McCann ar strydoedd Gibraltar yn 1988, arweiniodd hynny at bump marwolaeth arall  - lladdwyd Tom McErlean, John Murray a Caoimhin Mac Bradaigh ym Mynwent Milltown gan Deyrngarwr o'r enw Michael Stone yng ngynhebrwng y tri ddeg diwrnod yn ddiweddarach a lladdwyd dau filwr Prydeinig, Derek Wood a David Howes dri diwrnod wedyn wedi iddynt yrru car i mewn i orymdaith cynhebrwng Caoimhin Mac Bradaigh.  Tri marwolaeth yn arwain at bump arall mewn cyfnod o lai na phethefnos.  

Ond roedd eraill yn cymryd blynyddoedd lawer i gael eu cwblhau.  Does yna fawr neb yn cofio enwau'r milwyr Prydeinig a saethwyd yng Ngogledd Iwerddon, ond efallai bod Stephen Restorick yn eithriad.  Fo oedd y milwr Prydeinig olaf i gael ei ladd cyn cadoediad dydd Gwener y Groglith yn 1997.  Gwnaeth urddas distaw ei deulu yn apelio am heddwch gryn argraff ar y pryd.  Un o'r pobl a gafwyd yn euog o'i ladd oedd dyn lleol o'r enw Michael Caraher. 

Ddwywaith yn unig mae Michael Caraher yn ymddangos ym mhapurau Gogledd Iwerddon. Y tro cyntaf oedd yn 1990. Collodd un o'i ysgyfaint pan roedd yn teithio mewn car ger pentref Cullihana yn Ne Armagh efo'i frawd Fergal a gafodd ei ladd yn yr un digwyddiad. Saethwyd i mewn i'r car gan filwyr Prydeinig - nid oes amheuaeth bod Fergal yn aelod o'r IRA - ond nid oedd unrhyw arfau yn y car. Yn y blynyddoedd canlynol mae'n debyg i Michael Caraher ladd saith milwr a dau aelod o'r RUC yn Ne Armagh trwy eu saethu o bellter cyn cael ei ddal yn dilyn yr ymysodiad ar Restorick.Roedd wedi llosgi efo casineb am saith mlynedd. Arweiniodd un gweithred o drais at nifer o rai eraill - hen stori yng Ngogledd Iwerddon.

Rwan doedd yr hyn a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon ddim yn unigryw - dydan ni ddim yn gorfod crafu gormod o dan yr wyneb i ddod ar draws esiamplau tebyg yn y dyddiau pan roedd Prydain yn colli ei threfedigaethau. Yn wir mae'r patrwm o foesoli cyhoeddus a thywallt gwaed di angen yn nodwedd o'r wladwriaeth Brydeinig ers canrifoedd. Mae'r gred mai'r ffordd orau o ddwyn perswad ar dramorwyr i ymddwyn yn briodol ydi trwy eu dychryn yn wirion yn nodwedd lled barhaol o ddiwylliant mewnol lluoedd diogelwch y DU. Mewn gwirionedd wrth gwrs dydi lladd cyfeillion ac aelodau o deulu pobl ddim yn ffordd dda o sicrhau ufudd dod, ond mae yn ffordd effeithiol iawn o ennyn casineb. Byddai sylweddoli hynny a thrin y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon fel problem wleidyddol - yr hyn a wnaethwyd yn y diwedd - wedi dod a phethau i fwcwl yn llawer, llawer cynt.

Tuesday, November 26, 2013

Pam Nicola Sturgeon?

Roedd hi dipyn yn ddigri gwrando ar Dylan Jones yn holi y bore 'ma pam mai Nichola Sturgeon ac nid Alex Salmond sydd wedi arwain ar roi cyhoeddusrwydd i Bapur Gwyn yr SNP ar annibyniaeth i'r Alban heddiw.  Rhag ofn bod rhywun arall ddim yn gwybod, ceir yr ateb yma - mae yna lawer llai o gefnogaeth ymysg merched na sydd ymysg dynion i annibyniaeth i'r Alban.

Mae yna batrwm tebyg ond gwanach ymysg cefnogwyr yr SNP - mae dynion yn fwy tebygol o bleidleisio i'r blaid genedlaetholgar na merched.  Mae yna batwm cryfach o lawer yng Ngogledd Iwerddon - mae dynion yn llawer mwy tebygol o fotio i Sinn Fein na merched.  Does yna ddim patrwm felly yng Nghymru - mae proffil cefnogaeth y Blaid yn hollti'n gyfartal rhwng dynion a merched.

Peidiwch a gofyn i mi egluro.

Sunday, November 24, 2013

Ymgyrch Annibyniaeth yr Alban

Mae'n ddiddorol bod y blogiwr gwleidyddol Mike Smithson yn parhau i ddadlau ei bod yn bosibl i'r ochr Ia ennill yn refferendwm yr Alban er bod pob pol ar hyn o bryd yn awgrymu i'r gwrthwyneb.  Mae'r diweddaraf yn awgrymu y bydd 38% yn pleidleisio Ia, 47% Na tra nad ydi'r gweddill yn rhy siwr.  Mae gan Mike Smithson record arbennig o dda o ddarogan canlyniadau etholiadau.

Dwi'n tueddu i gytuno - a'r rheswm am hynny ydi bod patrymau pleidleisio yn yr Alban efo hanes diweddar o droi yn gyflym iawn.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o fuddugoliaeth ysgubol yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai  2011 - ond yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi bod yr SNP y tu ol i Lafur yn y polau tan yn agos i'r etholiad ei hun.  Rhestraf isod ganfyddiadau'r polau piniwn rhwng Chwefror 2010 a Mawrth 2011.  Cafwyd symudiad sylweddol at yr SNP yn Ebrill 2011. Canran yr SNP ydi'r rhif cyntaf pob tro a chanran Llafur ydi'r ail.  


Chwef 2010:  35/37   36/29   28/33
Mawrth 2010:  34/31
Ebrill 2010:  30/34. 27/31.  34/31.  31/30
Mehefin 2010  29/45
Awst 2010:  32/46. 35/36. 34/37.  32/42
Medi 2010:  29/39
Hydref 2010:  34/46
Tachwedd 2010:  31/41
Ionawr 2011:  33/49
Chwefror2011: 37/36. 32/41
Mawrth 2011:   29/44. 37/43. 35/39. 38/41. 37/38. 40/39

Yn yr etholiad ei hun cafodd yr SNP 45.39% o'r bleidlais i 31.69% Llafur.

Rwan dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd pam y cafwyd y fath newid, ond gallwn fwrw amcan.  Fel roedd yr etholiad yn nesau peidiodd yr SNP a chanolbwyntio ar lywodraethu ac aeth ati i ganolbwyntio ar ymgyrchu gan dywallt adnoddau dynol ac ariannol i mewn i'r ymgyrch.  Pan ddigwyddodd hynny enillwyd y ddadl greiddiol yn gyflym iawn.  Gallai'r un peth ddigwydd eto'r flwyddyn nesaf.

*  Manylion polio ar gael yma.

Friday, November 22, 2013

Leighton Andrews a datganoli pwerau trethiant i Gymru


Mae'n ddiddorol mai prif ddadl un o Lafurwyr Golwg  -Leighton Andrews - yn erbyn datganoli pwerau gosod treth incwm  i'r Cynulliad ydi ei gred ei hun y byddai refferendwm ar y pwnc yn cael ei cholli.  Ymddengys ei fod wedi ei frifo yn ofnadwy pan gollwyd refferendwm 1979, a dydi o ddim eisiau cael ei frifo eto.  

Rwan dydi Leighton ddim yn egluro pam bod ei farn ei hun ynglyn a thebygolrwydd colli refferendwm yn fwy cywir na pholau piniwn a gwaith ymchwil arall ar y pwnc.  Dydi o ddim chwaith yn son i'r Alban bleidleisio yn drwm iawn o blaid datganoli treth incwm yn 1997.

Rwan mae'n bosibl bod Leighton yn gweld ei hun fel rhyw broffwyd o'r Hen Destament sydd wedi ei fendithio efo'r gallu i weld yr hyn na all neb arall ei weld, a sy'n credu y dylai'r genedl wneud ei phenderfyniadau ar sail ei ganfyddiadau fo ei hun.  

Ond wedyn efallai nad oes gan hyd yn oed Leighton gymaint a hynny o hyfdra.  Efallai mai ymarferiad syml mewn rhoi gwedd barchus i wrthwynebiad Llafur i ddatganoli pwerau trethiant i Gymru sydd ar waith yma. 

Mae'r blog yma wedi dadlau dro ar ol tro na fydd Llafur Cymru byth yn awyddus i ymarfer pwerau tros drethiant oherwydd bod eu hapel yn ddibynol ar allu mynnu mwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu unrhyw un i dalu am hynny.  Mae Llafur Cymru yn gwybod bod sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn wenwyn pur iddi.  Dylid edrych ar din droi a 'darogan' etholiadol Leighton, Carwyn a'r gweddill yng nghyd destun y ffaith syml yna.

Monday, November 18, 2013

Y Gymraeg ar Ynys Cybi ac Ynys Mon

A dweud y gwir doeddwn i ddim yn ymwybodol bod dadl wedi bod yn mynd rhagddi rhwng Michael Hagget, awdur y blog Syniadau a William Dolben ynglyn a sylw a wnaethwyd ar y blog yma gen i ynglyn a chynllunio ieithyddol ym Mon - nes i William dynnu fy sylw ati.  Yr hyn roeddwn wedi ei nodi oedd bod posibilrwydd y byddai cynllun Land & Lakes i ddarparu tai ar gyfer pobl fyddai'n dod i adeiladu Wylfa B (os daw hwnnw) yn llesol i'r Gymraeg i'r graddau nad ydi Ynys Cybi yn ardal mor sensitif yn ieithyddol nag Ynys Mon.  Mae William yn cytuno ac mae Michael yn anghytuno.  Mae'n stori am ddilyn data yn rhy bell o lawer, a gwneud hynny yn absenoldeb dealltwriaeth o'i gyd destun.

Dadl Michael yn y bon ydi bod proffeil ieithyddol Caergybi yn gadarnhaol yn yr ystyr bod y ganran o blant ysgol sy'n siarad yr iaith yn uwch nag oedd yn 2001.  Mae hefyd yn credu bod holl ysgolion cynradd Caergybi yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae'n casglu o'r ddau ganfyddiad yma nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng rhagolygon  ieithyddol Ynys Cybi ac Ynys Mon.  Mae'r canfyddiad hwn yn gwbl gyfeiliornus.

Dydi holl ysgolion cynradd Caergybi ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg yn yr ystyr mae'r rhan fwyaf ohonom yn deall hynny - er eu bod wedi eu dynodi felly ar wefan Fy Ysgol. Mae yna ddigon o ddefnydd o'r Gymraeg ynddynt i gyfiawnhau eu categorio fel ysgolion Cymraeg, ond dydi hynny ddim yn golygu eu bod yn Gymraeg yn yr ystyr mae ysgol Gymraeg draddodiadol y dref - Morswyn - yn ysgol Gymraeg.  Dydi'r holl ysgolion cynradd ar Ynys Cybi ddim yn asesu plant yn eu gallu Cymraeg iaith gyntaf ar ddiwedd CA2.  Dydi ESTYN ddim yn arolygu Cymraeg iaith gyntaf nifer o'r ysgolion cynradd hynny chwaith.

Wedi gadael y sector gynradd gall plant Caergybi naill ai fynd i Ysgol Uwchradd Caergybi neu i Ysgol Uwchradd Bodedern.  Mae'r mwyafrif llethol yn mynd i ysgol uwchradd y dref - ysgol lle nad oes llawer o ddarpariaeth addysgu cyfrwng Cymraeg, ac un o'r ychydig ysgolion uwchradd sydd efo mwy o blant sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith na sy'n astudio Cymraeg iaith gyntaf.

Ond agwedd ar strori'r Gyraeg yng Nghaergybi ydi addysg.  Yr hyn sydd wedi niweidio'r Gymraeg yn y dref  ydi trosglwyddiad iaith gwael yn ystod yr ychydig ddegawdau diweddar.  Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae'r Gymraeg mewn trafferthion yng Nghaergybi oherwydd nad yw'r sawl sy'n ei siarad wedi teimlo'r angen i'w throsglwyddo i'w plant.  Mae'r ffigyrau mae William yn eu darparu yn ddadlennol - ac yn dweud cyfrolau am y tueddiad diwylliannol i hepgor ar y Gymraeg.  Un plentyn yn unig nad yw'n mynd i ysgol ddynodedig Gymraeg sy'n siarad yr iaith efo'i rieni.  Mae'r ganran tros y dref yn is nag ydi'r ganran tros Gymru - er ei bod wedi ei lleoli yn agos iawn at berfedd dir y Gymraeg yng Ngwynedd a Mon. Wele ffigyrau William:



HolyheadPupilsEst. Welsh at homeWelsh at home %Date

Parc17700%2009

Morswyn1115650%2010Welsh school
Kingsland13500%2010

Llain Goch17711%2007

Santes Fair17200%2008

Thomas Ellis9200%2008

Llanfawr14100%2010

Caergybi1005575,7%










www.estyn.gov.uk




HolyheadPupilsWelsh at homeWelsh at home %Date
Parc2705922%1968
MorswynN/AN/AN/AN/A
Kingsland743041%1968
Llain Goch1305744%1968
Santes Fair16800%1968
Thomas Ellis39712231%1968
Llanfawr3846417%1968
Caergybi142333223,3%

Fel mae'n digwydd treuliais saith blynedd ar ddiwedd wyth degau a dechrau naw degau'r ganrif ddiwethaf yn dysgu yn Ysgol Llanfawr - ysgol sydd wedi ei lleoli yng nghanol stad dai cymunedol fawr Morawelon.  Wnes i erioed deimlo bod neb yn wrth Gymraeg yno - i'r gwrthwyneb.  Ond roedd y gwahaniaeth rhwng iaith y plant a iaith eu neiniau a'u teidiau yn hynod drawiadol.  Lleiafrif bach o blant oedd yn siarad y Gymraeg adref, roedd mwyafrif y neiniau a'r teidiau yn ei siarad yn iawn.  Doedd yna ddim atgasedd tuag at y Gymraeg, ond rhywle yn y chwe degau a'r saith degau roedd canfyddiad torfol cymunedol wedi datblygu bod y Gymraeg bellach yn amherthnasol i'w dyfodol.

Y Gymraeg oedd cyfrwng y rhan fwyaf o ddigon o'r addysgu yn yr ysgol bryd hynny - roedd pethau'n haws yn y dyddiau pan nad oedd ysgolion yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn profion ag asesiadau cenedlaethol.  Dydi'r addysg yna heb arwain at cymaint ag un o blant yr ysgol yn siarad y Gymraeg fel mamiaith (roedd yna ychydig bryd hynny).  Rhan o'r rheswm ydi diffyg darpariaeth Gymraeg wedi i'r plant adael y sector gynradd.  Ond y prif reswm ydi bod y plant oedd yn yr ysgol bryd hynny yn rhannu'r agweddau diwylliannol a arweiniodd at benderfyniad y ddwy genhedlaeth flaenorol i beidio a throsglwyddo'r Gymraeg.
Os ydym yn gadael Ynys Cybi am Ynys Mon mae pethau'n wahanol.  Does yna ddim amheuaeth i'r iaith wanio yno tros y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf - ond mewnlifiad yn hytrach na diffyg trosglwyddiad sy'n gyfrifol am hynny.  Does yna ddim tystiolaeth o'r gwahaniaeth mawr rhwng y niferoedd sydd wedi eu geni yng Nghymru a'r nifer o blant sy'n siarad y Gymraeg adref a geir ar Ynys Cybi.


Petai Michael wedi treulio rhan o'r haf yn canfasio yn Ynys Mon yn hytrach na'n ceisio tanseilio ymgyrch y Blaid o hirbell byddai wedi sylwi ar y stadau sylweddol o dai preifat cymharol newydd ar gyrion llawer o bentrefi gwledig.  Roedd y dablygiadau hyn yn mynd rhagddynt yn absenoldeb llwyr unrhyw gynllunio ieithyddol.  Fel y dywedais dydyn nhw heb ladd y Gymraeg ar Ynys Mon - mae'r iaith mewn gwell lle yno nag yn y rhan fwyaf o Gymru, ond mae wedi ei niweidio a'i gwneud yn llai perthnasol i lawer o bobl nag oedd yn y gorffennol.  Hynny yw mae wedi gwneud amgylchiadau Ynys Mon heddiw yn fwy tebyg i amgylchiadau Ynys Cybi genhedlaeth yn ol - amgylchiadau a arweiniodd at shifft ieithyddol sylweddol iawn yno.


Byddai hefyd wedi sylwi ar y gwahaniaeth sylweddol yn amledd y defnydd o'r Gymraeg ar Ynys Mon ac Ynys Cybi ymysg pobl o pob oed.

Mae'r mater iaith yn syml yn y bon - fel y rhan fwyaf o faterion eraill. Pan mae profiad rhywun o iaith yn gyfoethog - pan mae'n rhan o'i fywyd teuluol, cymdeithasol yn ogystal a'i fywyd addysgol mae'n treiddio i mewn i'r hyn ydyw ac mae'n dod yn rhan creiddiol o'i fywyd. Pan mai cyfrwng rhan o addysg person yn unig - a hynny yn ddi ofyn ac am tua hanner ei fywyd addysgol ydi'r Gymraeg, mae'n dod yn ail iaith na all ei siarad yn rhugl a sydd ddim yn cael ei siarad ond pan mae'n rhaid. Yn amlwg o dan amgylchiadau felly dydi hi ddim am gael ei throsglwyddo i neb.

Rwan rhag bod  camddealtwriaethl - dydw i ddim yn feirniadol o'r sector gynradd yng Nghaergybi - mae'r ysgolion hynny yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r Gymraeg mewn amgylchiadau nad ydynt yn rhai ffafriol.  Nid y gyfundrefn addysg sydd ohoni ar hyn o bryd ydi'r broblem ar Ynys Cybi - prosesau a gychwynwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf sydd yn dod i fwcwl. 

Meirion/ Dwyfor Ymgeiswyr 5 a 6

Mae John Gillibrand a - os dwi'n deall yn iawn Mandy Williams - Davies wedi rhoi eu henwau ymlaen hefyd.  Mae Mandy yn gynghorydd sir ar ran y Blaid yn Niffwys a Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog tra bod John yn rheithor gyda'r Eglwys yng Nghymru.  

Mae'n dda gweld cymaint yn cymryd diddordeb.


Sunday, November 17, 2013

Ymgeisydd rhif 4 am ymgeisyddiaeth Meirion / Dwyfor

Dyfed Edwards - cynghorydd Penygroes ac arweinydd Cyngor Gwynedd ydi'r diweddaraf - yn ol y trydarfyd beth bynnag.

Annus Horribillis Llafur Mon yn parhau

Cweir yn yr etholiadau cyngor, ymyraeth gan y Blaid Lafur yn ganolog i atal John Chorlton rhag sefyll yn yr is etholiad Cynulliad, perfformiad gwaethaf y blaid ers degawdau lawer yn yr is etholiad honno.  Byddai rhywun yn disgwyl na allai blwyddyn erchyll y Blaid Lafur ar Ynys Mon fynd yn waeth - ond mae hynny wedi digwydd.  Mae un o'u tri chynghorydd - Raymond Jones - wedi ymddiswyddo oherwydd cefnogaeth yr aelodau Llafur eraill i gynllun Lands & Lakes.

Os nad oedd Albert Owen yn edrych ymlaen at 2015 eisoes, mae'n edrych ymlaen gyda llai o awch hyd yn oed rwan - mae gan Raymond gefnogaeth bersonol sylweddol yn ardal gryfaf Llafur yn yr etholaeth - ardal London Road / Morawelon.

Dydi pethau ddim yn edrych yn dda i Albert.


Cais bach cwrtais

'Dwi newydd fod yn chwalu gwahanol sylwadau am yr etholiad am ymgeisyddiaeth Meirion / Dwyfor.

Fydd hi ddim yn arfer gen i gyfyngu ar y sylwadau mae pobl yn cael eu gadael yma - ond roedd nifer o sylwadau personol ac anymunol wedi ymddangos tros y dyddiau nesaf.

Byddwn yn siwr o ddychwelyd at ymgeisyddiaeth Meirion Dwyfor maes o law - ond hoffwn ofyn yn garedig i gyfranwyr wneud sylwadau cadarnhaol am eu hoff ymgeisydd a pheidio a gwneud rhai negyddol am ymgeiswyr eraill.  Ni fydd sylwadau felly yn cael aros ar y wefan oni bai bod gwir enw'r cyfranwr yn ymddangos efo nhw. 

Friday, November 15, 2013

Trydydd enw ar gyfer enwebiaeth Meirion Dwyfor

Gwynfor Owen y tro hwn - cyn gynghorydd ac aelod cyfredol o Bwyllgor Gwaith y Blaid.  Wele ei neges trydar yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth  isod:

@GwynforO: Gwynfor Owen A.S.? Swnio yn dda?. Wedi cytuno i roi fy enw ymlaen i Plaid Cymru Dwyfor Meirionydd am enwebiad i ymladd sedd San Steffan 2015.

Gwilym Owen a phentref gwyliau Ynys Cybi

Mae yna in neu ddau wedi gofyn i mi ymateb i rant diweddaraf Gwilym Owen ynglyn a'r cynllun i godi pentref gwyliau ar Ynys Cybi.  Wna i ddim gwneud hynny gan nad oes gen i wybodaeth am fanylion y cynllun - ag eithrio i ail adrodd  y sylwadau a wnaed gennyf yn gynharach - sef bod tan ddatblygu yn gallu bod mor niweidiol i'r iaith a gor ddatblygu a nad ydi Ynys Cybi yn ardal arbennig o sensitif o safbwynt ieithyddol.

Ond mi fyddwn yn nodi ei bod braidd yn eironig bod Gwil yn cael pethau yn anghywir hyd yn oed pan mae am unwaith yn canmol Plaid Cymru.  'Dydi cynghorwyr ddim yn cymryd penderfyniadau sy'n ymwneud a chynllunio ar sail plaid fel rheol - mae disgwyl iddynt gymryd penderfyniadu felly fel unigolion yn hytrach na fel cynrychiolwyr plaid.  Pleidleisiodd rhai o gynghorwyr y Blaid o  blaid y cynllun ac  yn ei erbyn.  

Monday, November 11, 2013

Ffrae fach Paul Flynn a'r Lib Dems

Dydi Blogmenai ddim yn ymyryd yn aml iawn mewn ffraeo rhwng y pleidiau unoliaethol - ond mae'r emosiynau operataidd sydd wedi eu codi yn sgil is etholiad Pillgenlly yng Nghasnewydd yn dechrau mynd ar fy nerfau.  Ffrae anoracaidd  braidd ar y We ydi hi rhwng Paul Flynn, Llafur a gwahanol Lib Dems ynglyn a'r  canlyniad.  Gellir gweld rhan ohoni yma - ond mae wedi codi mewn lleoedd eraill.

Y canlyniad yn etholiad 2012 oedd Llafur 756 a 703, Lib Dems 150 a 71, Plaid Cymru 277 a Tori 306.  Roedd dwy bleidlais gan bawb, ac etholwyd dau gynghorydd.  Mae'r Lib Dems yn ceisio troelli'r ffaith i'r ganran Llafur syrthio o 64.5% i 47.5% fel chwalfa yn y bleidlais Llafur.  Ond un ymgeisydd oedd gan bawb eleni ac un bleidlais oedd gan yr etholwyr.  Roedd dwy bleidlais gan bawb yn 2012 ac roedd gan Llafur a'r Lib Dems ddau ymgeisydd.  Felly maen nhw'n cymharu dwy etholiad hollol wahanol o ran eu mathemateg.

Mae Paul yn ceisio camarwain hefyd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol - mae'n cymharu pleidlais un o'r ddau Lafurwr yn 2012 efo pleidlais un o'r un eleni ac yn hawlio gogwydd mawr tuag at Lafur ar sail hynny.  Fel y Lib Dems mae'n dod i'w gasgliadau trwy gymharu etholiadau nad ydynt yn gymharol o ran eu mathemateg.

Fel mae'n digwydd mae yna ffordd hawdd o gymharu etholiad dwy bleidlais efo etholiad un bleidlais - dull na ddylai fod y tu hwnt i Paul, na hyd yn oed y Lib Dems.  I gael canran ystyrlon o'r etholiad dwy bleidlais dylid diystyru pob ail bleidlais ar gyfer pob plaid (Llafur a'r Lib Dems yn yr achos yma) a gweithio'r canrannau allan ar sail y nifer o bleidleisiau sy'n weddill.  Gellir wedyn gymharu mewn ffordd llawer gwell efo'r etholiad un pleidlais dilynol.  Yn yr achos yma dyma bleidlais 2013  a'r newid canrannol cywir ers 2012.

Llafur 500 (47.4;-3.4), Lib Dem 233 (22.1;+12.0), PC 167 (15.8;-2.8), Tori 155 (14.7;-5.9)

Sunday, November 10, 2013

Dathlu traddodiad milwrol Prydain

Mae'n ddigon naturiol i bobl fod eisiau cofio'r sawl a laddwyd mewn rhyfeloedd, ond y drwg efo'r ffordd y gwneir hynny yn y DU ydi'r ffaith bod y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar hyd a lled y wladwriaeth (a thu hwnt) hefyd yn ddathliadau o draddodiad milwrol y DU.  Dydi'r traddodiad milwrol hwnnw ddim yn rhywbeth y dylid ei ddathlu.

Rydym wedi nodi eisoes i'r DU  ymosod  rhyw bryd neu'i gilydd ar 90% o'r gwledydd sydd yn bodoli ar hyn o bryd.  Rhestraf isod y rhyfeloedd mae Prydain wedi eu hymladd ers 1750.  Eithriadau gweddol brin ydi'r blynyddoedd pan na fu'r DU yn rhyfela, ac mae llawer o flynyddoedd pan roedd mwy nag un rhyfel yn mynd rhagddo ar yr un pryd.  Mae mwyafrif llethol y rhyfeloedd ymhell o'r DU, ac  yn ddim oll i'w wneud efo amddiffyn y wladwriaeth.

Mae'r rhan fwyaf ohonynt o ddigon wedi eu cychwyn gan y DU i bwrpas ennill tir, cosbi rhywun neu'i gilydd, ennill mantais strategol tros wlad fawr arall, i atal gwledydd rhag ennill eu rhyddid, neu i ennill manteision masnachol - mae'r Rhyfeloedd Opiwm a ymladdwyd er mwyn gorfodi China i fewnforio cyffuriau yn esiampl dda o hynny.

Does yna'r un gwlad arall wedi ymyryd yn filwrol mewn cymaint o wahanol rannau o'r Byd i bwrpas hyrwyddo buddiannau yr elit sydd yn ei rhedeg.  Mae hyn oll wedi arwain at farwolaethau miliynau lawer o bobl, a milwyr tlawd o'r DU ei hun ac o'r Gymanwlad sydd wedi ysgwyddo'r baich o'u hymladd.  Mae'n draddodiad grotesg a mileinig sydd wedi arwain at fysnesu gwaedlyd ar raddfa epig ar hyd y Byd am gyfnod rhy faith o lawer.

Seven Years' War 1754–1763 

American Revolutionary War 1775–1783 

First Anglo-Maratha War 1772 

French Revolutionary Wars 1792–1802 

French Revolutionary Wars ended 1802 
Second Anglo-Maratha War 1802–1805 
Napoleonic Wars 1802–1813 
Anglo-Dutch Java War 1810–1811 
War of 1812 1812 
Gurkha War 1813–1816 
Third Anglo-Maratha War 1817–1818 
First Ashanti War 1823–1831 
First Anglo-Burmese War 1824–1826 
First Anglo-Afghan War 1839–1842 
First Opium War 1839–1842 
First Anglo Marri War 1840 
First Anglo-Sikh War 1845–1846 
Second Anglo-Burmese War 1852–1853 
Crimean War 1853–1856 
Anglo-Persian War 1856–1857 
Second Opium War 1856–1860 
Indian Rebellion 1857 
New Zealand land wars 1845–1872 
Second Anglo-Sikh War 1848–1849 
Second Ashanti War 1863–1864 
Bhutan War 1864–1865 
Third Ashanti War 1873–1874 
Second Anglo-Afghan War 1878–1880 
Anglo-Zulu War 1879 
Second Anglo Marri War 1880 
First Boer War 1880–1881 
Third Anglo-Burmese War 1885 
Mahdist War 1891–1899 
Fourth Ashanti War 1894 
Anglo-Zanzibar War 1896 Shortest war in history lasted 38 minutes 

Boxer Rebellion 1899–1901 

Second Boer War 1899–1902 
Boxer Rebellion ended 1901 
Anglo-Aro War 1901–1902 
Second Boer War ended 1902 
World War I 1914–1918 
Third Anglo Marri War 1917 
Third Afghan War 1919 
Irish War of Independence 1919–1921 
World War II 1939–1945 
Greek Civil War (1944-1947)- 
Palestine, 1945-1948 
South East Asia, 1945-1946 
Malayan Emergency, 1948-1960 
Korean War, 1950-1953 
Anglo-Egyptian War of 1951-1952 (1951-1952)-- 
Mau Mau Insurgency, 1952-1956 
Cyprus Emergency, 1955-1959 
Suez/Sinai War (1956)- 
Muscat and Oman Intervention (1957-1959)-- 
Jordan Intervention (1958)-- 
Indonesia Conflicts, 1960-1966 
Ugandan Army Mutiny (1964)- 
Aden Conflict, 1964-1967 
The Conflict in Northern Ireland (1969-Ongoing) 
Falklands War, 1982 
Gulf War (1991) 
Former Yugoslavia Peacekeeping Operations 
Afghanistan War (2001-Present) 
Iraq War (2003-Present) 
Operation Phillis, Cote d'Ivoire, 2004 (MoD) 
Libyan War (2011)

Friday, November 08, 2013

Is etholiad Bronglais

Diolch i Vaughan Williams am drydar canlyniad is etholiad Bronglais ar Gyngor Tref Aberystwyth.  Llongyfarchiadau i Lucy.

@JohnVWilliams: Congrats to Lucy Huws @Plaid_Cymru on winning the #Bronglais ward by-election in Aberystwyth, PC 204, LDems 128 Ind 17. 58% of vote @LibDems

Thursday, November 07, 2013

Datblygu a'r Gymraeg

Dydw i ddim yn honni fy mod yn gwybod llawer am fanylion cynllun Lakes & Leisure yng Nghaergybi.  Serch hynny dwi am wneud un neu ddau o sylwadau cyffredinol parthed cynllunio ac effaith hynny ar yr iaith.

Yr hyn sydd rhaid ei gofio ydi bod mwy nag un ffordd o niweidio iaith.  Tri pheth sy'n berygl i'r Gymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn y bon - niferoedd mawr o bobl ddi Gymraeg yn symud i gymunedau Cymraeg eu hiaith, nifer fawr o bobl sy'n siarad yr iaith yn symud allan o gymunedau Cymraeg neu Cymry Cymraeg yn peidio a throsglwyddo'r iaith i'w plant.

Dydi'r trydydd o'r rhain ddim yn ffactor pwysig yn y rhan fwyaf o Ogledd Orllewin Cymru - mae trosglwyddiad iaith yn effeithiol yma - yn wahanol i rannau mawr o'r De Orllewin.  Ond mae tan ddatblygu wedi bod yn niweidiol mewn rhai llefydd (De Gwynedd) a gor ddatblygu mewn llefydd eraill (Bangor a rhannau o Ynys Mon).

Gall datblygiad olygu codi tai neu greu swyddi  - os nad oes digon o swyddi mae pobl o oedran gweithio yn symud allan, ac yn aml mae pensiynwyr yn cymryd eu lle.  Os oes gormod o waith mae llawer o bobl yn cael eu dennu o'r tu hwnt i Gymru.  Yn yr un ffordd os oes gormod o dai yn cael eu codi mae prisiau yn cael eu gyrru i lawr digon i ddenu pobl sy'n gweithio ymhell i ffwrdd, tra os na chodir tai o gwbl mae prisiau yn cael eu gyrru i fyny gan ei gwneud yn amhosibl i lawer o bobl leol brynu yn lleol. 

Y gamp ydi cael pethau'n iawn - diwallu anghenion lleol am gartrefi a chyflogaeth.  Ond mae hynny'n anodd iawn i'w wneud yn ymarferol.  Dydi cwmniau masnachol ddim am gynhyrchu cynlluniau sy'n blaenori anghenion y Gymraeg, nid dyna pwrpas cwmniau masnachol.  Dydi llawer o gynlluniau bach ddim yn debygol o ddod at ei gilydd mewn modd sy'n diwallu anghenion lleol chwaith.  Dewis y gorau o ddau ddrwg o safbwynt yr iaith ydan ni yn aml.

Ar nodyn ychydig yn wahanol mae yna eironi yn y ffaith y gallai lleoli'r 300 o dai ar Ynys Cybi arbed yr iaith ar dir mawr Ynys Mon. Mae'r cwmni datblygu yn rhyw obeithio y bydd y tai maent yn yn bwriadu eu codi yn cartrefu gweithwyr fydd yn symud i'r ardal i godi Wylfa B ar ycychwyn.  Dydi Ynys Cybi ddim mor sensitif ag Ynys Mon o safbwynt ieithyddol - dydi'r Gymraeg heb fodyn iaith   gymunedol yno ers cenhedlaeth a mwy.  Mae'n parhau i fod yn iaith gymunedol ar y rhan fwyaf o Ynys Mon.  Os y daw Wylfa B - a does yna ddim byd y gellir ei wneud oddi mewn i Gymru i effeithio ar y penderfyniad hwnnw - mae'n rhaid ei bod yn well i'r Gymraeg bod llawer o'r bobl  o'r tu allan i'r ardal yn mynd i fyw ar Ynys Cybi yn hytrach nag Ynys Mon.

Tuesday, November 05, 2013

Meirion Dwyfor - rhan 2

Newydd ddeall bod Mabon ap Gwynfor am roi ei enw ymlaen am enwebiaeth Meirion / Dwyfor.  Mae Mabon yn adnabyddus iawn oddi mewn y Blaid, yn gyn gynghorydd yn Aberystwyth ac wedi sefyll tros y Blaid mewn sawl etholiad yn y gorffennol.  Gyda dim ond dau wedi rhoi eu henwau ymlaen hyd yn hyn, mae'r gystadleuaeth eisoes yn un gref.

Dyma ei ddatganiad - ar ei gyfri trydar -

@mabonapgwynfor: Ar ol trafod yn hir efo'r teulu rwy wedi rhoi fy enw ymlaen ar gyfer enwebiad y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd i olynu Elfyn Llwyd.

Ymgeisyddiaeth Meirion / Dwyfor - rhan 1

Liz Saville Roberts ydi'r gyntaf i ddatgan diddordeb (yn gyhoeddus o leisf) mewn olynu Elfyn Llwyd fel Aelod Seneddol Meirion / Dwyfor ar ran y Blaid.  Mae Liz yn gynghorydd ym Morfa Nefyn, ac mae wedi llwyddo i adeiladu cefnogaeth personol sylweddol mewn rhan o Wynedd sydd ddim arbennig o hawdd i'r Blaid ar lefel lleol ar hyn o bryd.  Cafodd hefyd y fraint amheus o ddal portffolio addysg Gwynedd yn ystod cyfnod o newid sylweddol - a dangos cryn ddewrder tra'n gwneud hynny.  Dwi'n mawr hyderu y bydd ymgeiswyr  cryf eraill yn dangos diddordeb tros y dyddiau nesaf.

Fydda i ddim yn datgan cefnogaeth tros unrhyw ymgeisydd mewn etholiad mewnol yn y Blaid oni bai bod gen i bleidlais fy hun yn yr etholiad honno - dydi bysnesu ar fy rhan i ddim am wneud lles i neb.  

Fel yn achos Ynys Mon 'dwi'n fwy na pharod i gyhoeddi deunydd etholiad mewnol unrhyw ymgeisydd sydd yn rhoi ei enw ymlaen. 

 


Sunday, November 03, 2013

Cameron, Carwyn a datganoli pwerau trethiant


Mae'n anodd peidio chwerthin wrth weld agweddau'r ddwy brif blaid unoliaethol tuag at ddatganoli pwerau trethu i Fae Caerdydd.

Mae'r Toriaid - sydd yn hanesyddol wedi gwrthwynebu datganoli bellach eisiau cymryd y cam eithaf radicalaidd o ddatganoli pwerau tros dreth incwm tra'n gwrthwynebu'r cam llawer llai arwyddocaol o ddatganoli treth meusydd awyr.  Mae Llafur yn siomedig iawn nad ydyn nhw'n cael eu dwylo ar y dreth llai arwyddocaol tra'n dweud nad ydyn nhw eisiau'r grym i amrywio treth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwygio - rhywbeth y cafodd y Blaid Lafur dair blynedd ar ddeg i'w wneud tra'n rheoli yn San Steffan.

Rwan mae'r safbwyntiau hyn yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn afresymegol ac yn anisgwyl - ond dydyn nhw ddim.  Mae'r ddwy blaid yn gadael i'w hagweddau tuag at ddatganoli pwerau trethu gael eu gyrru gan ystyriaethau etholiadol.  Mae Carwyn Jones eisiau'r grym i ostwng treth meysydd awyr er mwyn gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol.  Dydi'r Toriaid ddim am i hynny ddigwydd oherwydd y byddai hynny ar draul Maes Awyr Bryste.  Mae yna lawer o bleidleisiau Toriaidd ac etholaethau cystadleuol yn Ne Orllewin Lloegr. Felly dydi'r dreth ymylol yma ddim am gael ei datganoli.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw dro ar ol tro bod y diffyg cysylltiad rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant yng Nghymru yn fanteisiol iawn i'r Blaid Lafur yma.  Eu prif apel ydi eu gallu i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i godi'r dreth i wneud hynny.  Byddai sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn tynnu'r mat o dan draed Carwyn Jones a'i blaid - felly mae Cameron wedi dal ei drwyn a chynnig grym tros drethiant i Gaerdydd.  Mae'n werth hyd yn oed datganoli chwaneg o rym i Gymru os ydi hynny'n tanseilio Llafur.

Dydi hi ddim yn hawdd i Carwyn Jones efelychu Hain a dweud y byddai cael yr hawl i drethu yn difa'r genedl, neu beth bynnag.  Mae'n dweud ei fod eisiau'r pwerau i fenthyg er mwyn gwella is strwythur yr wlad -  ond mae am fod yn anodd cael benthyciadau arwyddocaol heb ddangos gallu i godi refeniw ychwanegol - dydi treth stamp ddim am wneud llawer o wahaniaeth yn y cyswllt yna.   Felly mae'n cysylltu derbyn grym tros dreth incwm efo Barnett - er nad oes yna unrhyw sail rhesymegol i wneud hynny. Dydi Carwyn ddim eisiau y pwer tros dreth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwigio - a does neb yn gwybod i sicrwydd  beth sydd am ddigwydd i Barnett. 

Ond rydan ni'n gwybod petai trefn sy'n adlewyrchu angen yn glosiach yn cael ei mabwysiadu yna byddai'r Alban ar ei cholled a Chymru ar ei hennill.  O ganlyniad fydd yna ddim byd yn digwydd tan ar ol refferendwm yr Alban - mae 'caredigrwydd' Barnett tuag at yr Alban yn rhan greiddiol o'r ddadl uniliaethol.  Ond dydi hi ddim yn sicr o bell ffordd y bydd newid wedyn - dydi hi ddim am fod yn hawdd i'r pleidiau unoliaethol newid setliad ariannol yr Alban er gwaeth ar ol treulio blwyddyn yn defnyddio'r setliad yna fel craidd eu dadl i bobl fotio 'Na'. A beth bynnag mae yna fwy o Aelodau Seneddol Albanaidd na Chymreig.  Y fathemateg oedd yn  gyfrifol am i lywodraethau Llafur 1997 - 2010 beidio a thrafferthu edrych ar Barnett.  

Felly mae Cameron yn ddigon parod i ddatganoli rhai trethi i Gymru oherwydd ei fod yn gweld mantais etholiadol mewn gwneud hynny.  Dydi Carwyn ddim eisiau derbyn cyfrifoldeb arwyddocaol tros drethiant am ei fod yn gweld perygl etholiadol o wneud hynny - er gwaetha'r ffaith bod gwrthod y pwerau yn cyfyngu ar ei allu i wneud rhai o'r pethau mae'n dweud ei fod am eu gwneud er budd y wlad.  

Mewn geiriau eraill mae'r ddwy blaid fawr unoliaethol yn rhoi eu budd etholiadol nhw eu hunain yn gyntaf a budd a lles Cymru yn ail.  Hen, hen stori mae gen i ofn.