Tuesday, February 26, 2013

Sut i beidio cael eich lobio

Un o'r llawer o anfanteision o fod yn weinidog yn llywodraeth Cymru ydi'r ffaith eich bod yn cael eich lobio byth a hefyd gan rhywun neu'i gilydd.  Dydi cael eich lobio ddim yn brofiad braf, oni bai mai Darren Hill sy'n gwneud y lobio.  Beth bynnag, dwi'n crwydro, nid Darren Hill ydi gwrthrych y blogiad yma.  Lobio, a'r gweinidogion druan sy'n cael eu lobio ydi'r thema - pobl fel Leighton Andrews.



Does yna ddim byd gwaeth na chael eich lobio wrth y bwrdd brecwast.  Dydi eich meddwl chi ddim ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych - mae o ar gwahanol broblemau'r diwrnod sydd o'ch  blaen - a dydach chi ond yn hanner effro beth bynnag. Mae'n ddigon posibl eich bod yn teimlo mymryn yn sal hefyd.

Y demtasiwn o dan yr amgylchiadau hyn ydi dweud "Iawn cariad" beth bynnag y syniad dw lali sy'n cael ei gwthio ger eich bron, er mwyn cael llonydd.  Mae hyn yn gamgymeriad anferthol wrth gwrs.  Oherwydd fy ngwendid ben bore, dwi wedi cael fy hun mewn pob math o sefyllfaoedd gwirion bost - ar ben ysgol y tu allan yn paentio ffenest ail lawr mewn storm, ar wyliau mewn carafan yn Skegness, yn gwylio rhyw blydi ddrama neu'i gilydd, yn siopa yn Cheshire Oaks ac ati.  Dwi'n fodlon dweud "Iawn" i unrhyw beth dan haul wrth fwrdd brecwast ben bore.  Yn wir, petai Nacw yn gofyn i mi daflu'r safonau iaith i mewn i'r sgip, mi fyddwn i'n debygol iawn o ddweud "Iawn cariad" a mynd ati i wneud hynny - pe gallwn.

Dwi'n siwr nad ydi Leighton yn cael ei lobio wrth y bwrdd brecwast, a dwi'n siwr petai hynny'n digwydd y byddai'n well boi na fi ac yn ymateb efo "Na" awdurdodol. Beth bynnag, rhag ofn bod Leighton - neu unrhyw un arall - yn cael trafferth hoffwn gynnig mymryn o gyngor iddo. Mae yna ddwy ffordd o osgoi lobio wrth y bwrdd brecwast - peidio bwyta brecwast, neu godi mor fuan fel nad oes yna neb eisiau codi yr un pryd a chi. Dwi bellach yn gwneud y ddau beth - jyst i fod yn saff.

Monday, February 25, 2013

Andrew RT eisiau torri treth incwm - iddo fo ei hun

Mae'n siwr ei bod yn greulon i chwerthin ar ben arweinydd y Toriaid Cymreig, Andrew RT Davies - ond wir Dduw mae'n anodd peidio weithiau.


Cymerwch er enghraifft ei syniad diweddaraf - defnyddio unrhyw bwerau trethu a gaiff y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol i dorri trethi'r bobl sawl sydd ar gyflogau uchaf yng Nghymru.  Y 'rhesymeg' y tu cefn i hyn ydi y byddai'r newid yn annog entrepreneriaid fod yn entreprenaraidd a ballu.  Mae Andrew yn hoffi'r cyfryw entrepreneriaid, yn yr un ffordd nad yw'n hoffi'r sawl sydd yn gweithio yn y sector gyhoeddus.  

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu yn y gorffennol y byddai'n llesol i'r Toriaid ddatganoli pwerau trethu i Gymru oherwydd y byddai hynny yn ei gwneud yn anodd i Lafur hefru  am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru, heb orfod codi sentan goch ar neb i dalu am y gwariant hwnnw.  

Ond mae'r hen Andrew yn camddeall effaith gostwng treth band 40% yng Nghymru yn llwyr.  .  Ystyriwch y canlynol - yn 2010/2011 tua un gweithiwr o pob deunaw oedd yn talu treth  ar y raddfa 40% yng Nghymru.  Un o pob deuddeg oedd y gymhareb yn yr Alban ac un o pob deg yn Lloegr. Mae'r gymhareb yn is erbyn hyn wrth gwrs yn y dair gwlad, fel mae'r llywodraeth Doriaidd yn dod a mwy a mwy o bobl ar gyflogau gweddol gyffredin  i mewn i'r band treth 40%.

Felly dydi cynllun Andrew ddim am helpu llawer iawn o bobl - 90,000 i 100,000 efallai allan o  o tua 1.35m o bobl sy'n talu treth incwm.   Ond bydd yna lawer llai o entrepreneriaid yn elwa  - mae'r sector gyhoeddus yn fawr yng Nghymru, ac mae yna sleisen o weithwyr y sector honno yn y band 40%.  Ac wrth gwrs mae llawer o entrepreneriaid yn berchnogion eu cwmniau eu hunain - ac i rhywun yn y sefyllfa honno mae'n fwy cost effeithiol o lawer o safbwynt trethiannol   i gymryd taliad yn uniongyrchol o'r cwmni nag ydi hi i dynnu cyflog.  Ychydig o dreth incwm mae llawer ohonynt yn ei dalu beth bynnag.

Mewn geiriau eraill  prif enillwyr cynllun Andrew fydd pobl ar gyflogau uwch yn y sector gyhoeddus - pobl fel fi - ac Andrew RT ei hun wrth gwrs.  

Saturday, February 23, 2013

I ble'r aeth Saeson Caernarfon?

Reit, gair bach o rybudd cyn dechrau hon - dydi'r ymarferiad bach isod ddim yn wyddonol o bell ffordd, a dydw i heb redeg y ffigyrau trwy daenlen - dwi wedi cyfrifo'r ffigyrau 'ganwyd y tu allan i'r DU yn fy mhen' - felly efallai bod man gymgymeriadau.

Cwestiwn yn nhudalen sylwadau'r blogiad diwethaf gan William Dolben ynglyn ag o lle mae'r sawl sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru yn Nwyrain Caerfyrddin / Gorllewin Castell Nedd yn dod wnaeth i mi feddwl.  Cefais gip ar bedair ward a chymharu'r rheiny efo ffigyrau 2001. Ym mhob achos y ffigwr cyntaf ydi'r nifer a anwyd yn Lloegr, yr ail ydi'r nifer a anwyd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, y trydydd ydi'r nifer a anwyd yng Nghymru a'r pedwerydd ydi'r nifer a anwyd y tu allan i'r DU.  Wele'r canlyniadau:

Chwarter Bach - 2001 - 435/12/2434/123.   2011 - 540/14/2304/196
Gwaen-cau-gurwen - 2001 - 348/13/2415/67.   2011 - 498/13/2320/195
Rhydaman - 2001 - 251/14/2347/89.   2011 - 332/23/2202/285
Ystradgynlais - 2001 - 233/27/2258/64.  2011 - 289/27/2168/178

Mae'r patrwm yn gyson iawn yma - rhywfaint yn llai o bobl a anwyd yng Nghymru, cynnydd yn y nifer a anwyd yn Lloegr a chynnydd mwy (mewn tri o'r pedwar achos) yn y nifer a anwyd y tu hwnt i'r DU.  Mae'n rhaid nodi fodd bynnag bod y canrannau a anwyd yng Nghymru yn uchel o gymharu a chymunedau mwy gwledig yn y Gorllewin.

Wedi gwneud hyn penderfynais ddod adref ac edrych ar Gaernarfon.  Ceir pedair ward yn y dref:

Menai - 2001 - 278/15/1806/84.  2011 - 281/10/1818/283
Seiont - 2001 - 364/12/2599/77.  2011 - 279/12/2585/434
Peblig - 2001 - 231/11/2043/16.  2011 - 195/6/2062/175
Cadnant - 2011 - 262/18/1823/120.  2011 - 210/12/1787/147

Mae'r patrwm yma yn syfrdanol yng nghyd destun yr hyn sy'n digwydd i'r iaith y tu allan i'r Gogledd Orllewin.  Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod cwymp sylweddol wedi bod yn y niferoedd a anwyd yn Lloegr yn ardaloedd dosbarth gweithiol y dref.  Cafwyd cynnydd mawr iawn hefyd (ond disgwyledig) yn y nifer a anwyd y tu allan i'r DU, tra bod  nifer y sawl a anwyd yng Nghymru yn gyson.  Mae yna fwy o bobl yng Nghaernarfon wedi eu geni y tu allan o'r DU nag a anwyd yn Lloegr. Tros y dref i gyd syrthiodd y ganran sy'n siarad y Gymraeg 0.5%.  Roedd y cwymp hwnnw i gyd - y cwbl ohono - yn un rhan bach o'r dref - y canol lle cafwyd y rhan fwyaf o'r mewnfudiad o Ddwyrain Ewrop.  Yn wir gallwn ddweud gyda chryn dipyn o hyder   y byddai'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn 2011 wedi cynyddu yn sylweddol yng Nghaernarfon oni bai am y mewnfudo o Ddwyrain Ewrop.

Edrychais wedyn ar bedair ward wledig yn Nwyfor, dwy lle cafwyd cynnydd yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg (Abererch a Chlynnog), a dwy a welodd gwymp.

Clynnog - 2001 - 279/7/563/24.  2011 - 293/4/689/21
Abererch - 2001- 321/17/1068/60. 2011 - 265/6/1055/80
Aberdaron -  2001 - 273/4/730/6. 2011 - 272/7/668/46
Botwnnog - 2001 - 263/3/678/27. 2011 - 245/3/728/54

Diweddariad 28/2/2013 - mae yna anghysondeb rhwng y ffigyrau dwi yn eu defnyddio am bobl sydd wedi eu geni mewn gwledydd y tu hwnt i'r DU a ffigyrau eraill dwi wedi edrych arnynt yn ddiweddar.  Mi wna i bwt ar y peth maes o law.

Does yna ddim patrwm cyson yma.  Mae'n amlwg mai symudiadau poblogaeth oddi mewn i Wynedd sy'n gyrru'r cynnydd yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yng Nghlynnog, ac mai cwymp yn y sawl a anwyd yn Lloegr sydd yn gyrru'r gwelliant ieithyddol yn Abererch.  Diboblogi ymysg Cymry ydi nodwedd Aberdaron ac mae Botwnnog yn gweld cwymp yn y nifer o Saeson a chynnydd ymysg y Cymry.  Mae hynny yn achosi ychydig i benbeth i mi, oherwydd i Botwnnog weld lleihad o 1.5% yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg.  Ceir cynnydd yn y niferoedd o Ddwyrain Ewrop - ond cynnydd bach ydi hwnnw wrth ymyl yr un yng Nghaernarfon.  Efallai y dyliwn nodi cyn gorffen mai mewn pentrefi agos at Bwllheli (lle mae'r iaith yn gwneud yn eithaf da) ydi'r rhan fwyaf o drigolion ward Abererch, ac mae dylanwad Caernarfon yn gryfach ar Glynnog nag ydyw ar unrhyw ran arall o Ddwyfor.

* Ffigyrau  oll o neighbourhood Statistics.



Tuesday, February 19, 2013

Y Cyfrifiad - tair stori wahanol i dri rhan o Gymru

Hwyrach eich bod yn cofio i mi nodi mewn blogiad diweddar ynglyn a'r Cyfrifiad  bod rhai o'r cymunedau a welodd gynnydd bychan yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Arfon hefyd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o bobl sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru.  Cymrodd ambell un hynny fel awgrym mai mewnlifiad ydi'r rheswm dros ostyngiad yn y canrannau sy'n siarad y Gymraeg.  Yn ddi amau mae gwirionedd yn y canfyddiad hwnnw - ond un peth mae craffu ar y ffigyrau cyfrifiad wedi ei ddangos i mi ydi bod y darlun ar hyd Cymru yn gymhleth - a'i bod yn anodd dod i gasgliadau cyffredinol.

Cymerer yr wybodaeth isod dwi wedi ei roi at ei gilydd er enghraifft.  Dwi wedi dewis chwe ward mewn tri rhan gwahanol o Gymru - Gogledd Mon, Gorllewin Gwynedd a Dwyrain a De Caerfyrddin / Gorllewin Castell Nedd.  Mae'r ardaloedd yma oddi mewn i'r Gymru Gymraeg draddodiadol, a hyd rhyw ugain mlynedd yn ol roeddynt oll yn gymunedau Cymreig iawn.  Dwi wedi dewis y wardiau fwy neu lai yn fympwyol.

Dwy elfen yr ydym yn eu hystyried  - y canrannau sydd wedi eu geni yng Nghymru a'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg.  Mae'r patrymau yn wahanol iawn.  Yng Ngogledd Mon mae'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg a faint sydd wedi eu geni yng Nghymru yn weddol agos at ei gilydd, ond gyda chanran uwch wedi eu geni yng Nghymru na sy'n siarad yr iaith mewn pedair cymuned.

Yng Ngorllewin Gwynedd mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn  uwch pob tro nag ydi'r ganran o bobl sydd wedi eu geni yng Nghymru.  Mae'r patrwm yn Nwyrain Caerfyrddin a De Caerfyrddin / Castell Nedd yn gwbl wahanol.  Mae'r canrannau a anwyd yng Nghymru yn sylweddol uwch na'r nifer sy'n siarad y Gymraeg.  Mewn rhai llefydd - Rhydaman er enghraifft - mae'r gwahaniaeth yn syfrdanol.  

Rwan mae sawl casgliad y gellir ei gymryd o hyn.  Mae'n ymddangos bod trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall yn effeithiol yng Ngogledd Mon, yn rhyfeddol effeithiol yng Ngorllewin Gwynedd, ond yn wan yn wardiau Caerfyrddin / Castell Nedd.  Mae'n debyg bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu colli oherwydd allfudo yn y Gogledd Orllewin - ond dydi'r mewnlifiad ddim yn arwain at golli siaradwyr.  Mae'n dod a'r canrannau i lawr wrth gwrs - ond mae'r sawl a anwyd yng Nghymru yn cadw eu Cymraeg.

Does yna ddim llawer o fewnfudo i Ddwyrain a De Caerfyrddin / Castell Nedd (o gymharu a Gogledd Mon a Gorllewin Gwynedd), ond mae yna lawer mwy o ddirywiad ieithyddol.  Mae'r mewnlifiad yn gwanhau'r iaith yn y Gogledd Orllewin, ond dydi o ddim yn gwneud yn agos cymaint o niwed a phenderfyniad torfol cymunedau Dwyrain a De Caerfyrddin / Castell Nedd i beidio a throsglwyddo'r iaith i'w plant.  Y caswir ydi bod yr iaith yn marw yn rhannau o Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd oherwydd bod carfanau sylweddol o bobl sy'n byw yn y llefydd hynny yn ewyllysio i hynny ddigwydd.  Neu o leiaf dydi'r iaith ddim digon pwysig i bobl y cymunedau hynny i'w cymell i'w throsglwyddo i'w plant.


Sunday, February 17, 2013

Ymgyrch bropoganda'r Fyddin Diriogaethol yng Nghaerdydd ddoe

Er bod yna lawer o beririannau rhyfel, milwyr mewn lifrai, gweithgareddau amrywiol ac ati, am rhyw reswm doedd 'na neb heb goesau mewn cadair olwyn.









Saturday, February 16, 2013

Gogledd Ynys Mon

Ffigyrau 2001 yn gyntaf  - fel arfer.

Porth Amlwch - 67.5%\64.5%
Amlwch - 57.1%\54.3%
Llanbadrig (Cemaes) - 53.7%\52.4%
Mechell - 64%/61.1%
Llanfaethlu - 67.1%\64.4%
Y Fali 1 - 49.7%\50.2%
Y Fali 2 - 60%\58.9%
Llaneilian - 61.5%\58.9%
Moelfre - 51%\52.3%
Llanfair yn Neubwll 1 (Gogledd i Rhosneigr) 32.4%\34.6%
Llanfair yn Neubwll 2 (Bodedern) - 68.7%\66.9%

Prif bwyntiau:

  • Cwymp graddol  - oni bai am y dair gymuned leiaf Cymreig, lle ceir cynnydd.
  • Fel yng Ngwynedd 'dydi'r ffigyrau ddim yn cefnogi'r ddamcaniaeth bod cwymp cyflym yn digwydd pan mae'r canrannau yn gostwng yn is na 70%..  A diystyru Ynys Cybi, mae yna dueddiad i'r iaith ddal ei thir orau yng Ngogledd Mon lle mae eisoes yn gymharol wan.
  •  Mae'r canrannau yn is nag ydynt yn Nwyfor, ond mae tebygrwydd yn y patrwm oedran.  Yn wir mae'r tueddiad i'r cwymp ddigwydd ymysg y grwp 65+ yn gryfach yma nag ydyw yn Nwyfor.  Mae tua tri chwarter y cymunedau a restrir uchod yn dangos cynnydd yn y ganran o bobl 16-64 sy'n siarad y Gymraeg. 

Friday, February 15, 2013

Cau swyddfeydd recriwtio'r lluoedd diogelwch

Os oes yna unrhyw beth yn dangos bod yna ormod o aelodau seneddol Cymreig, rhai o'r sylwadau a wnaed gan y cyfryw aelodau mewn dadl ar gau swyddfeydd recriwtio lluoedd arfog Prydain ydi hynny.

Ymddengys bod Sian James, aelod Dwyrain Abertawe yn meddwl bod cadw'r swyddfeydd recriwtio yn bwysig oherwydd eu bod yn cynnig mynediad i strwythur gyrfa i bobl ifanc sydd yn byw yn ei hetholaeth - a thu hwnt.  Efallai bod hynny'n wir - ond mae gyrfa yn y lluoedd diogelwch yn rhoi'r bobl ifanc sy'n ymgymryd a'r yrfa honno mewn sefyllfa o risg sylweddol.

Risg o hunanladdiad er enghraifft - mae cyfraddau hunanladdiad cyn filwyr yn uchel iawn - er enghraifft mae mwy o gyn filwyr a ymladdodd yn y Malvinas wedi lladd eu hunain na laddwyd gan yr Archientwyr.  Mae cyn aelodau o'r lluoedd diogelwch hefyd yn llawer mwy tebygol o ddatblygu problemau cyffuriau, problemau alcohol a phroblemau iechyd meddwl na phobl sydd heb  ddilyn yr un gyrfa.  Maen nhw hefyd yn llawer mwy tebygol gael eu hunain mewn carchar na neb arall.  Mae'n debyg bod cymaint ag 20,000 o gyn filwyr yn rhywle neu'i gilydd oddi mewn i'r system cyfiawnder yn y DU.  Mae yna hefyd y mater bach y gallai'r sawl mae'r lluoedd diogelwch yn ymosod arnynt beidio ag ymateb yn rhy dda i'r sefyllfa a saethu yn ol..

Rwan efallai bod Ms James yn ystyried y lluoedd diogelwch gyda'r holl risg sydd ynghlwm a hynny yn yrfa briodol i blant pobl eraill, ond tybed os ydi hi'n ystyried y llwybr yma yn addas i'w phlant ei hun?

Mae dadl Chris Evans (Islwyn) mymryn yn fwy soffisdigedig.  Mae o'r farn bod y gwasanaeth recriwtio yn caniatau i bobl ymuno efo'r lluoedd diogelwch efo'u llygaid ar agor 'led y pen'.  Rwan, dwi erioed wedi bod i swyddfa recriwtio - ond mae'n anodd braidd gen i ddychmygu bod asiantaeth sy'n ceisio recriwtio yn egluro'r risg i bobl ifanc sydd ynghlwm a chaniatau iddyn nhw eu hunain gael eu recriwtio, mwy nag ydi'r hysbysebion di ddiwedd ar S4C sy'n annog pobl i ymuno a'r fyddin yn rhoi unrhyw syniad i wylwyr o'r risg sydd ynghlwm a dilyn cyngoryr hysbyseb..  

Ymddengys bod Chris hefyd o'r farn bod y lluoedd diogelwch yn bwysig o safbwynt 'ein rhyddid ni'. Dwi'n anghytuno.  Ers yr Ail Ryfel Byd mae'r lluoedd diogelwch wedi cael eu defnyddio lawer o weithiau i ymosod ar rhywun neu'i gilydd - er enghraifft - Irac (2 waith), Afghanistan, Iwerddon, yr Ariannin, Kenya, Palestina, Malaya, Cyprus, Korea, yr Aifft, Aden, Borneo, Iwgoslafia, Libya.  Mae'r rhan fwyaf o'r rhyfeloedd yma wedi arwain at ddefnydd o lefelau uchel iawn o drais gan y lluoedd diogelwch, ac maent hefyd wedi arwain at ddefnydd sylweddol o artaith gan y gwasanaethau cudd wybodaeth.  Ond yr hyn nad ydynt wedi ei wneud ydi cyfranna at 'ein rhyddid ni'.  

Tuesday, February 12, 2013

De Mon

Cyn mynd ymlaen un problem i'w gwyntyllu.  Fel y gwyddoch dwi wedi bod yn cael llawer o fy ngwybodaeth o'r map rhyngweithiol.  Fedra i ddim egluro pam bod y rhan fwyaf o wardiau ym Mon yn ol ffigyrau diwedd Ionawr yn dangos cwymp mwy na'r un oedd wedi ei gofnodi tros yr holl ardal llywodraeth leol ychydig fisoedd ynghynt.  Os ydi rhywun yn gallu egluro hyn, byddai diddordeb gen i wybod am hynny.

Yn y cyfamser wele ffigyrau De Mon.  Lle nad yw'n amlwg yn lle mae'r ward (sydd yn wir yn amlach na pheidio ym Mon), dwi'n rhoi enw'r prif bentref.  2001 gyntaf, 2011 wedyn.

Rhosyr (Niwbwrch) - 63.3%\59.3%
Aberffraw - 62.1%\50%
Bodorgan - 72.5%\68.3%
Cadnant ( Porthaethwy) - 52.3%\47.4%
Tysilio (Rhwng Borth a Llandegfan ac i'r Gogledd)- 64.7%\59.2%
Cwm Cadnant (Llandegfan) - 56.3%\57.5%
Llanfihangel Ysgeifiog (Gaerwen) - 78.9%\75.8%
Beaumaris - 39.7%\39.5%
Pentraeth - 57.5%\54.8%
Llanidan  (Brynsiencyn) - 68.6%\65.1%
Braint (Llanfairpwll) - 76.8%\73.2%
Gwyngyll (Llanfairpwll) - 74.5%\70.5%
Llangoed - 54.9%\48.4%
Bodffordd (Llangefni/Bodffordd) - 85.2%\80.8%
Llanddyfnan (Capel Coch) - 69.9%\64.7%
Tudur (Llangefni) - 83.1%\80.7%
Cefni (Llangefni) - 82.9%\80.5%
Brynteg (Benllech) - 50.9%\48.7%
Llanbedrgoch (Benllech) - 45.9%\43.9%
Bryngwran - 76.6%\71.1%
Bodorgan - 78.5%\73.3%


  • Cwymp cyson bron ym mhob ward
  • Tair ward 80%+ ar ol - ond dim ond o drwch blewyn - yr unig rai y tu allan i Wynedd.
  • Perfedd dir 70%+ yn dal i sefyll ond o dan bwysau.
  • Cwymp trychinebus yn ardal Aberffraw.
  • Y Gymraeg yn dal ei thir yn rhai o'r ardaloedd mwy Seisnig.
  • Y Gymraeg yn gwneud yn well mewn trefi a phentrefi mawr - fel Gwynedd.


Monday, February 11, 2013

Ynys Cybi

Gan na fydd gennyf fynediad cyson i'r We tros y dyddiau nesaf, bydd y blogio'n ysgafn.  Ond gan i mi gael cais i edrych ar Ynys Mon, waeth i ni ddechrau arni - ac mi wnawn ni gychwyn efo Ynys Cybi.

2001 gyntaf pob tro, canran 65+ mewn cromfachau.

Caergybi::

Moralwelon - 46%\40.4% (51%)
London Rd - 52%\45.3% (59.9%)
Kingsland  - 48.1%\42.9% (58.8%)
Tref 1 - 42.5%\39.1% (45.1%)
Tref 2 - 45.5%\39.8% (53.2%)
Porthyfelin - 46.7%\39.6% (51.6%)
Parc a'r Mynydd - 54.1%\50.4% (54.9%)

Gweddill Ynys Cybi:

Trearddur - 39.2%\33.8% (30.1%)
Rhoscolyn - 46.7%\42.9% (38.2%)

Prif Bwyntiau:


  • Mae yna gwymp ym mhob ward, ac mae'r cwymp hwnnw yn llawer mwy nag ydyw yng ngweddill Mon.
  • Mae'r strwythur oed yn llawer mwy tebyg i un yn Nwyrain Caerfyrddin nag ydyw i'r Gogledd-orllewin.  Mae mwy o bensiynwyr na phlant ysgol o lawer ym mhob ward ag eithrio'r ddwy ward wledig, Parc a'r Mynydd (sy'n rhannol wledig) ac un o'r ddwy ward yng nghanol y dref.  Mae'r patrwm yma yn anodweddiadol o Ynys Mon.
  • Does yna ddim gwahaniaeth amlwg yn y newididiadau yn ardaloedd trefol a gwledig Ynys Cybi.
  • Mae'r strwythur oedran yn awgrymu y bydd y canrannau yn nhref Caergybi yn parhau i gwympo, a bod y bwlch rhyngddi a gweddill Mon yn debygol o dyfu.
  • Mae'r sylwadau sydd eisoes wedi eu gwneud am ddinas Bangor a'r gyfundrefn addysg hefyd yn wir am Gaergybi.  Mae'r gyfundrefn addysg yn y rhan fwyaf o Wynedd a'r rhan fwyaf o Fon yn debyg - ond yn wahanol i'r drefn yng Nghaergybi a Bangor. 
  • Does yna ddim rheswm i amau  - o'r ffigyrau - y bydd y sefyllfa ieithyddol yn waeth eto ar draws Ynys Cybi - ac yn arbennig felly yn y rhannau trefol - yn 2021.
Mae'n dda gen i ddweud nad ydi'r patrwm mor negyddol yng ngweddill Mon.  Byddwn yn ymweld pan gaf y cyfle.

*Dyliwn nodi bod ychydig o anghytundeb rhwng y gwahanol ffigyrau sydd ar gael i mi.  Dwi wedi defnyddio'r map rhyngweithiol i bwrpas yr ymarferiad yma.

Sunday, February 10, 2013

Treganna

Ymddiheuriadau i'r sawl sydd ddim yn gyfarwydd a Chaerdydd yn gyffredinol a Threganna yn arbennig - edrychwch i ffwrdd.

Caerdydd ydi un o'r ychydig awdurdodau yng Nghymru i weld cynnydd yn y ganran o bobl sy'n siarad y Gymraeg.  Er i nifer o wardiau ddangos cynnydd - yn arbennig felly yng Ngorllewin a Gogledd y ddinas, Treganna neu Canton wnaeth orau mae'n debyg. Roedd ffigyrau Creigiau, yr Eglwys Newydd, Pentyrch a Llandaf hefyd yn eithaf uchel.

Dwi'n gyfarwydd iawn a'r rhan yma o'r ddinas, ac wedi bod yn ymwelydd cyson ers bron i dri deg pump o flynyddoedd.  Mae yna lawer iawn mwy o Gymraeg i'w glywed yn yr ardal rwan nag oedd 'na bryd hynny.  Gan ei bod yn bosibl cael data am ardaloedd gweddol fach o Gaerdydd, dyma fanylion ardal Treganna.

Fel roeddwn yn ei ddweud, os nad ydych yn 'nabod yr ardal, peidiwch a thrafferthu darllen ymlaen.


035A Parc Victoria i Pencisely Rd yn y Gogledd a Fairfield Rd yn y Gorllewin 25.5%.
035D o Parc Victoria i waelod Clive Rd yn y Dwyrain - gan gynnwys Egerton St ac Ethel St 20.8%
035B Gogledd Clive Rd, Gorll Pembroke Rd, 22.2%
040D Dwyrain Pembroke Rd, Rectory Rd, Market Rd 21.1%
034B Severn Rd, Llanfair Rd, Severn Grove, De Conwy Rd 19%
034A Pontcanna / Dogo St 19.4%
034C King's Rd / Springfield Place 19.7%
034D ardal o droed Cathedral Rd i droed Cowbridge Rd East 22.2%
040E Atlas Rd / Denton Rd 19.1%
040B Pen y Peel Rd i Landsdowne Rd 19.7%
035C Rhan uchaf Orchard St i Cowbridge Rd East 18.2%
026C Yr ardal lle mae Western Avenue a Cardiff Rd yn croesi 20.3%

Cais bach i Mr Roddick

Dwi newydd sylwi ar ateb gan Winston Roddick yn Golwg o'r feirniadaeth ar y blog hwn o'i benderfyniad i godi treth y cyngor er mwyn cael mwy o blismyn yn y Gogledd.

Wna i ddim ymateb yn helaeth - ag eithrio i nodi bod Mr Roddick yn derbyn un o ddau brif bwynt y blogiad, bod y gyfradd tor cyfraith yn syrthio, a nad aeth ati i  gyfeirio at y llall - nad oes yna unrhyw dystiolaeth bod cynyddu'r nifer o blismyn a gyflogir yn lleihau tor cyfraith.

Serch hynny mae gen i un awgrym bach i Mr Roddick - un wneith ddim costio dim i neb tra'n gwella delwedd yr heddlu mewn rhannau helaeth o'r Gogledd.  Beth am sefydlu polisi cyson o leoli plismyn Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, pan mae hynny'n bosibl?

Byddai lleoli Cymry Cymraeg mewn pentrefi megis Penygroes neu Lanberis yn llesol i'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny, yn llesol i ddelwedd yr heddlu ac yn rhad ac am ddim i'r trethdalwr.

Bangor

Un gair bach arall am y tablau yn y blogiad diwethaf sy'n cymharu grwpiau oedran Gwynedd a Chaerfyrddin.

Ceir patrwm amlwg wrth gymharu'r grwp 3-16 a'r un 65+.  Mae'r ganran yng Ngwynedd ymysg y plant fel rheol yn llawer uwch nag ydyw ymysg y pensiynwyr, ac mae hynny yn arbennig o wir mewn rhai ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wanach - De Meirion er enghraifft.  Yn wir yn rhai o'r lleoedd hyn (Abermaw, Tywyn, Llangelynin er enghraifft) mae'r ganran plant dair gwaith yn uwch na'r un 65+.

Mae'r un patrwm i'w weld yn rhannau o Sir Gaerfyrddin - yn arbennig felly yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn weddol gryf beth bynnag.  Ond mae yna ddigon o lefydd yn Sir Gaerfyrddin lle mae canrannau'r plant yn debyg, neu'n is na rhai'r pensiynwyr.  Mae hyn yn arbennig o wir ochrau Llanelli ac yn nhref Caerfyrddin.

Ond mae yna ran o Wynedd lle ceir patrwm tebyg i un ardaloedd llai Cymreig Sir Caerfyrddin - sef dinas Bangor.  Rhaid nodi yma bod canrannau Bangor yn weddol barchus wrth ymyl rhai ochrau Llanelli, ac nad oes yna'r unman lle ceir canran uwch o bensiynwyr na phlant ym Mangor.  Os nad ydych chi yn fy nghredu, cymharwch yr 8 ward sydd ar waelod tabl Gwynedd - sydd i gyd ochrau Bangor - a'r ddwy sydd nesaf i fyny - dwy dref Seisnig yn Ne Meirion.

Mae'r ffordd mae addysg wedi ei drefnu ym Mangor yn fwy nodweddiadol o'r ffordd y caiff ei drefnu yn Sir Gaerfyrddin na gweddill Gwynedd.  Mae'r gyfundrefn addysg yn dylanwadu yn uniongyrchol ar blant mewn ffordd nad oes unrhyw beth yn effeithio ar unrhyw grwp oedran arall.  Os ydi Cyngor Gwynedd eisiau atgyfnerthu'r Gymraeg yng Ngwynedd, ffordd hawdd ac uniongyrchol o wneud hynny ydi trwy atgyfnerthu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mangor.

Saturday, February 09, 2013

Gwynedd vs Caerfyrddin - Strwythur Oedran

Dwi ddim yn 100% siwr i mi gael pob ward yn y gymhariaeth isod, ond mae'r patrwm yn eithaf clir.  Mae'r canrannau ar eu huchaf ymysg y sawl sydd yn mynychu ysgolion - ond bod y cyfraddau'n uwch o lawer yng Ngwynedd nag yng Nghaerfyrddin. 

Yr ail wahaniaeth arwyddocaol ydi'r gymhariaeth rhwng y ddau grwp arall o bobl.  Mae'n anarferol yng Ngwynedd i'r grwp 65+ fod a chanran uwch o siaradwyr Cymraeg, na'r grwp 16 i 64 - er bod eithriadau - yn arbennig felly yn wardiau Bangor, ac mewn ambell i le arall, Llanberis, y Bala, Deiniolen ac Ogwen er enghraifft.

Yn Sir Gaerfyrddin mae yna dueddiad i'r grwp 65+ fod a chanran uwch o siaradwyr Cymraeg na'r grwp ieuengach.  Mae hyn yn arbennig o wir am ardal Llanelli ac - yn anffodus - ardal Gwendraeth/Aman - ardal Gymreiciaf Sir Gaerfyrddin .  Mae pethau ychydig yn iachach yn rhai o'r ardaloedd mwy gwledig a Gorllewinol. 

Awgryma'r patrymau gwahanol y bydd y bwlch ieithyddol rhwng Gwynedd a Chaerfyrddin yn tyfu'n sylweddol mewn blynyddoedd sydd i ddod.

                                     
                                              Sir Gaerfyrddin                Gwynedd








 
 
 

.

Wardiau gyda'r canrannau uchaf o blant yn siarad y Gymraeg

Bydd dilynwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod bod Ioan yn gadael sylwadau yn weddol aml - yn arbennig felly ar faterion ystadegol. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth ystadegol helaeth.  Mae ei waith yn ddi eithriad yn drwyadl a diddorol iawn.

Bu'n ddigon caredig i anfon setiau o ddata mae wedi eu cynhyrchu ataf - ac mae'r gwaith mae wedi ei wneud yn llawer ehangach a mwy thrylwyr na'r gwaith dwi wedi ei wneud tros yr wythnosau diwethaf. 

Byddwn yn edrych ar rhywfaint o ffrwyth y gwaith hwnnw - gan ddechrau efo tablau sy'n dangos y canrannau o blant 3-15 oedd yn siarad y Gymraeg yn 2001 a 2011 (50 ward uchaf).  Y nodwedd amlycaf ydi mai wardiau Gwynedd sy'n domiwnyddu brig y tabl - ac mae hynny yn fwy gwir yn 2011 nag oedd yn 2001.



Llongyfarchiadau Albert

Anaml iawn y bydd Albert Owen yn ymddangos yn y cyfryngau 'cenedlaethol', ond mae'n dda gen i ddweud iddo wneud ei farc o'r diwedd - yn Private Eye.

 Yn ol y cylchgrawn mae Albert yn yr arfer o ymddwyn fel hogyn drwg mewn dosbarth anhrefnus  yn Holyhead High yn yr hen ddyddiau dedwydd.

Beth bynnag ein barn am wleidyddion Mon, mae'r ynys wedi ei chynrychioli efo urddas tros y blynyddoedd - Megan Lloyd George, Cledwyn, Ieuan Wyn (OK, OK dwi'n gwybod am Keith Best).  A rwan mae ganddyn nhw rhywun sy'n ymdebygu i fwnci bach sydd wedi cael chwystrelliad o adrenalin.  Trist iawn.



*Diolch i Llyr ab Alwyn am y llun.

Thursday, February 07, 2013

Problem bach efo'r ffigyrau cyfrifiad

Dwi wedi cael cip bach ar ffigyrau yn y Caernarfon & Denbigh a ffigyrau Comiwsiynydd Iaith heno - ac mae 'na broblem bach yn codi.  Mae eu ffigyrau am 2001 yn ymddangos ychydig yn wahanol i'r ffigyrau dwi wedi bod yn eu defnyddio.  Oes yna rhywun efo syniad pam?

Mae y rhan fwyaf o fy ffigyrau fi yn dod o fan hyn.

Mwy o bropoganda brenhinol

Mae'n debyg gen i y bydd rhai o ddarllenwyr rheolaidd Blogmenai yn cofio i mi feirniadu'r Bib yng Nghymru yn hallt yn ystod y gwanwyn diwethaf am ymddwyn fel asiantaeth newyddion Gogledd Corea trwy glodfori'r jiwbili yn benodol a'r teulu Windsor yn gyffredinol gyda brwdfrydedd lloerig - er nad oedd ganddynt fawr o dystiolaeth bod eu gwylwyr a'u gwrandawyr yn rhannu eu obsesiynau rhyfedd.

Ymddengys bod sefydliad Cymreig arall yn ystyried mai rhan o'u pwrpas ydi hyrwyddo hawl un teulu tramor i ddylanwad, cyfoeth a statws cyfansoddiadol llawer uwch nag y gallai neb yng Nghymru freuddwydio ei gael.  Llywodraeth Cymru ydi'r corff hwnnw.

Wele ddelwedd o rhywbeth sy'n cael ei ddisgrifio fel prawf mathemateg a anfonwyd i ysgolion cynradd Cymru yn ddiweddar. Y gwahaniaeth o bosibl rhwng y Bib a'r Cynulliad yn hyn o beth ydi bod y naill yn taflu eu propoganda i gyfeiriad pawb, tra bod y llall yn canolbwyntio ar blant ysgol.

Rhag ofn eich bod eisiau gwybod y dasg ydi dyfalu pa mor fawr ydi'r dorf.

Wednesday, February 06, 2013

Y Cyfrifiad a Mewnlifiad

Mae'n debyg ei bod yn beth amlwg braidd i'w ddweud bod cysylltiad clos rhwng mewnlifiad a chanrannau sy'n siarad y Gymraeg - yng Ngwynedd o leiaf.  Ond edrychwch am ennyd ar y ffigyrau isod.  Maent yn dangos lle ganwyd trigolion pedair ward Caernarfon, Llanrug a Llanberis. 



Byddwch efallai'n cofio bod y ffigyrau siarad y Gymraeg fel a ganlyn (ffigyrau 2001 yn gyntaf, 2011 wedyn):

Seiont 1 - 83.8% / 80.6%
Seiont 2 - 90% / 90%
Peblig - 87.1% / 87.3%
Cadnant - 86.3% / 86.2%
Menai - 83.6% / 83.9%
Llanrug - 86.3% / 87.8%
Llanberis - 80.6%\74.4%

Mae'n weddol amlwg o'r ffigyrau - fel y byddai dyn yn disgwyl  - bod perthynas agos rhwng lefelau genedigaeth yng Nghymru a lefelau'r gallu i siarad y Gymraeg.  Ond yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod y niferoedd (neu o leiaf y canrannau) o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn gostwng yng Nghaernarfon a Llanrug, tra eu bod yn codi yn Llanberis. Bu cwymp sylweddol yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Llanberis wrth gwrs.  Fel y rhagwelwyd mewn blogiad blaenorol bu cynnydd yn y niferoedd sydd wedi eu geni y tu allan i'r DU yn ward Seiont, a bu cwymp yn y rhan o'r ward honno sy'n cwmpasu canol tref Caernarfon.  Ond mae'n ymddangos bod cysylltiad clos iawn rhwng perfformiad cryf o ran y Gymraeg mewn ward a chwymp yn y nifer y bobl a anwyd yn Lloegr sy'n byw yno. 

Dwi heb edrych ar y wardiau eraill lle mae'r Gymraeg yn perfformio'n gryf - ond fyddwn i'n synnu dim petaent oll wedi eu nodweddu gan gwymp yn y nifer o bobl sydd wedi eu geni'n Lloegr sy'n byw ynddynt.





Tuesday, February 05, 2013

Meirion

Canran 2001 yn gyntaf, gostyngiad yn y grwp 65+ mewn cromfachau.


Penrhyndeudraeth - 75.9%/72.3% (-7.9%)
Bowydd a Rhiw - 79.8%/78.2% (-2.5%)
Diffwys a Maenofferen - 83.9%/79.3% (-9.6%)
Teigl - 80.9%/78.5% (-5.5%)
Trawsfynydd - 77.4%/73.1% (-13.4%)
Harlech - 58.9%\54.1% (-11.7%)
Llanbedr - 50.7%\50.8% (-6%)
Dyffryn Ardudwy - 48.5%\47.4% (6.4%)
Brithdir - 65.9%\63.2% (-5.7%)
Dolgellau - 67.8%\61.8% (-12.9%)
Llandderfel - 70.9%\67.1% (-12%)
Bala - 80.1%\78.5% (-3.3%)
Llanuwchllyn - 80.2%\79.2% (-3.8%)
Corris - 60.8%\55.8% (-7.8%)
Aberdyfi  - 41.9%\42.6% (-3.4%)
Tywyn - 37.7%\35.8% (-1.3%)
Bryncrug - 58.4%/42.6% (-11.5%)
Llangelynin - 40.7%/35.9% (-7.9%)
Y Bermo - 36.8%/39.1% (-3.5%)

  • Fel yn Nwyfor ceir patrwm amlwg o ostyngiad sylweddol yng nghanran y grwp 65+, gyda'r cwymp yn fwy na'r un cyffredinol ym mhob achos ag eithrio Bryncrug.
  • Fel yn Nwyfor does yna ddim tystiolaeth bod cwymp cyflym mewn ardaloedd lle ceir llai na 70% yn siarad y Gymraeg - ag eithrio ym Mryncrug eto.
  • Er mai cymharol fychan (o gymharu a'r rhan fwyaf o Orllewin Cymru) ydi'r cwymp yn yr 8 ward mwyaf Cymreig yng Ngogledd y rhanbarth (Penrhyndeudraeth, Teigl, Bowydd a Rhiw, Bala, Llanuwchllyn, Llandderfel, Trawsfynydd  a Diffwys/Maenofferen), does yna ddim un ward 80% ym Meirion bellach.  Roedd 4 yn 2001.
  • Nid oes yna unrhyw wardiau gwledig yng Nghymru sydd ag 80%+ yn siarad Cymraeg bellach.  Roedd yna un yn 2001 (Llanuwchllyn).
  • Mae patrwm Dwyfor ac Arfon lle ceir yr ardaloedd Cymreiciaf mewn wardiau trefol yn cael ei gynnal ym Meirion hefyd.
  • Un ward 80%+ sydd yn etholaeth Meirion/Dwyfor bellach (Dwyrain Porthmadog).
  • Cafwyd cynnydd mewn  ward gymharol Seisnig (Aberdyfi, Abermaw a  Llanbedr).
  • Mae yna batrwm clir o arfordir Seisnig a pherfedd dir Cymreig ym Meirion.  Dydi'r patrwm yma ddim mor glir yng ngweddill Gwynedd.





Monday, February 04, 2013

Cyfrifiad - Dwyfor

Reit, Dwyfor.  Ffigwr 2001 yn gyntaf fel arfer.  Mae'r ffigyrau yn y cromfachau yn cyfeirio at y cwymp (neu'r cynnydd mewn ambell i achos) yn y ganran o bobl tros 65 - neb arall.  Mae rheswm pam fy mod wedi cyfeirio at hyn a byddwn  yn dod yn ol at hyn maes o law

Clynnog / Llanllyfni - 71.6%\74.4% (-5.5% 65+)
Garndolbenmaen - 70.2%\67.6% (-4.4% 65+)
Cricieth - 64.9%\64.2% (-7.8% 65+)
Gorllewin Porthmadog - 64.9%\57% (-9.7% 65+)
Dwyrain Porthmadog - 84.9%\80.1% (-7.3% 65+)
Beddgelert - 68.7%\66.8% (-7.8% 65+)
Llanystumdwy - 77.1%\77% (-9.3% 65+)
Abererch - 76.8%\79.8% (-7.9% 65+)
Gogledd Pwllheli - 81.1%/79.1%  (+1% 65+)
De Pwllheli - 78.7%\78.3% (-0.5% 65+)
Llanaelhaearn - 78.2%\73.8% (-5.7% 65+)
Efailnewydd - 76.5%\74.3% (-4.9% 65+)
Nefyn - 78.8%\76.1% (-4.9% 65+)
Morfa Nefyn - 76.8%\72% (-8.9% 65+)
Aberdaron - 76.1%\74.7% (-8.3% 65+)
Tudweiliog / Botwnnog - 76.5%\74.3% (-4.8% 65+)
Llanengan / Llanbedrog - 65.1%\63.4% (-5.5% 65+)
Abersoch - 51.2%\49.3% (-0.5% 65+)

Un neu ddau o bwyntiau:



  • Does yna ddim 'Bangor' yn Nwyfor - ond oni bai am hynny dydi'r ffigyrau ddim cystal a rhai Arfon.  Yn Llanaelhaearn, Gorllewin Porthmadog a Morfa Nefyn y cafwyd y cwymp mwyaf.
  • Cafwyd cynnydd yn Abererch a Clynnog / Llanllyfni.
  • Dydi'r wireb bod canrannau yn disgyn yn gyflym pan mae'n gostwng o dan 70% ddim yn dal yn Nwyfor.  Mae perfformiadau wardiau sy'n is na 70% yn cymharu'n dda efo'r gweddill - oni bai am Orllewin Porthmadog.
  • Un gymuned yn unig sydd yn cyrraedd 80% bellach - Dwyrain Porthmadog,  tra bod dwy arall o fewn trwch blewyn.  Yn Arfon mae mwyafrif llethol y wardiau 80% bellach.
  • Mae'r patrwm a welir yn Arfon o wytnwch mewn ardaloedd trefol yn tueddu i fod yn wir yn Nwyfor hefyd.
  • Mae yna batrwm clir iawn o gwymp mwy sylweddol o lawer ymysg pobl 65+ na'r grwpiau oedran eraill.  Does yna ddim patrwm cyson fel hyn yn Arfon. Yn wir y cwymp ymysg y grwp 65+ sy'n cyfri am yr holl gwymp mewn nifer o  wardiau..  Awgryma hyn bod mewnlifiad sylweddol o bobl sydd wedi ymddeol i Ddwyfor, ond bod pethau yn llawer iachach ymhlith y grwpiau oedran eraill.
  • Fel yn Arfon mae'r ganran o blant ysgol sy'n siarad Cymraeg yn cymharu'n dda efo 2001.  Mae hyn yn groes i'r patrwm cenedlaethol, ac mae'n adlewyrchu'n dda ar y system addysg yng Ngwynedd.
  • Oni bai am y grwp 65+ Dwi'n meddwl y byddai Dwyfor wedi gwneud cystal neu'n well nag Arfon yn 2011 mewn cymhariaeth a 2001 (ond nid  mewn termau absoliwt).

Ffigyrau Ioan yn gweld golau dydd


Bydd darllenwyr Blogmenai yn gwybod bod Ioan weithiau'n gadael sylwadau neu ystadegau ar dudalennau sylwadau'r blog - ac mae o wedi bod wrthi ers rhyddhau'r data sy'n ymwneud a wardiau.  Mae'n bechod bod ei gyfraniadau yn hel llwch ar y tudalennau sylwadau, felly dyma fynd ati i'w rhoi ar flaen y blog.  Gobeithio bod hynny'n iawn efo Ioan.
ON - mi gawn i gip ar Dwyfor fory - os ca i amser.

Y  deg isa:
10: Bigyn (Sir Gar) 1496 (-268)
9: Llandovery (Sir Gar) 1056 (-268)
8: Ystalyfera (Neath Port Talbot) 1339 (-275)
7: Fairwater-T (Torfaen) 466 (-278)
6: Llantwit Major (Bro Morganwg) 983 (-279)
5: Gwaun-Cae-Gurwen (Neath Port Talbot) 1576 (-284)
4: Ammanford (Sir Gar) 1290 (-318)
3: Ponciau (Wrexham) 1298 (-338)
2: Llanwddyn (Powys) 431 (-355)
1: Morriston (Abertawe) 1931 (-497)

O ran canran:
10: Saron (Sir Benfro) 54% (-11)
9: Cenarth (Sir Gar) 48% (-11)
8: Godre'r graig (Neath Port Talbot) 30% (-11)
7: Tycroes (Sir Gar) 47% (-11)
6: Garnant (Sir Gar) 58% (-11)
5: Cynwyl Gaeo (Sir Gar) 46% (-11)
4: Gwaun-Cae-Gurwen (Neath Port Talbot) 55% (-12)
3: Ammanford (Sir Gar) 49% (-12)
2: Hirael (Gwynedd) 37% (-15)
1: Garth-G (Gwynedd) 30% (-15)

10 uchaf:

1: Cathays (Caerdydd) 2015 (+678)
2: Canton (Caerdydd) 2625 (+661)
3: Amlwch Port (Ynys Mon) 1559 (+653)
4: Grangetown (Caerdydd) 1867 (+621)
5: Butetown (Caerdydd) 928 (+573)
6: Bryntirion (Penybont) 997 (+549)
7: Church Village (Rhondda Cynon Taff) 923 (+472)
8: Pont-y-clun (Rhondda Cynon Taff) 1232 (+416)
9: The Elms (Mynwy) 452 (+303)
10: Whitchurch and Tongwynlais (Caerdydd) 2319 (+293)

Newid yn y ganran - y deg uchaf..

1: Clynnog (Gwynedd) 73.2% (+5.3%)
2: Church Village (Rhondda Cynon Taff) 19.4% (+5.2%)
3: Trewern (Powys) 14.7% (+4.4%)
4: Drybridge (Mynwy) 10.5% (+3.7%)
5: Canton (Caerdydd) 19.1% (+3.6%)
6: Rogiet (Mynwy) 15.6% (+3.3%)
7: Raglan (Mynwy) 11.1% (+3.3%)
8: Newtown South (Powys) 15.3% (+3.2%)
9: Abererch (Gwynedd) 79.8% (+2.8%)
10: Devauden (Mynwy) 9.6% (+2.8%)




Y ward ym mhob sir sydd efo'r ganran uchaf o blant 3-15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg:
Ward Awdurdod lleol %3-15 yn siarad cymraeg
1 Bethel Gwynedd 97.4%
2 Cefni Isle of Anglesey 94.0%
3 Uwchaled Conwy 91.3%
4 Llanwenog Ceredigion 90.6%
5 Banwy Powys 87.3%
6 Crymych Pembrokeshire 85.4%
7 Quarter Bach Carmarthenshire 85.2%
8 Llandrillo Denbighshire 81.8%
9 Cwmllynfell Neath Port Talbot 73.7%
10 Rogiet Monmouthshire 58.2%
11 Dyffryn Ceiriog Wrexham 54.7%
12 Ffynnongroyw Flintshire 52.4%
13 Llanwern Newport 48.5%
14 Mawr Swansea 48.1%
15 Croesyceiliog South Torfaen 46.5%
16 Pontypridd Town Rhondda Cynon Taff 43.9%
17 Canton Cardiff 41.1%
18 Abercarn Caerphilly 40.5%
19 Wenvoe Vale of Glamorgan 36.2%
20 Blaina Blaenau Gwent 35.2%
21 Pontycymmer Bridgend 34.2%
22 Merthyr Vale Merthyr Tydfil 28.5%

Sunday, February 03, 2013

A rwan am y newyddion drwg yn Arfon

Bangor ydi'r newyddion drwg wrth gwrs.  O'r Dwyrain i'r Gorllewin (fwy neu lai) eto.  Ffigyrau 2001 yn gyntaf a 2011 wedyn.

Marchog 1 - 53.5%\48.1%
Marchog 2 - 55.4%\51.9%
Hirael - 51.2%\35.2%
Garth - 49%\34.8%
Menai - 27.8%\18.6%
Deiniol - 30.8%\22.8%
Glyder - 55.7%\51.7%
Hendre - 52%\45.3%
Dewi - 59.1%\52.6%
Pentir - 62.6%\59.3%

Fel rydym wedi trafod, mae ffigyrau'r cyfrifiad yn Arfon yn ddigon cadarnhaol yng nghyd destun ehangach Cyfrifiad 2011, ond mae yna eithriad - Bangor.  Mae'r cwymp yn rhai o wardiau Bangor gyda'r gwaethaf yn y wlad i gyd - ond efallai nad ydi'r newyddion yno llawn mor ddrwg na mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.  Y newidyn mawr yma wrth gwrs ydi'r Brifysgol, ac mae'n debyg i'r sefydliad hwnnw ehangu'n sylweddol tros gyfnod o ddeg mlynedd.  Dydan ni ddim yn gwybod faint o'r cwymp y dylid ei briodoli i hynny wrth gwrs - ac efallai na chawn ni ateb terfynol - ond bydd gweld ffigyrau sy'n dangos y strwythur oedran o fewn wardiau unigol yn rhoi syniad go lew i ni.

Rwan mae'r cwymp mwyaf mewn tair  ward sy'n cartrefu niferoedd sylweddol o fyfyrwyr - Menai, Garth a Hirael.  Mae myfyrwyr yn debygol o gael effaith ar wardiau eraill hefyd - ond ddim i'r un graddau.  Yr ardal lle ceir y lleiaf o gwymp ydi Pentir - ond dydi honno ddim yn ward Bangor go iawn.  Mae'n cynnwys rhan Orllewinol Penrhosgarnedd - sy'n bentref sydd ynghlwm a Bangor yn ogystal ag ardaloedd gwledig ar gyrion y ddinas.  Mae'r cwymp yn ward gyfochrog Glyder ychydig yn fwy, ond mae honno yn cyfochri yn ei thro efo Menai - ward sy'n cynnwys Bangor Uchaf a'r Brifysgol.

Stad tai cyngor sylweddol iawn ydi'r rhan fwyaf o Marchog - Maesgerchen  -  ochr arall y ddinas - sydd ddim  o dan ddylanwad y Brifysgol, ac mae yna gwymp yno eto - ond un bychan yng nghyd destun Bangor.

Ceir cwymp mwy yn wardiau Deiniol a Dewi.  Mae'r gyntaf wedi ei chanoli ar stad dai cyngor Glanadda yng Ngorllewin Bangor ac mae'r ail yng nghanol y Ddinas.  Gellid disgwyl dylanwad y Brifysgol ar y naill, ond nid ar y llall.

Plant sy'n siarad y Gymraeg

Marchog 1- 70%\67.6%
Marchog 2 - 65.8%\73.4%

Hirael - 56.8%\60.4%
Garth - 81.6%\74.5%
Menai - 71.1%\65.9%
Deiniol - 65.5%\56%
Glyder - 77.8%\72.5%
Hendre - 60.8%\78.8%
Dewi - 69.8%\67.5%
Pentir- 79.7%\79.4%


A daw hyn a ni at fater - ahem - sensitif.  Yn y rhan fwyaf o Wynedd mae'r niferoedd o blant sy'n siarad y Gymraeg yn gadarn o gymharu a 2001.  Ond dydi hynny ddim yn wir ym Mangor - neu o leiaf dydi o ddim yn wir ym Mangor i gyd. Mae'r cwymp yn Garth, Menai a Deiniol yn sylweddol - er dylid nodi bod twf arwyddocaol yn Hendre ac un llai yn un o wardiau Marchog.

Nid twf y Brifysgol sydd y tu ol i hyn - i unrhyw raddau arwyddocaol o leiaf.   Mae'n bosibl nad ydi'r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn effeithiol o un genhedlaeth i'r llall ym Mangor - fel mae yng ngweddill y sir. Mae'r rhesymau am hyn yn debygol o fod yn gymhleth - ond mae Bangor yn anarferol yng Ngwynedd i'r graddau bod y gyfundrefn addysg yno yn debyg i un Sir Gaerfyrddin - gyda sector cyfrwng Cymraeg ar wahan.   Does dim amheuaeth bod ysgolion cynradd yn y ddinas yn gwneud gwaith da iawn o ran cyflwyno'r Gymraeg. Ond efallai mai un o'r camau mwyaf effeithiol y gallai'r Cyngor ei gymryd i gefnogi'r Gymraeg yng Ngwynedd yn y dyfodol agos,fyddai atgyfnerthu ymhellach y ddarpariaeth Gymraeg yn ysgolion y ddinas.

Friday, February 01, 2013

Y Cyfrifiad - ardaloedd llechi Arfon

Mi weithiwn ni o'r Dwyrain i'r Gorllewin.  Ffigyrau 2001 gyntaf a rhai 2011 wedyn pob tro.

Dyffryn Ogwen
Arllechwedd - 61.1% \ 61.9%
Rachub - 74.6% \ 73.7%
Ogwen 1 - 78.2%\79.3%
Ogwen 2- 80.3%\83%
Tregarth - 69.8%\69%

Dyma'r ffigyrau a roddodd y mwyaf o bleser i mi yn bersonol - mae Dyffryn Ogwen yn Nwyrain y Wynedd Gymraeg ac felly byddai dyn wedi meddwl y byddai'n fregus.  Nid felly oedd pethau yn 2011.  Roedd y cymunedau yn gadarn fel y graig maent wedi eu codi arni.

Arllechwedd ydi ward fwyaf o ran maint, mwyaf gwledig a mwyaf Dwyreiniol Arfon - ond cafwyd cynnydd bychan yma.  Mae Rachub yn llai o ran maint ac yn fwy dwys o ran poblogaeth - mae'n cynnwys pentrefi Rachub a Gerlan, a chafwyd cwymp o llai na 1%.  Cafwyd cynnydd o tua 2% yn Ogwen - sy'n cwmpasu pentref Bethesda yn o dwt (un o'r ychydig ardaloedd sy'n ail ymuno efo'r 'Clwb 80%'), a chafwyd cwymp bychan yn Nhregarth - ward sy'n cynnwys pentref sylweddol Tregarth a'r ardal wledig o gwmpas Mynydd Llandygai.

Dyffryn Peris
Deiniolen- 76%\74.4%
Penisarwaun - 74.8%\70.6%
Llanberis - 80.6%\74.4%

Dwi wedi fy magu yn yr ardal yma, mae fy rhieni  a fy merch a'i theulu yn byw yno, felly mae'n fater o dristwch gweld y lleihad.  Dydan ni ddim yn gwybod pam y cafwyd y cwymp, ond mi fedrwn i fwrw amcan.  

Dwi'n siwr na fydd neb o bentref  Ddeiniolen yn pechu o fy nghlywed yn dweud nad dyma'r lle harddaf yn y Byd, ond mae yna rannau o'r ward sy'n hardd iawn a sydd a golygfeydd gwych o'r Wyddfa a Llyn Padarn a Pheris.  Mae Llanberis yn ganolfan twristiaeth sylweddol am yr un rheswm, ac mae ward Penisarwaun  gyda rhannau sy'n ymylu a Llyn Padarn.  Mae'r dair ward yn cynnig mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Eryri.  Mae'n bosibl mai harddwch naturiol a'r diwydiant twristaidd sy'n gyrru pethau yma.  Byddwn hefyd yn nodi i mi gael fy synnu o ddod ar draws nifer anisgwyl o uchel o Bwyliaid wrth ganfasio canol Deiniolen yn 2010 a 2011.

Dyffryn Nantlle
Talysarn - 72%\70.7%
Penygroes - 88%\86.8%
Llanllyfni / Clynnog - 71.6%\74.4%

Pentref sylweddol ydi Penygroes, mae Talysarn yn cynnwys pentrefi Carmel a Thalysarn ac mae Llanllyfni / Clynnog yn cwmpasu pentref sylweddol yn Arfon a'r ardal wledig eang o gwmpas Clynnog yn Nwyfor..  Ceir cwymp bach ym Mhenygroes - o le uchel iawn, un bychan yn Nhalysarn hefyd a chynnydd digon twt yn Llanllyfni / Clynnog..  O gymryd yr ardal at ei gilydd mae pethau'n rhyfeddol o sefydlog - sy'n newyddion arbennig o dda yng nghyd destun cyfrifiad 2011.