Robert Mugabe, Barak Obama, Gerry Adams, Raul Castro, David Cameron, Naomi Cambell, Mary Robinson, Henry Kissinger, Bono, George Bush ac ati ac ati - y cwbl yn gwneud eu ffordd i DdeAffrica a'r cwbl yn uniaethu eu hunain efo'r diweddar Nelson Mandela. Go brin bod yna griw mor eclectig o bobl erioed wedi uniaethu efo un person o'r blaen - yn ystod bywyd y person hwnnw o leiaf. Ac wrth gwrs ar rhyw olwg maen nhw i gyd yn gywir i wneud hynny - mae naratif bywyd Mandela yn gymhleth ac yn cyffwrdd a naratifau gwleidyddol pob un o'r uchod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Dechreuodd ei fywyd gwleidyddol yn aelod o'r ANC di drais cyn mynd ati i arwain y mudiad a chefnu ar egwyddorion di drais, cael ei garcharu am flynyddoedd maith cael ei ryddhau, arwain yr wlad i gyfundrefn ddemocrataidd gan osgoi rhyfel cartref a thrais eang, gwasanaethu fel arlywydd a threulio blynyddoedd olaf ei fywyd yn eicon rhyngwladol a sant cyfoes.
Yn ystod y cyfnod magodd gysylltiadau agos efo'r Blaid Gomiwnyddol, FRELIMO Samora Michel, Zanu PF Robert Mugabe ac IRA Gerry Adams. Yn wir mae'n debyg mai cefnogaeth dechnegol yr IRA oedd y tu ol i rai o ymysodiadau mwyaf adnabyddus adain filwrol yr ANC. Magodd hefyd gysylltiadau efo llywodraethau democrataidd y Gorllewin, ac aeth ati i arwain democratiaeth cyfansoddiadol mewn cyfundrefn economaidd gyfalafol.
Cyffyrddodd bywyd gwleidyddol Mandela efo llawer o themau mawr gwleidyddiaeth ail hanner y ganrif ddiwethaf - y frwydr ideolegol oedd ynghlwm a chyfalafiaeth a Chomiwnyddiaeth, diwedd yr ymerodraethau mawr a blerwch ol imperialaeth, y gwrthdaro rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig, y frwydr am hawliau sifil a chydraddoldeb o ran hil a chrefydd, a goruwchafiaeth rhyddfrydiaeth cymdeithasol.

Mae'n adrodd cyfrolau am y ffordd yr ydym yn edrych ar y Byd bod fwy neu lai bawb yn uniaethu efo'r hyn sy'n apelio atynt yn hanes Mandela, tra'n anwybyddu'r hyn nad ydynt yn eu hoffi. Mae'r cyfuniad o stori dda (digon o ddioddefaint ond diwedd hapus), cymeriad pwerus (deallusrwydd, hunan gred, carisma ac urddas), a'n hangen i fod ar ochr 'gywir' hanes wedi dod a'r bobl mwyaf anisgwyl at ei gilydd am ychydig ddyddiau.
Eironig iawn oedd clywed araith Obama! Beth am Guantanamo Bay? Beth am ymosodiau 'drone' (awyrennau di-beilot)?
ReplyDelete"Mae'r cyfuniad o stori dda (digon o ddioddefaint ond diwedd hapus), cymeriad pwerus (deallusrwydd, hunan gred, carisma ac urddas), a'n hangen i fod ar ochr 'gywir' hanes wedi dod a'r bobl mwyaf anisgwyl at ei gilydd am ychydig ddyddiau."
ReplyDeleteDadansoddiad da o ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf. Diolch, Cai.