Dwi'n deall mai Liz Saville Roberts aeth a hi yn dilyn yr hystings y Blaid am enwebiaeth Meirion / Dwyfor. Llongyfarchiadau i Liz a chydymdeimlad a Mabon, Gwynfor, John a Dyfed.
Does gen i ddim amheuaeth y bydd Liz yn ymgeisydd 'formidable' i Blaid Cymru. Does gen i ddim amheuaeth chwaith y bydd yn ennill yr etholiad ac yn Aelod Seneddol penigamp.
Ar lefel bersonol mi wnes i fwynhau'r cyfarfodydd dewis yn arw. Roedd y pedwar (rwy'n cynnwys Mandy) ymgeisydd arall yn rhagorol, ac mae'n nhw oll yn bobl da a chydwybodol. Rwy'n dweud yn gwbl ddidwyll ei fod wedi bod yn bleser cael rhannu llwyfan gyda nhw.
Bydd Liz yn dod ag agwedd ffresh, gwahanol i dy llychlyd San Steffan, ac yn chwa o awyr iach i'r lle. Mae'n ddynes ffeind ond cadarn.
Llongyfarchiadau gwresog iddi. A phenblwydd hapus hefyd - am anrheg :)
Newyddion da o lawenydd mawr! Llongyfarchiadau i bawb am eu rhan yn y broses... Da cael cymaint ymgeisgwyr rhagorol yn cynnig eu hunain,
ReplyDeleteNewyddion da o lawenydd mawr.
ReplyDeleteLlongyfarchiadau mawr i bawb a fu'n rhan o'r broses. Gwych o beth fod cynnifer o ymgeiswyr rhagorol wedi mentro cynnig eu henwau...
Bydd Liz yn AS rhagorol
Mi fydd hi'n AS gwych.
ReplyDeleteNewyddion gwych i'r Blaid ac i Meirion Dwyfor - da iawn Liz!
ReplyDeleteIe wir, llongyfarchiadau gwresog iddi.
ReplyDeleteDoes gen i ddim amheuaeth y bydd Liz yn ymgeisydd 'formidable' i Blaid Cymru. Does gen i ddim amheuaeth chwaith y bydd yn ennill yr etholiad ac yn Aelod Seneddol penigamp.
Ar lefel bersonol mi wnes i fwynhau'r cyfarfodydd dewis yn arw. Roedd y pedwar (rwy'n cynnwys Mandy) ymgeisydd arall yn rhagorol, ac mae'n nhw oll yn bobl da a chydwybodol. Rwy'n dweud yn gwbl ddidwyll ei fod wedi bod yn bleser cael rhannu llwyfan gyda nhw.
Bydd Liz yn dod ag agwedd ffresh, gwahanol i dy llychlyd San Steffan, ac yn chwa o awyr iach i'r lle. Mae'n ddynes ffeind ond cadarn.
Llongyfarchiadau gwresog iddi. A phenblwydd hapus hefyd - am anrheg :)
Wotsh owt Cameron, Miliband et al!
Mabon
Diolch Mabon - mae'r sylwadau'n adlewyrchu'n dda arnat.
ReplyDeleteCofiwch am ei rhan yn cau ysgolion bach Gwynedd !
ReplyDelete