John Rowlands sydd wedi ei ddewis gan y Blaid ym Mon i ymladd yn erbyn Albert Owen am y sedd San Steffan. Llongyfarchiadau i John - mae yna bosibilrwydd gwirioneddol o ennill y sedd. Mae'n adlewyrchu'n dda ar John iddo ddod ar y blaen mewn ras gyda phedwar ymgeisydd cryf.
Cydymdeimlad Blogmenai i Ken, Vaughan ac Ann. Da iawn nhw am roi eu henwau ymlaen a rhoi dewis teilwng i Bleidwyr Mon.
Cydymdeimlad Blogmenai i Ken, Vaughan ac Ann. Da iawn nhw am roi eu henwau ymlaen a rhoi dewis teilwng i Bleidwyr Mon.
Diolch i bawb ym Mon am eu cefnogaeth. Dymuniadau gorau i John Rowlands, edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei ethol fel AS nesaf PC dros Fon! Peintio Mon yn wyrdd! Diolch i bawb unwaith eto a DIOLCH i BlogMenai hefyd. Cofion cynnes, Vaughan
ReplyDeleteDewis trychinebus i Blaid Cymru Mon mae gen i ofn.
ReplyDeleteMae John Rowlands yn byw yng Nghaerdydd ac er ei fod yn siaradwr cyhoeddus da, mae'n anodd dychmygu y gwnaif o unrhyw impact ar stepan y drws ar Ynys Mon.
Wnaeth o ddim trafferthu i gynhyrchu unrhyw daflenni ar gyfer y ddau hystings( yn wahanol i Vaughan Williams ac Ann Griffth a ddanfonodd dwy daflen yr un allan at yr aelodau). Roedd hynny'n dangos diffyg parch at yr aelodau a bron yn awgrymu ei fod o'n ei chymryd hi'n yn ganiataol ei fod o am ennill!
Ar ben hyn i gyd- dim ond 20% o'r aelodau a bleidleisiodd! Mae hynny'n codi cwestiwn mawr am yr holl"fomemtwm" y soniwyd amdano yn dilyn buddugoliaeth Rhun ap Iorwerth.
Bydd Albert Owen uwchben ei ddigon gyda'r canlyniad hwn!
Os nad John Rowlands pwy oedd yn haeddu ta? Welais i ddim un o'r cyfarfodydd dewis oedd unrhyw un yn sefyll allan? Tan yn eu boliau?
ReplyDeleteYn fy marn i, John Rowlands oedd yn haeddu ennill - atebion solid i bob cwestiwn.
ReplyDeleteAmbell sylw (da) am y pedwar
1) Mwyaf o da^n - Vaughan yn ei ddeg munud agoriadol
2) Ann - dod drosodd yn dda iawn, fel gweithiwr caled fasa'n gweithio drost bobl. Mi roedd hi wedi gwella lot ers hustings Rhun (Llangefni).
3) John 'safe pair of hands' Rowlands
4) Ken - ddim yn eistedd ar unrhyw ffens. Ateb i'r cwestiwn
"Ydych chi'n cefnogi polisi Niwclear Plaid Cymru?"
Ken: "Nadw".
Diolch am yr adborth, anodd achos doeddwn i ddim yno ond dywedodd ffrind (di-enw) oedd yno bod y cymeriad Vaughan yma wedi creu argraff yn siarad yn dda ond bod eisiau gweithio ar ei atebion? Dwn i'm, mae'n ifanc mae'n debyg (mi ddaw mae'n siwr). Pob lwc i John, druan ag Ann cofia! Nabod hi ac yn hoffi hi!
ReplyDeleteAnon 10:58.
ReplyDeleteMae dy ffrind (di-enw) efo'r un argraff a fi - dwi'n amau mae Vaughan wnaeth yr araith orau, ond dwi'm yn meddwl y bydd o ei hun yn hapus efo'i ateb i un o'r cwestiynau (hollol onest mi oedd hi'n anoll deallt be oedd y cwestiwn)....
Hollol gywir - y 'cwestiwn' cyffuriau, roedd y cadeirydd yn ei chael hi'n anodd i ffurfio'r cwestiwn o'r gynulleida - ond chdi'n iawn Ioan wnes i ddim ateb yn wych i hwnnw. Typical mai fy nhro i oedd i ateb yn gyntaf. Ond ysgol ddrud ydy ysgol brofiad. Hoffwn ddiolch i bobl Mon ac eu cefnogaeth ac am y sylwadau ar y blog - MWYNHEUAIS y brofiad yn FAWR iawn. Braf oedd rhannu llwyfan gyda Ann, Ken a John - braint a dweud y gwir. Yng ngeiriau Arnie, "I'll be back". Pob lwc i John, edrychaf ymlaen at gydweithio gyda fo a churo Albert.
ReplyDeleteHoffwn ddiolch i pawb am fy nghefnogi yn yr hustings diweddar i ddewis ymgeisydd plaid yn etholiad san steffan. mae,n rhaid imi ateb y person di enw sydd wedi son am beidio cynhyrchu taflen ar gyfer yr achlysur, penderfynais or cychwyn cyntaf nad oeddwn yn mynd i wneud am fy mod eisiau dwad drosodd fel person naturiol hefo dim bwriad o rhoid pwysau o gwbl ar unrhyw aelod. Doedd o ddim yn fwriad o gwbl i ddangos diffyg parch at neb, a wnes i gymeryd dim yn ganiatol, os dyna,r argraff, mae,n ddrwg gen i am hynnu, roedd o ddim yn fwriadol.Rydwi yn cytuno nad oedd digon o aelodau wedi troi allan, un rheswm am hynny oedd y ffaith fod un yn Amlwch, ac un yn Mhorthaethwy, roedd hynny ddim yn deg o gwbl i,r aelodau sydd yn byw yn orllewin yr ynys, yn cynnwys fi fy hun wrth gwrs, oedd o,n anfantais? posib, fydda ni byth yn gwybod, ond mae angen i,r pwyllgor edrych ar hyn er mwyn y dyfodol. Diolch i pawb unwaith eto.
ReplyDeleteDydi Blogmenai ddim yn dileu sylwadau fel rheol - oni bai eu bod yn enllibus - ond dwi wedi chwalu cwpl oddi yma oherwydd eu bod yn gwneud sylwadau personol am rai o'r ymgeiswyr.
ReplyDeleteMae Albert Owen yn AS Ynys Mon oherwydd rhaniadau oddi mewn i'r Blaid yn lleol a achoswyd gan fethiant i dderbyn canlyniad proses ddewis.
Mae'n rhyfedd mor anodd mae un neu ddau yn ei chael i ddysgu gwersi syml.
Piti i glywed am hynny! Rhaid i BAWB cefnogi John Rowland, edrychaf ymlaen yn eiddgar at ganfasio ar ei ran a sicrhau ein bod yn adennill Mon unwaith yn rhagor!
ReplyDeleteO ran diddordeb, sut wnaeth Caergybi bleidleisio yn ystod yr isetholiad fis Gorffennaf ? Sut oedd y niferoedd a chanrannau'n cymharu gyda'r etholiadau lleol.
ReplyDeleteOs am ennill Ynys Mon, rhaid bwyta i mewn i bleidlais creiddiol Albert Owen yno, neu gobeithio fod UKIP yn mynd i wneud yr un peth.