Diolch o galon i Ioan am anfon y mapiau isod o Lannau'r Fenai a Mon / Gogledd Gwynedd. Mae wedi eu gwneud mewn glas yn ogystal a gwyrdd oherwydd nad ydw i'n gallu gwahaniaethu'n dda rhwng gwahanol fathau o wyrdd. Mae'r mapiau wedi eu adeiladu o'r ystadegau ardaloedd bach rydym wedi bod yn son amdanynt yn ddiweddar. Mae'r lliwiau tywyllad yn 95%> tra bod y rhai goleuaf yn 15%<.
Mae'r mapiau yn siarad trosynt eu hunain i raddau helaeth - y lliwiau tywyllaf o gwmpas y trefi mwyaf a'r pentrefi chwarel mawr a'r rhai goleuaf yn ninas Bangor, Ynys Cybi ac ambell i ardal wledig arall.
Mae'r mapiau yn siarad trosynt eu hunain i raddau helaeth - y lliwiau tywyllaf o gwmpas y trefi mwyaf a'r pentrefi chwarel mawr a'r rhai goleuaf yn ninas Bangor, Ynys Cybi ac ambell i ardal wledig arall.
Mae Hywel Jones yn swyddfa Comisynydd y Gymraeg wedi gwneud mapiau fel hyn ar gyfer pob un o'r siroedd.
ReplyDeleteSgren ti linc - methu ei ffeindio fo
ReplyDeleteFawr o syndod gweld llefydd megis Bangor a Chergybi yn wan ar y mapiau! Fel rhywun o Gaergybi mae dal yn siomedig. Dw i'n poeni am ddyfodol yr iaith yn y dref.
ReplyDeleteRoedd mapiau ar gael yn y Wales online hefyd, gyda'r mantais bod y ffigyrau ar gael o glicio ar unrhyw ardal, a 2001 a 2011 ochr yn ochr. Mae nhw yma: http://clairemiller.net/welshspeakers.html
ReplyDeleteMap rhyngwethiol yn dangos cymunedau yn lle wardiau, a ffigurau 2001 a 2011 yn popio i fyny pan ti'n clicio: http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/dataacystadegau/Pages/Cyfrifiad2011canlyniadauynolCymuned.aspx
ReplyDelete