Mae'n rhyfedd fel mae newid plaid yn gallu newid dyn. Un o'r pethau dwi'n ei gofio am ddyddiau Aelod Seneddol Toriaidd Aberconwy fel Pleidiwr oedd ei gadernid tros y Gymraeg. Os oedd rhyw neges neu'i gilydd nad oedd yn dangos parch digonol at y Gymraeg yn cyrraedd Arfon o gyfeiriad y Blaid yn ganolog arferai Guto fynegi ei anfodlonrwydd yn gwbl ddi flewyn ar dafod - a chware teg iddo am hynny.
Rydym eisoes wedi nodi bod blog Ceidwadwyr Aberconwy yn trin y Gymraeg fel iaith eilradd., ond mae'n ymddangos nad ydi pethau fawr gwell ar gyfri trydar personol Guto. Tra bod rhywfaint o drydar trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r mwyafrif llethol yn uniaith Saesneg. Gallwch ddilyn Guto (yn y Saesneg yn bennaf) ar @GutoBebb. Rwan dydi trydar ddim yn ymdrech fawr ac ni fyddai'n llafurus cynhyrchu cyfieithiad o pob neges.
Er fy mod yn awgrymu i bobl sydd eisiau trydar yn yr ddwy iaith i gyfansoddi negeseuon gwahanol yn y naill iaith a'r llall, 'dwi'n rhyw ddeall pam y byddai gwleidydd eisiaui'r hyn mae'n ei ystyried yn bwysig ymddangos yn y Saesneg. Ond mae'n ymddangos bod darparu fersiwn Gymraeg o'r negeseuon pwysig hynny ar gyfer etholwyr Cymraeg eu hiaith yn ormod o drafferth yn amlach na pheidio i Aelod Seneddol Aberconwy.

Un gwirion wyt ti Cai.
ReplyDeleteDwi ddim yn un am drydar ond ddoe fe fu i mi drydar llawer iawn am gamwerthu cynnyrch ariannol o'r enw Interest Rate Swap Derivatives. Yr oedd bron y cyfan o'r rhain yn yr iaith fain.
Fodd bynnag, dros y 24 awr diwethaf dyma wybodaeth am drydar rhai Aelodau Cynulliad. Awgrym falle fod blogiad Cai unwaith eto'n arwydd o ddiddordeb trist Cai mewn ymdrechu i fy mhardduo. Noder fod y wybodaeth yn adlewyrchu y 24 awr cyn 1.30 dydd Gwener;
Jonathan Edwards AS - 17 (s)aesneg a 3(c)ymraeg
Llyr Huws-Gruffydd - 8s a 1c
Hywel Williams AS - 0s a 4c
Rhun ap Iorweth - 3s a 1c
Leanne Wood - 4s a 1c
Jill Evans - 3s a 2c
Guto Bebb 7s a 2c
Felly dy bwynt ydi?
Pardduo! Haha! Guto ydych chi'n cefnogi'r bedroom tax? Ydych chi'n falch i fod yn rhan o lywodraeth a gyflwynwyd y bedroom tax sydd yn chwalu bywydau pobl ar draws Cymru, rydych yn pardduo'ch enw'ch hun trwy fod yn aelod o blaid sy'n chwalu bywydau pobl!
ReplyDeleteWedi edrych yn ol tros dy holl hanes trydar oeddwn i Guto - nid y 24 awr diwethaf braidd yn anwyddonol a dethol fyddai dewis sampl felly.
ReplyDeleteGyda llaw, does yna neb yn dy bardduo - mae gen ti hawl i drydar ym mha bynnag iaith ti eisiau - dydi trydar yn y Saesneg ddim yn anghyfreithlon na 'ballu. Ond mae gan y sawl ti'n gofyn iddyn nhw bleidleisio i ti hawl i wybod hefyd.