Cofgolofn yn Inverness yng nghalon Ucheldiroedd yr Alban i gofio tua chant a hanner o hogiau lleol a fu farw yn ymladd rhyw ryfel neu'i gilydd yn yr Aifft a Sudan rhwng 1882 a 1887.
Mae'n anodd dychmygu pa gysylltiad posibl oedd rhwng bywydau'r hogiau yma oedd wedi eu geni a'u magu yng nghanol mynyddoedd oer a gwlyb Gogledd yr Alban, gannoedd o filltiroedd o Fur Hadrian (heb son am Lundain), a bywydau'r hogiau o wastadiroedd crasboeth Gogledd Affrica roeddynt yn ymladd yn eu herbyn.
Mae yna ambell i batrwm o idiotiaeth aflednais sy'n ail godi genhedlaeth ar ol cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth.
Mae yna ambell i batrwm o idiotiaeth aflednais sy'n ail godi genhedlaeth ar ol cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth.
No comments:
Post a Comment