Wrth ddadlau yma, a mewn lleoedd eraill ar y We ynglyn a lle y dylid ad leoli S4C dwi wedi nodi bod y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn debygol o barhau i gwympo yn weddol gyflym yn y tymor canolig. Mae rhai wedi dehongli hyn fel honiad bod pethau yn anobeithiol i'r iaith yn Sir Gaerfyrddin. Nid dyna roeddwn yn ei ddweud - a dwi'n ymddiheuro os ydi pobl wedi cael yr argraff yna. Efallai mai'r ffordd orau i egluro pethau ydi trwy gyfeirio at y set o graffiau isod sydd wedi eu - ahem - benthyg o wefan y Comisiynydd Iaith. Graffiau yn manylu ar y canrannau o bobl o gwahanol oedran sy'n siarad yr iaith ydynt.
Mae yna ddau beth i sylwi arnynt mewn gwirionedd. Y cyntaf ydi bod graff Sir Gaerfyrddin yn wahanol i rai'r rhan fwyaf o'r siroedd eraill - mae'r canrannau uchaf sy'n siarad y Gymraeg ym mhob man arall ymysg plant ysgol. Mae lle i feddwl bod gor gyfrifiad o ran plant ysgol yn y rhan fwyaf o siroedd - dilynwch grwpiau plant 2001 ddeg mlynedd ymlaen i weld beth sy'n digwydd. Ond yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r gwahaniaeth mor fawr fel y gallwn gymryd bod mwy o blant ysgol yn siarad y Gymraeg na phensiynwyr. Does yna ddim gwahaniaeth mawr yn Sir Gaerfyrddin.
Yn Sir Gaerfyrddin mae pwysiad trwm at yr oedrannau hynaf. Os ydym yn cymryd bod gor gyfrifo plant ysgol tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn 2001 wedi digwydd yna y grwpiau hynaf ydi'r rhai sydd a'r ganran uchaf yn siarad y Gymraeg. Mewn sefyllfa felly mae'n anorfod y bydd y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn y sir yn parhau i gwympo am o bosibl dau ddegawd. Mae hefyd yn ddigon posibl y bydd y ganran sy'n siarad yr iaith yn y rhan fwyaf o weddill y wlad yn cynyddu tros y cyfnod hwnnw - er bod patrymau mewnfudo ac allfudo am ddylanwadu yn gryf ar hynny.
Yr ail beth i sylwi arno ydi'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg ymysg yr oedran 3/4 oed. Mae hwn yn oedran pwysig oherwydd nad ydi'r system addysg wedi dylanwadu llawer ar blant yr oed hwnnw. Os ydi'r ganran yn agos at ganran y cohort sy'n cael plant - 25 i 40 oed (Mae pobl ieuengach yn cael plant wrth gwrs - ond mae myfyrwyr yn effeithio'n drwm ar yr oedrannau hynny), gallwn gymryd bod y gymhareb trosglwyddiad yn dda.
Mae'r gymhareb honno yn rhoi lle i fod yn obeithiol ar hyd a lled Cymru. Mae ganran 3/4 oed yn agos at - ac yn aml yn uwch na - ganran y cohort sy'n cael plant. Mae hyn yn awgrymu bod trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall bellach yn effeithiol. Mae'r ffigyrau hyn yn gyfforddus uwch na rhai 2001. Mae'r raddfa trosglwyddiad yn Sir Gaerfyrddin yn cymharu'n ffafriol iawn a gweddill Cymru. Gallwn felly gymryd bod y diffyg trosglwyddiad yno yn rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol. Ond mae effaith y diffyg trosglwyddiad yn y gorffennol yn parhau i gael effaith negyddol ar y ganran sy'n siarad yr iaith, a bydd hynny'n wir am gyfnod gweddol faith yn anffodus.

Mae moddd gweneud yr un ddadl am Gymru gyfan yn gyffredinol, i ryw raddau. Mae'r canran ymysg y rhai mwyaf hen yn gyffredinol uwch na'r modd yn y rhan fwyaf (ym mhob un?) o'r siroedd.
ReplyDeleteDylwn felly disgwyl gweld canran y siaradwyr yn y tymor byr yn tyfu'n arafach, neu hyn yn oed lleihau.
"Yr ail beth i sylwi arno ydi'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg ymysg yr oedran 3/4 oed. Mae hwn yn oedran pwysig oherwydd nad ydi'r system addysg wedi dylanwadu llawer ar blant yr oed hwnnw."
ReplyDeleteDwi'n siw'r mod i wedi darllen bod canran o blant 4 oed dipyn yn uwch na un 3 oed. Mae pawb sydd yn bedair oed ar ddiwrnod y Cyfrifiad, a'u penblwydd rhwng Ebrill ac Awst wedi bod yn yr Ysgol ers wyth mis.
Ddim cweit yn wir BoiCymraeg:
ReplyDelete....................... % 25-39 .. % 75+ .. Gwahaniaeth
Caerfyrddin ..... 37.1% ... 52.8% ... -15.7%
Neath Port Talbot 11.1% . 17.6% . -6.5%
Abertawe ........... 7.7% ... 14.1% ... -6.5%
CYMRU ….......... 15.5% ... 17.5% ... -1.9%
Conwy …........... 29.0% ... 23.3% ... 5.7%
RCT …................ 12.3% ... 5.7% ... 6.6%
Caerphilly …...... 9.2% ... 2.5% ... 6.7%
Gwynedd …....... 69.1% ... 60.7% ... 8.3%
Ynys Mon …....... 60.3% ... 51.8% ... 8.4%
Sir Gaerfyrddin yn sefyll allan.
a dylid ystyried hefyd fod y mewnlifiad wedi bod yn llawer trymach yng Ngwynedd, Sir Fôn a Cheredigion nag yn Sir Gâr (dydi Cwm Gwendraeth a Chwm Aman ddim yn ddeniadol nag ydynt?) Mae dros 80% o boblogaeth y cymoedd hynny wedi'u geni yng Nhymru. Er bod yna lefydd sâl o ran trosglwyddiad iaith yn y Gogledd fel Bangor a Chaergybi mae'r iaith yn dal ei thir yn go lew yn y trefydd ôl-ddiwydiannol ac hyd yn oed yng nghefn gwlad er gwaetha ac yn nannedd mewnlifiad cyson o bobl ddiarth
ReplyDeleteEr hyn i gyd, rwyf o blaid symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin. Mi roith hwb i'r iaith ac efallai caiff yr iaith oroesi yn Sir Gâr o ganlyniad...fel arall bydd hi 'di darfod arni toc mae arnaf ofn
Reit, cwpl o bwyntiau diddorol yma.
ReplyDeleteMae Ioan yn gywir bod gwahaniaeth yn y ganran o blant 3 a 4 oed sy'n siarad Cymraeg. Yn 2001 roedd 86.5% o blant lle'r oedd y ddau riant yn siarad y Gymraeg hefyd yn siarad yr iaith. Y ffigwr am blant 3 oed oedd 80.7%.
Dwi ddim yn derbyn rhagdybiaeth Wiliam y byddai S4C yn Sir Gar yn gwneud gwahaniaeth a dwi ddim yn derbyn ei bod wedi darfod ar yr iaith yno chwaith. Mae'r ystadegau yr ydym yn eu trafod yn awgrymu y bydd cwymp am ddegawd neu ddau ac y bydd cynnydd wedyn.
Boi Cymraeg - heb fynd yn rhy dechnegol, dydi effaith cohorts pobl cymharol hen ddim cyn gryfed na rhai pobl ieuengach - mae yna llai o unigolion o fewn y cohorts hyn - am resymau amlwg. O ganlyniad dydi dylanwad pobl hyn ar y cymedr sy'n siarad y Gymraeg ddim mor gryf a hynny.
Dyw'r iaith ddim wedi darfod amdani yn Sir Gar, ond fydd lleoli S4C yn y sir yn gwneud fawr o wahaniaeth chwaith. Mae'r byd cyfryngol yn un symudol o ran gyrfa unigolion, ac mae na beryg mai'r cwbl sa'n digwydd o roi S4C yng Nghaerfyrddin fyddai i bobl uchelgeisiol losgi llawer iawn o CO2 ar yr M4 wrth gymudo o Gaerdydd. Os yw pobl yn ddiffuant o blaid lleoli yn y de-orllewin yna fe fyddai'n rhaid mentro i Geredigion; i Ddyffryn Teifi neu Ddyffryn Aeron.
ReplyDeleteRwy'n bleidiol i Gaernarfon beth bynnag. Mae eisiau datblygu glannau Menai fel 'dinas-ranbarth' Gymraeg.
Hwyrach fy mod wedi bod yn fyrbwyll wrth roi Caerfyrddin ymlaen ond rwy'n dal i ochri hefo Ioan cyn belled â mae dirywiad yr iaith yn Si Gâr yn y cwestiwn.
ReplyDeleteMae gennym dair ffynhonnell: y cyfrifiad, arolygon y Bwrdd Iaith a data ysgolion a rhieni. Fel rwyf wedi deud o'r blaen mae'r cyfrifiad yn gamarweiniol. Mae arolygon y Bwrdd Iaith yn awgrymu fod 60% o'r rhai sy'n honni eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rhyw 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg a tua 12% (neu 300,000) yn rhugl. Wrth gwrs mae canrannau y rhai rhugl yn uwch yn y Gorllewin ac ymhlith y rhai hen os cofiaf yn iawn ond yn bendant mae'r cyfrifiad yn gorliwio iechyd y Gymraeg hyd yn oed yn fanno.
Trown rwan at y drydedd ffynhonnell sef y cyfrifiad ysgolion (cynradd). Mae'r data i'w cael yn y wefan hon:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121001section8ency.xls
Maent yn ddiweddar (2011/12) ac yn fwy gwrthrychol na'r cyfrifiad yn fy marn i er mai'r rhieni sydd yn gwerthuso gallu ieithyddol eu plant (yr un fath â'r cyfrifiad!)
22.4% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr. Y ffigyrau cyfatebol yn siroedd eraill y Gorllewin yw Gwynedd 57,6%, Môn 38.3% a Cheredigion 26.2% Er bod y mewnlifiad wedi bod yn fwy yn y tair sir hon, mae'r ganran o Gymry cynhenid yn uwch (am fod trosglwyddiad iaith yn uwch)
Ond wrth graffu ar y plant sydd yn dôd yn rhugl yn yr ysgol gynradd (yn ôl y RHIENI, cofiwch!) mae gwallt fy mhen yn codi:
Sir Gâr 17.7%
Gwynedd 6.8%
Môn 7.4%
Ceredigion 5.6%
Annodd coelio fod system addysg Sir Gâr bron dairgwaith gwell na Gwynedd, Môn a Cheredigion am gynhyrchu Cymry rhugl yn yr ysgol
Pan newidwyd y ffordd o werthuso iaith plant ym 2006 cododd canrannau y plant oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd am fod rhieni yn fwy tebyg o ddeud fod eu plant yn Gymry na'r athrawon (Cai fel athro be dechi'n feddwl?). Ni wn pa fethodoleg sy'n drywach a rwy'n siwr fod yna resymau da am newid y fethodoleg ond y gwir plaen ydi fod bron 80% o blant Si Gâr yn siarad Saesneg ar yr aelwyd (sef yr un ganran oedd yn siarad Cymraeg yng nghyfrifad 1961! Mae'n wir hefyd fod y dirywiad wedi dechrau 50 mlynedd yn ôl a chynt (dim ond 45% o blant ysgol oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr ym 1961!) Ond y drwg ar y cyfrifiad ydi'r ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio = mae'r Cymry Cymraeg cynhenid yn byw yn hyn ac yn caddugo'r dirywiad!
Rwy'n cael yr argraff fod rhieni'r siroedd eraill yn llymach wrth gloriannu Cymraeg eu plant. Mae cogio dy fod yn siarad Cymraeg yn annoddach yng Ngaernarfon hefyd decien i
Awn ni rwan i ardal Rhydaman i sbïo ar adroddiadau ysgol (2010 a 2013 yn achos Bewts). Dyma a gefais (nifer y plant a'r % o Gymry cynhenid mewn cromfachau):
Ysgol G. Rhydaman 225 (30%)
Ysgol Bro Banw 411 (8%)
Ysgol Ty Croes 173 (2.3%)
Ysgol Betws 77 (<3%)
CYFANSWM 886 ( 12%)
Mae'n frawychus. Yn yr ardal hon yn 1971 oedd >75% yn siarad Cymraeg. Ond hyd yn oed ym 2011, yn ôl y sensws oedd 49% yn siarad Cymraeg yn Rhydaman, 47% yn Nhy Croes a 53% ym Mhontaman (Betws). Os ydi 12% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd mewn ardal lle mae'r cyfrifiad yn sôn am 50% pa obaith sydd?.......Yn y genhedlaeth nesaf os priodith y 12% hefo'i gilydd bydd 12% o Gymry ar yr aelwyd. Ond os priodant hefo pobl eraill aiff y ganran i lawr i 1-2%.
Mae'r sefyllfa'n dipyn gwell mewn rhai pentrefi o gwmpas Rhydaman (Llandybïe, Brynaman, Garnant a Chwm Gwendraeth) ond hyd yn oed yn y llefydd hynny sydd yn debyg eu naws i Stiniog, Pesda a Llanberis mae canran y Cynry cynhenid yn yr ysgolion cynradd o dan 40%...
Nid wyf am feirniadu'r ysgolion a hwyrach yr aiff rhai o'r dysgwyr ati i siarad Cymraeg ar yr aelwyd ond rhaid inni wynebu'r ffeithiau
Mae yna newidiadau ar y gweill yn ysgolion uwchradd fydd yn hybu'r Gymraeg ond os marw (a marw ydi'r gair, Cai) bydd yr iaith ar yr aelwyd i be ydio o da?
Diolch William.
ReplyDeleteYnglyn a'r cwestiwn os mai asesiad rhieni ta athrawon o iaith cartref plant mae'n gwestiwn diddorol. Dydi iaith cartref llawer o blant ddim yn 'clearcut' - mae plant weithiau yn siarad ieithoedd gwahanol efo gwahanol bobl yn y cartref. Hefyd dydi hi ddim pob amser yn glir pa iaith mae plentyn tair oed yn ei siarad. Mae rhieni yn tueddu i ddweud Cymraeg os oes peth Cymraeg yn cael ei siarad yn y cartref tra bod penaethiaid yn tueddu i ddweud Cymraeg os ydi'r aelwyd yn ddi amwys Gymraeg. Felly mewn ffordd mae'r ddau ffigwr yn gywir - ond yn wahanol.
Dydw i ddim yn meddwl dy fod yn gywir i ddweud mai rhieni sy'n pennu rhuglder plant ar ol cyfnod yn yr ysgol gynradd - dwi'n meddwl mai ffigyrau penaethiaid ydi'r rheini .
Serch hynny mae'r darn yn hynod ddifyr - wna i ddim ymateb eto - dwi angen amser i feddwl am y peth. Serch hynny mi bostia i dy neges ar y dudalen flaen yn y cyfamser i ysgogi trafodaeth.
I beth mae'r dipiau mawr ymysg pobl ifanc yng Ngwynedd a Cheredigion i'w briodoli - y prifysgolion?
ReplyDeleteIa - mae miloedd o fyfyrwyr o'r tu hwnt i Gymru yn y ddwy sir.
ReplyDelete