Saturday, September 14, 2013

UKIP a'r Gymraeg

Diolch i Glyn Beddau am dynnu sylw at yr Aelodau Senedd Ewrop a bleidleisiodd yn erbyn mesur i amddiffyn ieithoedd lleiafrifol Ewrop:

                                                           John Stuart AGNEW Ukip
Nigel FARAGE Ukip 
 
Y trydydd i lawr ydi John Bufton, un o Aelodau Senedd Ewrop Cymru.  Mae'n cael ei hun yn y sefyllfa ryfedd braidd o bleidleisio yn erbyn cymryd camau i amddiffyn iaith genedlaethol y wlad mae'n byw ynddi. Cymharol ychydig a bleidleisiodd yn erbyn - Ffrancwyr adain Dde, neu adain le eithafol - neu eithafwyr adain Dde o'r Iseldiroedd oedd pawb arall ag eithrio un. 

Rwan, 'dwi'n gwybod nad oes fawr neb sy'n darllen Blogmenai yn pleidleisio i UKIP - ychydig o Gymry Cymrarg sy'n gwneud hynny.  Ond mewn system gyfrannol - fel a geir yn etholiadau Ewrop a'r Cynulliad, mae peidio a phleidleisio yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff pobl fel Mr Bufton eu hethol. 

4 comments:

  1. Yn syml iawn yn llygaid UKIP tydi`r iaith Cymraeg ddim yn bodoli. Dwi`n siwr os byswn yn edrych yn fwy dyfn meddyliau bobol UKIP a`i cefnogwyr, (rhyfedd iawn) yma yng Nghymru. Gwelwn yn siwr bod popeth ddi-Saesnegaidd, e.e ti a fi y Cymry a ein gyfeillion ar draws Ewrop ag y byd yn gelynion.

    Pam dywedwch? Wel... Rydym ni y Cymry fel ein gyfeillion rhwngwladol wedi camu ymlaen, camu ymlaen or syniadaeth hurt bost sydd gan bobl "Middle England" or trais eithiafwyr Dde bod rhaid aros yn unig a fod y plentyn bach unig sydd ddim eisiau datblygu gyda`i ffrindiau rhwngwladol.

    Perrygl hyn yw bod mae yna llawer iawn or Cymry ar goll sydd yn cael ei achos hefo`r dirwasgiad. Mae rhaid agor llygaid y bobol ir perryglon yn gwleidyddiaeth UKIP. Yn fy marn i Plaid Bai yw UKIP, Plaid sydd angen rhoi Bai ar rhywin new rhywbeth ar drwg y Cenhedlaeth.

    Yn nol at y pwnc. UKIP ag y iaith... Jolly Rotten! Good old boy!

    ReplyDelete
  2. David3:53 am

    Wneith y ddeddfwriaeth hon ddim lles i'r Gymraeg. Camau eithaf gwan mae'n galw amdanynt: maen nhw'n digwydd yng Nghymru ers degawdau. (Ffrainc yw'r gwir darged dwi'n cymryd).

    Hefyd, mae'n galw am ragor o "addysg ddwyieithog", sy'n beth peryglus. Addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. Y camsyniad o "ddysgu dwyieithog" yw un o'r bygythiadau mwyaf i hynny.

    Mewn system ddatganoledig, mae yna bedwar ymateb rhesymol i unrhyw ddeddfwriaeth o'r canol:

    1. Gwych!
    2. Dwi'n anghytuno â'r egwyddor.
    3. Ddylai'r mater gael i datganoli.
    4. Mae'r ddeddfwriaeth wedi'i drafftio'n wael.

    Dwi'n cymryd mai rhif 3 a/neu 2 yw barn UKIP (maen nhw am ddatganoli *popeth* o Ewrop i'r DU). Rhif 4 fyddai fy marn i, ac o bosib rhif 3. (Ai ar lefel Ewrop ddylen ni bennu mai "addysg ddwyieithog" yw'r ffordd ymlaen?) Yr unig reswm byddwn i'n cofnogi hwn yw i helpu pobl gwledydd megis Ffrainc lle mae'r llywodraeth yn llethu ieithoedd llai.

    Cyn ffurfio'ch barn, darllenwch y testun ac ystyriwch: 1. A fydd hwn yn helpu'r Gymraeg, a 2. Ai yn Ewrop neu yng Nghymru dylid llunio polisi iaith Gymraeg y llywodraeth?

    http://www.europarl.europa.eu/sides/getDoc.do?type=REPORT&reference=A7-2013-0239&language=EN

    (Yn unol â chyfansoddiad yr UE, nid yw'r ddeddfwriaeth ar gael yn Gymraeg; ac o brofiad, mae'n debyg na fydd y siopau siarad mae am eu creu'n siarad Cymraeg chwaith!)

    ReplyDelete
  3. Diolch am y linc David.

    Ym mhle mae'r adroddiad yn sôn am gynyddu addysg ddwyieithog?

    Yn fy marn i, mae pob un pwynt ar gyfer yn y ddogfen yn 'Gwych'.

    Diolch i ymgyrchoedd dros y degawdau mae Cymru ar y blaen ar nifer o'r pwyntiau. Dwi'n falch bod Cymru wedi helpu datblygu consensws rhyngwladol call i helpu cymunedau llai llwyddiannus. Baswn yn falch petai orfodaeth o Senedd Ewrop/Uned Ewropeaidd ar ein Llywodraeth yng Nghaerdydd ar rhai o'r pwyntiau sydd angen eu gweithredu ar frys.

    Dwi'n siŵr bod UKIP wedi pleidleisio er mwyn cynnal 'tyrrany of the majority' yn Llundain. O ddilyn eu syniadaeth i'r eitha basa UKIP eisio Prydain tynnu allan o gytundebau a chyfreithiau rhyngwladol.

    ReplyDelete
  4. Difir iawn! Yn ôl yn 2009 cefais fy mlagardio genyt am godi yr union un bwynt; bod lol IWCIP yn apelio at ambell i Gymro "gwladgarol" sy' ddim yn deallt reddf wrth Gymreig y blaid, a bod angen dangos mae blaid sydd a chasineb tuag at Gymru a'r Cymraeg yduyw

    ReplyDelete