Tuesday, September 17, 2013

A'r broblem fach efo araith Adam Price



Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn y Galeri yn gwrando ar Adam Price yn traddodi araith benigamp ar ddiwrnod Glyndwr ddoe.  Er i Adam orffen ei araith trwy dynnu tair gwers i'r Mudiad Cenedlaethol o hanes Owain - yr angen am weledigaeth genedlaethol sy'n debygol o arwain at wahaniaeth materol i fywydau pobl, yr angen i gyngrheirio pan mae hynny'n briodol a phwysigrwydd arweinyddiaeth dorfol yn hytrach nag arweinyddiaeth unigol.

Er mai'r cyntaf a'r trydydd sydd mwyaf diddorol i mi, y busnes cyngrheirio gafodd sylw'r wasg - yn benodol y syniad o lywodraethu efo'r Lib Dems.  Dwi'n rhannu optimistaeth Adam am ragolygon y Blaid yn 2016, ac mae'n hawdd gweld apel llywodraethu efo'r Lib Dems yn hytrach na'r pleidiau unoliaethol eraill.  Ond y broblem ydi hyn - o dan yr amgylchiadau sydd ohonynt, dim ond un sedd y gellir rhagweld gydag hyder y byddai'r Lib Dems yn ei hennill yng Nghymru - un Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.  Mae yna gryn le i gredu y byddai UKIP yn ennill mwy o bleidleisiau na'r Lib Dems ar lefel ranbarthol petai etholiad yn cael ei chynnal heddiw.  Dydi hi ddim yn hawdd i blaid sy'n bumed ennill sedd ranbarthol.  Bydd rhaid i'r tirwedd etholiadol symud cryn dipyn cyn y gellir darogan nifer barchus o seddi rhanbarthol.

8 comments:

  1. O ddarllen ei sylwadau mae hefyd yn awgrymu mynd i mewn i 'glymblaid mewn popeth ond enw' efo'r Ceidwadwyr. Dyna'r unig ffordd y gallai'r mathamateg ma weithio.

    ReplyDelete

  2. Ddaeth hynny ddim drosodd.yn yr araith.

    Dydi clymbleidio efo'r Toriaid ddim yn bosibl yn yr amgylchiadau yma - yn rhannol oherwydd bod y Blaid eisoes wedi gwarantu i beidio a gwneud hynny, ac yn rhannol oherwydd yr hinsawdd etholiadol.

    Mae hi hefyd yn dactegol ddoeth i'r Blaid ei gwneud yn glir na fyddai yn clymbleiio efo'r Toriaid. O wneud hynny mae'n amhosibl i'r Toriaid lywodraethu, ac mae creu canfyddiad felly yn etholiadol niwridiol iddynt.

    Serch hynny roedd gan yr SNP gytundeb o fath efo'r Toriaid cyn 2011. Ond yn amlwg byddai'r Toiaid eisiau rhywbeth am gefnogaeth lled braich felly.

    ReplyDelete
  3. Dyma union sylwadau Adam:

    "... while there could be no Conservative ministers in a Plaid-led government, a Plaid-Lib Dem minority administration would need to do a deal with the Conservatives for support on the Budget and on motions of confidence. There is a precedent for such an arrangement – the Conservatives offered that kind of limited support to the minority SNP administration in Scotland between 2007 and 2011."

    Clymblaid mewn popeth one enw, felly...

    Yn anffodus mae'n mynd i fod yn amhosib i gicio Llafur allan heb i PC a'r Ceidwadwyr ddringo i mewn i'r gwely efo'i gilydd. Dyw'r syms ddim yn gwneud synnwyr unrhyw ffordd arall.

    ReplyDelete
  4. Anonymous3:43 pm

    Yn union Blogmenai - ma'r Lib Dems yn seriously in decline .

    ReplyDelete
  5. Adam Price yn meddwl bydd cyfanswm seddi Plaid Cymru a'r Dem Rhydd yn fwyafrif yn y cynulliad

    Idiot. Guru economaidd sy'n methu adio i fyny at 30. Arglwydd mawr.

    ReplyDelete
  6. Ifan. Yn Gymraeg oedd yr araith wrth gwrs. O bosibl roedd yr hyn a roddwyd i Dail y Post ychydig yn fwy uniongyrchol. Ond dwi'n derbyn dy bwynt yn gyffredinol - ond fydd yna ddim clymblaid yn ystyr arferol y gair hwnnw rhwng y Blaid a'r Toriaid - mi fedra i dy sicrhau di. Mae cynnig rhywbeth neu'i gilydd er mwyn cael cyllideb wedi ei phasio yn fater gwahanol wrth gwrs.

    Dai. Mi fydd yna amser yn y dyfodol pan fydd gan rhyw blaid neu'i gilydd fwy o seddi na Llafur yng Nghymru - naill ai hynny neu bod Cymru yn unigryw i'r graddau ei bod yn rhoi mwyafrif i un blaid am byth. Mae'n debygol mai'r Blaid fydd yn gwneud hynny - ond yr hyn sydd ddim yn glir ydi os mai yn 2016 y bydd yn digwydd.

    ReplyDelete
  7. Anonymous5:05 pm

    Mae Ifan a Dai yn cymryd yn ganiataol mai'r Blaid Lafur fydd y blaid fwyaf yn 2016. Mae'n rhaid i Blaid Cymru fod yn uchelgeisiol, gan anelu at gael mwy na 30 sedd. Mae'n bosib bod hynny'n swnio'n wirion o uchelgeisiol - ond dyna'r nod - llywodraethu â llywodraeth Plaid Cymru. Nos sydd yn dal i fod yn uchelgeisiol yn agosach at gyrraedd y Blaid yw ceisio cael un yn fwy na Llafur. Dwi'n tybio byddai gofyn cyrraedd tua 22 i wneud hynny. O gofio y cafodd Plaid Cymru 17 sedd ym 1999, wedyn mae 22 yn dechrau swndio fel targed y dylai'r Blaid anelu ati er mwyn bod ceisio bod y brif blaid mewn llywodraeth.

    Iwan Rhys

    ReplyDelete
  8. "Mae Ifan a Dai yn cymryd yn ganiataol mai'r Blaid Lafur fydd y blaid fwyaf yn 2016".

    Ydw. Fel unrhyw un chwarter call.

    ReplyDelete