Thursday, August 01, 2013

Ynys Mon - diweddariad bach

Dwi'n deall i 65% o bleidleisiau post Ynys Mon gael eu dychwelyd bellach, ac mae'n debyg y bydd mwy yn dod i law cyn diwedd heddiw.  Ymddengys i gryn dipyn ddod i law yn gymharol hwyr  felly.  Mae'n bosibl  y bydd yn agos at 70% wedi dod i mewn  erbyn diwedd heddiw.  Dydi hyn ddim yn brin iawn o'r gyfradd arferol - felly mae'n bosibl y bydd y gyfradd gyffredinol yn uwch na'r 40% a awgrymwyd gennyf ddoe.  

3 comments:

  1. Ddarllenais i hyn hefyd, ac ro'n i wedi fy synnu braidd. Os mae'r hyn wyt ti'n ei ddweud am Rhun yn bod ar y blaen yn y pleidleisiau post yn wir (a bod hynny'n parhau er bod y ganran ohonynt a ddychwelwyd mor uchel) mae'n bosibl y gallai fod yn edrych ar fuddugoliaeth go swmpus.

    Serch hynny, dwi ddim isio jincsio dim!

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:07 am

    Dwi'n anghytuno efo pleidleisiau post. Mae nhw wastad yn ffafrio'r blaid leol sydd mewn grym. Bydd lot o weithwyr a chynghorwyr lleol yn 'pwyso' ar hen bobl, pobl mewn angen, pobl dlawd - pobl sydd yn syml methu fforddio bod yn annibynnol - iddynt bleidleisio'r ffordd iawn.

    Mae pleidleisiau post yn llwgr.

    ReplyDelete
  3. Anonymous6:32 pm

    plant bach y blaid yn dawnsio ar y flyover yn LPG henno.

    ReplyDelete