Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol o'r ymarferiad estynedig mewn hunan bwysigrwydd a hunan gyfiawnder sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar flog Syniadau ers wythnosau bellach. Cynhyrchwyd miloedd o eiriau - y rhan fwyaf ohonynt naill ai yn ymosod ar ymgeisydd y Blaid - Rhun ap Iorwerth, neu arweinyddiaeth y Blaid neu'n cyfiawnhau ymddygiad eithriadol awdur y blog, Michael Haggett.
Rhag ofn nad oes gennych y stumog i wneud eich ffordd trwy'r miloedd o eiriau - mae awdur Syniadau - dyn sydd yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru o bellafion Llundain - wedi cael y strop mwyaf ofnadwy oherwydd i Rhun ap Iorweth gael ei ddewis i sefyll tros y Blaid yn is etholiad Ynys Mon, ac wedi mynd ati i boeri ei ddwmi allan o'r pram a chicio a strancio yn gyhoeddus ers y penderfyniad hwnnw.. Mae llawer o'r strancio wedi cymryd ffurf ymysodiadau hynod bersonol ac anymunol ar Rhun - ymysodiadau sydd ymhell y tu hwnt o ran mileinder a malais i'r hyn y bydd gelynion pleidiol yn ymdrybaeddu ynddynt fel rheol. Mae'r ffordd mae'r ymgyrch wedi ymdrin ag ynni niwclear yn wrthrych llawer o'r strancio.
Mae'r holl bennod yn codi nifer o faterion sy'n ymwneud a blogio, gwleidyddiaeth ac un blogiwr penodol.
Yn naturiol ddigon mae gelynion y mudiad cenedlaethol wedi cymryd cryn gysur o hyn oll. Roedd cyfri trydar @Labour4YnysMon yn dyfynnu'r ymysodiadau personol ar Rhun oedd yn cael eu cynhyrchu gan Haggett fel petai fo oedd y Blaid a bod y Blaid yn ymosod yn bersonol a maleisus ar Rhun. Oherwydd bod yr etholiad yn Ynys Mon doedd gan y rhan fwyaf o'r cyfryngau prif lif yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb ynddi (Oh God that's somewhere to the north of Merthyr isn't it? We're not sending anyone to somewhere like that) felly mi wnaethant lunio eu naratif ar yr hyn oedd ar gael iddynt - doethinebu ar lein y boi o Lundain sy'n ' sgwennu yn yr unig iaith mae gohebwyr Trinity yn ei deall.
Fel roedd yn digwydd doedd hyn oll ddim ots o safbwynt etholiadol - does ' na neb yn Ynys Mon yn darllen Syniadau, y Western Mail na Walesonline. A phetaent yn cael eu gorfodi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'w darllen ni fyddant yn cymryd y mymryn lleiaf o'r cynnwys. Mae Brynsiencyn a CF10 (heb son am Lundain bell) miliwn o filltiroedd oddi wrth ei gilydd o safbwynt canfyddiad o'r Byd a'i bethau. Ond o dan amgylchiadau eraill gallai'r holl beth fod yn niweidiol. Mae yna rannau o Gymru sy'n ymddiddori yn ac yn credu'r hyn sydd gan y Western Mail i'w ddweud. Mewn etholiad cyffredinol neu Gynulliad gallai diogi a diffyg crebwyll y cyfryngau Cymreig fod wedi creu canfyddiad o hollt ar sail tantro cyhoeddus un aelod o'r Blaid sy'n digwydd cadw blog.
Mae cwestiynau eraill yn codi. Dwi'n gwybod bod pethau yn newid rwan - ond mae gwendidau hanesyddol yn y ffordd mae'r Blaid yn llunio polisi. Mae cyfeiriad polisi y Blaid ar hyn o bryd yn ei gyrru i'r lle cywir - i dir lle y gall herio Llafur - tuag at ddatblygu a chryfhau'r economi. Byddai economi gryf yn ei gwneud yn llawer haws i'r Blaid fynd ar ol ei pholisi hir dymor o sefydlu statws cyfartal i Gymru a gwledydd eraill Ewrop. Ond eto mae gennym bolisi sy'n awgrymu ein bod yn fodlon gwrthod buddsoddiad o hyd at £10bn a miloedd o swyddi - polisi sydd wedi ei wreiddio yng ngwleidyddiaeth stiwdants chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf - cyfnod oedd yn parhau i fod o dan gysgod Hiroshima. Nagasaki, cyfnod pan nad oedd neb yn meddwl am gyfyngu ar y carbon oedd yn cael ei bwmpio i'r awyrgylch, cyfnod pan roedd diwydiannau oedd wedi eu gwladoli yn sicrhau cyflogaeth llawn i bob pwrpas yng Nghymru, cyfnod cwbl wahanol i'n cyfnod ni, heddiw.
Ond mae yna fwy i hyn oll na gwendidau'r cyfryngau Cymreig, a phroses greu polisi sy'n gadael y Blaid efo polisiau anaddas i amgylchiadau cyfoes. Mae'r bennod ryfedd yn dweud llawer wrthym am flogio gwleidyddol yn gyffredinol a byd mewnol un blogiwr penodol. Gall blogio fwydo hunan bwysigrwydd dyn pan mae gwahanol gyfryngau prif lif yn tynnu ar y blog i greu eu naratif. Dydi hynny ddim llawer o ots pan mae gan y blogiwr synnwyr o berspectif o'i le ei hun yn y byd, ond pan mae'n greadur hunan bwysig beth bynnag mae perygl iddo chwyddo i fyny fel balwn - ac fel mae'n cael ei ddyfynnu mwy, mae'n sgwennu pethau mwy eithafol ac afresymol er mwyn cael ei ddyfynnu eto ac eto ac eto - er mwyn teimlo yn bwysicach, ac yn bwysicach ac yn bwysicach.
Ond y cwbl sydd yno yn y diwedd ydi un boi efo'i obsesiynnau yn eistedd ar ei ben ol wrth gyfrifiadur yn Llundain yn bwydo ei hunan bwysigrwydd trwy danseilio ei blaid - tra bod aelodau'r blaid honno - pobl mae'n honni ei fod yn siarad ar eu rhan - cannoedd ohonyn nhw - mwy na sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw ymgyrch tros y Blaid o'r blaen - yn treulio dyddiau maith yng ngwres yr haf yn hawlio'r etholiad ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref. Llawer ohonyn nhw yn aberthu eu gwyliau, yn teithio ac yn aros ym Mon ar eu cost eu hunain, ac yn cerdded a cherdded a cherdded yn y gwres tanbaid.
Mae aelodaeth o blaid yn galw am hunan ddisgyblaeth, gwyleidd-dra, parch at gyd aelodau a dealltwriaeth nad ni fel unigolion ydi canol y Bydysawd. Mewn geiriau eraill mae rhaid wrth aeddfedrwydd personol. Does yna ddim arwydd o hynny ar flog Syniadau tros y mis diwethaf.
Rhag ofn nad oes gennych y stumog i wneud eich ffordd trwy'r miloedd o eiriau - mae awdur Syniadau - dyn sydd yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru o bellafion Llundain - wedi cael y strop mwyaf ofnadwy oherwydd i Rhun ap Iorweth gael ei ddewis i sefyll tros y Blaid yn is etholiad Ynys Mon, ac wedi mynd ati i boeri ei ddwmi allan o'r pram a chicio a strancio yn gyhoeddus ers y penderfyniad hwnnw.. Mae llawer o'r strancio wedi cymryd ffurf ymysodiadau hynod bersonol ac anymunol ar Rhun - ymysodiadau sydd ymhell y tu hwnt o ran mileinder a malais i'r hyn y bydd gelynion pleidiol yn ymdrybaeddu ynddynt fel rheol. Mae'r ffordd mae'r ymgyrch wedi ymdrin ag ynni niwclear yn wrthrych llawer o'r strancio.
Mae'r holl bennod yn codi nifer o faterion sy'n ymwneud a blogio, gwleidyddiaeth ac un blogiwr penodol.
Yn naturiol ddigon mae gelynion y mudiad cenedlaethol wedi cymryd cryn gysur o hyn oll. Roedd cyfri trydar @Labour4YnysMon yn dyfynnu'r ymysodiadau personol ar Rhun oedd yn cael eu cynhyrchu gan Haggett fel petai fo oedd y Blaid a bod y Blaid yn ymosod yn bersonol a maleisus ar Rhun. Oherwydd bod yr etholiad yn Ynys Mon doedd gan y rhan fwyaf o'r cyfryngau prif lif yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb ynddi (Oh God that's somewhere to the north of Merthyr isn't it? We're not sending anyone to somewhere like that) felly mi wnaethant lunio eu naratif ar yr hyn oedd ar gael iddynt - doethinebu ar lein y boi o Lundain sy'n ' sgwennu yn yr unig iaith mae gohebwyr Trinity yn ei deall.
Fel roedd yn digwydd doedd hyn oll ddim ots o safbwynt etholiadol - does ' na neb yn Ynys Mon yn darllen Syniadau, y Western Mail na Walesonline. A phetaent yn cael eu gorfodi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'w darllen ni fyddant yn cymryd y mymryn lleiaf o'r cynnwys. Mae Brynsiencyn a CF10 (heb son am Lundain bell) miliwn o filltiroedd oddi wrth ei gilydd o safbwynt canfyddiad o'r Byd a'i bethau. Ond o dan amgylchiadau eraill gallai'r holl beth fod yn niweidiol. Mae yna rannau o Gymru sy'n ymddiddori yn ac yn credu'r hyn sydd gan y Western Mail i'w ddweud. Mewn etholiad cyffredinol neu Gynulliad gallai diogi a diffyg crebwyll y cyfryngau Cymreig fod wedi creu canfyddiad o hollt ar sail tantro cyhoeddus un aelod o'r Blaid sy'n digwydd cadw blog.
Mae cwestiynau eraill yn codi. Dwi'n gwybod bod pethau yn newid rwan - ond mae gwendidau hanesyddol yn y ffordd mae'r Blaid yn llunio polisi. Mae cyfeiriad polisi y Blaid ar hyn o bryd yn ei gyrru i'r lle cywir - i dir lle y gall herio Llafur - tuag at ddatblygu a chryfhau'r economi. Byddai economi gryf yn ei gwneud yn llawer haws i'r Blaid fynd ar ol ei pholisi hir dymor o sefydlu statws cyfartal i Gymru a gwledydd eraill Ewrop. Ond eto mae gennym bolisi sy'n awgrymu ein bod yn fodlon gwrthod buddsoddiad o hyd at £10bn a miloedd o swyddi - polisi sydd wedi ei wreiddio yng ngwleidyddiaeth stiwdants chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf - cyfnod oedd yn parhau i fod o dan gysgod Hiroshima. Nagasaki, cyfnod pan nad oedd neb yn meddwl am gyfyngu ar y carbon oedd yn cael ei bwmpio i'r awyrgylch, cyfnod pan roedd diwydiannau oedd wedi eu gwladoli yn sicrhau cyflogaeth llawn i bob pwrpas yng Nghymru, cyfnod cwbl wahanol i'n cyfnod ni, heddiw.
Ond mae yna fwy i hyn oll na gwendidau'r cyfryngau Cymreig, a phroses greu polisi sy'n gadael y Blaid efo polisiau anaddas i amgylchiadau cyfoes. Mae'r bennod ryfedd yn dweud llawer wrthym am flogio gwleidyddol yn gyffredinol a byd mewnol un blogiwr penodol. Gall blogio fwydo hunan bwysigrwydd dyn pan mae gwahanol gyfryngau prif lif yn tynnu ar y blog i greu eu naratif. Dydi hynny ddim llawer o ots pan mae gan y blogiwr synnwyr o berspectif o'i le ei hun yn y byd, ond pan mae'n greadur hunan bwysig beth bynnag mae perygl iddo chwyddo i fyny fel balwn - ac fel mae'n cael ei ddyfynnu mwy, mae'n sgwennu pethau mwy eithafol ac afresymol er mwyn cael ei ddyfynnu eto ac eto ac eto - er mwyn teimlo yn bwysicach, ac yn bwysicach ac yn bwysicach.
Ond y cwbl sydd yno yn y diwedd ydi un boi efo'i obsesiynnau yn eistedd ar ei ben ol wrth gyfrifiadur yn Llundain yn bwydo ei hunan bwysigrwydd trwy danseilio ei blaid - tra bod aelodau'r blaid honno - pobl mae'n honni ei fod yn siarad ar eu rhan - cannoedd ohonyn nhw - mwy na sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw ymgyrch tros y Blaid o'r blaen - yn treulio dyddiau maith yng ngwres yr haf yn hawlio'r etholiad ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref. Llawer ohonyn nhw yn aberthu eu gwyliau, yn teithio ac yn aros ym Mon ar eu cost eu hunain, ac yn cerdded a cherdded a cherdded yn y gwres tanbaid.
Mae aelodaeth o blaid yn galw am hunan ddisgyblaeth, gwyleidd-dra, parch at gyd aelodau a dealltwriaeth nad ni fel unigolion ydi canol y Bydysawd. Mewn geiriau eraill mae rhaid wrth aeddfedrwydd personol. Does yna ddim arwydd o hynny ar flog Syniadau tros y mis diwethaf.
Yn goron ar y cyfan oedd y post diwethaf am "repairing the damage". Roedd y teitl ei hun yn dangos pa mor bell o realiti ydi Syniadau, heb sôn am gynnwys y blogiad - ar blaned gwbl wahanol. Ond dyna sy'n digwydd pan wyt ti'n meddwl dy fod yn sylweddol fwy deallusol nag wyt ti mewn gwirionedd; a bod pobl eraill sydd hefyd ddim mor ddeallusol ag yr hoffent ei feddwl yn bwydo hynny.
ReplyDeletePiti mawr, ar adeg lle y dylai Plaid Cymru gymryd pum munud i ddathlu buddugoliaeth swmpus, yn hytrach mae 'na flas cas yn y geg sy'n difetha'r peth fymryn.
Wyddwn i ddim mai yn Llundain y mae MH yn byw. Perthnasol efallai?
ReplyDeleteDwi wedi mwynhau Syniadau dros y blynyddoedd. Mae'n flog hynod sylweddol sydd bron bob amser werth ei ddarllen. Dyna pam yr oedd yn gymaint o syndod darllen yr hyn oedd ganddo i'w ddweud am Rhun. Nid dyma arddull arferol MH - ar wahan i'w sylwadau ar DET falla.
Sy'n gwneud imi ofyn i mi fy hun faint o gefnogaeth oedd ganddo wrth gyhoeddi? O gofio nad oedd fawr o siawns i Rhun golli, pwy fydd ar ei ennill tybed wrth ei bardduo i'r fath raddau? Neb i'r tu allan i'r Blaid yn sicr. Na, mae yna rymoedd tywyll y tu ôl i ymosodiad Syniadau ar un sydd a photensial amlwg i arwain y Blaid.
blog dda iawn arall Cai, ond mae'n shom mae rhaid i chi eu ysgrifennu. Mae 'Syniadau' fell arfer yn blog deddorol iawn and yn lle i trafod materion annibyniath sy'n falle yn cael eu golli gan y Blaid.
ReplyDeleteOnd mae MH wedi mynd rhy pell y tro yma, ac wedi 'bring the party into disrepute'.
Anon 8:45 - dwi ddim yn meddwl bod 'grymoedd tywyll' ar waith - gellir egluro hyn oll yn nhermau traha, balchder a hunan bwysigrwydd. Dwi ddim chwaith yn meddwl bod cwestiwn arweinyddiaeth am godi am flynyddoedd maith - mae'r arweinydd sydd gennym yn gwneud joban dda iawn. Naratif cyfryngol ydi honna.
ReplyDeleteO - a Beard a Jason - mae'r ddau ohonoch yn gwbl gywir.
ReplyDeleteAw. Atgoffa fi i beidio byth sefyll ar dy gyrn di.
ReplyDeleteMH 'di'r un sydd 'di deud celwyddau. Roedd m'ond angen iddo godi'r ffôn i rywun call ac mi fyddai wedi darganfod y canlynol:
ReplyDelete1. bod Rhun wedi bod yn gyson yn ei safbwynt ar Wylfa ers y Gynhadledd Ddewis ac mi all y rhai ohonom oedd yn bresennol yno yn Ysgol Llangefni dystio i hynny
2. dydi Rhun ddim yn rhyw "Jonny Come Lately" i Blaidd Cymru - fuodd o'n aelod yn yr 80au/ 90au cynnar cyn troi ei law at newyddiadura
3. Ann Griffith oedd yr unig ymgeisydd yn y Gynhadledd Ddewis oedd yn gwrthwynebu Wylfa B yn llwyr
4. Mi gafodd nifer o ymgeiswyr blaenllaw y Blaid ganiatad arbennig gan y Pwyllgor Gwaith i sefyll etholiadau yn yr union ffordd y cafodd Rhun ganiatad
5. Ni wnaeth Angharad Mair gais erioed i fod ar Gofrestr Ymgeiswyr Plaid Cymru
Y cyfan yr oedd MH angen ei wneud i sefydlu'r ffeithiau hyn oedd i godi'r ffôn i Rhun neu eraill yn y Blaid - dyna fyddai aelod cyfrifol wedi ei wneud. Yn hytrach mi ddaru fo gychwyn grwsâd anheg ac anghywir gan wneud niwed iddo fo'i hun a'r Blaid. Siomedig.
Efallai bod ei ddyddiau fel Pleidiwr yn tynnu tua'i terfyn.
ReplyDeleteMae'n ddigri bod person sy'n gwneud cymaint o 'gelwydd' pobl eraill yn gelwyddgi ei hun.
ReplyDeleteOes ganddo fo drwyn mawr fatha Pinocio?
ReplyDeleteDwi ddim mor siwr y gelli di greu rhanniad mor dwt rhwng y rhai a fu'n trampio strydoedd Ynys Mon i ennill yr is-etholiad hwn a phawb ohonynt yn unfryd unfarn y tu ol i'r hyn yr oedd Rhun yn ei ddweud am Wylfa B ar y naill law, a MH wedi'i ynysu'n llwyr wrth ei gyfrifiadur yn Llundain megis ryw Frenin Canute cyfoes yn brygawthan yn erbyn yr anorfod ar y llaw arall.
ReplyDeleteRoeddwn i'n un o'r rhai a fu'n trampio'r strydoedd ond roeddwn i hefyd yn digwydd meddwl bod MH yn cyflwyno dadl bwysig iawn i'n sylw ni fel aelodau,ac yn wir mi ges i drafodaeth i'r diben hwn hefo o leiaf tri aelod arall yn ystod yr ymgyrch.
Mi faswn i'n cytuno hefo ti bod y sylwadau yn or-bersonol ac yn or-bigog ar adegau ac fe roedd hynny'n ymddangos yn chwithig iawn yng nghanol is-etholiad ar sawl ystyr. Eto'i gyd, llwyddodd MH i brocio cydwybod pawb ohonom fel aelodau ar fater eithriadol o bwysig a'n gorfodi i feddwl y tu hwnt i'r feddylfryd simplistaidd hon boed rhaid cefnogi ein hymgeisydd ni yn ddall doed a ddelo.
Dwi'n synnu dy glywed di'n honni mai "gwleidyddiaeth stiwdants 60au a 70au y ganrif ddiwethaf" yw gwrthwynebu datblygu Wylfa B neu fel mae'n well gen i ddisgrifio'r safiad hwn bellach- mynnu trafodaeth gyhoeddus lawn am oblygiadau datblygiad fel hwn o ran dyfodol diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
Ai "gwleidyddiaeth stiwdants" ydi ofni y byddai'r costau ynghlwm wrth storio gwastraff niwcliar a dad-gomisiynu gorsaf dros dwy,dair, pedair genhedlaeth yn debyg o grogi unrhyw Gymru Annibynnol y gallai ddod i fodolaeth dros y blynyddoedd nesaf?
Yn sicr y mae'r mandad y mae Rhun wedi'i gael yn yr is-etholiad hwn yn agor y drws ar gyfer trin yr etholwyr fel oedolion aeddfed ynghlch y mater hwn a'u gwahodd i fod yn rhan o'r drafodaeth dros y blynyddoedd nesaf. Ond mae MH yntau wedi chwarae'i ran wrth symud PC i'r cyfeiriad hwn felly diolch amdano.
Trwy gicio a brathu mae cariad yn tyfu ac mae hyn yr un mor wir am gariad at wlad!
Nid gwrthwynebu Wylfa B yn benodol ydi'r gwleidyddiaeth sdiwdants - blanket ban di gwestiwn ar niwclear ydi'r broblem.
ReplyDeleteY gwir ydi hyn Aled - mae agwedd pobl Mon at Wylfa B yn gymhleth - roeddet ti yn gweld hynny o drafod efo nhw. Roedd agwedd Rhun at Wylfa B yn gymhleth (yn groes i'r hyn oedd MH yn ei honni). Roedd yn agwedd briodol i'r amgylchiadau.
A gyda llaw - doeddyt ti ddim ar ochr MH - beth bynnag dy agwedd at niwclear, neu fysar ti ddim yn trampio strydoedd Mon i'r Blaid. Roedd o'r farn y byddai buddugoliaeth i'r Blaid yn drychineb.
Sori am dynnu'n groes i'r condemniad cyffredinol o Michael.
ReplyDeleteMae o yn llygad ei le wrth ddweud mai polisi'r Blaid yw un o wrthwynebu Ynni Niwclear.
Mae o yn llygad ei le wrth ddweud mai annhegwch i'r sawl sydd wedi ymgyrchu a sefyll etholiadau anobeithiol i'r Blaid yw cael un sydd wedi bod yn "broffesiynol niwtral" yn troi fyny i "ddwyn" sedd saff o dan drwyn rhai fu'n gyhoeddus driw i'r Blaid am gyfnod hirach.
Byddwch yn ddigon graslon i dderbyn ei fod yn gwneud pwyntiau teg gwerth eu trafod, a thrafodwch y pwyntiau yn hytrach na'r unigolyn
Fyddai personoliaeth yr unigolyn heb gael ei drafod oni bai i'r unigolyn benderfynu darnio personoliaeth yr ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiadol tra'n gwybod bod Llafur yn gwneud defnydd o'i ymosodiadau ac ensyniadau.
ReplyDeleteAlwyn - ti'n bod dipyn bach yn naif fan hyn dwi'n meddwl.
ReplyDeleteMae yna flog sydd yn honni i gefnogi Plaid sydd wedi ei ysgrifennu yn dda ond sydd yn amgymell i Plaid fabwysiadu polisiau fysa yn amhoblogaidd iawn mewn lleoedd Llafur. Yn fwya sydyn mae yna etholiad yn digwydd ac mae'r blog yn dechrau gweiddi tros y lle am fis - Mae Plaid Cymru yn erbyn WylfaB, Mae Plaid yn erbyn Wylfa B - sef yr union beth mae Llafur yn ei wediddi oddi ar ben pob to yng Nghaergybi.
Seriously ddyn - be ti yn feddwl sy'n digwydd?
Mae MH yn iawn i godi'r pwyntiau am Wylfa B. Gall Môn a Phleidwyr Môn (na dim rhan arall o Gymru) benderfynnu pa bolisiau i'w dilyn a pha rai i beidio dilyn. Mae MH yn berffaith iawn i godi hynny ac roedd Llafur a'r WM yn gwneud eu job hwythe i godi'r gwrthddywediad - neu dauwynebrwydd - hynny. Sdim pwynt i Bleidwyr anghytuno. Dyna pris torri polisi a gytunwyr arno mewn Cynhadledd o'r Blaid!
ReplyDeleteFel mae'n digwydd, mae gen i deimladau cymysg ar ynni niwclear ac efallai mai dyna pam fod Rhun wedi gallu cael 'get away' efo torri polisi Plaid Cymru mor rhwydd. Dwi'n amau fod lot o bobl â theimladau cymysg.
A dweud y gwir, dwi'n meddwl fod ymgychwyr gwrth-niwclear yn colli cefnogwyr bob tro fydda' nhw'n codi ofn Nagasaki neu Chernobyl. Dydy pobl jyst ddim yn credu fod hynny'n mynd i ddigwydd.
Y ddadl gryfa i mi yn erbyn Ynni Niwclear yw i) beth sy'n digwydd i'r stwff ii) mae'n gythreulig o ddrud ymhob ffordd i dalu amdanno ac mae ffyrdd amgennach a gwell o greu ynni ... dyna pam fod plaid geidwadol yr Almaen, plaid Angela Merkel - nid hippy o unrhyw fath - yn cau lawr gorsfaoedd niwclear. I raddau helaeth iawn hen ddiwydiant ydi Niwclear. Heb ateb i gwestiwn ynni. Nid niwclear ydy'r ateb tymor hir.
Mae angen i'r Blaid drafod hyn ... ond wedyn mae wedi gwneud yn y GYnhadledd a dweud fod nhw yn erbyn niwclear! Dyna holl bwynt MH a dydy bod yn flin efo MH ddim yn nacau hynny!
Lle roeddwn i'n anghytuno efo MH yn fwy sylfaenol oedd ei anhapurwydd â dewis Rhun.
Mae gen i bryderon am Rhun - y pryder mwyaf yw ei fod yn ddyn y BBC a does neb yn para yn y BBC am fwy na 6 mis heb fod nhw'n ymddwyn fel 'dyn y BBC' - ceidwadol, ofnus rhag herio Prydeindod a siarad mewn ystradebau.
Fy mhryder efo Rhun yw na fydd yn AC dewr. Y cawn ni lot o siarad 'positif' a 'bod yn gynhwysol' a bod hynny'n ffordd diog a cachgiaidd o beidio ymladd ffeit a chymryd penderfyniadau anodd ac yn arbennig herio Prydeindod.
Neges yr SNP yw eu bod nhw'n bositif dros annibyniaeth - nid bod yn positif ynddo ei hun, ond postif dros annibyniaeth. Wn i ddim os fydd Rhun yn barod neu'n gallu gwneud y newid agwedd anferthol hynny o chwarae'n saff a pheidio herio Prydeindod neu a fydd o dal o fewn meddylfryd 'ceisio cael y gorau i Gymru fach o fewn Prydain'. Sef agwedd staff BBC Cymru. Y staff sydd wedi gadael i BBC Cymru droi'n ffrynt dros hyrwyddo propaganda Brydeinig di-ddiwedd dros y 18 mis diwethaf.
Mae Rhun yn ddyn carismataidd - fo oedd y dewis orau i Fôn. Ond dydy ddim yn her i Leanne Wood nac Adam Price achos does ganddo ddim syniadaeth wleidyddol (... hyd y gwyboddom efo).
Ond mae'n gaffaeliad i'r Blaid ac i'w groesawu. Dwi hefyd yn meddwl ei fod yn ddi-ffuant.
Bydd yn gaffaeliad o ran ei fod yn dod â chwa o awyr iach i grwp y Blaid, i'r Cynulliad ac yn arwydd i bobl eraill sy'n genedlaetholwyr ond heb gallu (neu drafferthu) ymhel â gwleidyddiaeth Plaid i ystyried hynny. Mae hynny'n bwysig iawn.
Gyda Rhun, Leanne, Adam ac eraill, mae Plaid Cymru yn mynd i etholiad 2016 gyda tim amrywiol, deniadol a charismataidd. Bydd hynny llawn cyn bwysiced (neu hyd yn oed pwysicach) na pholisiau.
Da iawn Rhun. Da iawn hefyd MH am fod yn ddigon dewr i herio Plaid Cymru gyda'i polisiau eu hun!
Pleidiwr Cyffredin
Y broblem i Llafur o safbwynt Syniadau ydi ei fod wedi torri cyfyr yn rhy fuan. Mae'n debyg bod Llafur yn meddwl bod Ynys Mon yn agos a tysa nhw yn cael Syniadau i chwarae ychydig o driciau budur y byddai'n gwneud y gwahaniaeth.
ReplyDeleteYn anffodus iddyn nhw roeddynt yn hollol rong ar y ddau gyfri, a rwan chawn nhw ddim cyfle arall. Bechod.
"Ond eto mae gennym bolisi sy'n awgrymu ein bod yn fodlon gwrthod buddsoddiad o hyd at £10bn a miloedd o swyddi - polisi sydd wedi ei wreiddio yng ngwleidyddiaeth stiwdants chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf"
ReplyDeleteChi a ysgrifennodd hynny, Cai. Polisi gwrth-niwclear yn bolisi "gwleidyddiaeth stiwdants". Mae eraill wedi crybwyll yn barod (gan gynnwys Michael Haggett): os byddwn yn mynd lawr y trywydd niwclear, bydd nod pennaf Plaid Cymru - Cymru annibynnol, cofiwch - ar ben oherwydd y costau cysylltiedig gyda'r dadgomisiynu a'r gwastraff. Dyna pam mae'n bwysig i'r Blaid parhau i wrthwynebu. Gwleidyddiaeth gyda llygad ar y dyfodol 'dy hwnna, nid gwleidyddiaeth tymor-byr fath a chdi.
Dwi'n meddwl bod camddealltwriaeth yma Gareth. Mae'r cwestiwn os ydi WylfaB yn mynd rhagddo yn dibynu ar ddau beth yn y bon:
ReplyDelete(1) Os ydi llywodraeth y DU a'r cwmni masnachol yn gallu dod i gytundeb am gost yr uned o drydan i'r Grid Cenedlaethol (Prydeinig). Yn amlwg bydd derbyn ar ran llywodraeth y DU mai nhw fydd yn clirio'r safle ar ddiwedd bywyd yr adweithydd yn rhan o'r fargen honno.
(2) Os ydi'r cwmni masnachol yn barnu ei bod werth y drafferth iddynt ddatblygu yng Nghymru rwan mae Japan yn troi yn ol at niwclear. Mae'n haws iddynt ganolbwyntio ar Japan ei hun.
Ti'n iawn i ddweud bod yna nuances yn yr hyn a ddywedodd Rhun yn gyhoeddus( yn enwedig yn Gymraeg) ar y mater hwn oedd yn fwy cynnil a chytbwys na'r hyn ag a awgrymwyd gan MH mewn rhai mannau.Wn i ddim ai'r ffaith mai wrthi'n dysgu Cymraeg y mae MH oedd i gyfrif am hynny.
ReplyDeleteOnd beth bynnag ein barn am yr hyn a ddywedodd MH, mae'n amlwg bod yna awydd gwirioneddol ymhlith yr aelodaeth am drafodaeth bellach a chyfle i gyfranogi wrth lunio'r neges sy'n cael ei chyflwyno ar Wylfa B-ac mae hynny'n arwydd iach iawn.
Byddai'n wych pe bai Rhun yn gallu cydnabod yr awydd hwn a chynnal trafodaeth go iawn ymhlith yr aelodau lleol ynghylch union natur y neges hon gyda golwg ar etholiadau Ewrop flwddyn nesaf ac etholiadau San Steffan yn 2015.
Dwi'n ryw amau y byddai hyn yn helpu PC i lunio neges genedlaetholgar sydd yn llawer cryfach ar un wedd ond sydd hefyd yn gallu ymddangos yn realistig i etholwyr cyffredin ar yr un pryd.
Yn ei dro, byddai'n helpu datblygu ymwybyddiaeth wleidyddol ymhlith aelodau a changhennau'r Blaid ar yr ynys a chynnal y momemtwm rhagorol sydd wedi ymddangos ers etholiadau'r cyngor ym mis Mai.
Sbia Aled - dwi ddim yn anghytuno efo chdi yn y bon - mae gen i deimladau cymysg am niwclear, mae gan Rhun deimladau cymysg am niwclear ac mae gan y rhan fwyaf o bobl Ynys Mon deimladau cymysg hefyd.
ReplyDeleteRoedd ymateb gymhleth / amwys Rhun i'r pwnc yn yr ystyr yna yn briodol. Roedd yn llawer nes at lle mae'r rhan fwyaf o bobl Mon nag 'Ia' simplistig Llafur a 'Na' simplistig polisi swyddogol y Blaid.
"Yn amlwg bydd derbyn ar ran llywodraeth y DU mai nhw fydd yn clirio'r safle ar ddiwedd bywyd yr adweithydd yn rhan o'r fargen honno."
ReplyDeleteLlywodraeth y DU? Dal sownd.....os byddai Cymru'n dewis annibyniaeth....yna ni fyddai'r DU yn bodoli. Lloegr wyt ti'n ei feddwl? Rwy'n siwr byddant yn fwy na pharod i dalu'r costiau. Mae'n rhaid fod yn sicr o'ch pethau ynglyn ag hyn.
Mi fyddai'r contract yn cael ei arwyddo gan lywodraeth y DU a'r cwmni masnachol.
ReplyDeleteMi fyddai'r trydan hefyd yn cael ei werthu i'r grid Prydeinig am y pris cyntunedig - hyd yn oed ar ol annibyniaeth - os mai dyna fyddai yn y contract.
Anghofiais ychwanegu mai y drefn o ran setlo dyledion ac ati pan mae gwledydd yn rhannu ydi eu bod yn rhannu'r ddyled yn unol a'u maint. Nid llywodraeth yr Alban 9os daw annibyniaeth) fydd yn ysgwyddo y rhan fwyaf o ddyledion RBS.
ReplyDeleteMae'r math yma o godi bwganod yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgyrch 'Na' yn yr Alban.
Dyfyniad gan Cai Larsen
ReplyDeleteFavourite political blogger?
Oh... Well, there’s so many of them to choose from. I think my favourite political blogger is another Welsh one and he writes through the medium of English. The blog is called Syniadau, which means ‘ideas’. It’s an analytical blog and it’s a very intelligent blog – the most intelligent blog I know.
Jiw Jiw
Bryd hynny oedd bryd hynny a rwan ydi rwan.
ReplyDeleteCytuno efo Alwyn ap Huw. Nid yw MH ym mlog Syniadau wedi gwneud dim ond cefnogi polisiau'r Blaid - rhywbeth mae'n deg disgwyl i bob ymgeisydd ei wneud. Mae llawer iawn, iawn o bobol fuasai'n cefnogi'r Blaid oni bai am y simsamu gwirion yma rhwng rhywbeth sy'n bolisi (bod yn wrth-niwclear) a bod yn 'bragmatig' (bod o blaid Wylfa B). Mae'r Blaid yn bradychu ei chefnogwyr mwyaf ffyddlon trwy fynd ar ol pob chwiw ffasiynol, ac anghofio pob egwyddor.
ReplyDeletePwy a wyr? Efallai y byddai mwyafrif Rhun wedi bod yn fwy petae o wedi dod allan yn glir yn erbyn Wylfa B. Mae'r ddadl fod yr atomfa o les i'r iaith Gymraeg yn ffantasi hollol dwp. Ai ffantasiwyr hollol dwp mae pobol Mon yn awyddus i'w cael yn eu cynrychioli?
Dim ond cefnogi polisiau'r Blaid? Dduw mawr. Does neb efo problem am ddadl ar bolisi - hyd yn oed yn ystod etholiad
ReplyDeleteY broblem ydi'r ymosodiadau personol ar yr ymgeisydd a'r anogaeth i etholwyr beidio a fotio i'r Blaid. Dyna sy'n anerbyniol i aelod o blaid wleidyddol.
Gyda llaw, roedd na ymgeisydd di amwys yn erbyn WylfaB - mi gafodd hi 300+ o bleidleisiau.
Felly Cai, rwyt ti'n dweud taw camgymeriad fyddai fod yn ddiamwys yn erbyn Wylfa B yn unol a pholisi'r Blaid?
ReplyDeleteON Ond cytunaf fod yr ymosodiadau personol yn anerbyniol.
Ydw. Mae polisi 'no, nay, never' yn anaddas i'r amgylchiadau sydd ohonynt - er bod llawer o gwestiynau i'w codi am unrhyw ddatblygiad - nunlla mwy felly na Wylfa B.
ReplyDeleteDoes yna ddim problem i Syniadau godi hyn - na thynnu sylw at bolisi'r Blaid. Y broblem ydi'r ymosodiadau personol maleisus ar un o ymgeiswyr y Blaid yn ystod ymgyrch etholiadol ynghyd a chyngor di amwys i bobl beidio a fotio i'r Blaid.
Byddai hynny yn gwbl anerbyniol mewn unrhyw blaid wleidyddol.
1:18 pm
Mae'r mater yn hollol syml, Cai. Rhun oedd yn dweud celwydd noeth pan ddywedodd, ar Sunday Supplement:
ReplyDelete“You know that there’s been a policy in Plaid Cymru going back 40 years where we’ve said, ‘Develop nuclear power stations on the sites where there are nuclear power stations in the past.’”
Nid dadl ar bolisi yw hyn, ond mater o ddweud celwydd am bolisi.
Na, ddim mewn gwirionedd - mae hefyd yn fater o bardduo ymgeisydd dy blaid dy hun, cynorthwyo pleidiau unoliaethol mewn is etholiad ac ymgyrchu yn erbyn dy blaid dy hun.
ReplyDeleteOnd gan dy fod yn son am gelwydd, faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod os oedd RhaI wedi bod yn aelod o Blaid Cymru erioed cyn datgan nad oedd?
Faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod beth yn union a ddywedyd gan Rhun yn yr hystings am WylfaB cyn datgan ei fod wedi dweud ei fod yn erbyn?
Ti hefyd wedi bod yn dweud y byddai aelodau cyffredin yn 'shocked' at agwedd RhaI at WylfaB. Wyt ti wedi dod ar draws aelod 'shocked' - ond bai amdant ti dy hun?
A ti'n dweud bod aelodau o'r arweinyddiaeth yn aros i gael dweud eu dweud. Pwy oedd y rheini a pham nad ydynt wedi cymryd dy safbwynt?
Wnaethoch chi,Mr Larsen, ystyried y rhai wnaeth atal eu pleidlais oherwydd eu anfodlonrwydd efo safbwynt Rhun ab Iorwerth? Gwn am nifer o Bleidwyr oedd wedi gwrthod pleidleisio o gwbl oherwydd eu teimladau cryfion yn erbyn Wylfa B, yn enwedig rhai sydd wedi colli anwyliaid i ganser.
ReplyDeleteDydw i ddim yn byw ar yr ynys, ond yn medru clywed yr anniddigrwydd o bell.
Am y rhain yr oeddwn yn meddwl pan awgrymais y gallai mwyafrif y Blaid fod wedi bod yn uwch.
Cai,
ReplyDeletere: "Faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod beth yn union a ddywedyd gan Rhun yn yr hystings am WylfaB cyn datgan ei fod wedi dweud ei fod yn erbyn?"
A bod yn onest, mi wnes i roi fynnu ar MH pan wnaeth o gymeryd be wnest ti ddweud (mi wnes i hefyd adael neges ar ei flog yn dweud mod i'n cytuno ar be ddwedodd Rhun, Heledd ac Ann yn yr hystings ynglun a Wylfa), a mi aeth o ati i adio dau a dau a cael pump.
Pam wnaeth o ddim gyrru e-bost bach cyflym (i ti ella) yn gofyn be ddwedodd Rhun?
O be dwi'n gofio o'r hustings (a dwi wedi ei drafod efo pobol arall fuodd yno)
Arall eirio mawr rwan:
Rhun: "Mae genai barch at pobl sydd yn erbyn Wylfa B OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."
Heledd: "Dwi ddim isho Chelnobyl yn Sir Fon, OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."
Ann: "Dwi'n yn deallt syt mae o'n gweithio, OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."
p.s. Dwi'n falch drost Ann bod HM heb glywed y gymeradwyaeth gofodd hi am ei gwrthwynebiad i felianu gwynt (ar sail tlodi ynni)...
Tigidwt - mae'n dda gen i dy fod yn gallu clywed yr aniddigrwydd o bell, ond mi es i Ynys Mon yn ystod yr etholiad a siarad efo cannoedd o bobl. A wyddost ti beth - wnes i ddim clywed unrhyw aniddigrwydd o gwbl - go iawn. Mae'n rhaid bod gen ti glyw da.
ReplyDeleteIoan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwriadol.
ReplyDelete"Ioan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwriadol."
ReplyDeleteYn hollol be o'n ni'n feddwl, a dyna pam wnes i stopio postio ar ei flog o.
Doedd Yni Niwclear ddim yn bwysig o gwbl i'r etholwyr, ac mi fuasech chi'n disgwyl iddo fod yn llai pwysig i weddill Cymru.
Mae Tigi-dwt yn ffeithiol gywir bod ambell i aelod o Blaid Cymru heb bleidleisio (oherwydd Wylfa B) - dwi'n gwybod am ddau.
Fyddwn i ddim yn dweud nad oedd o'n bwysig o gwbl - roedd rhai yn codi'r mater - yn arbennig felly yn yr ardaloedd o gwmpas y safle - roedd agweddau pobl yn tueddu i fod yn gymhleth.
ReplyDeleteOnd ti'n gywir mai lleiafrif bach oedd yn codi'r mater.
Ddim yn bwysig o ran ffordd oedd pobl yn pleidleisio oeddwn ni'n feddwl (i.e. Lib dems oedd fwyaf gwrth Niwclear, Llafur fwyaf o blaid).
ReplyDeleteTi'n cytuno felly, Cai. Rhun oedd yn dweud celwydd am bolisi Plaid Cymru.
ReplyDeleteA dwi'n cytuno da' ti, mae 'na sawl mater arall i ystyried, hefyd.
1. Am aelodaeth y Blaid: Rhun yw'r un a oedd yn disgrifio ei hun fel "aelod newydd" o'r blaid, yma, nid fel rhywun sy'n ail-ymuno i'r blaid. Celwydd arall? Ydoedd, os oes hynny ddim yn wir.
Dwi'n cael fy meirniadu am alw Rhun yn "Johnny come lately", a dwi'n ymddiheuro am hynny'n llwyr os oedd Rhun yn aelod yn yr 80au. Byddai e'n "Johnny come back lately" yn hytrach. Ond, rili, beth yw'r ots am hynny? Os oedd Rhun yn aelod yn gynt, Rhun roedd yn gamarweiniol am y peth, nid y fi.
2. Ti, Cai, yw'r un a ddywedodd does dim llawer o wahaniaeth rhwng safbwynt Ann, Heledd a Rhun ar gyfer Wylfa B yn y hystings. Yn ôl sylwebydd dienw 11:35, Ann oedd yn gwrthwynebu Wylfa B yn llwyr. Yn ôl Heledd, roedd hi yn erbyn Wylfa B hefyd. Dywedodd ar ei blog, "I was also glad to have the opportunity to debate Wylfa, and explain my opposition to nuclear power in a constructive way." Felly, yn ôl ti, Cai, mae'n annhebygol iawn (amhosibl, hyd yn oed) y dywedodd Rhun ei fod o blaid Wylfa B yn y hustings. Neu a oeddet ti'n dweud celwydd?
Ond sdim ots am hynny, y peth sy'n bwysig yw hyn. Syth ar ôl y hystings, mewn cyfweliad yn y Daily Post ac wedyn yn ei flog, Rhun oedd yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B. Felly, mae'n debygol roedd e'n niwlog ac yn amwys yn y hystings hefyd. Ond, o'r 19eg o Orffennaf, roedd yn bendant o blaid Wylfa B. Os oedd Rhun yn gyson o blaid Wylfa B, pam na ddywedodd hynny wrth y Daily Post neu ar ei flog? Roedd Rhun yn gamarwieniol am ei safbwynt ar Wylfa B cyn y 19eg o Orffennaf. Does dim dwywaith am hynny o gwbl.
3. Dwi'n gwybod am nifer o aelodau sy'n "shocked", Cai, ac am nifer llawer mwy sy'n cael eu siomi gan beth ddigwyddodd.
4. Ni ddwedais hynny, Cai. Rhaid i ti ail-ddarllen be dw i wedi sgrifennu.
Drwy'r cyfan, Cai, dw'i wedi cefnogi fy mhlaid i. Dwi wedi bod yn erbyn ymgeisydd sy wedi bod yn gamarweiniol am ei safbwynt ac yn gelwyddgi am bolisi Plaid Cymru. Nid pardduo oedd hynny, ond dweud y gwir. Gwell i ti, a phawb arall, gofio hynny.
Chdi sy'n taflu cyhuddiadau o gelwydd nid fi.
ReplyDeleteMae gen ti grynodeb o'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr hystings uchod - Ioan 10.35. Dydi'r crynodeb ddim yn cefnogi dy safbwynt di - person nad oedd yna wedi'r cwbl. Roedd pawb yn niwlog i rhyw raddau neu'i gilydd - felly mae hi mewn gwleidyddiaeth go iawn - ti'n gorfod osgoi gwneud dy hun yn gocyn hitio i dy wrthwynebwyr ar rhai materion. Ti wedi dethol dehongliad roeddyt eisiau ei dethol.
Mi siaradais i efo cannoedd o bobl yn ystod yr ymgyrch (yr un oeddyt ti yn ei thanseilio o Lundain), a chlywais i ddim un person - yn Bleidiwr neu fel arall yn mynegi 'shock'. Tybed efo pwy ti wedi siarad.
Ti wedi pardduo cyd Bleidiwr, ti wedi cynnig cysur i bleidiau unoliaethol a ti wedi ymgyrchu yn erbyn plaid dy hun trwy argymell i bobl beidio a phleidleisio trosti. Dydi hynny ddim yn ymddygiad person sy'n addas i fod yn aelod o Blaid Cymru mae gen i ofn.
Mae blogiadau Syniadau yn aml yn ddiddorol ac yn eang eu cynnwys. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod ei gasgliadau yn rhy aml yn gyfyng ddu a gwyn mewn byd gwleidyddol sy'n gymleth amryliw. Mi fuaswn yn awgrymu cwrs carlam yng ngwaith Machiavelli iddo neu ei orfodi i sgwennu mil o linellau o waith George Orwell:
ReplyDelete'Political language is designed to make lies sound truthful and murder respectable, and to give an appearance of solidity to pure wind'.
Roedd proffwydi'r Hen Destament ers talwm yn cymryd safbwyntiau du a gwyn oedd yn groes i safbwynt pawb arall. Ond roedd Duw yn dweud wrthyn nhw beth i'w ddweud - neu o leiaf dyna oeddyn nhw yn ei feddwl.
ReplyDeleteMae'r dyn yma yn meddwl bod IWJ yn anghywir, bod RhaI yn anghywir, bod Pwyllgor Gwaith y Blaid yn anghywir, bod y Blaid ym Mon yn anghywir, bod y cannoedd o aelodau cyffredin aeth i Fon i ymgyrchu yn anghywir, bod arweinyddiaeth y Blaid yn anghywir, bod pob sylwebydd gwleidyddol yn anghywir. Yn wir mae'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r uchod yn llwfr neu'n gelwyddog - o gymharu a fo ei hun - dyn dewr a geirwir.
Yn wahanol i broffwydi'r Hen Destament nid Duw sy'n dweud hyn oll wrtho - mae'n cyrraedd yn dwfn i mewn iddo'i hun ac yn cael yr ateb. Traha deallusol o'r radd flaenaf.
Rwy'n methu deall dy gasineb at Michael.
ReplyDeleteMae'r sylwadau a wnaed ganddo yn rhai digon dechau.
Y cwestiwn mawr, siawns, yw a wnaeth sylwadau Syniadau drwg i ymgyrch y Blaid ym Môn?
Mae'r canlyniad yn awgrymu na wnaethant. Sy'n codi cwestiwn arall – a wnaeth sylwadau Syniadau lles i'r achos?
Tybiwn eu bod.
Mae pob un sydd wedi cefnogi'r mudiad gwrth niwclear yn gwybod bod aelodau Plaid Cymru, Y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi bod yn driw i'r achos ac yn gefn i'r achos. Mae'r achos niwclear yn codi cyfyng gyngor ym mhob un o'r pleidiau radical.
Aros yn dawedog bu hanes Llafurwyr a Rhyddfrydwyr gwrth niwclear yn ystod yr ymgyrch is-etholiadol.
Trafod y cyfyng gyngor yn agored bu hanes Plaid Cymru, a siawns bod y gonestrwydd yna wedi cyfrannu at fuddugoliaeth Rhun
I ddechrau Alwyn dydw i ddim yn casau neb.
ReplyDeleteYn ail - fel dwi wedi nodi dro nid trafod WylfaB ydi'r broblem, mae hynny'n iawn.
Y broblem ydi ymosod yn bersonol ar ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiad ac argymell i bobl beidio a fotio i'r Blaid. Mae hynny yn broblem - ac mi fyddai yn broblem mewn unrhyw blaid arall.
Dwi wedi dangos bod Rhun oedd yn dweud celwydd noeth am bolisi Plaid Cymru. Byddai'n well i ti gydnabod hynny, Cai. Dwi wedi dangos bod Rhun oedd yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B yn gyhoeddus cyn y 19eg o Orffennaf. Byddai'n well i ti gydnabod hynny, hefyd.
ReplyDeleteOnd beth ddigwyddodd yn yr hystings? Yn ôl Ioan (10:35) fe ddywedodd bob un o'r tri ymgeisydd:
"... OND os ydy [Wylfa B] yn digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys ..."
Nid yw hynny'n syndod i neb. Mae hyn yn bolisi Plaid Cymru. Y gair holl bwysig yw'r "os".
Ond beth am Rhun? Yn ôl Ioan, fe ddywedodd:
"Mae genai barch at pobl sydd yn erbyn Wylfa B OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys ..."
Wel, mae parch 'da fi hefyd at bobl sydd yn erbyn ac o blaid Wylfa B. Neis, ond beth yw'r ots am hynny?
Edrychwch yn ofalus. Yn y frawddeg hon, ni ddywedodd pa un a oedd e o blaid Wylfa B, neu pa un a oedd e yn ei erbyn. Roedd Rhun yn osgoi datgelu ei farn ar y cwestion, ond oedd e? Roedd y geiriau yn amwys.
Credodd Cai ar y pryd (a dwi'n credu roedd e'n dweud y gwir) roedd barn y tri ymgeisydd ar Wylfa B yn "more or less identical" ... felly, roedd Rhun yn erbyn Wlyfa B, ynghyd â Heledd ac Ann. Gall rhwyun arall (Ioan, er enghraifft) credu roedd Rhun o blaid Wylfa B. Fe all ei eiriau olygu pethau gwahanol i bobl wahanol.
Mae'n amlwg, felly, roedd Rhun yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B yn yr hystings hefyd.
Edrych ar arall eiriad Ioan - mae pawb yn amwys - mae'n rhaid iddyn nhw fod neu maent yn colli'r enwebiaeth am eu bod yn colli hanner y gynulleidfa cyn cychwyn. Maen nhw'n ymladd am enwebiad go iawn yn y Byd go iawn - dydyn nhw ddim mewn twr ifori yn Llundain.
ReplyDeleteRwan wyt ti am egluro pam bod dy ganfyddiad - bod ennill Ynys Mon yn drychineb i'r Blaid - yn fwy cywir na chanfyddiad actifyddion y Blaid, arweinyddiaeth y Blaid, y Blaid ar Ynys Mon, sylwebyddion annibynnol, Pwyllgor Gwaith y Blaid a 12,601 etholwyr Mon?
Dwi'n marw eisiau gwybod.
MH,
ReplyDeleteDyma'n union pam wnes i ddim agor fy nheg yn ystod yr ymgyrch. ARALL EIRIO oeddwn ni - mi wnaeth Rhun lawer gwell job yn y Daily Post o egluro ei safbwynt.
Yn yr hustings wnaeth neb ddweud bod nhw o blaid nac yn erbyn Wylfa B, ond mi roedd pawb yn gallu darllen rhwng y llinellau - yn yr un ffordd a gwnes ti pan ddarllenaist ti y Daily Post.
p.s. be oeddwn ni fwyaf hapus efo Rhun ar y noson, oedd ei fod o'n Genedletholwr i'r carn. Annibyniaeth yw'r no^d, a dwi'n amau pan wnei di glywed mwy oddiwrth Rhun y byddi di (gobeithio) yn addasu dy diwn.
Gyda llaw, dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud os basa'r Blaid wedi cael y perfformiad yma yn 2011, mi fasa Heledd Fychan yn y senedd (yn lle Aled Roberts)
ReplyDeleteEr nad ydym yn gwybod i sicrwydd beth fyddai wedi digwydd i'r bleidlais ranbarthol wrth gwrs.
ReplyDeleteDdigon gwir, ond faint yn brin oedd Heledd? Dwi'm yn cofio - tua 500?
ReplyDeleteMi dria i ei weithio fo allan pan ga i ddau funud.
ReplyDeleteTua mil a chant dwi'n meddwl - os di fy syms i'n iawn - mae'n system gymhleth.
ReplyDeleteOnd roedd pleidlais y Lib Dems i lawr hefyd wrth gwrs.
Felly, ti'n cydnabod roedd e'n amwys, Cai. Ond ydy pawb yn amwys?
ReplyDeleteDoedd Ann ddim yn amwys am Wylfa B, na Heledd chwaith. Dim ond Rhun oedd yn amwys amdano. Ond dwi'n cytuno â thi am ei reswm: er mwyn ennill yr enwebiad ... ond trwy dwyll. Roedd Heledd ac Ann yn gwbl onest am eu safbwynt nhw. Enillodd Rhun gan fod yn gamarweiniol. Nid yw hynny'n ddim byd i ymfalchïo ynddo. Byddai llawer llai o aelodau Môn wedi'i ddewis os oedden nhw'n gwybod ar y pryd taw safbwynt Rhun oedd yn erbyn polisi Plaid Cymru.
Roedd Rhun yn gamarweiniol am ei safbwynt ac, yn nes ymlaen, yn gelwyddgi am bolisi Plaid Cymru. Mae'n ddyn anonest. Dyna pam fydd ethol Rhun yn AC Ynys Môn yn drychineb i'r Blaid.
Ti'n rhoi geiriau yn fy ngheg i geisio cyfiawnhau dy ymddygiad rhyfeddol tros yr etholiad - ymddygiad na welais i gan unrhyw Bleidiwr erioed.
ReplyDeleteMi fyddai rhywun gwrthrychol yn gweld bod amwyster yn y tri safbwynt sy'n cael eu disgrifio uchod. Fedri di ddim ennill etholiad ynm Mon tra'n ymgyrchu yn erbyn WylfaB. Yn wir roedd amwyster yn safbwynt y Blaid yn yr etholiadau lleol - pwysleisio'r elfen o'r polisi sy'n mynnu bod swyddi ac ati yn mynd yn lleol, tra'n anwybyddu'r gwrthwynebiad WylfaB i bob pwrpas.
A gwna ffafr a fi - paid a dweud beth fyddai Pleidwyr Mon wedi neu heb ei wneud oni bai dy fod wedi siarad a nhw. Wyt ti erioed wedi siarad efo Pleidiwr o Fon?
A gyda llaw, dydan ni byth wedi cael yr eglurhad pam dy fod di'n gywir a phawb arall yn y Blaid yn anghywir parthed etholiad Ynys Mon.