Ychydig fisoedd yn ol mi gafwyd rhyw arbrawf bach ar Flogmenai - blogio tra'n teithiooddi ar ffon symudol - a blogio sydd a phwylais gwleidyddol iddo.
Roedd hynny'n weddol hawdd - taith i Iwerddon oedd hi, ac mae gan awdur y blog wybodaeth go lew am wleidyddiaeth y wlad honno.
Mi geisiwn wneud yr un peth eto, ond bydd yn anos - rydan ni'n dreifio trwy Ffrainc i gyfeiriad Gwlad y Basg, Galithia a Phortiwgal - ac wedi cymryd y risg, nid ansylweddol, o adael y ty yng ngofal oedolion ifanc . Dydi fy ngwydodaeth am wleidyddiaeth a hanes y cyfandir ddim cystal - ond mi driwn i. Dydi Blogmenai ddim yn 'gwneud' blogio personol - dim ond blogio gwleidyddol - ond dwi'n reit siwr y bydd y term 'gwleidyddol' yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd mwyaf llac bosibl yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf.
O.N os oes rhywun yn ardal Caernarfon yn cael gwahoddiad i barti gan rhywun o'r enw Gwern neu Lois yn ystod yr wythnosau nesaf - gwrthodwch. Yn gyntaf maent wedi eu siarsio i beidio a chymaint a meddwl am y peth, ac yn ail does gen i ddim lle o gwbl i gredu bod ganddynt y gallu trefniadol i drefnu parti twt - nag yn wir parti o unrhyw fath.

O dyna bechod a finnau newydd cael gwahoddiad !!
ReplyDeleteFaint o'r gloch oedd o eto?
ReplyDeleteA fi.
ReplyDelete