Saturday, July 13, 2013

Ymdrech ddiweddaraf Gwil

Dwi braidd yn hwyr yn ymateb i golofn bropoganda Llafur Golwg y tro hwn - yn bennaf oherwydd pwysau gwaith.

Yr hyn sydd gan Gwil y tro hwn ydi bod y mudiad gwrth Wylfa B ar Ynys Mon - PAWB - yn fois iawn wedi'r cwbl ac y dylai pob ymgeisydd fynd ati'n syth bin i ymateb i'w cwestiynau arweiniol nhw am Wylfa B.  Rwan rhyw chwarae newid ochr ynglyn ag ynni niwclear mae Gwil wrth gwrs - y bwriad ydi cefnogi strategaeth Llafur o droi'r is etholiad yn refferendwm ar Wylfa B.

Mae'r strategaeth honno yn weddol idiotaidd wrth gwrs - rhywbeth tebyg i geisio troi etholiad San Steffan yn refferendwm ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Does gan y Cynulliad ddim mwy o ddylanwad tros bolisi niwclear na sydd gan San Steffan ar bolisi iechyd yng Nghymru.  Yn yr ystyr yna mae Llafur a Gwilym fel ei gilydd yn byw mewn Byd cyn ddatganoli.

Dwi heb gael cyfle i ganfasio ym Mon tan y penwythnos hwn oherwydd gofynion gwaith, ond dwi wedi bod wrthi'r prynhawn yma a neithiwr.  Ychydig cyn gorffen heddiw aeth dau gyd ganfasiwr a minnau ati i gyfri faint o weithiau oedd pobl wedi codi Wylfa B efo un o'r  tri ohomom.  Beth ydych yn meddwl oedd y cyfanswm - 100, 50, 10, 5?  Naci wir sero oedd y cyfanswm.  Doedd yna ddim un enaid byw wedi codi'r mater.  Neb.

Ac yn yr ystyr yna efallai bod etholwyr Mon yn bobl ol ddatganoli tra bod Gwil a'r Blaid Lafur yn y bon yn greaduriaid cyn ddatganoli - yn llafurio o dan yr argraff ei bod yn bosibl gwneud rhywbeth sy'n ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn unig fater trafod etholiad Cynulliad.  

14 comments:

  1. Anonymous5:12 pm

    Digon gwir - dyna dwi'n glywed yn rheolaidd hefyd drwy siarad a fy nghydweithwyr gwleidyddol ac anwleidyddol - mae pawb yn dweud fod hon yn "non-ddadl" - hynny yw, nid gwleidyddion na Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu os bydd Wylfa a'i peidio, ond byd busnes mawr a San Steffan.

    ReplyDelete
  2. Anonymous5:56 pm

    O fod ym Môn yn yr wythnosau diwethaf ma, fe fyddwn i'n dweud mai un pwnc un unig sy'n codi dro ar ôl tro. Y pwnc llosg ydi ...
    Boi lleol. Fe fyddwn i'n mynd mor bell a dweud bod o leiaf chwarter yr etholwyr yr ydw i wedi siarad gyda nhw wedi cyfeirio at y ffaith fod Rhun wedi ei fagu ym Môn, ac yn chwarae rhan amlwg ym mywyd yr ynys.

    ReplyDelete
  3. Anonymous6:31 pm

    Y gwir ydi y dylai fod yn bwnc llosg. Dwi o blaid egni niwcliar fy hun, ond gallaf weld pam fod pobl yn ei erbyn. Mae angen trafod y peth - ac mae barn pleidiau gwleidyddol yn bwysig, ac nid ddylai yr un ohonynt smalio nad yw diffyg grym yn esgus dros ddiffyg barn. Apathi llwyr sy'n gyfrifol am y ffaith nad yw'n codi ar y stepan drws, ond nid yw'n rhywbeth i ni ymhyfrydu ynddo. Os mai 'boi lleol' ydi'r unig faes sy'n cyfri mewn etholiad, wel duw a'n helpo

    ReplyDelete
  4. Anonymous8:01 pm

    Anon 6.31

    Os y boi lleol sy'n deall dyheadau y bobl, pam ddim? Mae niwcliar yn faes diddorol ond mae hefyd yn ddyrys ac mae'n rhy hawdd i bleidiau diegwyddor ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n dwyllodrus ac anonest.

    ReplyDelete
  5. Fasa Anon(s) yn licio defnoddio Name/URL - hyd yn oed rhywbeth fel anon1..? Gallai ddilyn pwy sy'n deud be wedyn!

    ReplyDelete
  6. Anonymous9:31 pm

    Pob lwc hefo curo ar ddrysau Ynys Môn a dweud wrth yr etholwyr bod eu blaenoriaethau yn anghywir

    ReplyDelete
  7. Anonymous10:48 pm

    Wedi bod yn canfasio yng Nghaergybi heddiw, mi fyddwn i'n cadarnhau mai ychydig iawn, iawn o bobl a gododd mater Wylfa B mewn 6 awr o droedio heolydd y dref, felly mi rwyt ti'n llygad dy le fan hyn.

    Ond dwi'n anghtuno a'r syniad yma mai'r cwbl sydd angen i PC ei wneud ydi chwarae'n saff a dweud wel polisi San Steffan ydi Wylfa B a dim byd i'w wneud hefo ni yng Nghymru. Be wnaeth fy nharo i heddiw ydi pa mor eithriadol o feddal ydi'r bleidlais lafur bellach hyd yn oed yng Nghaergybi.Yn lle ceisio amddiffyn rhag y cryfder tybiedig hwn sydd gan Lafur sef "Wylfa B": mae'n bryd troi tu min arnyn nhw, a gwneud datganoli grym dros ynni i Gymru yn bwnc mwy canolog yn yr is-etholiad hwn. Mae isio dangos pa mor rannedig a di-ddal y mae Llafur ar y mater allweddol hwn, a thrwy wneud hynny troi gwendid yn gryfder.

    ReplyDelete
  8. Dwi ddim yn anghytuno efo hynny Anon 10.48.

    ReplyDelete
  9. Diolch am y blog diddorol, mae wedi gwneud i mi feddwl, ac alla'i ddim cytuno'n llwyr.

    Wedi sgwennu blog fan hyn: http://ifanmj.blogspot.co.uk/2013/07/dont-mention-wylfa.html

    ReplyDelete
  10. Mae agweddau pobl Mon at Wylfa B yn gymhleth Ifan. Dydi ymateb simplistig gan y Blaid i'r mater ddim yn addas. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn agos at safbwynt y Blaid - os ydi Wylfa B yn dod, yna dylai'r swyddi fod yn lleol.

    ReplyDelete
  11. Does gen i ddim byd yn erbyn safbwynt y Blaid, Cai (er ei fod yn anodd dirnad beth yw eu safbwynt ar y mater ar adegau). Yr honiad nad yw'n fater werth ei drafod o gwbl yn nghyd destun etholiad Cynulliad sy'n fy mhoeni i.

    ReplyDelete
  12. Anonymous8:29 pm

    A ddylai'r Aifft a Syria fod yn bwyntiau trafod yn is-etholiad Mon ar gyfer y Cynulliad hefyd, felly?

    ReplyDelete
  13. Anonymous6:58 pm

    Nid yw tynged y Palestiniaid yn nwylo'r cynulliad, ond mae gan PC bolisi arnynt. Ni chredaf i Jill Evans siarad am unrhywbeth arall erioed.

    ReplyDelete
  14. Anonymous8:51 pm

    Anon 6:58 wyt ti'n bod yn fwriadol ddwl? Trafodaeth ynghylch teilyngdod pynciau adeg etholiadau'r Cynulliad sydd yma. Os oes yna ddisgwyl I drafod pynciau nad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, megis ynni dros 50MW (niwclear yn yr achos yma) yna mae'n ddigon rhesymegol gofyn a ddylid felly gael trafodaeth ar drafferthion cyfredol yr Aifft a Syria, neu faterion trethianol ayb.

    Ni fu Jill Evans yn AC erioed - ASE yw hi, ac mae Senedd Ewrop yn trafod materion rhyngwladol yn gyson. Mae yno is-bwyllgor ar Balesteina yn cael ei gadeirio gan Emer Costello, Iwerddon. Mae'n iawn ac yn berthnasol iddi drafod Palesteina felly.

    ReplyDelete