Thursday, July 25, 2013

Capmwaith diweddaraf Gwilym Owen

Dydi bisar ddim yn air digon cryf rhywsut i ddisgrifio colofn ddiweddaraf Gwilym Owen yn Golwg.

Mae dyn yn rhyw gymryd mai'r rheswm bod Golwg yn talu i Gwil am ei druth pythefnosol ydi oherwydd eu bod (am resymau sy'n amlwg yn unig i olygydd Golwg) eisiau iddo fynegi ei farn am y Byd a'i bethau - neu a bod yn fwy manwl am Gymru a'i phethau.  Efallai bod y farn honno yn ymdebygu i rhywbeth wedi ei lusgo o Oes y Cerrig yn amlach na pheidio, ond dyna mae Golwg ar ei ol.



Mae ymdrech y rhifyn cyfredol yn ymwneud bron yn llwyr a phroblem fach gafodd Gwil ei hun - sef cael ei ddychanu ar raglen radio Tudur Owen (sgwn i os ydyn nhw yn perthyn?).  Os dwi'n cofio yn iawn ymddangosodd deinasor bach o'r enw Gwilym ar raglen Tudur  ac roedd gan y deinasor lais tebyg iawn i un Gwilym Owen.  Penderfynodd teulu (dychmygol) Bron Meirion ei fabwysiadu, ac yn naturiol ddigon roedd rhaid rhwbio ei drwyn yn ei faw pob hyn a hyn - er mwyn sicrhau ei fod yn ffit i aros yn y ty.

Wnaeth Gwil ddim cymryd hyn oll yn dda - mynodd ymddiheuriad gan y Bib - ac yn gwbl anhygoel mi gafodd un - yn ol ei dystiolaeth ei hun o leiaf.

 Rwan mae yna rhywbeth yn ddigri yn hyn oll - y boi sy'n ei tharannu hi am rhywun neu'i gilydd yn rheolaidd, sy'n galw am sacio hwn a dilorni'r llall pob cyfle gaiff yn ofnadwy, ofnadwy o groen denau ei hun yn wyneb mymryn o ddychan di niwed.  Ond o ddifri - ydi'r Bib yng Nghymru mor lleddf a llwfr nes eu bod yn ymddiheuro i bobl sy'n wrthrychau mymryn o ddychan ysgafn a di niwed mewn eitem gomedi ar y radio.  Neu efallai mai gwedd arall ar barchedig ofn y Gorfforaeth yng Nghymru o'r Blaid Lafur sydd ar waith.  Dydyn nhw ddim i fod i wneud sbort  am ben eu propogandwyr hunan bwysig.

ON - Gwil - fy neinasor bach sensitif i, os ti'n darllen  - os ti byth yn dod yma i chwilio am ymddiheuriad, gwna'n siwr nad wyt ti'n cachu ar y llawr neu mi fyddaf yn rhwbio dy drwyn ynddo nes ei fod yn ddu, las, frown.  O - a fyddi di ddim yn derbyn dy ymddiheuriad chwaith.  Dallt?

8 comments:

  1. George Alexander Louis a'r Rocyrs6:20 pm

    Wps, capmwaith.

    ReplyDelete
  2. Rwy'n mynd i reportio ti i'r RSPCA am greulondeb i ddeinasor bach di niwed

    ReplyDelete
  3. Does yna ddim arall wnei di wir Dduw Alwyn - waeth i chdi heb a trio rhesymu efo deinasor - dydyn nhw'n gwrando dim - dim ond baeddu a baeddu a baeddu. Os ti ddim yn rhoi dy droed i lawr mi gei di dy gladdu o dan fynydd o gachu.

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:57 pm

    Lle alla i glywed y rhaglen yma - ydi o ar yr Iplayer neu Youtube?. Mae'n bwysig bod cyn gymaint ohonom a phosib yn cael clywed y rhaglen er mwyn sefydlu os oes gan Gwil bwynt.

    ReplyDelete
  5. Gofyn i Gwil - mae ganddo fo CD o'r rhaglen yn ol Golwg.

    ReplyDelete
  6. Anonymous1:20 am

    "ydi'r Bib yng Nghymru mor lleddf a llwfr nes eu bod yn ymddiheuro i bobl sy'n wrthrychau mymryn o ddychan ysgafn a di niwed mewn eitem gomedi ar y radio? " Wrth gwrs eu bod nhw.

    ReplyDelete
  7. Anonymous9:16 am

    Mae Golwg yn rho colofn iddo am ei fod yn creu ymateb fel hyn, ac mae Golwg yn cael hysbyseb am ddim yn bythefnosol ar un o flogiau mwyaf poblogaidd Cymru. Yr un rheswm a mae'r Indy yn cael colofnwyr adain dde i wylltio eu darllenwyr adain chwith i fewn i ymateb a vice vera efo'r Mail.a Express.

    ReplyDelete