Wednesday, May 01, 2013

Etholiadau ddydd Iau - rhan 1 Ynys Mon

Mi fydd yna etholiadau yn rhai o siroedd Lloegr - rhai cymharol wledig a cheidwadol yn bennaf ac yn Ynys Mon ddydd Iau.  Cawn gip ar Ynys Mon yn gyntaf.

Er nad oes gen i lawer o wybodaeth arbennig ynglyn a sut mae pethau yn mynd dwi'n meddwl y bydd y Blaid yn gwneud yn dda, ac efallai yn dda iawn.  Mae yna nifer o resymau am hyn.

Mae'r traddodiad annibynnol ym Mon wedi methu mewn ffordd nad yw wedi methu yn unman arall yng Nghymru.  Er na ddylid byth dan gyfrif gallu rhai ar yr Ynys i beidio a gweld perthynas rhwng yr unigolyn maent yn pleidleisio trosto a'r weinyddiaeth yn Llangefni, mae yna syrffed cyffredinol efo antics y cyngor tros y blynyddoedd, ac mae hynny yn siwr o gael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio.

Mae'r drefniadaeth etholiadol newydd - llai o wardiau, llai o gynghorwyr, wardiau aml aelod - yn cynyddu'r pwysau ar yr ymgeiswyr annibynnol yn sylweddol.  Mae'n hawdd i unigolyn ddod i 'nabod digon o bobl i'w ethol mewn ward gyda 1,500 o etholwyr, ond mae'n stori cwbl wahanol mewn ward efo 6,000 o etholwyr.  Mewn ward o'r maint yma mae poblogrwydd plaid yn dod yn fwy pwysig na phoblogrwydd personol, ac mae'n anodd cysylltu efo trigolion pob rhan o'r ward heb gael trefniadaeth i wneud hynny.  Mae gan bleidiau gwleidyddol strwythurau i ymladd etholiadau tra nad oes gan unigolion drefniadaeth felly.

Felly gallwn ddarogan gyda pheth sicrwydd y bydd ymgeiswyr pleidiol yn gwneud yn well tra bydd rhai annibynnol yn gwneud yn salach.  Ond dydi hynny ddim yn egluro pam fy mod yn meddwl y bydd y Blaid yn gwneud yn dda.  Un rheswm amlwg ydi mai Plaid Cymru ydi'r blaid sydd efo'r mwyaf o gefnogaeth (ac aelodau) ar yr ynys.  Iawn - dwi'n gwybod Albert Owen ydi'r AS - a dydi hwnnw ddim yn Bleidiwr.  Ond mae etholiadau San Steffan yn rhai sydd yn cael eu hymladd mewn cyd destun o gyfraddau pleidleisio uchel a sylw cyfryngol Prydeinig di baid am wythnosau sy'n adlewyrchu naratifau etholiadol Prydeinig.  Cwestiwn sylfaenol etholiad San Steffan ydi pwy sydd fwyaf addas i lywodraethu yn San Steffan?

O ddileu'r amgylchiadau hyn mae Plaid Cymru pob amser yn perfformio'n well na'r pleidiau unoliaethol yn Ynys Mon - mewn etholiadau Ewrop, Cynulliad a rhai cyngor.  Does yna ddim rheswm o gwbl i feddwl y bydd pethau yn wahanol y tro hwn.  Y gwrthwyneb sy'n wir - mae Ynys Mon yn dir anodd iawn i'r Lib Dems hyd yn oed pan mae'r amgylchiadau ehangach yn ffarfiol - a dydyn nhw ddim ar hyn o bryd.  Dydi'r Toriaid ddim yn debygol o wneud yn dda chwaith - mae UKIP yn bwyta rhan o'u cefnogaeth ac mae amgylchiadau ehangach yn anodd iddynt hwythau.  Er bod yr etholaeth yn un llai gwledig na mae llawer o bobl yn dychmygu, mae yna rannau helaeth ohoni yn wledig ac felly yn anodd i'r Blaid Lafur.

Ychwanegwch at hynny'r ffaith i'r Blaid ymladd ymgyrch fwy eang a systematig na'r un o'r pleidiau eraill, a gallwn gymryd y bydd y Blaid yn gwneud yn dda.  Amser a ddengys os bydd yn gwneud yn ddigon da i gipio grym ar ei phen ei hun.

12 comments:

  1. http://penartharbyd.wordpress.com9:06 pm

    Be careful what you wish for. Multi-member wards are undemocratic - see here for the detail: http://penartharbyd.wordpress.com/2012/09/03/the-anti-democratic-local-government-boundary-review/
    The principal reason for people welcoming the new multi-member wards in Mon appears to be because it will reduce the chances of independent candidates winning. But the parties that have slumbered so long on Mon are at least as complicit as the independents in seeing the island's administration become a laughing stock. If they wanted to do something about it they could have started campaigning effectively - and putting up credible candidates - decades ago.

    ReplyDelete
  2. Not as undemocratic as a system that saw most councillors returned unopposed.

    ReplyDelete
  3. Aled GJ10:33 pm

    Dwi di bod yn canfasio a dwi ddim mor siwr y bydd yr annibynwyr yn cael eu chwalu fel ti'n awgrymu. Yn wyneb system mor anghyfarwydd,a chymaint o wynebau newydd yn trio, mae'n fwy na bosib y bydd pobl yn ymateb i hynny trwy lynu wrth bobol maen nhw'n eu nabod ac annibynwyr ydi'r rheini i bbod pwrpas. O gofio natur bragmataidd yr ynyswyr, yr hyn dwi'n gweld yn digwydd ydi'r senario uchod hefo etholwyr hefyd yn 'hedgio'i bets' trwy roi ail/trydydd fot i beirianwaith plaid cydnabyddedig er mwyn cadw'r annibyns mewn trefn y tro hwn. Faswn i ddim yn synnu gweld hi'n 11-11 rhwng PC a'r Annibyns a bod yn onest. Mi fasa hyn dal yn ganlyniad da iawn i PC.

    ReplyDelete
  4. Wel - mewn ward o chwe mil dydi'r rhan fwyaf ddim am 'nanod ymgeiswyr unigol.

    ReplyDelete
  5. Aled GJ9:24 am

    Ia, ond y pwynt ydi hefo cymaint o ymgeiswyr yn trio yn y wardiau newydd, y perig ydi y gall rhai ymgeiswyr annibynnol grafu drwodd jest wrth ganolbwyntio ar eu pleidlais bresennol yn yr hen ward heb orfod poeni gormod am ledu eu hapel!

    ReplyDelete
  6. Aled,

    Dim mor siwr. Fydd canolbwyntio ar bledlais bresennol ddim yn ddigon. Mewn ward o 6000, mi fydd angen tua 1500 i enill - dwi'm yn meddwl bod bleidlais bresennol neb yn agos at hyna.

    OND mi gawn weld!! Edrych mlaen!

    Pen ar y bloc -
    Plaid Cymru 15
    Llafur 8
    Annibynnol 7

    ReplyDelete
  7. Mathemateg ydi hyn yn y bon Aled.

    Cymerer y sefyllfa cwbl ddychmygol isod:

    Mae Mr A yn boblogaidd yn Llanfaethlu ac mae Mr B yn nabod pawb ym Modedern. Mae'r ddau yn ymgeiswyr annibynnol.

    Rwan mae'n rhesymol disgwyl i'r ddau wneud yn dda yn eu pentrefi eu hunain - felly bydd pobl y pentrefi hynny'n fotio trostynt. Ond bydd gan y pleidleiswyr ddwy fot arall - ac mae'n debyg mai i hoff blaid y bobl hynny bydd y rheiny yn mynd.

    Felly bydd pleidleisiau i Mr A + pleidiau yn Llanfaethlu a phleidleisiau i Mr B + pleidiau ym Modedern. Efallai bod rhannau o'r ward lle na fydd neb yn 'nabod Mr A na Mr B - felly bydd pleidleisiau'r lleoedd hynny yn tueddu i fynd i bleidiau.

    Mewn geiriau eraill dydi llwyth o fots ym mhentrefi Mr A a Mr B ddim digon. Bydd ail a thrydydd pleidleisiau pleidleiswyr Mr A a Mr B yn canslo'r bleidlais iddyn nhw allan.

    ReplyDelete
  8. Aled GJ10:41 pm

    Hyn yn swnio'n resymegol ar yr olwg gyntaf, ond mae hynny'n cymryd yn ganiataol bod pobl yn mynd i ddefnyddio eu tair pleidlais. Wedi clywed sawl un yn dweud na fyddan nhw'n trafferthu gwneud hyn ac mi fydd yna lawer mwy fydd ddim yn gwybod fod ganddyn nhw'r dewis hwn. Dydi Cyngor Mon heb wneud hanner digon i addysgu pobl am y system newydd yn fy marn i.

    O ran pwynt Ioan. Mewn ward o 6,000gyda turn-out( dyweder) o 40%: 2,500 o bleidleiswyr fyddai hynny. Fydd dim angen 1,500 i ennill sedd mewn sefyllfa fel hon: yn wir efallai y byddai 500 yn ddigon os oes tri neu bedwar o ymgeiswyr cymharol gryf eraill yn debyg o daro'r 300/400 yma.

    Ond dwi'n edmygu chdi am roi dy ben ar y bloc ac mi fyddai'n dy edmygu di hyd yn oed yn fwy os wyt ti'n iawn!

    ReplyDelete
  9. Aled - cofia bod 'na 2500x3 o bledleisiau ar gael. Ac am y darogan, paid a poeni - dwi byth yn iawn...

    ReplyDelete
  10. Aled - yn fy mhrofad i o edrych ar focsus yn cael eu hagor yr ochr yma i'r Fenai mae yna bobl yn defnyddio un bleidlais yn unig - ond lleiafrif gweddol fach yi'r rheiny - 10% o bosibl.

    ReplyDelete
  11. Anonymous11:55 am

    Caergybi:

    Llafur 2 (dim newid)
    Annibyn 1 (-1)

    Lab 2863 50% +9%
    Ind 1668 29% -11%
    UKIP 637 11% +11%
    PC 324 6% -10%
    C 263 5% +1%

    ReplyDelete
  12. Aethwy yn erdrych fel
    Plaid 2 (+1)
    Annibynol 1 (-1)
    Lib dems 0 (-1)

    ReplyDelete