Am wn i mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng bobl o gefndir Protestanaidd yn Iwerddon ydi diddordeb mewn materion brenhinol a baneri. Yn yr ystyr yma mae ganddynt gryn dipyn yn gyffredin efo BBC Cymru. Y lon yn arwain at y porthladd sydd yn y llun uchaf (mae pwy bynnag sy'n gwerthu baneri Jac yr Undeb yn lleol yn gyfoethog) a chylchfan ar gyrion y dref sydd wedi ei addurno yn hynod chwaethus sydd ar y gwaelod.
Credaf mai arwyddion o ofn ac ansicrwydd dwfn ymhlith y Protestaniaid yw'r baneri. Maent yn gwybod yn eu calonnau fod dyddiau bodolaeth Gogledd Iwerddon fel rhan o'r DU ar ddod i ben, ond nid ydynt yn barod i wynebu hyn. Mae'r ysgrifen ar y wal.
ReplyDeleteMae'r un peth yn wir am y DU ei hunan. Gwelwn aelodau o deulu brenhinol Lloegr beunydd ar y teledu yn ddiweddar, efo Jac yr Undeb fwyfwy yn y cefndir. Hefyd yr ymosodiadau lu ar yr Albaenwyr sy am annibyniaeth. Arwyddion o ofn mawr ymysg yr elet Brydanaidd fod y DU ar fin dod i ben yw hyn oll.
Dylwn fel Cymru ymfalchio yn y ffaith fod cadarnle olaf ymerodraeth Lloegr yn y broses o gael ei chwalu yn ddarnau a bydd ein gwledydd bach ni yn cael eu rhyddid o'r diwedd.