Un o fy hoff wefannau gwleidyddol i ydi politicalbetting.com. Peidiwch a cham ddeall - os ydych eisiau gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru (a Gogledd Iwerddon o ran hynny) nid dyma'r lle i ddod - mae'n eithaf anobeithiol. Mi gewch chi fwy o wybodaeth am wleidyddiaeth yr Alban - ond mae'r wefan ar ei gorau yn ymdrin a gwleidyddiaeth Lloegr (neu Prydain gyfan efallai). Yn ystod y dyddiau diwethaf maent wedi bod yn tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng amgylchiadau etholiadol yr wyth degau cynnar a rwan.
Y ddau beth hynod am etholiad 1983 oedd i'r Toriaid lwyddo i gynyddu eu mwyafrif mewn seddau yn sylweddol er i'w pleidlais syrthio ac i'r gynghrair Rhyddfrydwyr / SDP lwyddo i ennill bron iawn cymaint o bleidleisiau a Llafur tra'n cael ffracsiwn o'u seddau.
Y canlyniad o ran prif bleidiau'r DU oedd (o'i gopio i Wikipedia) oedd:
Y ddau beth hynod am etholiad 1983 oedd i'r Toriaid lwyddo i gynyddu eu mwyafrif mewn seddau yn sylweddol er i'w pleidlais syrthio ac i'r gynghrair Rhyddfrydwyr / SDP lwyddo i ennill bron iawn cymaint o bleidleisiau a Llafur tra'n cael ffracsiwn o'u seddau.
Y canlyniad o ran prif bleidiau'r DU oedd (o'i gopio i Wikipedia) oedd:
United Kingdom General Election 1983 | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Candidates | Votes | ||||||||||||||
Party | Standing | Elected | Gained | Unseated | Net | % of total | % | No. | Net % | ||||||
Conservative | 633 | 397 | 47 | 10 | + 37 | 61.1 | 42.4 | 13,012,316 | - 1.5 | ||||||
Labour | 633 | 209 | 4 | 55 | - 51 | 32.2 | 27.6 | 8,456,934 | - 9.3 | ||||||
SDP–Liberal Alliance | 633 | 23 | 14 | 0 | + 14 | 3.5 | 25.4 | 7,780,949 | + 11.6 | ||||||
SNP | 72 | 2 | 0 | 0 | 0 | 0.3 | 1.1 | 331,975 | - 0.5 | ||||||
Ulster Unionist | 16 | 11 | 3 | 1 | + 2 | 1.7 | 0.8 | 259,952 | 0.0 | ||||||
Democratic Unionist | 14 | 3 | 2 | 1 | + 1 | 0.5 | 0.5 | 152,749 | + 0.3 | ||||||
SDLP | 17 | 1 | 0 | 1 | - 1 | 0.2 | 0.4 | 137,012 | 0.0 | ||||||
Plaid Cymru | 38 | 2 | 0 | 0 | 0 | 0.3 | 0.4 | 125,309 | 0.0 | ||||||
Sinn Féin | 14 | 1 | 1 | 1 | 0 | 0.2 | 0.3 | 102,701 | N/A | ||||||
Canlyniad yr etholiad blaenorol yn 1979 oedd:
UK General Election 1979 | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Party | Seats | Gains | Losses | Net gain/loss | Seats % | Votes % | Votes | +/− | ||
Conservative | 359 | +20 | 55 | 44.9 | 13,703,429 | |||||
Labour | 261 | -8 | 40 | 37.7 | 11,512,877 | |||||
Liberal | 9 | -2 | 1 | 14.2 | 4,324,936 | |||||
SNP | 2 | 0 | 0 | 1.6 | 497,128 | |||||
Plaid Cymru | 2 | 0 | 0 | 0.4 | 135,241 | |||||
Others | 17 | +5 | 3 | 3.4 | 1,063,263 |
[edit]
Beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd ydi i'r bleidlais 'Chwith' hollti gyda thair miliwn o bleidleiswyr Llafur ynghyd a rhai cannoedd o filoedd o rhai Toriaidd yn troi at y gynghrair newydd. Canlyniad i'r system etholiadol ryfedd sydd gennym yn y DU ydi dpsbarthiad anarferol y seddi.
Daw hyn a ni at Etholiad Cyffredinol 2015. Does yna ddim posiblirwydd o hollt ar y Chwith erbyn hynny, ond mae yna hollt ar y Dde eisoes yn bodoli. UKIP ydi wyneb pleidiol yr hollt hwnnw. Mae'r blaid adain Dde eithafol yn gwneud yn well nag erioed o'r blaen yn y polau, daethant yn ail yn is etholiad Eastleigh, mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu y byddant yn ail adrodd y gamp yn South Shields ac mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y gallant ddod ar y brig yn etholiadau Ewrop 2014. Yn wir ar un ystyr gallwn ddadlau bod y bleidlais adain Dde ym Mhrydain yn cael ei hollti dair ffordd yn y DU ar hyn o bryd. Mae cefnogwyr adain Chwith y Lib Dems wedi mynd 'adref' at Lafur gan adael y Lib Dems, y Toriaid ac UKIP yn brwydro am y bleidlais adain Dde.
Dydi hyn oll ddim yn golygu y bydd UKIP yn gwneud i'r bleidlais Doriaidd yr hyn a wnaeth y Gynghrair Ryddfrydol / Lib Dem i'r un Llafur yn 1983. Dydi'r Toriaid ddim yn yr un llanast a Llafur yr 80au cynnar, does 'na ddim cymaint o wynt cyfryngol y tu ol i UKIP nag oedd y tu ol i griw David Owen a David Steel, gwan iawn ydi trefniant UKIP ar lawr gwlad a bydd canfyddiad mai dewis rhwng Llafur a'r Tori sy'n dal y sedd ydi hi yn gwneud i bobl fyddai'n hoffi cefnogi UKIP beidio a gwneud hynny mewn llawer o etholaethau. Yn wir mae'n ddigon tebygol na fydd UKIP yn ennill cymaint ag un sedd yn 2015. Ond gallant wneud niwed sylweddol i'r Toriaid beth bynnag - yn arbennig o gofio bod y gyfundrefn etholiadol sydd gennym ar hyn o bryd yn ffafriol iawn i Lafur beth bynnag.
Os nad ydi'r Toriaid yn dod o hyd i ffordd o ddelio efo UKIP gallai eu cyfanswm seddi fod yn llawer is na mae neb - gan gynnwys y marchnadoedd betio yn ei gredu.
Pe bai hynny'n digwydd mi fetai i y byddai'r Toriaid yn edifarhau peidio a gweithredu AV / sytem cyfrannol o ryw fath.
ReplyDeleteIa, mi fyddai AV wedi lliniaru ar y broblem yn sylweddol - byddai'r pleidleisiau UKIP wedi dychwelyd atynt.
ReplyDeleteDigon o wahaniaeth i golli pob sedd ac eithrio un yn yng Nghymru, efallai? Gallai UKIP yn sicr golli seddi Dafi Jones a Dafi Davies i'r naill a'r llall. 'A nation mourns', fel ddudod Private Eye 'stalwm.
ReplyDeleteYr unig amheuaeth sydd gennyf ydi Trefaldwyn. Y ffactor bwysig fan'na fydd yr Ymgeisydd DeRhydd...
Wyt ti wedi gweld enwebiadau Mon. Mae nifer yr ymgeiswyr yn sylweddol ?
ReplyDeleteDo - mi soniaf am yr etholiadau hynny mewn ychydig ddiwrnodiau.
ReplyDelete