Mae Vaughan Roderick yn hollol gywir i nodi nad ydi sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gweithio yn arbennig o dda, ac mai un o'r prif resymau am hynny ydi strwythur y sesiynnau hynny - aelodau yn darllen eu cwestiynau yn gloff, aelodau ddim yn dangos iot o ddiddordeb yn yr hyn sy'n mynd ymlaen, a dim digon o gwestiynau atodol i arweinwyr y gwrth bleidiau fynd i'r afael efo 'atebion' Carwyn Jones.
Ond efallai na fyddai Vaughan yn meindio i mi wneud awgrym pellach. Byddai yn gwneud Byd o les petai'r Llywydd yn dweud wrth Carwyn Jones am ateb y blydi cwestiwn pob tro mae'n dechrau rwdlan am David Cameron, George Osborne neu unrhyw beth arall sy'n digwydd yn San Steffan.

Tydw i'm yn meddwl imi unwaith glywed Carwyn Jones yn ateb cwestiwn gan un o aelodau'r gwrthbleidiau erioed. Ma'r holl beth yn ffars.
ReplyDeleteMae'r aelodau yn dangos difaterwch tuag at aelodau eraill ymhob sesiwn cwestiynau. Mae'r lle yn farwaidd. Byddai tipyn bach o weiddi neu chwerthin yn help - unrhyw beth i feithrin ychydig o fywyd i'r gweithgareddau
ReplyDelete