Dydi Blogmenai ddim yn trafferthu edrych ar bolau Prydeinig unigol fel rheol, ond mae pol achlysurol Michael Ashcroft yn un arbennig ac mae'n cynnig mwy na'r rhan fwyaf o bolau piniwn arferol. Mae'n canolbwyntio ar etholaethau ymylol - y rhai sy'n penderfynu etholiadau Prydeinig, mae'r sampl yn anferth a felly'n ei gwneud yn bosibl i edrych ar ranbarthau unigol mewn ffordd ystyrlon, mae'n grwpio etholaethau yn ol deinameg gwleidyddol a daearyddiaeth ac mae'n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod pobl yn aml yn gadael i ffactorau lleol ddylanwadu ar y ffordd maent yn pleidleisio. Yn anffodus - yn wahanol i'r Alban, dydi Cymru ddim yn cael ei thrin fel uned arwahan - felly mae angen ychydig o waith cyn gallu dod i gasgliadau am etholaethau Cymreig. Dydi'r pol ddim yn edrych ar etholaethau lle mae Plaid Cymru'n gystadleuol chwaith. Serch hynny dyma ymgais i ddod i gasgliadau am etholaethau Cymreig o ddata pol Ashcroft.
I ddechrau mae'r pol yn awgrymu bod gogwydd o 5.5% oddi wrth y Lib Dems tuag at y Toriaid mewn etholaethau gwledig lle mae'r melynion yn gyntaf a'r gleision yn ail. Awgryma hyn y collid Brycheiniog a Maesyfed.
Mae'r ogwydd oddi wrth y Lib Dems tuag at Lafur yn anferth mewn etholaethau Cymreig a Seisnig lle mae'r naill yn gyntaf a'r llall yn ail - 17.1%. Awgryma hyn y byddai'r Lib Dems yn colli o filltiroedd yng Nghanol Caerdydd.
Does yna ddim categori yn y pol sy'n ffitio'n union efo seddi ymylol Toriaidd / Llafur yng Nghymru, felly mae dod i gasgliadau yma yn fwy anodd. Mae'r gogwydd tuag at Lafur yn amrywio o 5% yn Llundain i 10.5% yn yr etholaethau o gwmpas aber yr Afon Tafwys. Ond os ydym yn cymryd bod y gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yng Nghymru o gwmpas cymedr holl etholaethau ymylol Toriaid / Llafur ardaloedd Ashcroft, cawn ogwydd o 8.1%. Canlyniad gogwydd felly i'r Toriaid fyddai colli Aberconwy, Preseli / Penfro, De Penfro / Gorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg a Gogledd Caerdydd. Cant neu ddau fyddai ynddi yng Ngorllewin Clwyd.
Petai canfyddiadau pol Ashcroft yn cael eu gwireddu yn 2015, tair sedd yn unig y gallai pleidiau'r glymblaid fod yn hyderus eu cadw - Mynwy, Brycheiniog a Maesyfed a Threfaldwyn. Y Toriaid fyddai'n ennill y dair yn ol pob tebyg. 'Dydi cyfyngiadsu'r pol ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau am Ceredigion.
Gellir gweld data'r pol yma.

Mae yna sectiwn wahanol ar seddi ceidwadol yng nghymru "Conservative seats in Wales" http://lordashcroftpolls.com/2013/03/marginal-territory-the-seats-that-will-decide-the-next-election/#more-2052
ReplyDeleteCeid 33 Llaf 40 Rhyd 3 PC 9 UKIP 11
O'i gymharu ar etholiad 2010 yn y sedd yma (mean o'r canran yn yr 8 sedd ceidwadol yn 2010)
Ceid 41 Llaf 27 Rhyd 19 PC 9 UKIP 3
Uniform swing Tories yn cadw Maldwyn yn hawdd ac yn cadw Mynwy o 2%.
Ia, ti'n gywir Twm - dwi'n gwneud cam ag Ashcroft - darllen yr adroddiad wnes i yn hytrach na'r data atodol.
ReplyDeleteAr y ffigyrau Cymreig gallai'r Toriaid yn hawdd golli pob dim ag eithrio Maldwyn.
.. a PC golli Arfon, ond enill Ceredigion?
ReplyDeleteDydi pol Ashcroft ddim yn edrych ar seddi Plaid Cymru - felly dydi hi ddim yn bosibl dod i gasgliadau ynglyn a hynny.
ReplyDeleteI'm excellent at financial planning, and giving advice about weather to purchase certain items or cut back. how can i begin a website handing out these suggestions?.
ReplyDeletemy weblog transvaginal mesh
My page: paginasamarillas-atl.com