Ar un olwg ddim llawer - does yna ddim llawer o seddi cyfoethog sy'n ymylol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid yng Nghymru.
Ond ac edrych tipyn yn fwy craff mae rhai o'r gwersi sydd wedi eu dysgu yn Lloegr yn berthnasol i Gymru hefyd:
Ond ac edrych tipyn yn fwy craff mae rhai o'r gwersi sydd wedi eu dysgu yn Lloegr yn berthnasol i Gymru hefyd:
- Ymddengys bod llawer o bobl yn cael cryn broblem pleidleisio i'r Toriaid - hyd yn oed pan roedd pethau yn mynd o'u plaid megis yn 2010. Pan nad ydi amgylchiadau o'u plaid mae'r duedd yma'n mynd yn fwy trawiadol.
- Mae'r Toriaid yn agored iawn i golli pleidleisiau i UKIP. Gallai hynny effeithio ar eu gobeithion o gadw y rhan fwyaf o'u seddi Cymreig. Byddai gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yn ogystal a cholled pleidleisiau i UKIP yn farwol i'w gobeithion yn y bedair sedd a enillwyd gan Lafur yn 2010 (Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg a De Penfro / Gorllewin Sir Gaerfyrddin).
- Mor amhoblogaidd ag ydi'r Lib Dems mae yna lawer o bobl yn ei chael yn haws fotio iddyn nhw pan mai'r Toriaid ydi'r dewis amlwg arall. Mae'r etholiad yma yn anarferol yn y ffaith bod y ddwy blaid oedd yn gyntaf ac yn ail mewn llywodraeth - dydi'r busnes 'is etholiad - pleidlais brotest' ddim yn gweithio. Lle mai dewis Tori / Lib Dem fydd hi yn 2015 bydd y bleidlais Lib Dem yn anisgwyl o wydn.
- Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o seddi Lib Dem / Llafur yn siwr o gael eu colli, mae'n debygol bod cyfle da gan y Lib Dems i ddal y rhai Lib Dem / Toriaid. Gweddol fach ydi mwyafrif Glyn Davies ym Maldwyn wrth gwrs - ac efallai nad ydi'r sedd yna mor saff i'r Toriaid a mae pawb wedi cymryd hyd yn hyn.
Ydi UKIP yn mynd i fod yn rym newydd yng Nghymru yn denu y rhai hynny sydd yn wrth-Undeb Ewropeaidd ac yn wrth-cynulliad?
ReplyDeleteWel, pe bydden nhw yn cael cymaint o bleidleisiau na maent yn ei bolio ar hyn o bryd mewn etholiad Cynulliad byddant yn cael seddi - ond - ac mae'n ond mawr - waeth i ni heb a darogan etholiad y Cynulliad. Erbyn hynny bydd y tirwedd yn wahanol - mi fydd yna lywodraeth Lafur yn San Steffan.
ReplyDelete