Wednesday, February 06, 2013

Y Cyfrifiad a Mewnlifiad

Mae'n debyg ei bod yn beth amlwg braidd i'w ddweud bod cysylltiad clos rhwng mewnlifiad a chanrannau sy'n siarad y Gymraeg - yng Ngwynedd o leiaf.  Ond edrychwch am ennyd ar y ffigyrau isod.  Maent yn dangos lle ganwyd trigolion pedair ward Caernarfon, Llanrug a Llanberis. 



Byddwch efallai'n cofio bod y ffigyrau siarad y Gymraeg fel a ganlyn (ffigyrau 2001 yn gyntaf, 2011 wedyn):

Seiont 1 - 83.8% / 80.6%
Seiont 2 - 90% / 90%
Peblig - 87.1% / 87.3%
Cadnant - 86.3% / 86.2%
Menai - 83.6% / 83.9%
Llanrug - 86.3% / 87.8%
Llanberis - 80.6%\74.4%

Mae'n weddol amlwg o'r ffigyrau - fel y byddai dyn yn disgwyl  - bod perthynas agos rhwng lefelau genedigaeth yng Nghymru a lefelau'r gallu i siarad y Gymraeg.  Ond yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod y niferoedd (neu o leiaf y canrannau) o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn gostwng yng Nghaernarfon a Llanrug, tra eu bod yn codi yn Llanberis. Bu cwymp sylweddol yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Llanberis wrth gwrs.  Fel y rhagwelwyd mewn blogiad blaenorol bu cynnydd yn y niferoedd sydd wedi eu geni y tu allan i'r DU yn ward Seiont, a bu cwymp yn y rhan o'r ward honno sy'n cwmpasu canol tref Caernarfon.  Ond mae'n ymddangos bod cysylltiad clos iawn rhwng perfformiad cryf o ran y Gymraeg mewn ward a chwymp yn y nifer y bobl a anwyd yn Lloegr sy'n byw yno. 

Dwi heb edrych ar y wardiau eraill lle mae'r Gymraeg yn perfformio'n gryf - ond fyddwn i'n synnu dim petaent oll wedi eu nodweddu gan gwymp yn y nifer o bobl sydd wedi eu geni'n Lloegr sy'n byw ynddynt.





5 comments:

  1. Anonymous7:25 pm

    difyr iawn. Diddorol edrych ar clwstwr hefyd lle gwelwyd gostyngiad os bosib

    ReplyDelete
  2. Mi dria ni - ond ddim heno.

    ReplyDelete
  3. Anonymous9:46 am

    Falle ddylai MH, dyn sy'n rhedeg SYNIADAU, ddarllen hwn. Dw e ddim yn gweld unrhyw cysylltiad rhwng marwolaeth yr iaith a'r mewnlifiad.

    ReplyDelete
  4. Mae'n ddiddorol bod y ganran sy'n siarad Cymraeg yn uwch na'r ganran a aned yng Nghymru mewn rhai wardiau. Dw i'n eithaf sicr bod y ganran a fedrai Cymraeg yn hen etholaeth Caernarfon ryw 3% yn uwch na'r ganran a aned yng Nghymru, os cofiaf yn iawn.

    Plant, a aned yn Lloegr ac wedi symud i ysgol yma, ydi'r rheswm am hynny mae'n bur debyg, ond mae'n rhywbeth calonogol - yr hyn mae'n ei ddangos ydi pan fo mwyafrif llethol cymuned yn siarad Cymraeg ydi bod pwysau ar fewnfudwyr i gyfrannu at yr iaith, sydd ynddo'i hun yn amlygu pa mor gwbl, gwbl hanfodol ydi cymunedau Cymraeg (a bod y 70% hudol 'na yn bwysig hefyd.

    Rhaid imi gytuno am Syniadau hefyd - tybed a fydd yr ystadegau diweddaraf yn newid ei feddwl?

    ReplyDelete
  5. HOR - ambell i bwynt.

    Dwi heb wneud dadansoddiad cynhwysfawr wrth gwrs - mae'r data ar ffurf sy'n anodd cael gafael arno ar hyn o bryd - felly fedrwn ni ddim dod i gasgliadau cadarn o'r chwe ward dwi wedi edrych arnynt. Serch hynny byddwn yn synnu petai patrwm cyffredinol y Gog Orll yn amrywio llawer o'r un rydym wedi edrych arno.

    Ti'n gywir i nodi bod canrannau siarad Cymraeg weithiau'n uwch na'r un geni yng Nghymru. Mae hynny'n fwy gwir mewn ardaloedd gwledig - ac yn arbennig felly yn nwyfor (o be dwi'n gofio o 2001. Dwi heb edrych - ond byddai o gryn syndod i mi os oes unrhyw ward wledig yn Nwyfor efo cyfradd siarad Cymraeg is na'r un geni. Yn wir byddwn yn disgwyl i rai fod yn sylweddol uwch.

    mae Caernarfon chydig yn od - mae yna ychydig o bobl mewn oed sydd wedi eu geni yng nghymru sydd ddim yn siarad Cymraeg. Roedd yna amser lle'r oedd C/fon yn dangos arwyddion o droi fel Bangor - ond yn ffodus wnaeth hynny ddim digwydd. Hefyd hyd at tua hanner canrif yn ol roedd llawer o addysg gynradd C/fon yn y Saesneg - felly doedd y system ddim yn creu Cymry cymraeg bryd hynny.

    ReplyDelete