Reit, Dwyfor. Ffigwr 2001 yn gyntaf fel arfer. Mae'r ffigyrau yn y cromfachau yn cyfeirio at y cwymp (neu'r cynnydd mewn ambell i achos) yn y ganran o bobl tros 65 - neb arall. Mae rheswm pam fy mod wedi cyfeirio at hyn a byddwn yn dod yn ol at hyn maes o law
Garndolbenmaen - 70.2%\67.6% (-4.4% 65+)
Cricieth - 64.9%\64.2% (-7.8% 65+)
Gorllewin Porthmadog - 64.9%\57% (-9.7% 65+)
Dwyrain Porthmadog - 84.9%\80.1% (-7.3% 65+)
Beddgelert - 68.7%\66.8% (-7.8% 65+)
Llanystumdwy - 77.1%\77% (-9.3% 65+)
Abererch - 76.8%\79.8% (-7.9% 65+)
Gogledd Pwllheli - 81.1%/79.1% (+1% 65+)
De Pwllheli - 78.7%\78.3% (-0.5% 65+)
Llanaelhaearn - 78.2%\73.8% (-5.7% 65+)
Efailnewydd - 76.5%\74.3% (-4.9% 65+)
Nefyn - 78.8%\76.1% (-4.9% 65+)
Morfa Nefyn - 76.8%\72% (-8.9% 65+)
Aberdaron - 76.1%\74.7% (-8.3% 65+)
Tudweiliog / Botwnnog - 76.5%\74.3% (-4.8% 65+)
Llanengan / Llanbedrog - 65.1%\63.4% (-5.5% 65+)
Abersoch - 51.2%\49.3% (-0.5% 65+)
Un neu ddau o bwyntiau:
Garndolbenmaen - 70.2%\67.6% (-4.4% 65+)
Cricieth - 64.9%\64.2% (-7.8% 65+)
Gorllewin Porthmadog - 64.9%\57% (-9.7% 65+)
Dwyrain Porthmadog - 84.9%\80.1% (-7.3% 65+)
Beddgelert - 68.7%\66.8% (-7.8% 65+)
Llanystumdwy - 77.1%\77% (-9.3% 65+)
Abererch - 76.8%\79.8% (-7.9% 65+)
Gogledd Pwllheli - 81.1%/79.1% (+1% 65+)
De Pwllheli - 78.7%\78.3% (-0.5% 65+)
Llanaelhaearn - 78.2%\73.8% (-5.7% 65+)
Efailnewydd - 76.5%\74.3% (-4.9% 65+)
Nefyn - 78.8%\76.1% (-4.9% 65+)
Morfa Nefyn - 76.8%\72% (-8.9% 65+)
Aberdaron - 76.1%\74.7% (-8.3% 65+)
Tudweiliog / Botwnnog - 76.5%\74.3% (-4.8% 65+)
Llanengan / Llanbedrog - 65.1%\63.4% (-5.5% 65+)
Abersoch - 51.2%\49.3% (-0.5% 65+)
Un neu ddau o bwyntiau:
- Does yna ddim 'Bangor' yn Nwyfor - ond oni bai am hynny dydi'r ffigyrau ddim cystal a rhai Arfon. Yn Llanaelhaearn, Gorllewin Porthmadog a Morfa Nefyn y cafwyd y cwymp mwyaf.
- Cafwyd cynnydd yn Abererch a Clynnog / Llanllyfni.
- Dydi'r wireb bod canrannau yn disgyn yn gyflym pan mae'n gostwng o dan 70% ddim yn dal yn Nwyfor. Mae perfformiadau wardiau sy'n is na 70% yn cymharu'n dda efo'r gweddill - oni bai am Orllewin Porthmadog.
- Un gymuned yn unig sydd yn cyrraedd 80% bellach - Dwyrain Porthmadog, tra bod dwy arall o fewn trwch blewyn. Yn Arfon mae mwyafrif llethol y wardiau 80% bellach.
- Mae'r patrwm a welir yn Arfon o wytnwch mewn ardaloedd trefol yn tueddu i fod yn wir yn Nwyfor hefyd.
- Mae yna batrwm clir iawn o gwymp mwy sylweddol o lawer ymysg pobl 65+ na'r grwpiau oedran eraill. Does yna ddim patrwm cyson fel hyn yn Arfon. Yn wir y cwymp ymysg y grwp 65+ sy'n cyfri am yr holl gwymp mewn nifer o wardiau.. Awgryma hyn bod mewnlifiad sylweddol o bobl sydd wedi ymddeol i Ddwyfor, ond bod pethau yn llawer iachach ymhlith y grwpiau oedran eraill.
- Fel yn Arfon mae'r ganran o blant ysgol sy'n siarad Cymraeg yn cymharu'n dda efo 2001. Mae hyn yn groes i'r patrwm cenedlaethol, ac mae'n adlewyrchu'n dda ar y system addysg yng Ngwynedd.
- Oni bai am y grwp 65+ Dwi'n meddwl y byddai Dwyfor wedi gwneud cystal neu'n well nag Arfon yn 2011 mewn cymhariaeth a 2001 (ond nid mewn termau absoliwt).
Difyr iawn - oes tabl yn bodoli o'r canrannau efo'r boblogaeth 65+ wedi eu tynnu allan?
ReplyDeleteDwi ddim yn meddwl bod y data yna ar gael eto.
ReplyDeleteDifyr iawn. O be welai prif broblem y gostyngiad yn Nyffryn Dyfi ac ardal Llanfyllin yw'r mewnlifiad 65+ hefyd
ReplyDeleteIa - mae yna batrwm tebyg yn y rhan yna o'r Byd hefyd - er nad ydw i wedi trolio trwy'r ffigyrU i gyd eto.
ReplyDeleteMae'r gostyngiad yn ardal Porthmadog dros yr 20 mlynedd diwetha' yn sylweddol. Yn 1991, roedd 90% yn nwyrain Porthmadog yn medru Cymraeg, 78.2% yng ngorllewin Porthmadog a 86% yn Nhremadog.
ReplyDeleteMae'r dirywiad yma'n debycach mewn gwirionedd i un y de-orllewin na gweddill Gwynedd. Cymharer efo Pwllheli a Chricieth sydd wedi colli llai o dir o lawer. Bu'r gostyngiad yn Stiniog hefyd yn llai.
Mewnfudo sydd ar fai'n bennaf mae'n siwr. Fyddwn i ddim yn ystyried ar sail yr ystadegau fod yr ardal hon yn ddiogel o gwbl. Dyma fath o ardal ble y dylai fod ymyrraeth o ran polisi cyhoeddus i'r raddau bo hynny'n bosib oherwydd fe allai pethau'n mynd yn ddigon rhwydd y naill ffordd neu'r llall.
Mae natur y Dwyrain - tai teras bychan ac ati yn nodweddiadol o'r math o ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gwneud yn dda yng Ngwynedd - ac mae'r rhan yna yn debygol o fod yn ddigon gwydn.
ReplyDeleteBlaw am hynny dwi'n cytuno - mae'n ardal sy'n wynebu mwy o her na'r unman arall yng Ngwynedd ag eithrio Bangor a'r De pell.
Elli di ddim cymharu wardiau Porthmadog heddiw efo 1991 - mae ward Gest wedi ei adio at Gollewin Porthmadog, a Beddgelert wedi ei adio at Tremadog, ymysg nifer o newidiadau eraill.
ReplyDeleteDoedd y cwymp rhwng 1991 a 2001 ym Mhorthmadog ddim gwahanol i weddill Gwynedd.
Data 65+ ar gael o http://www.nomisweb.co.uk/
Diolch Ioan - eto
ReplyDeleteTydw i ddim yn cytuno efo'r positifrwydd wyt yn ei fynegi yn yn dy bwynt olaf ond un. Mae pob rhiant ac athro/wes yn gwybod fod y data yma'n ffals, gan mai canran llawer llawer llai o blant sydd yn defnyddio'r Gymraeg nag sydd yn medru'r Gymraeg. Mae'r dirywiad yn y Gymraeg ar iard yr ysgol yn peri pryder dwys.
ReplyDeleteRwyf hefyd yn cytuno gyda Simon Brooks uchod, ynglyn ag ymyrraeth o ran polisi cyhoeddus. Dwi wedi dweud ers blynyddoedd bellach fod angen sefydlu Mentrau Iaith yn y cadarnleoedd, yn ogystal a'r ardaloedd hynny ble'r oedd yn almwg angen adfywiad. Er fod camau mawr wedi eu cyflawni yn y degawdau dwytha, mae pethau'n dechrau llithro eto erbyn heddiw, ac mae angen normaleiddio defnydd y Gymraeg ym maes masnach, busnes, bywyd cyhoeddus a diwylliant poblogaidd yn y cadarnleoedd. Pan fydd y cymunedau hyn yn hyderus yn normalrwydd y Gymraeg y tu hwnt i feysydd cyfathrebu a chymdeithasu, mi fydd y genhedlaeth ifanc yn fwy tebygol o arddel y Gymraeg, ac mi fydd mwy o fewnfudwyr yn gweld bod angen ei dysgu. Mae angen gwaith gwaelod-i-fyny ac o'r top i lawr.
Dwi'n cytuno efo llawer o'r uchod - ond lle dwi'n byw dydi iaith plant ddim yn ymddangos i fod yn broblem fawr - os o gwbl. Ond wedyn mae hyd yn oed lle mor fach a Gwynedd yn gymhleth ac amrywiol.
ReplyDeleteMi gawn ni olwg ar Feirion nesaf.
Cwympo ar fy mai mewn un ward, gorllewin Porthmadog nad yw'n ddim amgen na Warrington-on-sea mewn mannau. Ond dyw hi ddim mor arwyddocaol yn achos Beddgelert a Thremadog oherwydd maint cymharol fychan Beddgelert. 1991: Tremadog -86% (poblogaeth tua 1384); Beddgelert -62% (poblogaeth tua 522), sef canran rhwng y ddwy o oddeutu 79%. Ond erbyn 2011, os cyfunwyd y ddwy ward yn berffaith (a does gen i ddim syniad), noder canran o 67%, gostyngiad o 10%. Yn ddigon diddorol mae hyn yn debyg i'r 10% o ostyngiad yn nwyrain Porthmadog yn yr un cyfnod serch nad oes gen i syniad os newidiwyd y ffiniau.
ReplyDeleteRhaid i rywun leol gadarnhau neu nacau ar sail 'lived experience' dros 20 mlynedd a gwybodaeth manwl o ffiniau etholaethol, ond o'r tu allan mae'n edrych fel dechreuadau shifft iaith - yn enwedig o feddwl fod ardaloedd trefol yn Arfon a Llyn wedi bod yn hynod sefydlog yn yr un cyfnod.
Cytuno efo pwyntiau Dewi.
Wrth gwrs, gostyngiad o 12% ddylai hynny fod uchod yn ardal Tremadog-Beddgelert, ond go brin fod hyn yn gwanhau'r thesis.
ReplyDeleteMae'r ward cymharol newydd yn cynnwys cymuned Beddgelert, ardal Prenteg o gymuned Dolbenmaen a Thremadog. O be dwi'n gofio o focsus etholiadol mae mwy o bleidleiswyr yn Nhremadog na Beddgelert - ond dydi'r gwahaniaeth ddim yn anferth o bell ffordd.
ReplyDeleteEfallai y ceisiaf wneud y sym ar ol dod adref o'r gwaith.
Mi roedd Wardiu 1991 Beddgelert, Dolbenmaen, Gest, Tremadog, Porthmadog East a Porthmadog West hefo'i gilydd union yr un fath a Dolbenmaen, Porthmadog - Tremadog, Porthmadog East a Porthmadog West yn 2001.
ReplyDeleteFellu o gymharu 1991 efo 2001 yn yr ardal yn ei chyfanrwydd:
Oed Canran newid
03-15 93.21% (+0.54%)
16-24 84.15% (-0.93%)
25-39 78.08% (+1.55%)
40-64 63.98% (-2.76%)
65 62.31% (-5.31%)
Dwi'n meddwl bod yr ystadegyn "Porthmadog lawr 10%" wedi cael ei gamddefnoddio lawer gwaith yn y ddeg mlynedd dwetha - ac yn gwneud drwg i ffeddylfryd pobl bob tro mae'n cael ei ddefnyddio.
Dewi wedi taro'r hoelen ar ei phen "Pan fydd y cymunedau hyn yn hyderus yn normalrwydd y Gymraeg y tu hwnt i feysydd cyfathrebu a chymdeithasu, mi fydd y genhedlaeth ifanc yn fwy tebygol o arddel y Gymraeg, ac mi fydd mwy o fewnfudwyr yn gweld bod angen ei dysgu" - mae hyn yn wir am Gymru gyfan a gwae bod Carwyn Jones fel petai'n rhoi'r bai yn y De ar "bobl ifainc". Er tegwch i fewnfudwyr (a bu fy rhieni yn y grwp yma), negeseon cymysg y cawnt gan y bobl leol a felly bydd hi nes bod y normaleiddio wedi digwydd.
ReplyDeleteDiolch Ioan - dwi'n meddwl bod hynna'n awgrymu yn ddigon clir bod patrwm Port yn debyg i un gweddill Dwyfor.
ReplyDeleteSome were practical, of course, but others were psychological and emotional.
ReplyDeleteI believe my exact words were "I don't want to be your dirty little secret. 28.
Feel free to surf to my weblog; funny pub quiz names
When you're learning chords, you learn and study them for only One Key at a time. -- Notes: Bb D F. The last type of chords we will discuss in this article are spread voicings.
ReplyDeleteAlso visit my web blog: imagine piano chords and lyrics
In this article I will teach you the basics of how to have fun learning your chords by playing out of a Fake Book.
ReplyDeleteAs an alternative, it will most likely be far more powerful for you to learn about
audio and chord idea. Piano players that struggle are the ones that don't play with passion and feeling.
Visit my web-site; free Piano chords Apologize
My site - piano chords and tabs for songs
DJ spins out on Saturday nights. Local country clubs are
ReplyDeleteoffering trivia fun for as little as forty dollars per couple.
28.
My webpage; pub quiz and answers