Os oes yna unrhyw beth yn dangos bod yna ormod o aelodau seneddol Cymreig, rhai o'r sylwadau a wnaed gan y cyfryw aelodau mewn dadl ar gau swyddfeydd recriwtio lluoedd arfog Prydain ydi hynny.
Ymddengys bod Sian James, aelod Dwyrain Abertawe yn meddwl bod cadw'r swyddfeydd recriwtio yn bwysig oherwydd eu bod yn cynnig mynediad i strwythur gyrfa i bobl ifanc sydd yn byw yn ei hetholaeth - a thu hwnt. Efallai bod hynny'n wir - ond mae gyrfa yn y lluoedd diogelwch yn rhoi'r bobl ifanc sy'n ymgymryd a'r yrfa honno mewn sefyllfa o risg sylweddol.
Risg o hunanladdiad er enghraifft - mae cyfraddau hunanladdiad cyn filwyr yn uchel iawn - er enghraifft mae mwy o gyn filwyr a ymladdodd yn y Malvinas wedi lladd eu hunain na laddwyd gan yr Archientwyr. Mae cyn aelodau o'r lluoedd diogelwch hefyd yn llawer mwy tebygol o ddatblygu problemau cyffuriau, problemau alcohol a phroblemau iechyd meddwl na phobl sydd heb ddilyn yr un gyrfa. Maen nhw hefyd yn llawer mwy tebygol gael eu hunain mewn carchar na neb arall. Mae'n debyg bod cymaint ag 20,000 o gyn filwyr yn rhywle neu'i gilydd oddi mewn i'r system cyfiawnder yn y DU. Mae yna hefyd y mater bach y gallai'r sawl mae'r lluoedd diogelwch yn ymosod arnynt beidio ag ymateb yn rhy dda i'r sefyllfa a saethu yn ol..
Rwan efallai bod Ms James yn ystyried y lluoedd diogelwch gyda'r holl risg sydd ynghlwm a hynny yn yrfa briodol i blant pobl eraill, ond tybed os ydi hi'n ystyried y llwybr yma yn addas i'w phlant ei hun?
Mae dadl Chris Evans (Islwyn) mymryn yn fwy soffisdigedig. Mae o'r farn bod y gwasanaeth recriwtio yn caniatau i bobl ymuno efo'r lluoedd diogelwch efo'u llygaid ar agor 'led y pen'. Rwan, dwi erioed wedi bod i swyddfa recriwtio - ond mae'n anodd braidd gen i ddychmygu bod asiantaeth sy'n ceisio recriwtio yn egluro'r risg i bobl ifanc sydd ynghlwm a chaniatau iddyn nhw eu hunain gael eu recriwtio, mwy nag ydi'r hysbysebion di ddiwedd ar S4C sy'n annog pobl i ymuno a'r fyddin yn rhoi unrhyw syniad i wylwyr o'r risg sydd ynghlwm a dilyn cyngoryr hysbyseb..
Ymddengys bod Chris hefyd o'r farn bod y lluoedd diogelwch yn bwysig o safbwynt 'ein rhyddid ni'. Dwi'n anghytuno. Ers yr Ail Ryfel Byd mae'r lluoedd diogelwch wedi cael eu defnyddio lawer o weithiau i ymosod ar rhywun neu'i gilydd - er enghraifft - Irac (2 waith), Afghanistan, Iwerddon, yr Ariannin, Kenya, Palestina, Malaya, Cyprus, Korea, yr Aifft, Aden, Borneo, Iwgoslafia, Libya. Mae'r rhan fwyaf o'r rhyfeloedd yma wedi arwain at ddefnydd o lefelau uchel iawn o drais gan y lluoedd diogelwch, ac maent hefyd wedi arwain at ddefnydd sylweddol o artaith gan y gwasanaethau cudd wybodaeth. Ond yr hyn nad ydynt wedi ei wneud ydi cyfranna at 'ein rhyddid ni'.

Gweler:
ReplyDeletehttp://www.informedchoice.org.uk/informedchoice/index.php
Crynodeb o'r Adroddiad:
http://www.informedchoice.org.uk/informedchoice/informedchoiceexec.pdf
Yr Adroddiad yn ei gyfanrwydd:
http://www.informedchoice.org.uk/informedchoice/informedchoicefull.pdf